Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Prydain Fawr.

News
Cite
Share

Prydain Fawr. LLUNDAIN, Gorphenaf 20.—Aeth yr ager- long Scythia, perthynol i liuell Cunard, mewn gwrtlidarawiad gyda morfil tu allan i Roche's Point, Werddon, a thorodd lafnau ei holwyn sidrwyol. Cafocld y morfil ei anafu fel y buwyd yn alluog i'w ddal tu allan i Ballycotton, a llusgwyd ef gan agerfad i Queenstown, lie y caed allan ei fod yn 54 o droedfeddi o hyd !-Cynaliodd Mri. Moody a Sankey gyfarfodydd yn Llundain mewn pedwar niis fel y canlyn: Yn Camberwell, 60, yn bresenol 480,000 o bobl; yn Victoria, t5, yn bresenol 40,000; yn yr Opera House, 60, yn bresenol, 33,- 000; yn Bow, 60, yn bresenol 600,000; yn Agricultural Hall, 60, yn bresenol 72u,000 o bobl. Gwariwyd $140,000 wrth ddarparu lleoedd iddynt, talu am argraffu, ac i gyn- orthwywyr, &c. Gwrthododd Moody a Sankey a derbyn cyflog. Dychwelant yn fuan i America. Mae y chwyrn-saethv yr Americanaidd yn parhau i dynu sylw mawr yr ochr draw i'r Wlèryddj ac yr oedd y derbyniad agaw- sant yn y Werddon, Scotland a Lloegr yn frwdfi-ydig dros ben. Maent yn parhau yn llwyddianus yn mhob ymdrechfa, ac mae y saethu yn rliagorol dda ar y ddwy ochr. Cymerodd ymdrechfa le yn Wim bledon ar y 17 cyfisol, pellder 200 o latliciii, a phob un yn saethu 7 ergyd. Pymtheg ar hugain oedd y cyfrif uchaf posibl. Yr oedd canoedd yn cystadln. Gwnaeth Fulton (Americanwr), 35; Gildersleeve, 34; Yale, 33; Canfield, 31; Dakin, 27; John Rigby (Gwyddel), 35. Gan fod y Gwyddel a'r Americanwr yn gyfartal, bu raid iddynt ail saethu i benderfynu yr ymdrechfa, a daeth Fulton, yr Americanwr, allan yn fuddugoliaethus. Bu dadleuon gwresog yn Parliament ar y cynygiad fod costau Tywysog Cymru ar eiymweliad a'r India Ddwyreinial i'w talu o bwrs y wlad. Ymunodd Mr. Gladstone a Disraeli dros y cynygiad, a chariwyd y mesur drwy bleidlais o 379 yn erbyn 16.— Dydd Sul diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddns yn Hyde Park i gondemnio gwaith y Parliament yn gwastraffu arian y bobl drwy dalu costau y Tywysog; ac yr oedd 12,000 o bobl yn bresenol. Pasiwyd penderfyniadau celyd yn erbyn gwastraff y teulu Breiiinol.-Aetli Lambert Brothers & Scott, masnachwyr yn Grace Churcu St., Llundain, yn fetli-dalwyr; dyled,$1,000,- 000.—Hysbysir y bydd i berchenogion y melinau cotwm yn Ashton, Stalybride, Dunkinfield a Mossley, gloi allan yr holl weithwyr ar y 24ain cyfisol, o herwydd eu bod yn gwrthod rhoddi yr anghydfod yn ngliylch eu cyflogau i'w benderfynu gan wyr canol,-Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Arglwyddes Franklin, gweddw y di- weddar Syr John Franklin, a fu farw yn ystod ei hynt i'r pegwn gogleddol, Mehefin 11, 1847.

Llifogydd Dinystriol yn Ng-hymi-u.

Ffrainc.

YSTADEGAU" Y GOBFF,

NOD ION PERSON OL.

[No title]

[No title]

Ymerodraeth Germani.

Y Gwrthryfel yn Spaen.

Chwyldroad yn Twrci.

Terfysg yn Salvador.

Patagonia.

LLAWER MEWN YCHYDIG.

[No title]

AOHOS Y PARCH. II. W. BEECIIER,…