Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
LLOFFION 0 BELL AG AG08.
LLOFFION 0 BELL AG AG08. Mae tramoriaid yn dcclireu dyfod i werthfawrogi y Talaetbau Delieuol, lie mae digonedd o dir bras, a hmsawdd iaeliusol; canys hysbysir fod cwmni o ddynion arian. og yn Ewrop wedi talui mewn$20,000,000 i ffurfio cyfalaf er prynu tir a'i amaethu yn Louisiana. Hysbysir yn awr fod ffarm Don Ju- an Forster, yn San Diego County, Californ- ia, yn cynwys can' mil (100,000) o erwau o dir. Profwyd yn ddiweddar fod rhoddi llawer o halen i anifeiliaid yn dylanwadu yn niweidiol ar y cylla, a'r coluddion, ac yn eu heffeithio fel gwenwyn enynol, yr hyn yn ami sydd yn achosi marwolaeth. .Dylai pob amaethwr fod yn ofalus gyda chnydau ei faesydd, a gweled eu bod oil yn talu am y llafur, yr hadyd, &c. Mae amryw o ffermwyr ymarferol yn cymell ymryson aredig mewn ffeiriau amaethyddol, fel ag y gwneir yn Ewrop, yn lie ymryson rliedeg ceifylau, yn ol y ffas- iwn bresenol yn America. Diau y bydd i'r cyfnewidiad ddylanwadu er daioni mewn amryw ddulliau. Mae pobl Tennessee mor awyddus am gadw cwn, fel y bydd y dreth oddiwrth- ynt yn werth llawn$300,000 i drysorfa y Dalaeth eleni, yr hyn fydd yn 25 y cant o ychwanegiad at gyllid y Dalaeth. 0 Hysbysir fod ffarmwr yn Mississippi yn fwy llwyddianus na neb o'i gymydog- ion wrth godi pob math o gnwd y ddaear, er eu bod hwy yn defnyddio gwahanol fathau o wrtaith costus; eithr yr oil y mae ef yn wneyd ydyw hau rhyg, a'i aredig dan y gwys yn dail i'r tir. Dylai ffarmwyr gofio nad oes modd cael gwell gwrtaith i bob math o gynyrch y ddaear na lludw coed, o herwydd fod ynddo swm mawr o'r sylwedd a elwir pot- ash, un o brif elfenau tyfiant. Os paentir pyst fences a, Unseed oil wedi ei ferwi, a'i gymysgu a llwch charcoal, parhant heb bydru yn hwy nag oes neb sydd yn fyw. Yr oedd y cnwd gwenith yn Mhryd- ain am y naw mlynedd diweddaf yn 29y2 o fwsieli i'r erw 'at ei gilydd. Un o'r magwyr gwenyn mwyaf yn y byd ydyw Adam Grimm; Jefferson, Wis., yr hwn y flwyddyn ddiweddaf a werthodd 1:Z o dunelli 0 fel oddiwrth 1,158 o gych- od gwenyn. Gydag awel Mr y boreu, A thywyniad gwres yr haul, Gellir canfod y Wenynen Yn mhlith blodau glwys a dail; Ar ei helynt a yn hwylus Drwy'r perthi a'r parthau pell, Dan ei llwyth, yn mron a'i lletliu, Mae'n dychwel 'nol i'w chell. Draw yn mhell yn llwyni'r llanerch, Mae ei si i mi yn swyn, Yno mae yn dra llafurus, Casglu met, i'w thy gwna'i ddwyn, Gael gwneyd cartref clyd, cysurus, Cyn daw'r gerwin auaf du, Yno bydd mewn gwir ddedwyddwch Yn ei hanedd, geinwedd gu. Anfonodd siroedd deheuol Californ- ia i San Francisco eleni 5,380,000 o euraf- alau (omnges); 620,000 o lemons; a 80,000 o chwigr-afalau (limes). Defnyddir yn Calif- ornia oddeutu 10,000,000 o eurafalau mewn hlwyddyn, ac atgludiryno o Mexico 5,000,- 000. Dywed Mr. J. J. Mechi, y ffarmwr Seisonig nodedig, ei fod yn dra gofalus am wlydd y pys a'r ffa, gan y gwnant borth- iant o'r fath oreu wedi eu malu. Mae def- nid yn hynod hoff o honynt. Rhoddir dwfr poeth am eu penau i'r gwartheg. Mae y Llydawiaid yn Ffrainc yn codi y ceffylau goreu yn Ewrop, a'u prif ymborth ydyw moron gwynion. flefyd, y maent yn eu dysgu i ddeall ac ufuddhau gyda manylrwydd mawr. Bu ffarmwr yn California yn alluog i gadw 1,500 o ddefaid am 22 o ddyddiau ar 25 o erwau o feillion a elwir alfalfa, yr hwn a dyfir yn gyflym drwy ddyfrio y tir. Cadwyd y defaid i bori rhanau, tra yr oedd y rhanau eraill yn tyfu. Dywedir fod y corn a dyfir yn bwr- pasol yn borthiant i anifeiliaid yn fwy tor- eithiog ac yn well, wrth ei hau ar antur fel ceirch neu haidd, na thrwy ymdrafferthu i'w blanu mewn rhesi. .Caed amryw brofion yn ddiweddar fod yr hen chwilod a elwir Colorado beetles, ydynt yn ysu cymaint ar y pytatws, wedi gwenwyno amryw o bersonau i farwolaeth wrth iddynt eu lladd a bys a bawd! Yn ffair Machynlleth, Mehefin 9fed, caed y prisiau canlynol :-Heffrod dwy flwydd oed gyda lloi, o £ 10 i £ 14; gwartheg tewion, o E12 i E16. Gwerthwyd un fuwch cyrn byrion am zC23 15s.; lloi blwydd, cyrn byrion, o C6 i £7. Llwdn dafad blwydd (Cymreig), 18s; wyn tewion cymysg eu Thywogaeth, 18s. 6c. yr un. Dau Englyn i'r Pytaten, cyflwyned- ig i'r Amaethwr, gan Thomas L. Thomas: Byw it' eto bytaten—er helaeth Sirioli plant angen; Er dy hau pan yr wyt hen, Deori mewn daearen. E dyf Och! o d'afiechyd—rhyw ganoedd Oer gwynant bob enyd, Yn glaf wrth wel'd dy glefyd, Er eu cwyn, yn parhau c'yd. CYNAUAFU GWAiR-Dyma yr amser i'r ffarmwyr ddeall pa fodd i gynauafu y gwair heb ei ddyfetha. Rhaid bod yn ofalus i beidio gadael y gwair yn agored i ddylan- wad gwres tanbeidiol yr haul yn hir ar ol ei dori, rhag i'r nodd, y lliw a'r maeth gael eu gyru allan o hono. Mae yn ofynol i'r dwfr gael ei fwg-dartliu ymaith, fel y bydd i'r gwair gael ei sycliu heb newid ei liw gwyrddlas. Os crinir y gwair yn holl- ol yn ngwres yr haul, collir lliw naturiol y Ilaeth a'r ymenyn, yn nghyd a llawer o sylwedd meithrinol y porthiant. Mae y gwair a grinir ac a gochir yn yr haul yn colli braid d yr oil o'i faethlonrwydd, ac ni cheir ond y o laeth nac ymenyn oddiwrtho. Torer y gwair wedi iddo or- phen tyfu, cyn dechreu cochi, sycher yn dda, ond na ddeifier yn yr haul, a cheir ym- ymborth maethlon i'r anifeiliaid. Casgler y gwair yn fan dociau ar y maes, fel y ca amser i gynauafu heb grasu, a sicrheir porthiant i'r gwartheg, a Jlaetll ac ymenyn iliwgar a blasus.
Y LOCUSTIAID.
