Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
—Gwada Mr. Andrew Johnson, mab y diweddar Gyn-arlywydd, bob gwybodaeth am yr yswiriant dywededig ar fywyd ei dad. Cyfrifir fod ei ystad yn werth rhwng $150,000 a $175,000. -Bu farw geneth fechan ychydig yn ol yn Swydd Van Buren, Iowa, wedi selni o chwe' mis. Dywedir na ddarfu iddi yn ystod y ddau its diweddaf fwyta dim, na chymeryd meddyginiaeth; ac eto ni ddang- oswyd unrhyw gyfnewidiad yn anadliad, cylchrediad na gwres y corff, hyd o fewn ychydig oriau i'w marwolaeth.
ENW GWRAIG LOT.
ENW GWRAIG LOT. MRi. GOL.-Gan i'r Parch. H. Gwerfyl James, yn y DRYCH am Awst 19eg, ddweyd mai Isca oedd enw gwraig Lot, tra y dywed eraill mai chwaer Lot oedd hi, ac fod hyny wedi achosi dadl yn ein plith, carem ofyn i Gwerfyl am eglurhad pellach ar y pwnc. Girard, 0. GLOWR.
AT FIEWYRTH EPHRAIM LLWYD.
AT FIEWYRTH EPHRAIM LLWYD. ANWYL EWYRTH!—Mae yn dda genyf ddeall eich bod chwi a modryb Laura yn iach, fel yr wyf finau a'r hen wraig yma ar hyn o bryd.. F'ewyrth, nid wyf yn cyd- fyned a chwi wrth alw modryb yn Lowri; mae hyny yn ei gwneyd 'run enw a'r ddyn- es hono oedd yn byw yn Nghoed Bolyn- Gelwch hi yn Laura. Yr wyf wedi disgwyl llawer am danoch yn nghorfC yr liaf; ond ofn yr afon benwaig oedd yn eich cadw draw, ma'n debyg. Mae Richard Evans yn eich gwahodd drosodd; gwna bob caredig- rwydd i chwi a modryb. Mae ganddo wedd noble a carriage, ac fe ddaw gyda chwi i Trenton Falls, i weled rhyfeddodau natur, a dof finau gyda chwi ar gefn haner mul. 'Welsoch chwi erioed fath sport a gawn, a chowch weled rhaiadr na welsoch chwi er- ioed ei fath o'r blaen. Bydd Richard Ev- ans eisiau i chwi aros gydag ef am bythef- nos, er mwyn i chwi gael amser i edrych am y beirdd. Mae llawer o honynt o gwm- pas yma. Dyna yr hen dad Ap Morydd, Eos Glan Twrch, Trogwy, Rhodri Arfon Llew Oneida, T. L. T., Tom y Paentiwr, Tom Priest, a'r Bardd Cudd a finau. Pan fyddwch am droi adref, mae Rich- ard Evans am roi bwsiel o gorn i chwi, a bwsiel o datws melus, a darn o gnawd moch, a physgodyn maent yn alw y bull's head. Mae Thomas Thomas, o Fangor, gynt, yn cofio atoch. Yr ydych yn siwr o'i adnabod. Os ydych yn cofio, mae yn deiliwr da, ac mi fedr roi pwyth dros ben. Hyn oddiwrth eich nai, Cambrian Hotel, Utica. SETH LLWYD.
AMRYW BETHAU.
AMRYW BETHAU. Y MAE Benjamin Williams yn gwadu iddo ymosod ar Theo. Morris, yn Church Hill, 0., yn ol fel y dywedodd gohebydd yn y DRYCH am Awst 12fed; nac anafu ei blentyn. A dywed fod tystiolaeth Morris ganddo o'i du. Beth a ddywed ein goheb- ydd wrth hyn? DYMTTNEM hysbysu Cardi" nas gallwn gyhoeddi ei ohebiaeth. Y mae yn amlwp oddiwrth ei holl ymadroddion mai llid a chenfigen sydd yn ei gynhyrfu, yn hytrach na chariad at y gwirionedd. Llai personol y tro nesaf, frawd. UN O'R LLENORION hynaf yn y wlad hon, ac un o "ffyddloniaid y DRYCH" wrth gwrs, a ysgrifena: "Deallais i wr call iawn gael tramgwydd genych yn achos H. W. B. Yr oeddwn i yu wir yn ei feio, gan i chwi, feddyliwn, fod yn lied ochelgar. Fe grog- wyd dyn yn Beaumaris, Mon, ychydig flyn- yddau yn ol, oddiar dystiolaethau amgylch- iadol llawn mor dywyllion ag a ddygwyd yn erbyn y gwr mawr o Brooklyn. Byddaf weithiau yn cael cipdrem ar y a'r ni byddech fymryn mwy chwydd- edig pe dywedwn eu bod yn cynwys am- rywiaetho ysgrifeniadau a fwrid i fasged y DRYCH, yn hytrach na'u cyhoeddi. Synais er's enyd yn ol wrth ddarllen rhyw ribyn hir o eiddo Cranogwen. Yr oedd hi fel pe buasai yn haner cysgu pan yn ysgrifio, heb fod ganddi ddim yn debyg i'r pwnc o'r de- chreu i'r diwedd; ond yr oedd i'w bar- hau," ac fe allai fod Cranogwen yn y par- had, ond nis gwelais hi. Byddaf yn blysio yn ami am wybod rhywbeth yn mhellach na gweled gwaith ac enwau gohebwyr eich dinas, gan y byddaf yn gweled yny DRYCH enwau newyddion yn fynych, y rhai oedd- ynt anelwig hyd y gwyddwn i, pan oeddwn yn mynychu eich Swyddfa, megis Trefor- ian a Dwyfor, &c."
