Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

SEFYDLIAD CYMREIG FORESTON.

Y LLECH-CHWARELAU.

MINNESOTA AC IOWA.

....... MIL WA XIKEE A'I HELYNTION.

News
Cite
Share

MIL WA XIKEE A'I HELYNTION. Clefyd anhawdd iawn i'w ddioddef yd- yw dioci, ond y moddion cymhwvsaf tuag at gael gwaredigaeth o hono ydyw cyfodi am bump cyn boreufwyd, fel mae arferiad awdwr hyn o linellau, yn nghyd a'r bardd fydd ryw dro yn ben ar feirdd y byd, sef Rowland O. Davies (Moriog), a cberdded 1 ben y reservoir, sef: Crochan i ddiwallu c'rachod—a dwr Dyry yn ddiddarfod; Rhyw drobwll geubwll o god, Llawn dwr pur heb sur sorod. G?,r, ilym. Ole dwl a diwaelod—odia 'rioed, Yn llawn dwrhynod; Yn wir e glywir dy glod, Trwy oesau yn y dre' isod. -'TDti." Yno i sugno awelon iaclius anian, cyn i dwrf a dwndwr masnach aflonyddu ar heddwch hrla trigolion y ddinas, a thra bo y bardd awenber, y cyfaill cywir-galon, Rliisiard Ddu o Fon, Yn chwvrnu yn wael rhwng erchwynion ei wely, A ninau fel llygod yn haner llewygu. Wrth syllu ar brydferth wch celfyddyd, gogoniant natur sydd yn llenwi y gwastad- edd, ac yn britho llethrau y bryniau am filltiroedd o amgylchedd: Godidog wiw a dedwydd—hardd ddinas Arddunol a chelfydd; Milwaukee wen ysblenydd, Ni welwyd ei hail dan haul dydd. Y -Dii,. Yr addoldai a'u pinaclau yn golofnau uchel yn cusanu godrau y cymylau, a'r Courthouse fel rhyw ging carth-ar—0 orchest Yn dyrchu o'r ddaear; Ni clielaf, mi welaf war, Lie odiaetli i farnu Ileidar. Gwilym. Yn nghyd a myrdd o ryfeddodau ydynt ddigonol i doddi calon y balch a'r liunanol, gan beri iddo anghofio ansawdd ei gorilyn tenau a gwael, ac ymgolli yn swyn ar- aderchawgrwydd yr olygfa. Bellach, rhaid dlsgyll I ganol masnach y ddinas i gyd- ymffurfio a'i thrigolion, i iro olwynion peiriant ei bywyd, yr hwn beiriant sydd yn gweithio er boddlonrwydd eyffredinol pob llwyth, iaith a chenedl sy'n ymborthi, yn helaeth o dan adenydd bywiol ei masnach hi; pob celf a gwyddor, march a mul, dyn a dafad yn chwerthin ar eu gilydd yn nghanol llwyddiant eu llafur; ac nid rhyf- edd fod gan y gwaliaiol gymdeithasau galonau a lleisiau i gam alawon mor lion; ac yn mysg y gwahanol gymdeithasau y clywir telynau mwyn Cymru yn chwareu hen alawon y bryniau mor swynol a'r un o honynt. Esgyn Bill Difydd i'w gadair lywyddol, tery gyweirnol y gan, ac ar un- waith clywir lleisiau melodaidd meibion Gwalia yn nofio yn yr awelon, gan ym- golli i'r prydferthwch aes denu cywrein- rwydd y gwyddfodolioi i ehedfan uwch gororau aflafar y werin, i ganol prydferth- wch swynol Cymru Win, sef cartref y tlws a'r prydferth. Ac nid mor rhyfedd ychwaith oedd gweled ? gwahanol gym- deithasau yn ymdynu at eu gilydd, i ddatlilu gwyl fawr y pedwerydd, pob cym- deithas yn ol lliw a llun tu rhywogaeth, yn dewis y Uecyn hwn—erall y llaiierch araIl, ac felly fe ddewisodd plant prydferth Gwalia eu llanercli hvythau, gan fod calonau yr hen genedl yr cyd-ddawnsio ar orsedd fawreddog eu gvlad fabwysiedig. 