Y LOCUSTIAID. RED OAK, IOWA, Meli. 40—Mae y cread- uriaid dinystriol a elwir locustiaid wedi peri teimladau rhyfedd yn y wlad, yn en- wedig yn y gorllewin yma; maent wedi bod yn achos o gabledd, a clielwyddau, a rhegfeydd, oddiwrth y rhai anystyriol; ac o ymostyngiad gwirioneddol, ac o weddiau taerion, oddiwrth y rhai sydd yn ystyried mai ei lu mawr Ef ydynt. Er nad ydym ni yma, sef yn ardal Gomer, Iowa, wedi teimlo fawr oddiwrthynt hyd yn hyn, et.bs yr ydym wedi gweled digon o honynt in hargyhoeddi eu bod yn anorchfygol i nerth na chywreinrwydd dynol, o herwydd ar y 14eg o M ehefin daethant yn lluoedd aneirif; ond ymddangosasant ar y cyntaf fel rhyw greaduriaid ar daith; ond gan fod y gwynt yn anffafriol iddynt dranoeth, arosasant hyd yr 16eg, pan y cawsant y gwynt o'ii hoi, sef o'r de-orllewin, ac ymaith a hwy. Yr oedd yr olwg arnynt yn ofnadwy, a di. ameu genyf pe buasent yma hyd yn awr, ha fuasai y meusydd ffrwythlawn ydym yn weled heddyw ond llwm a diffrwyth. Mae rhagolwg yn awr y bydd y cnwd gwenith, ceirch, a'r llin, yn well nag arfer, tra na fydd i'r corn fod ond tua dwy ran o dair o'r cnwd cyffredin; eto mae fod y fath brinder o hono mewn lleoedd eraill yn sicr- hau y bydd iddo dalu yn dda eleni. Dy- wed llawer ei fod yn sicr o fod yn ddoTar y bwsiel cyn pen y flwyddyn. Ond er ein bod wedi bod yn gofyn mewn syndod beth ddeuai o'r wlad, gan fod rhanau mor hel- aetli o honi yn cael eu goresgyn gan y loc- ustiaid, a'r rhanau mewn ystyr y lie tyfa bara y wlad; eto erbyn hedayw nis gall- wn lai na theimlo fod gwanwyn gobaith yn tori uwchben ein gwlad, a dyma ein rheswm dros gredu felly y flwyddyn ddiweddaf.— Pan oeddynt yn gwneyd eu hymddangos- yr oeddynt yn dyfod o'r gogledd-orllewin, a dywedir mai eu gwlad hwy ydyw y plains, sef gwlad boeth a thywodlyd yn y gorlle- win, a bod y sychder a'r gwynt poeth yn yr haf diweddaf wedi crino pob llysieuyn yno, fel y bu raid i'r locustiaid adael y lie i chwilio am ymborth, ac felly ddyfod i Neb- raska, Kansas, a rhanau o Minnesota a Mis- souri, ac iddynt ddodwy yno a deor y gwanwyn hwn, ac eleni mae y rhai ieuainc yn bwy.a y cnydau cyn iddynt fagu esgyll i allu hedeg ymaith; ond can gynted ag y deuant yn alluog i hedeg, maent yn gadael, ac yn myned i'r gogledd-orllewin, ac felly yn gweithio eu ffordd yn oli'rplains; ac os bydd iddynt adael y wlad o hyn i ben dau fis, ni bydd iddynt ddodwy yma, ac felly ca y wlad lonyddwch. Ond beth bynag am gywirdeb fy syniad, mae yma wersi i ni i'w dysgu oddiwrth ymweliad y trychfilod bychain. Yn un peth, ni ddylem ni amaethwyr ag sydd yn dechreu gydag ychydig o gyfalaf wneyd cymaint o ddefnydd o'r credit system, fel pan y delo y dydd drwg, y byddwn a'n traed danom, os yn bosibl. Hefyd, gallwn weled mor druenus y gall sefyllfa dynol- iaeth fod pan mae Duw yn gadael i'w lu mawr ef gael eu rhyddid. Mae y pla wedi bod yn achlysur i lawer siarad yn anystyr- iol iawn. Wrth eu gweled yn lluoedd anei- rif yn hedeg uwch ben tref Red Oak, Pa beth, meddai un, a feddyli di am dy Dduw cyfiawn yn awr?. Gwelais ysgrif yn y DRYCH yn ddiweddar gan E. J. Evans, o ran o Dalaeth Minnesota, yn yr hon y dy- wedai fod ganddo fwy o ffydd mewn rhwyd i'w dal nag mewn gweddi. Ond credwyf, gyfaill, os nad wyf yn camgymeryd y dyn, eich bod wedi ymddiried gwaith mwy pwys- ig i Wrandawr gweddi. Cofiwn fod yr llyn sydd yn anmliosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw. Red Oak Iowa. W. If. JONES. .1..
