Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD.

News
Cite
Share

HANES BYWYD HEN BERSON LLANDEDWYDD. GANDDO EF EI HUN. P-ENOD IIL Yn fuan wedi ei ymadawiad ef daetli yn. amser i ninau, ac yr oedd gadael hen ardal He y treuliasem flyneddau mor ddedwydd, ac wylofain y tlodion, y rhai a'n dilynasant am filltiroedd, yn cael dylanwad anorchfyg- ol ar fy nheimladau. Yr oedd geuym tua dengmilltiratliritigainoffordd. Daeth y diwrnod cyntaf a ni o fewn rhyw ddeng milltir ar hugain i'a cartref newydd. Ar- osasom y noson hono mewn gwesty bychan mewn pentref distadl. Gofynais i wr y ty eistedd gyda ni, yr hyn a wnaeth yn ewyll- ysgar, fel y byddai i'r hyn a yfai ychwan- egu y bill erbyn boreu dranoetli. Yr oedd yn dra hysbys o'r gymydogaetli yr oeddwn yn myned i'w plireswylio, yn neillduol o hanes Sgweiar Thomas, yr hwn a fyddai ein meistr, ac a drigai o fewn ychydig fill- tiroedd i'r lie. Desgrifiai y boneddwr hwn fel un a ddylasai wybod mwy am y byd, a llai am ei bleserau, gan ei fod yn hynod am ei sylw i'r rhyw deg. Haerai nad oedd unrliyw rinwedd, na phenderfyniad yn all- uog i wrthsefyll ei ddicliellion, ac nad oedd nemawr i ferch ffermwr yn y wlad nad oedd wedi ei brofi mor lwyddianus ag yd- oedd o anffyddlon. Er fod yr hanes yn achosi peth poen i mi, yr oedd yn cael effaitli pur wahanol ar fy merched, gwyn- ebpryd y rhai a ddisgleirient yn y rhagol- wg am oruchafiaeth agosaol; ac nid oedd fy ngwraig yn llai hyderus yn eu rhagor- iaeth a'u rlii,lwedd. Tra yr oeddym yn myfyrio ar y pethau hyn, dyma wraig y ty i mewn, ac yn hys- bysu ei gwr fod y boneddwr dieithr ag yd- oedd wedi bod yn aros yno ddau ddiwrnod eisiau arian. "Elsiau arian," ebai y gwr, "y mae hyny yn anmhosibl, oblegid ddoe z! y talodd dri gini dros ryw ddyn, i'w arbed rhag ei fflangellu am ddwyn ci. Pan oedd y gwr ar gychwyn o'r ystafell, dymunais arno fy nghyfiwyno i'r dyn ag ydoedd wedi arddangos y fath garedig- rwydd, yr hyn a wnaeth yn ddioed. Ym- ddangosai y boneddwr oddeutu deg ar hug- ain oed, yn ddyn lluniaidd a liardd, gyda gwynebpryd meddylgar. Nis gallwn lai na theimlo drosto yn ei sefyllfa bresenol, a chynygiais iddo fy mliwrs, fel y gallai gyf- arfod ei alwadau. "Diolcli o galon i chwi, syr," meddai, "y mae yn hyfryd i mi fedd- wl fod rhai dynion o'cli natur cliwi i'w cael yn y byd digymwynas hwn etc; ond rhaid i mi ofyn eich enw a'ch preswylfod, i'r dy- ben i dalu yn ol i chwi mor fnan ag sydd 11 NA'I -T-. *■ • A/VvVV-iOi»ulO Ca cli I'J j.»Cil ii'»'V iii. Ml unwaitli. Yr ydwyf yn myned i'r un cyf- eiriad a chwi," meddai, "acwedi fynghadw yma er's deuddydd gan y llifogydd, ond yr wyf yn disgwyl y bydd ein ffordd yn glir crbyn y fory." Yr oeddym oil yn dra ilaw- en o'i gwmni; ac ar daer ddymuniad pob un o honom, cymerodd damaid o swper gyda ni. Yr oedd ei ymddiddan a'i ym- ddygiad mor ddymunol, fel yr oedd yn bur anhawdd cadw noswyl; ond yr oedd taith dranoeth yn gwneyd hyn yn angenrheidiol. Yr oeddym ar y ffordd yn foreu—mi a'm teulu ar