GAIR ODDIWRTH "GWERYDDON."
GAIR ODDIWRTH "GWERYDDON." MRI. GOL.- Yn y DRYCH am y 5ed eyfis- ol, yn adran Mr. Pwns, ymddangosodd gwatwargerdd o natur rhy enllibaidd a mal- eisus i adael iddi basio yn ddisylw; ac y mae pawb yn yr ardal hon yn gwybod yn eithaf da mai ymosodiad llechwraidd arnaf fi oedd dyben y cyfryw. Yr hyn a gymer- wyd yn achlysur i ymosod arnaf oedd fy ngwaith yn cyhoeddi ychydig benillion galarnadol ar ol ewythr i mi a fu farw yn ddiweddar; ac os nad oeddynt,yn dyfod i fy- ny a safon farddonol yr ymhonwr chwydd- edig hwn, ai tybed fod hyny yn ddigon o esgus dros, neu yn rhoddi trwydded iddo i fy narostwng fel person mor isel ag y gall- asai ei ddawn fympwyol ef wneyd? Nid wyf yn honi enwogrwydd na gallu aruch- el fel bafrid a lienor, oblegid ni fum yn ym- yraeth a'r fath beth hyd yn ddiweddar, ond er hyny yr wyf bob amser yn cael fy mharchu fel dyn yn llawn ystyr y gair, ac yr wyf yn ystyried hyny yn fwy o werth ganwaith na phe yn meddu athrylith fardd- onol Byron a Penfelyn, a'r cymeriad yn fiieidd-beth yn ngolwg fy nghymydogion. Nid oedd y dyn hwn yn meddu ar iaith ddigon isel i ymosod arnaf heb fy ngosod yu gydradd a'r creadur pedwar carniog. Dylasai ef ddweyd yn well na hyny am danaf, oblegid yr oeddwn wedi actio y dyn iddo ef, a gwneyd yr hyn a allaswn drosto pan oedd pob drws wedi cau yn ei erbyn. Ond yn ngwyneb y daioui a'r cymwynasau, trodd yn Judas yn ddiachos. Ni all y diafol byth fod yn waeth na thalu drwg am dda, oblegid ei hen arferiad ef ydyw hyny, a than ddylanwad ei feistr dyma un o'i weis- ion ffyddlonaf yn dilyn ei esiampl. Cymer- ed yr Iscariot hwn ofal rhag myned o ddrwg i waeth, ac yn y diwedd fyned allan a chrogi ei hun. Gorphwysaf ar hynyna. ISAAC MORRIS (Gweryddon). Church Ilill, 0.
RHYWBETH NEWYDD.-BETH YW ?
RHYWBETH NEWYDD.-BETH YW ? FONEDDIGION Y DRYCH Wedi maith ys- tyried yr hyn sydd genyf dan sylw, yr wyf yn cymeryd yr hyfdra o'i ddwyn i sylw miloedd ddarllenwyr y DRYCH. Y ffaith. ydyw fed gwir angen ar ein cenedl, am ryw gynllun mwy effeithiol nag y sydd er cadwedigaeth yr Iaith Gymraeg, yn ogystal a'i deall, ei darllen, a'i liysgrifenu, yn fwy cywir. Yr wyf yn gweled yr angenrheid- rwydd o hyn yn fwy amlwg er's pan ddeu- ais I Utica, nag un man y bum yn America, a hyny wrth weled braidd holl blant y Cymry yn troi at y Saeson i addoli, &c. Y mae yr areitlifa yn gwneyd ei rhan; !yr Iforiaid yn gwneyd eu rhan; yr Eistedd- fodau yn gwneyd eu rhan; ond yn ddiam- eu y wasg ydyw y gallu cryfaf sydd mewn Z, bod ar hyn o bryd, er cadw yr Iaith Gym- raeg yn fyw; ond eto rhaid cael rhywbeth newydd, effeithiolach, neu yn sicr fe a yr hen iaith fendigedig i ddifancoll! Nid ydym yn meddwl rhywbeth newydd, ar draul darostwng neu esgeuluso yr un o'r pethau a enwyd; na, gadawer eu gwaith iddynt, a'r Arglwydd a lwyddo eu gwahan- ol ddybenion daionus. Nid rhywbeth newydd, acyn fwy effeith- iol am ei fod yn newydd; na, rhywbeth n am nad ydyw yr hen yn ddigon effeithiol. '] Mae eisiau rhyw allu newydd yn ei effeith- iau, ag y byddo prif ddynion ein cenedl yn America yn ymaflyd ynddo o. ddifrif! a hyny er diogelu yr iaith, trwy gael y* genedl i'w dysgu yn fwy cywir, yn nghyd a'i darllen a'i hysgrifenu felly hefyd. Mae ysgrifenydd hyn o linellau yn perthyn i wahanol gymdeithasau dyngarol, ac yn gwybod yn dda am allu a dylanwad y cym- deithasau hyny, ac yn credu yn gydwybod- ol y gellid sefydlu rhyw fath o gymdeithas Gymreig i'r dyben a nodwyd, yn nghyd a phethau eraill perthynol i'n