0 EMPORIA, KANSAS.
0 EMPORIA, KANSAS. Canwyr Tsgol Sabbothol y Methodistiaid yn enill Organ, gwerth$225. EMPORIA, Gorph. 7-Dydd Sadwrn, y 3ydd, darfu i ni yn Emporia ddathlu y glorious Fourth a'r prif beth i ni y Cym- ry oedd y cystadlu am yr Organ, gan gorau yr Ysgolion Sabbothol. Disgwylid oddeu- tu mil o blant gwahanol ysgolion i fod yn bresenol, ac yr oedd darpariadau cyfiawn wedi eu gwneyd er dwyn pob peth yn mlaen mewn trefn a phob tegwch. Yr oedd y ddwy ffordd haiarn wedi rhoddi pris yr Ev- cursion tickets o Topeka a gwahanol leoedd eraill i Emporia ac yn ol yn isel iawn, a'r canlyniad oedd fod ein tref brydferth yn fyw o fodau dieithriol o bob man bron. Yr oedd y canu am yr Organ ifod yn y Pic Nic mewn llwyn, ychydig ffordd o'r dref; a chyrchwyd y bobl yno ac yn ol i Empor- ia am 25c. ar y rheilffordd. Dywedir fod pedair mil yn bresenol. Aethum i yno yn brydlawn i glywed y canu. Yr oedd ped- war cor yn cystadlu, a chanodd pob un yn rhagorol. Ond Cor Cymreig Emporia,per- thynol i Ysgol Sabbothol y Methodistiaid Calfmaidd, a enillodd y wobr. Canasant ddau emyn yn Gymraeg, ac yna Saesneg. Yr oedd y canu yn ddiwall, ac yn soniarus ryfeddol, dan arweiniad medrus eich Gor- ^uchwyliwr, Mr. Thos. H. Lewis. Canodd y cor Cymreig arall o'r wlad yn rhagorol liefyd. Felly y gallaf ddweyd am y cor Americanaidd o'r Gottonwood Falls. Ond yr oedd cor lluosog, cryf y Methodistiaid Wesleyaidd, Emporia, yn glos wrth sodlau y Cymryx a meddyliai llawer mai hwy fuas- ent fuddugoliaethus. Ond dangosodd un o'r beirniaid, Mr. Joseph C. Jones, o'r Em- poria Foundvifj i'r Cymry ganu yn hollol I ddigoll, yr hyn ni ellid hawlio am y llall. Yn hyh cydsyniodd y Proff. Hoagland a'r beirniaid eraill; a phan ddeallais mai y Cymry aeth a'r Organ, gwresogodd fy nghalon. Diau y cewch fanylion pellach gan Mr. Lewis, eich Goruchwyliwr. Mae y cawodydd bendigedig a gawsom y dyddiau diweddaf hyn, wedi sicrhan cnwd ardderchog o'r corn, am yr hwn y teimlid peth pryder wythnosau yn ol. Mae y gwenith bron oil wedi ei gasglu—a chaed cnwd rhagorol. Dywed ffarmwr sydd wedi byw yn Kansas ddeunaw mlynedd, na wel- odd erioed well golwg ar y cnydau o bob math. Mae Duw wedi gwrando gweddiau ei blant, a'u bendithio lawer tuhwnt i'w haeddiant. Y mae Kansas eto ar i fyny, wedi bod yn y trallod-fyd—yn ddwfn- dwfn.—Ap P. A. Mon. -Yr oedd gan hen foneddwr digrif, ond o duedd fywiog a gweithgar, arddwr yn gweithio, yr hwn oedd yn hollol anhebyg iddo o ran tuedd; ac meddai wrtho un diwrnod, "Jones, a welaist ti erioed fal- wen?" "Sicr iawn fy mod i," meddai. Jones. Mae yn rhaid mai ei chyfarfod a ddarfu i ti, o herwydd nas gallesit byth ei gorddiwes." —Yn rhedegfeydd "Derby,1" a gymeras- ant le yn Lloegr y mis diweddaf, yceffyl a enillodd y wobr flaenaf oedd "Galopin," eiddo Count Batthyany. Dywedir