geffylau; a'm cydymaith newydd, Air. Richards, yn cerdded y llwybr wrth ein liochrau, gan sylwi yn gellweirus nad oedd yn ewyllysio ein gadael ar ol. Yr oeddyn gryn athronydd, fe! finau, ac mewn dadl synai fi yn ddirfawr fod benthycwr arian fel efe yn gallu bod mor annibynol. G lynai wrth ei bwnc gyda'r fath gyndyn- rwydd a phe buasai yn gymwynaswr i mi. Dywedai wrthym yn awr ac eilwaith pwy oeddynt berchenogion y gwahanol balasau a ddeuant i'r golwg. Gan estyn ei fys at balas ardderchog yn y pellder, "perthyn hwn aew," meddai, "i Mr. Thomas, bon- eddwr ieuanc sydd yn y mwynhad o eiddo mawr, ac yn perthyn i'w ewytlir, Syr Wil- liam Thomas; caniateir iddo bob rhyddid arycwbl." "Beth," meddwn, "a ydyw fy meistr newydd yn berthynas mor agos i'r boneddwr ag y mae ei rinweddau a'i gared- igrwydd mor adnabyddus?" "Yr oedd yr hen wr yn rhy hael o'i ffafrau," atebai Mr. Richards, "ac nid oedd prinder am ddigon o ddynion diegwyddor i gymeryd mantas z, 11 ar ei ddmiweidrwydd, nes o'r diwedd y bu raid iddo roddi ciddewidion yn lie arian. Dyna yr oil allasai roddi, ac nis gallai o lierwydd tynerwch ei deimlad droi. neb draw. Y canlyniad fu gorfod siomi dis- gwyliadau drwy fetliu cyflawni addewid- ion. Daeth hyn a dirmyg i'w ran, a dir mygodd ei hun liefyd. Dechreuodd y byd wisgo agwedd ivalianol-aetli canmoliaeth ei gyfeillion yn llai gwresog; ac yn lie lian- 1. z;1 er ei addoli megis cynt, aethant i'w gyng- hori. Cafocld allan fad y cyfryw ffryndiau ag agenedhvyd gan gymwynasau o nemawr wertii. Penderfynodd yn awr barchu ei hun, a'r llwybr a gymerodd i hyny ydoedd adenill ei gyfoeth, a bu yn llwyddianus yn ei amcan. Y mae ei haelioni eto yn aros, ond yn cael ei arferyd mewn dull mwy doeth a chymedrol." Tra yr oeddwn yn mwynliau adroddiad difyrus Mr. Richards, dyclirynwyd fi gan Avaeddiadau fy nheulu, ac wedi troi fy mhen gwelwn fy merch ieuangaf yn nghan- 01 ffrwd wyllt o ddwfr, wedi eithaflu oddi- ar ei chefEft'l, ac yn ymladd fi'r genllif. Suddodd dawywaitli, a buasai 3m sicr 0 suddo i beidio codi mwy, oni bae i'm cyd- ymaith neidio i'w chynorthwyo, a'i dwyn i'r lan yn ddiogel. Daeth y gweddill dros- odd ychydig uwch i fyny, lie yr oedd y dyfroedd yn llai. Y mae yn haws dycliym- ygu na desgrifio ein diolchgarcli cyft'redin- ol i Mr. Richards am ei weithred arwrol. Cawsom ginio yn y gwesty nesaf; a chan fod ein cyfaill, ie, cyfaill calon bellach, yn myned i gyfeiriad arall, ymadawodd a ni yma, ac acth om ninau yn mlaen ar ein taith. Cefais ddifyrwch mawr yn gwrando ar fy ngwraig yn datgan ei gofid am na buasai Mr. Richards yn ddigon da ei amgylchiad- au fel y gallai gael un o'n merched yn wraig. z;1 Ni byddaf byth yn anfoddlon i ryw dyb- iau iluantus fel hyn ag sydd a'u tucdd i'n gwneyd yn fwy dedwydd.

CYFARFYDDIAD HYNOD.

[No title]

YR IN 1)1 All) C VA-TREIG,

D. T. PIUCE AT "EFRYDYDU "

CYMRY 8.\.1\ FUAN CISCO.

CAXMOLIA ETH— C O NDEMNIAD.

AWMVBIAETH HEN EMYN.

Y DDOLAR.

VYNH YBFIADA U D YCIIYMYG.

[No title]

[No title]