cenedl, ein, hiaith a'n llenyddiaeth. Goddefer i mi roddi rhestr o enwau yma, ydynt yn an- rhydedd i'n cenedl eu gweled ar glawr newyddiadur-rhai ag yr wyf yn taer ddy- muno i'w hystyriaethau, yr hyn sydd genyf dan sylw: Aneurin Fardd, Cefni, Gwerfyl, Eos Glan Twrch, Ap P. A. Mon, Dewi Emlyn, Dewi Glan Peryddon, Morgan A. Ellis, M. A., lonoron Glan Dwyryd, Dr. Thomas, Pittsburgh, yn nghyd a Gwyndaf, a Humph- ■ reys, M. A., Gordon Jones, M. A., Gwilym> Gwent, R. J. James, Glanmarchlyn, Daf- ydd y Gareg Wen, Deiniol Wyllt, Trelech, Apmadoc, J. R. James, Dr. Davies, Gom- er; G. Griffiths, Cincinnati; Dr. Williams, Wis., Gordon, gynt; D. W. Davies, Gal- lapolis; John Lucas, Pottsville; J. W. Parson Price, Kentucky; Gomer Thomas, Danville; William Jeremiah, N, Y.; Lewis Anthony, Giraldus, John T. Lloyd, Efrog Newydd, R. V. Griffith, yn nghyd a Ymyl Alun, Shenandoah; Ieuan Ddu, IforEbwy, D. Tydfil Davis, loan Fedyddiwr, N. Y.; Cadwgan, Ednyfed, John T. Williams, Mahanoy City; J. W. Jones. Dr. Gwesyn Jones, T. Phillips, James Beynon, St. Louis; Obedog o Fon, H. M. Edwards, T. J. Griffith, St. Clairs, a'i frodyr, J. M. Thomas, a Griffith Roberts, Summit Hill, a llu o ddynion blaenllaw a galluog eraill, nad wyf yn cofio am danynt ar hyn o bryd. Dyma "gwmwl o dystion," gwerth eu cael i'r maes ar unwaith i'r gwaith. Nid ydyw 9 fy mod yn ddinod ac yn ddisylw felllenor fy hunan, yn gwneyd y ffaith ynddi ei hun- an yn llai pwys; gan hyny cynygiaf ryw- beth fel hyn: 1. Fod Cymry America yn sefyll mewn angen am gynllun mwy eifeithiol nag sydd genym er cadwed- lsaeth. ein hiaith a dyrchafiad ein cenedl. 2. Y byddai yn effeithiol i'r dyben llwnw, sefydlu cymdeithas newydd ar gyfandir America. 3. Fvd dynion cymwys a gweithgar i gael eu pen- i odi yn mhob sefydliad Cymreig i flaenori yn y 1 mudiad. 1 4. Na byddo neb i gael aelodaeth heb fyned o dan brawf dynion penodedig, parth Hynafiaeth y Genedl, Gramadegiaeth, Darlleniaeth ae Vsgriiiaeth, &c. 5. Fod pob un a ymuno a hi yn gwneyd llw o ffydd- londeb i amddiffyn ei iaith a'i genedl, megis dwyn ei blant i fyny i ddeall yr iaith, &c. 6. Fod y gymdeithas hon i fod yn allu, er dwyn allan gyfansoddiadau a gweithiau teilwng ydynt heddyw yn gorwedd yn farw-megis eiddo "Ouhel- yn," &c. 7. Fod y gymdeithas o ran ei hamcan i barchu gweddillion a choffartwriaeth dynion teilwng ein cen- edl, dyfod o hyd i'w beddifu, rhoddi cofgolofnau ar- nynt, yn ogystal a gofalu am hyny ar fedd pob un teilwng yn y dyfodol. 8. Fod y gymdeithas i gynorthwyo pob aelod teil- wng fyddo mewn angen yn y gymdeithas anrhyd- eddus. 9. Fod pob aelod i roddi swm penodedig yn fisol at yr amcan. 10. Fod gwahanol adranau i'w sefydlu, a'r cwbl o dan reolaeth cyfarfod neillduol o gynrychiolwyr ac a fyddo yn cydgyfarfod bob rhyw dri mis. Nid yw yr uchod ond crybwylliad (suggestion) er mwyn rhoddi rhyw ddrychfeddwl o natur yr hyn ol- ygaf. Yr wyf yn credu pe byddai bosibl symbylu prif ddynion ein cenedl at y gwaith, y gellir dwyn rhywbeth o'r natur yma oddiamgylch. Edrychid ar aelodaeth o'r gymdeithas gyda gwir barchedigaeth. Byddai yn foddion i ddwyn canoedd yn fwy ymdrech- gar i ddeall yr iaith, ei narllen a'i hysgrifenu yn fwy cywir, a hyny er amcanu dyfod yn deilwng o'r gym- deithas anrhydeddus. Yr wyf yn hyderu y gwna rhai o brif ddynion ein cenedl gymeryd hyn at eu hystyriaeth fanylaf, canys mae gwir angen am rywbeth o'r natur yma: Gwel- ais hyn a mi a ystyriais ynddwya; edrychais arno a chymerais addysg." Utica, N. Y. Dwypoh.
