Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

SEFYDLIAD CYMREIG FORESTON.

News
Cite
Share

SEFYDLIAD CYMREIG FORESTON. RHIF. 11-BIIISTOL GROVE. Nid oes yma na thref na phentref, ond rhan o wlad; ac y mae Anian fel wedi bod ar ei goreu yn ei phrydferthu, ac yn ei haddasu i ddyn ei phreswylio. Tirgwastad, And ychydig yn donog ydyw, ac ambell i Iwyn o goed yn britho ei wyneb. Mae digonedd o goed mawrion hefyd yn gyfleus i'r ardal hon, gan fod y Root River yn rhedeg ychydig i'r gogledd iddi, ar lanau yr hon y mae cyfiawnder o goed. Dywed- ir gan ddynion profiadol fod yma gystal tir ag a geir mewn unrhyw ran o'r wlad; ac o ran hyny, y mae gwedd ei drigolion yn profi ei wirionedd. Prif farchnad yr ardal hon, fel ardaloedd eraill y sefydliad, ydyw Lime Sprigs, yr hon sydd dipyn yn bell i'r rhai sydd yn byw ar ochr' ogleddol y sef- ydliad. Ond y diffyg mwyaf yn yr ardal hon ydyw prinder dwfr; eithr y mae y diffyg hwn yn cael ei wneyd i fyny i radd- au, trwy dyllu yn ddigon dwfn, a chael melinau gwynt i'w godi. Mae agwedd foesol a chrefyddol yr ardal hon hefyd yn ddymunol ac addawol. Gan fod y wlad mor eang, a'r sefydlwyr yn amlhau, nis gallesid cyfarfod yn yr un man i addoli; felly sefydlwyd eglwys gan y T. C. yma, yr hon fu yn cyfarfod i addoli am beth amser mewnysgoldy; ond erbyn hyn y mae yma gapel hardd, a'i binael blaenfain yn ymddyrchafu fel pe bai am gusanu y ser. Yma y mae y Parch. Owen R. Morris yn gweinidogaethu i gynulleidfa barchus a chyfoetliog. Mae yr ardal hon yn enwog hefyd am ei beirdd a'i Ilenorion. Mae yma ddigon o le eto, acliroesaw yn ddiau i bwy bynag a ddewiso i wneyd ei gartref yn eu mysg. Yn awr, gan ein bod wedi dyfod i derfyn gogleddol y sefyclliad, yr hwn sydd ddeng milldir neu ragor o Foreston, ac yn ym- ledu ar y dde 0 a'r aswy; a chan ein bod wedi cymeryd Foreston yn ganolbwynt, rhaid dyfod yn ol, a chymeryd cyfeiriad dwyreiniol, mae yr ardal yma yn ymestyn chwech neu wyth milltir o Foreston, a digon o le i ymeangu.—Mae yma diroedd rhagorol a chryn lawer o goed arno.-Mae cysylltiad crefyddol yr ardal hon ag eg- lwys Foreston, ond cynelir Ysgol Sab- bothol mewn ysgoldy yma, a phregethu yn achlysurol. Yehydig i'r de-ddwyrain oddi yma, y mae Cresco, sef y "County Seat." Mae hon yn dref brydferth, yn cael eiham- gylcliu gan diroedd da, ac wedi ei sefydlu a'i diwyllio gan mwyaf; ond gan nad yd- yw y sefydliad Cymreig wedi Ilawn gyr- aeda yma eto, rhaid troi yn ol a chymeryd cyfeiriad gorllewinol. Oddeutu dwy filldir i'r de-orllewin o Foreston, y mae hen dref Lime Springs, yr hon yn wreiddiol bia yr enw hwn. Bu unwaith yn ned enwog, a'i dyfodol yn obeithiol; ond yn anffodus 1 hon fel Foreston, aeth y R. R. heibio filltir i'r de oddiwrthi, fel mai holl fywyd mas- nachol y lie yn awr yw Melin a stor neu ddwy, a post office; ac er fod hon.bron yn nghanol y sefydliad, nid oes yma ond ych- ydig o deuluoedd Cymreig yn byw; felly ni a'i gadawn, i fyned ar ol gwrthrychau ein sylw. Yn mlaen yn y cyfeiriad gor- llewinol yn ein nesaf. [Yw BARIIATJ.]

Y LLECH-CHWARELAU.

MINNESOTA AC IOWA.

....... MIL WA XIKEE A'I HELYNTION.

BWRDD Y BEIRDD.

----LLINELLAU C OFF A D WRIAETHO…

Y DIWEDDAR T. J. DAVIES, OSIlKOSIl.

YR IAITH GYMRAEG.

PENYD HYN, BLAENANERCH, D.…