fod y perchenog wedi enill ZO,000 trwy y di- gwyddiad. Yr oedd y rhedegfa hon y gyf- lymaf y gwyddis am dani, yr hon a wnaed mewn dau fynyd a 42 o eiliadau. Dywed- ir fod Tywysog Cymru yn enillwr mawr ar yr amgydcliiad. —Dywedir fod wyth miliwn yn siarad y Germanaeg yn y wlad hon; a chyhoeddir tri chant o newyddiaduron a chylchgronau yn eu hiaith frodorol. —Darfu i ddynes yn Grand Rapids, Mi- chigan, daflu gwely plyf allan drwy ffen- estr y llofft, un boreu gwresog, heb wybod fod baban bychan yn cvsgu ynddo. Wedi chwilio am y baban mewn gwely arall ac heb ei ganfod, hi a redodd at y ffenestr, pan y gwelodd ddyn a'r baban yn ei freich- iau heb dderbyn dim niwaid —Mae 20 o weinidogion yr efengyl yn Rochester, N. Y., wedi llaw-nodi gwrth- dystiad yn erbyn gwaith y Bwrdd Addysg yn cau y Beibl allan o'r ysgolion cy- hoeddus. —Hysbysa y Mil. Dodge, yr hwn fu drwy wlad y Black Hills, yn ddiweddar, fod yr adroddiadau am aur yno yn wirionedd safadwy, a bod y mwnwyr yn gwneyd yn dda.
Family Notices
GANWYD- JOB-Mehefin 16, yn Glasstown, Mo., merch i Mr. Evan Job ac Anne ei briod, dlweddar o Newburgh, 0.; gelwir hi Mary Jane. MILLARD-Mai 9, yn Columbus, Ohio, mab i Mr. William Millard a'i briod; gelwir ef Charles. WILLIAMS—Mehefin 7, yn Columbus, 0., merch i Mr. R. C. Williams (Cynhafal) a'i briod; gelwir hi Elizabeth Ann. JONES—Mehefin 14, yn Columbus, 0., merch i Mr. Andrew Jones, leu., a'i briod; gelwir hi Catharine. DAvIEs-Mehefin 15, yn Columbus, 0., mab i Mr. D. J. Davies a'i briod; gelwir ef Thomas Jefferson Davies. NICHOLAS DDU. PowELL-Gorphenaf 1, yn Scranton, Pa., bachgen i'r Pencerdd W. Aubrey Powell a'i briod; gelwir ef John R. Winthrop. JENKINs-Gorphenaf 2, yn Wheatland, Pa., mab i Mr. John W. Jenkins a'i briod; gelwir ef Thomas. P-R TOD WYD- JO-NEs-TITOMAs-GorpheDaf 3, yn Be- vier, Mo., yn nhy tad y briodasferch, gan y Parch. John W. Thomas, Mr. John Henry Jones a Miss Mary Thomas, y ddau o'r lie uchod. ROBERTs-JENKINs-Mai 20, yn Judson, Minn., ynei dy ei hun, gan y Parch. R. W. Jones, Mr. Owen R. Roberts a Miss Sarah A. Jenkins, y ddau o Judson. GRIFFITHS—JONES—Mehefin 19, yn nhy Mrs. D. Jones, Dutch Valley, Wis., gan y Parch Owen Jenkins, Mr. Robert Griffiths a Miss Elizabeth Jones, y blaenaf o ardal Salem, a'r olaf o ardal Ban- gor, Wis. B U FAB IV- JONEs-Mehefin 29, yn Wheatland, Pa., yn 7 mis, 3 wythnos a 2 ddiwrnod oed, Myfanwy, merch i Mr. David S. Jones a'i briod. Y dydd can- lynol hebryngwyd ei gweddillion marwol i gladdfa Sharon, Pa. WooDs-Mehefin 27, Charles A. Woods, un o perchenogion melin rolio Wheatland, Pa. JONES—Mehefin 27, John D. Jones, llys fab Mr. Cadwaladr Williams, New Hartford, N. Y., 3 -112 mlwydd, 5 mis a 13 o ddyddiau oed. ROBERTs-Mehefin 30, yn 2 flwydd a 10 mis oed, Kate, anwyl blentyn Hugh a Sarah