YR EGLWYS A, YN CLEVELAND.
YR EGLWYS A, YN CLEVELAND. MRI. GOL. Y n y DRYCH am yr wythnos o'r blaen, dywed D. J. Williams, Ysgrif. yr Eglwys A.—" Gallaf dystio, er pan wyf yn ysgrifenydd yr eglwys, nad oes un gair o gweryla o gwbl yn ffynu ynddi." Carwn wybod er pa bryd y mae ef yn ei swydd o ysgrifenydd; onid er pan y mae yr eglwys wedi ynvadael o'r Bethel Home? Nid oes a fyn y "Gwyliedydd" a'r eglwys er y pryd hwnw. -Ond mae yr hyn a ddywedodd Gwyliedydd" mewn atebiad i'r Goheb- ydd Achlysurol," fod yr eglwys wedi gor- fod ymadael o'r Bethel Home, o herwydd eu bod yn cweryla a'u gilydd, yn wirion- edd nas gellir ei osgoi. Mr. Daniel Griffiths oedd ysgrifenydd yr eglwys yno, a'r Parch. W. Evans yn Drysorydd, y rhai a ymadaw- sant (o herwydd anghydfod) y noson Y der- byniasant y rhybuddi ymadael. Yn y cyf- arfod agoriadol a gynaliwyd ganddynt yn eu hystafell "newydd ac ysblenydd," dy- wedodd Mr. Joshua Enoch, yr hwn fu un- waith yn aelod a blaenor yn yr eglwys (ond yn awr sydd gyda'r Saeson, ac yn un o Gymry mwyaf parchusaf y dref) pe buasai yn gwybod y cytunent a'u gilydd yn y dy. fodol, y deuai yn ol atynt eto; canys yr oedd ef wedi ymadael o herwydd anghyd- fod. Nid yw nodyn Mr. W. yn ateb y Gwyliedydd" o gwbl, gan nad yw yn cyf- eirio at yr amser cyn iddynt ymadael o'r Home. Lol a phlentyneiddiwch yw siarad am gosbi. Y gwirionedd a saif. Wele fi yn ol ei ddymuniad o dan fy enw priodo], Cleveland, 0. SAMUEL JOB (lestyn). ]/
[No title]
—Boddodd un Mrs. Bessenger o Reading i Pa., ei hun a thri o blant by chain yn y gamlas rai dyddiau yn ol. —Holl nifer yr ymfudwyr i New Yoik yn ystod y deuddeng mis yn diweddu Me- hefin 30, ydoedd 227, 377-11ai 085,692 na'r flwyddyn flaenorol. —Dywed goruchwyliwr A. T. Stewart ei fod wedi gwerthu yn ystod y tymor presen- ol yn Saratoga ddim llai nag 20,000 o barau o fenyg kid. Dywed penboethyn o'r enw Isaac Faucher o Sandy Hill, N. Y., fod diwedd y byd i gymeryd lie ar y 4ydd o Orphenaf, 1876. Seilia ei dybiaeth ar y geiriau yn Esaiah 65. 20—"Canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd." Y bachgen, medd efe, yw Uncle Sam, a plian fydd efe farw, bydd marw y byd oil. Beth ddaw o'r Arddangosfa? )
GOHEBIAETH FARDDOL.
GOHEBIAETH FARDDOL. Ein cyfaill GWILYM o FON, o'r ddinas hon, a dderbyniodd yr ohebiaeth a ganlyn oddiwrth ei nai, Eryr Berw," o Caerlleon Gawr: Fy Anwyl Ewytltr-Pethau hwylus dros ben ydyw y post cards yma, ac yr wyf yn sicr y dywed fy nghyfeillion a'r beirdd doniol Berwron" a "Gwilym Berw" yr un fath a mi. Ar gefn post card y cefais yr englyn cyntaf erioed oddiwrth Berwr- on," yr hwn sy'n trigo yn mhlith Saeson Welford Rugby; ond er hyny yn orlawn o'r tan barddol a gyneuwyd ynddo yn nyddiau maboed wrth ymbrancio ol a blaen ar hyd maesydd meillionog, a than gysg- odion coedydd tewfrigog Berw, yn Mon. Fel hyn yr ysgrifenai Anwyl Eryr-Gwelais ychydig o dy waith; y mae genyt amcan da at gyfan- soddi-dos yn mlaen nes enill cadair dderw gref, yr hon a gedwi yn ofalus hyd amser henaint. Ti yr Eryr wyt wr eirian—'n dy waith Nid oes linell egwan: Meddyliau pur, gloewbur glan, Ydyw'r oll a droi allan. BERWRON. Tua'r adeg yna yr oeddwn wedi bod yn meddwl rhyngof a'm hunan' rywbeth yn debyg i hyn: Nid yd\vyf ond deunaw mlwydd oed, Ieuangach na