1 ID y Gwelais grybwylliad am jicnic Cyniraeg y ddinas gan Caswallon Hin, a chlywais l'ai yn beio yr hen Gaswalbn, druan o wydd iddo ollwng ei ddirfelydd i redeg i citliafion i dir y Cymra(g. "Y ben dro a bobo benglogau gweigi01 y dyllix-od eilun- aidd, ac a'i cyfarwyddart ar draws cors yr eilunod i ganol tir abed, fel y gallont ddioddef penyd eu poen:u. Gallaswn fedd- wl fod rhai dynion yn facli iddynt eu liun- ain yn eu gwaith yn coesi a chroesdynu yn erbyn adnoddau yr hen genedl; rhaid gosod y V fawr ar draw llinyn eu llwydd- iant. "Crochan yn llwn gwynt ydyw peth fel yna," neu imcyff pwdr wedi braenu gan nwy. Yn wi', nid ydyw dylan- wad cewri y V ond megys chwythiad ceiliog gwydd yn erbynbyddin oElepliant- iaid. Byddaf yn disgryl clywed am un bodach, ag y mae y V 11 anfertliol o fawr ar ei ben, a lIond ei plyddion o hunan- oldeb nwyol, wedi eséYu fel baloon yn llawn gwynt ar ei daithi'r Ileuad. Gresyn fod synwyr yn godM i'r fath ffyliaid anadlu bywyd yn ein pith. Ymaith a'r Y fawr, a dyweded yr hoi bobl Amen, ac fe geir heddwch i ganu dawnsio gyda'r delyn, a hwyl a haul ynyr Eisteddfod, na welwyd eu cyffelyb erlyddiau Idris Ben- grwn; yno fe geir gwexl bardd yr Hen- i dref yn bwrlymio barddoniaeth fel cenllif afon, y Du o Fon yn chwerthin allan ei englynion fel pills—Alltud Eifion, Lewvs Glyn Dyfi, Moriog, R. O. Jones, W. W. Rowlands, Dr. Williams a Davies a chan- oedd o feirdd a llenorion yn anfon bwled- au at eu gilydd, nes peri i furiau y neuadd ddawnsio yn swn y gorfoledd—y cerddoi- ion, hwythau fel Serapliiaid y goleuni yn arllwys eu Ileisiau melodaidd nes cynhyrfu chwilfrydedd holl genedloedd y Dalaeth i ddotio wrth swn ecco eu lialawon-Y llenor- ion yn pympio mel o athrylitli fel ffynori i redeg dros eu gwefusau lleithion; a gwelir cyfiawnder a gallu y beirniaid yn disgleiiio fel y grisial wrth belydrau yr haul ganol dydd, neu eira gwyn ar ben Nebo. Efallai y ca yr awdwr ei feio am arfer sebon meddal mewn cysylltiad a'r Eisteddfod, ond bydded hysbys i'r cyfryw a ddigwydd adgofIa y fath beth iddo, na fynegodd mo'r haner, ac os ydynt yn galw y pethau bychain yna yn seboni, pa fodd y daliant ddydd y pethau mawrion, pryd y cant weled ei thrysorau fel aur coeth yn ymdoddi yn ngwres ei doniau soniarus? Felly y terfyn- af y tro hwn hyd y tro nesaf, os goddef natur dda y golygydd. Yr eiddoch yn gywir, GWILYM ERYRI. Milwaukee, Wis.

BWRDD Y BEIRDD.

----LLINELLAU C OFF A D WRIAETHO…

Y DIWEDDAR T. J. DAVIES, OSIlKOSIl.

YR IAITH GYMRAEG.

PENYD HYN, BLAENANERCH, D.…