Roberts, Faniamsville, Vt. Dranoeth claadwyd yr un fechan yn mynwent Poultney, pryd y gwasanaethwyd gan y patriarch Edward Rees. Catted y teulu galarus nerth l ymddiried yn yr hwn a ddywedodd "Gadewch i blant bycbain ddyfod ataf ft." PRYFDIRFAB. GRIFFITHS—Mehefin 24, yn Brown Town- ship, er Columbus, O.,arolihai wythnosau o gys- tudd caled, yn 45 mlwydd oed, Mrs. Jane Griffittis, prion Mr. John Griffiths, o'r ardal uchod. Yr oedd yn enedigol o Ogledd Cymru, nis gwn pa le, yr wyf yn meddwl mae Mallwyd. Bu yn briod am 22 o fiyn- yddoedd..Mae iddynt un mab. Daethant i'r wlad hon ryw 17 o flynyddoedd yn ol. Collodd ein brawd briod gofalus am dano, a'r mab fam dyner. Cladd- wyd hi dranoeth yn barchus gan yr ardalwyr, a gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan Robert Byn- ner, y W., a clian yr ysgrifonydd ar lan y bedd. Yr Arglwydd fyddo yn llon'd ei addewid i'n brawd yn ei alar dwys, medd yr eiddoch, DAVID HABKIES. JON-ES-ATehefin 26, yn Columbus, Ohio, yn 6 mlwydd a 6 mis oed, ar ol dim ond fdan ddiwr- nod o gysiudd caled yn y scarlet fever, Margaret Rossa, merch i Mr. John C. Jones a'i briod. Dyma fwlch eto yn y teulu hwn, ac yn y Band of Hope gyda minau. Dyma'r pnmed o'r teulu hwn wedi myned i ogoniant cyn gwybod am fawr o oSdi.au y faciieddton. Mae'r nefoedd yn tynu ati ei hun; eto y mae yn galed i deimLad i beidio grwgnach. lihodd- ed F Arglwydd yn ei drugarrdd gymorth cyfateboi ] r anven sydd ar ein hanwyl frawd a chwaer ja y brofeaigaeth chwcvw hon. Cafodd gladdedigaeth barchus yn ochr ei chwaer yn y Newark Cemetery. Gwe.nyddwyd ar jr amgvlc.rad gan y Parchn. E. T. Evans a T. Roberts, aV ys^-ifenydd. DA VID HAKKIES. LLOYD-Mehefin 22, yn Brier Hill, Youngstown, 0., yn S3 mlwydd oed, Mary Jane, an- wyl briod Mr. Thomas Lloyd, ac unig fereh y Parch. D. Probert. Bu ei phr?od a hithau yn Nghymra yn treulio y gauaf diweddaf. ac ar eu clycaweliau yn New York cafodd hi ei chymeiid yn glaf, a daeth ad- ref i dy ei rhien;, a chafodd gystudd frwm am chwe wythnos, sef y darfodedigaeth twyllodrus. Daeth jn ddeHiad o deyrnas Crist pan yn leuanc, a bu yn addurn i'w pb'.otles nes gorphen ei gyda, mewn Hawn obaith by wyd tragwvdaol. Canmola; djner- wch ac hae\rY,(.edd ei thad natiriol yn ol ei allu; o-id dywc(lai ei bod hi jn myned at Dad Holloyl'- oethog, ac a roddai ide11 hi bob Dethangerrheicdoi, ac ychydig fyny dau cyn ei hjmadawlad adroddai yr em) n- On Jordan's stormy b inks I stand And Celst a wishful eye, To Cauaan's fair and happv land Where my possessions lie," &c. Daeth cynulleidfa fawr o wahanol getiedloedd i'w hangladd. G-weinvddwyd y gwasanaetli cysegredig gan y Parchn. D.J.Nicholas IforEbbwyt a J. W. James, Mineral Ridge, yn Gymraeg, a'r Parch. Mr. Nicholson, Youngstown, yn Saesneg. Gadawodd briod a baban, yn ngbyd a rhieni, i alava ar ei hoi. LLOYD-Gorphenaf 3, yn Brier Hill, Youngstown. 