hyny fel bardd, A'r byd wrth fy nghael dan ei droed Am ben fy nghynyrchion a chwardd; 'Rwy'n ieuanc, gan hyny 'rwy'n wan I gwrddyd y byd yn ei nerth, A beunydd rwy'n aros o dan Ei balf, fel un byclian di-werth. Ac welsoch chwi erioed mor falch oedd- wn o post card Berwron; rhoddai ryw yni ymadnewyddol ynwyf, a cheisiais ei ateb yn debyg i hyn: Teg yraist, nid dy gerydd-ataf fl Hoed dy fawl i'm cynydd; Os dirmyg ddwg ystormydd, Canmoliaeth yn faeth a fydd. Darogenaist im' fyn'd ar gynydd—ond Gwendid deimlaf beunydd; O'm pen tew, cadair newydd Dderw i Ferw ni fydd. Gafael arnat yn gyfaill—ddymunaf Hedd im' monwes fyddai; Llw rof, rwy'n caru'r holl rai Llawnion, tirion at eraill. ERYR BERW. Ni bu raid disgwyl yn faith cyn i gerdyn arall ddod oddiwrth y Berwron. Dyma fo: Anwyl Eryr-Mal hyn y dywed yr awen am danat: Yn fardd ca ef ei urddo-un teilwng Ni raid holi mo'no; Wel. yn Mon wen yn ben bo, Drwy enill cadair yno. Rhaid ini dori derwen—rhoi o'i b6n Gadair i'r bardd trylen; Yn dragywydd ni bydd ben Drwy enill cadair onen. Yr wyf yn rhoi testyn i ti gyfansoddi Hir a thodctaid" arno, sef yr hen felin wynt sydd agos gyferbyn a thi; pan wel- ais hi ddiweddaf yr oedd golwg resynus arni-ei hesgyrn drwy 'i chroen a'i phen trwy 'i het. Yr eiddoch lyth BERWRON. Wel dyna destyn i gyfansoddi Hir a thoddaid" arno. Dangosais ef i Gwilym Berw, cyfaill ieuanc mynwesol a bardd yn ol braint a defawd, ac yr wyf yn tybio iddo gyda throad y post anfon i Berwron y toddaid penigamp a ganlyn: Drylliad Mel- in Wynt Berw gan gorwynt- Bonau yr esgyll bob un orwasgwydk Gar., wynt dieflig'i nen eu taflwyd; Eu iliain enwog- -O! feî llmYllwyd, Do, ar un olwg, a darn ni welwyd; Ei bucliel goryn, a'i cheiliog yrwyd I nwyfre enwyll, yno'u hofranwyd; Y maen caletaf erioed a gafwyd, Goris un arall, yn greision yrwyd Drysai'r eehelau-drwy asur chwalwyd Y clwydenau, fe'u hysclodionwyd; Y maen o amgylch a gadarn gylchwyd, Oli wisg ar unwaith a ysgyrionwyd; Y mur a'i osail ar graig a seiliwyd, Yn llawn a chadarn ei well ni chodwyd; HWll waedd drwy agen ynddo dyrwygwyd, I ysig ateb fel ei ysgytiwyd; Ei sut hwylus, atalinvyd-yu dwr syn, Ein hen lawforwyn weie a fwriwyd. GWlLYM BERW. Anfonais inau iddo a ganlyn: Dyma hen felin, yn dwymn a folaf, Y mawrion gerig sy'n mur hon garaf; Yn awr a'i moelaidd ben yr ymwelaf, Ar un o'r cerig diddig eisteddaf; H en adeg yno hudaf-i fy ngho Wedi ei hudo, fel hyn dywedaf. Y gwyntoedd a thithau gynt ddoeth weithiech, Di-ail i Ferw, diwyd lafuriech; Os sych y llyn, y sachau oil lanwech; Grawri i filoedd yn ysgyrion falech, Difyrus y blawd fwriech-gynt wrth raid Bwydydd i haid o drueiniaid ranech. O'th fewn chwim droai'th feini, Yd a wnaent yn flawd i ni. Ond ow! ddirfawr newidiad 'e ddarfu, Twrf anghyifredin melin yn malti; Dy dwr a noethwyd—adar i nythu 'N y manau uchel, ynt yn mynychu; [ddrych, Heddyw'n dwlc o furddyn du-gwael yw.th Owl pwy a edrych arnat yn pydru? EP.YR BERW. Yna Berwron yn mhen enyd anfonai: Anwyl Eryr-Maddeu i mi am beidio cyd- nabod derbyniad y toddeidiau yn gynt; bum oddicartref rai dyddiau. Yr wyf yn dra diolchgar i ti a'r cyfaill Gwilym Berw, am ganu mor ragorol i'r hen felin. Yr wyf yn parhau yn hynod ddihwyl, yn methu a gwneyd llinell; wn i ddim be gebyst sydd arnaf y dyddiau hyn. Anfon di a Gwilym air yn fuan. Gyda'm cofion goreu, BERWRON. Yn mhen ychydig amser derbyniais y cerdyn canlynol oddiwrtho: Eryr Berw-Daeth yr hen wr sydd yn cario llythyrau yma boreu heddyw a golwg arswydus arno, tynai ei wallt, rhwygai ei ddillad, a'i lygaid yn dan byw, a hyny am na fedrai ddarllen dy lythyr. Ceisiais ei berswadio mai nid ar y card ond ar ei ddwl- ni ef yr oedd y bai; ond o ran hyny, pa fusnes oedd ganddo i'w edrych o gwbl— ond be' newch ch'i i lobyn o Sais-dyma fel y dwetws yr awen: Y Saisodall am na ddeallodd-un gair 0 dy gu ymadrodd; Owl y dwlyn, nis daliodd Heb wylltiaw, chwyrn drawfe drodd. 'Roedd mewn tymer ddiamynedd—'rhen wag Ysgyrnygai ddanedd; Y filn mwynhau y cyfan mewn hedd—pa ddrwg Geir o'i ddu olwg a'i hir ddialedd? BERWRON. Yn atebiad cadd a ganlyn: Berwron-Gresynus genyf dynged yr hen wr- Y Gymraeg i ymrwygaw—yrai Sais Y croes wag mewn cyifraw; Wele hon yn lion o'm llaw—eto'n dod Er gyru hylldod o'r gwyr i wylltiaw. ERYR BERW. Trwy ryw ddamwain annifyr collais ger- dyn doniol oddiwrth Berwron yn son am ryw fion o'i eiddo, gyda'r hon y bygythiai'n gas setlo gyda gohebwyr anffyddlon. Yn atebiad i ba un yr anfonodd Gwilym a ganlyn: Dy ffon, llawer rhy fer fydd-i gyraedd Pluog Eryr troedrydd; Yn eitha y ser ei nyth sydd—a'i Iwybrau Uwchlaw bryniau, mewn uchel wybrenydd. Minau Gwilym mewn gwaeledd—yn wr llwyd Ar y llawr rwy'n gorwedd; Y fan hon i ofyn hedd, Ae eiriol am drugaredd. Addysg, hoff fardd, ysgoa ffon-O! gwell I ni gael englynion; Nid oes feirda, gwir heirdd gar hon, Na d-I hoffai dy lawffon I 0 Rugby oer, i wig bach—hen Ferw Anfarwol tyr'd bellach; Mae gwenau teg, mae gwynt iach Dy Fcrw 'u fil aifyracli! GWILYJI BERW. Wedi derbyniad yr uchod, anfonodd Berwron ataf fel hyn: Yn eitha y ser ei nyth sydd," meddai Gwilym am yr Eryr, ac fod fy ffon yn Haw- er rhy fer i'w gyraedd; felly, nid oes i mi ond ceisio ei ddenu i lawr drwy deg- P'le mae'r Eryr pluog?-aeth hwn i'w nyth, Yn y nef serenog; 0 fro haul 'n ddifyr hwyliog—drwy'n byd crwn I gyrau anwn, a'r gwr ewinog. Ha! Eryr dewr, o hir daith-i Ferw Ddifyrus tyr'd eilwaith; Yma gwn, y bum ganwaith, Mewn oer nych am dy wycli waith. Dyro air i dori hiraeth-Ilinell Lawn o feddyginiaeth; Gwared fi o'm cyni caeth, Yma'n welw mewn alaeth. Dwfn alaeth, dafnau heIl-o'm Ilygaid, Ow! oernad enaid, yr wy'n dihoeni. Yn dy lythyr dyro gyffyr, Wiwbur Eryr i Berwron; Rho atolwg, dy serch amlwg, Du oer gilwg waeda'r galon. BERWRON. Atebwyd ef y tro hwn fel y canlyn: "Berwron" wibiwr awyrawl--fry hel I fro haul pelydrawl; Uwch hen sothach, yn saethawl-yr esgyn Chwifia'i hir edyn yn wych hyfrydawl. Och! minau, er mai Eryr-yw f'enw Wyf hynod asgellfyr; Truanaf lane, yn troi'n flin, Yn rhwyd erwin yr adarwyr. Hoffwn allu ymddyrchafu, Yna'i ganu yn dwymn geinion; 0 law'r maglwyr, pwy yn ddifyr Hwbia'r Eryr at Berwron? ERYR BERW. Y mae genyf yn fy meddiant luaws o englynion a dderbyniais ac a anfonais; ond yn bresenol nid oes genyf amser i ychwan- egu, ac os prawf y llythyr hwn yn ddy- ddorol i chwi, gallaf anfon ychwaneg y tro nesaf- Yr ydym yn parhau i anfon at ein gilydd y post cards barddol, a diameu yr es- gcr yr awen ar luaws o englynion nas gwyddom ddim am danynt yn bresenol. Eich nai ERYR BERW.
HELYNTION IOWA.
HELYNTION IOWA. OSKALOOSA.—Tref Sir Mahaska County ydyw hon. Cafudd y Sir ei henw oddi- wrth yr Indian Chief a elwid Mahaska, ac Oskaloosa ydoedd enw ei ferch. Saif y dref mewn lie tlws, yn nghanol ardal amaethyddol. Cynwysa o bump i chwe' mil o drigolion. Nid oes tref fwy blod- euog na hon yn y parthau hyn. Ni werthir dim o'r pethau meddwol o fewn ei tlier- fynau. Y mae amryw o Gymry yn fas- naeliwyr llwyddianus ynddi. Y mae y Cuitra^R. R. of Iowa yn myned trwyddi, gan leutg o'r Deau tua'r Gogledd. Hefyd, y mae cangen o'r Rock Island R. R. mewn gweithrediad, a bydd wedi ei chwblhau hyd yma erbyn y flwyddyn newydd; mae hon yn rliedeg o'r Dwyrain i'r Gorllewin. Y mae trigolion Oskaloosa wedi cyfranu $25,000 tuag at sicrhau y llinell hon, ac hefyd y right of way trwy y Sir. Y cynauaf-gw ael ydyw y cnwd gwenith yn y parthau hyn eleni—ychydig dros haner y cnwd ag oedd y llynedd. Tebyg yr un fath ydyw y corn hefyd; ond y mae digon- edd o wair yn mhob man. Y mae cnwd y perllanau yn dda odiaeth. Y rheswm fod y gwenith a'r corn mor dlawd eleni ydyw, o herwydd ein bod wedi cael y fath wlaw- ogydd a llifogydd, na bu eu bath yn y parthau hyn er y flwyddyn 1852 Gweithiau glo Beacon a Given- Y n araf iawn y mae olwynion masnach yn troi yma-nid oes haner gwaith i'r gweithwyr sydd yma, ac ar hyn o bryd nid oes argoel am amser gwell. Crefydd .-Marwaidd iawn ydyw crefydd yma; yr eglwysi fel pe byddent yn Babi- lon, a'r telynau ar yr helyg—y trigolion wedi encilio, gan fyned i addoli i Bethel a Dan. Wel, pa ryfedd hyny, ond ymsobra y gwylwyr eto yn y man, gan ddilyn ol traed eu tadau.. Nid yw y marweidd-dra hwn ond ffrolledd ar ffrwd pan fyddo y dwfr yn llwyd; pan ymloewa y ffrwd, diflana y ffrolledd. Ond i'r bobl gael dyfr- oedd iachus, pur, deuant eto i ymofyn am le addoliad eu tadau. Ymweliad cyfaill.-Mr. Gol., nid oes dim yn fwy anwyl genyf, ar glawr y rhod, na chwrdd a hen gyfaill. Yn ddiweddar cawsom fwynhad o'r mwyaf, trwy i Jen- kin Rees, Coal Valley, ymweled a ni. Cyf- arfydda ynddo y canwr, y bardd, yr ath- ronydd, &c.; y mae yn gyfaill trylwyr- goleubwyll, llawn hynawsedd a diniweid- rwydd; ac nid bob dydd y cyfarfyddwch a nodweddiad o'r fath yn y Gorllewin. Y mae Mr. Rees yn nodedig selog dros y DRYCR. Yr oedd ei dad a'i fam yma er's peth amser, ac yn hiraethu am weled eu mab. Ar ol iddynt gael ei weled, gofynais beth oedd eu dymuniad nesaf? Dyma fe, meddai y tad:— Ond i'm gael bedd yn Walia wen, Yn wlyb o hyd gan wlith y nen, A si 'r awelon uwch fy mhen, Lie bydd fy olaf awr." Y mae'r teulu yma yn hanu o'r Llwyd- iaid Llanwenog a Llanbydder, ac nid am- gen hefyd Dafydd Llwyd, Philadelphia, ac nid athrylith un-nos sydd iddynt. P. T. Barnum-Mae y dyn rhyfedd hwn a'i hippodrome yn y parthau hyn yn bres- enol, a mawr y swn sydd am ei awyren. Y mae yn dwyn i'm cof hanes yr awyren hono a gychwynodd, flynyddoedd yn ol, o Middlesex, Pa., gan ddisgyn yn nghymyd- ogaeth Mineral Ridge, Ohio; aeth oddiyno eilwaith a disgynodd ar ysmotyn neillduol yn Illinois; cychwynodd oddiyno a disgyn- odd yn yr ardal hon; ond yma, daeth i ben ei qingol rawd," ac nid oedd digon o gas yn Oskaloosa i'w llenwi drachefn. Given, Iowa. CAMARCll.
HANES BYWYD
ieuainc oedd yn rhagori arnynt mewn rhai mathau o ddawns, ond nis gallent gymeryd rhan yn mhob math, yr un modd a fy merched i; ond er hyn oil gwnaed y tro yn gampus. Cynwysai ein seindorf ddau grwth, pib a thabwrdd. Yr oedd y lleuad yn tywynu yn ddysglaer; Mr. Thomas a fy merch yn arwain y ddawns, er boddhad i'r holl edrychwyr; ac yr oedd lluaws yn bresenol, gan i'r cymydogion ddyfod i wybod am y rhialtwch. Yr oedd holl ys- gogiadau Olwen mor dra naturiol a phryd- ferth fel ag i enill edmygedd cyffredinol. Ymdrechai y boneddigesau o'r dref ei he- felycliu, ond yn gwbl ofer. Sylwai fy nghymydog, Rowlands, Plas Newydd, fod ei symudiadau mor gywir i'r gerddoriaeth ag ydoedd adsain ei hunan. Nid llawer allesid gael mor gymwys i farnu a'm cy- mydog. Wedi bod wrthi yn galed am tuag awr, awgrymodd un o'r boneddigesau y priodoldeb o roddi y goreu iddi, rhag ofn iddynt gael anwyd, gan sylwi ar ei pheth mawr hithau, fod ei chrys yn glynu wrth ei chefn o chwys. Yr oedd Mr. Thomas wedi cael parotoi swper ardderchog erbyn myned i'r ty. Troes yr ymddiddan at fyw- yd mewn cylchoedd uchel, a rhoes y bon- eddigesau dyeithr fy merched i yn y niwl. Y mae yn wir iddynt, wrth ddadleu teil- yngdod Lewis Glyn Cothi a Dafydd ab Gwilym, ferwino ein clustiau unwaith neu ddwy, trwy ollwng allan lw neu reg, ond tybiais fod pethau felly yn weddus i gylch- oedd uchel, er i mi glywed yn wahanol ar ol hyny. Yr oeddynt yn gallu ymddiddan bron ar bob pwnc, ac os byddai ambell air lied frâs yn llithro dros eu gwefusau, pri- odolid y cyfan i ddygiad i fyny uwch- raddol. Yr oeddynt yn dra di falch, a sylwodd un o honynt, y buasai gweled ychydig o'r byd yn gwella Olwen yn fawr, tra y sylwai y llall, y buasai un gauaf yn y dref yn gwneyd geneth arall o Maria. Cydsyniai fy ngwraig yn galonog a hyn oil, gan ychwanegu, nad oedd dim a ddymunai yn fwy nag i'r genethod gael un tymor o ddiwylliant. Nis gallwn beidio sylwi fod eu diwylliant yn cyfateb i'w hamgylch- iadau, ac ni wnai rhagor o goethder ond gwneyd eu tlodi yn fwy dirmygus i eraill, a rhoddi iddynt awydd am bleserau nad oedd ganddynt hawl i'w meddianu. "A pha bleserau," meddai Mr. Thomas, "A ddylent hwy ddim mwynhau, a chanddynt gymaint o allu i gyfranu ?" O'm rhan i," meddai drachefn, "ymae fy ffortiwn yn lied fawf; cariad, rhyddid a phleserau yd- ynt fy arwydd-eiriau; ond ar fan i, pe bae haner fy etifeddiaeth yn ddigon i roddi pleser i Olwen hawddgar, mi a'i rhoddwn, a'r unig ad-daliad a ddisgwyliwn fyddai cael ychwanegu fy hun at y fantais." Nid oeddwn mor ddwl ag i beidio gweled yr amcan dieflig trwy y fath ymadroddion melfedaidd; ond ymdrechais guddio fy nheimlad. "Syr," meddwn wrtho, "y nheimlad. "Syr," meddwn wrtho, "y mae'r teulu ag yr ydych yn awr wedi gweled yn dda roddi iddynt eich rwmni, wedi eu magu gl* (la tyniad mor fanwl am anrhydedd ag ydych chwithau; a gall y sawl a feiddia sathru arno ddisgwyl can- lyniadau anymunol. Anrhydedd, Syr, yd- yw ein hunig feddiant yn bresenol, ac o'r trysor diweddaf hwn dylem fod yn bur ofalus." Yr oeddwn yn edifarhau o her- wydd siarad mor danbaid, pan ymaflodd y boneddwr ieuanc yn fy Haw, a dweyd ei fod yn edmygu fy ysbryd, er ei fod yn anghymeradwyo fy nrwg-dybiaeth. Gyda golwg ar eich awgrymiad," meddai, "yr ydwyf yn protestio na bu dim erioed pell- ach o fy meddwl. Na, ni byddaf yn ym- drafferthu gyda y rhinweddau ag sydd yn alhiog i wrthsefyll ymosodiad; oblegid y mae fy holl amcanion yn y cyfeiriad hwn yn cael eu cario allan yn ddiwrthwyneb- iad." Ymddangosai y ddwy foneddiges ddy- eithr braidd yn ddigllon wrth y sylw olaf, a dechreuasant ymddiddan yn ddifrifol am rinwedd, ac ymunwyd a, hwy gan y caplan, fy ngwraig a minau, a bu raid i'r Sgweiar o'r diwedd ddatgan,ei ofid o herwydd ei ormod rhysedd blaenorol. Siaradwyd ar fwynderau bywyd cymedrol, a dedwydd- wch y meddwl sydd heb ei lygru i eithaf- ion gan euogrwydd. Yr oeddwn gymaint wrth fy modd, fel y cafodd y ddau leiaf aros yn hwy ar eu traed, i'r dyben iddynt wrando ar ymddiddanion mor dda. Aeth Mr. Thomas yn mhellach i'r ysbryd na minau, a chrefai arnaf gadw dyledswydd, yr hyn a wneuthum gyda'r hyfrydwch mwyaf. Fel hyn y treuliwyd yr hwyr, a phan ddaeth yr adeg i ymwahanu, yr oedd y boneddigesau yn anfoddlon iawn i ym- adael a fy merched, ac ni wnai dim y tro ond iddynt eu hanfon i'r palas. Yr oedd y Sgweiar yn dra chefnogol i hyny, a fy ngwraig hefyd. Edrychai fy merched ar- naf fi, gan arddangos awydd myned, ond gwrthodais yn benderfynol, am yr hyn y cefais eu cilwg oil trwy y dydd dranoeth.