0., yn 4 mis oed, Albert Lloyd. maban Thomas ac M. J. Uoyd. Ni chaiodd j .• uu bach ond deg diwrnod o alar ar ol ei anwyl lam. Ar y 4ydd o Orphenaf gosodwyd ei weddillion i huno ar fynwes ei fam hyd ddydd y codi eyffi-edinol. Gweinyddwyd yn ei gladdedigraeth yn Gymraeg a Saesonaeg gan y Parch. D. J. Nicholas (Ifor Ebbwy). COFNODYDD. THmIAs-Iehefin 22, y Parch. W. J. Thomas, Shenandoah, Pa. Dyoddefodd am tna thair wythnos dan effeithiau'r bilious fever. Brodor oedd o Gwmafon, Morgauwg, D. C. Yr oedd yn wvr i'r diweddar Barch. Dafydd Jones, Clydach. Yn Shen- andoah y dechreuodd bregethu, yno yr urddwyd ef, ac yno y bu favw. Ar y 25ain daeth tyrfa luosog yn nghyd er hebrwng ei weddillion marwol i'r bedd. Gweinyddwyd ar yr achlysur—cyn cychwyn o' r ty gan D. A. Evans, Drifton; yn y capel, dechreuwyd ganL. Lake, IVtoJianoy, ac anerchwyd y gynullaidfa gan D. E. Evart1; Plymouth; a chyflawnwyd y gwasanaetli ar lan y bcdd gan T. C. Edwards, Wilkes-Baire. Yn <^r hwyr cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel, pfcyd y traddodwyd anercniadau gan y gweinidogion ciybwylledig a chan aelodau o'r eglwys'Gynulleidfa- ol-J-dechreuwyd yr oedfa trwy weadi gan y Parchn. .Mr. Jones (B). Da oedd genym fod y fath gymeriad yn cael ei rhoddi i'r brawd yinadawedig, ynneillduol tystiolaeth aelodau yr eglwys oedd dan ei ofal. Y teimlad oedd, 0 na chawn farw o farwolaeth yr uniawn." Gadawodd wraig a phedwar o blant i alarn ar ei ol, a bydded i'r Hollgyfoethog Dduw fod yn Farnwr i'r weddw ac yn Daa i'r amddifad. UN OEDD YNO.
MABW-GOFFA.
MABW-GOFFA. Penderfyniadau a fabwysiadwyd gan Cyfrinfa Bryn Eglwys, Rhif. 10. o Urdd y Gwir Ifoiiaid American- aidd, Chufch Hill, Ohio, ar farwolaeth ein brawd ieuanc John B. Williams wedi hir gystudd, a fu farw Mehefin 26, 1875: YN GYMAINT ac i Dduw yn ei Ddoeth Rhagluniaeth alw o'n mysg ein hanwyl frawd John B. Williams; Penderfynwyd, Ein bod fel Cyfrinfa yn teimlogal- ar dwys o herwydd colli brawd ffyddlon, hynaws a charedig. Penderfynwyd, Ein bod yn dymuno amlygu ein cydymdeimlad a rhieni galarus ein hanwyl frawd yn eu trallod dwfn, ac yn dymuno nawdd ein Tad Nefol iddynt yn y brofedigaeth lem. Penderfynwyd, Em bod fel arwydd o barch i'n brawd ymadawedig, i wisgo'r freinlen am 30 o ddyddiau. Penderfynwyd, Ein bod yn cyflwyno copi o'r pen- derfyniadau hyn i'r teulu galarus, ac heryd yn eu hanfon i'w cyhoeddi yn y DBYCH. EDWABD DAVIES, ) WM. J. EVANS, vPwyllgor. DAVID OWENS, )
Advertising
Post Free. 30 Cents. SKETCHES ABOUT WALES. By Owen of Wales, Pontypridd, S. Wales. CONTENTS. How a Queen of England fell in love with a Welsh- man. A Visit to the Grave of the Last Native Prince of Wales. The Wonderful Old Scholar of the Vale of Gla- morgan, viz: IOLO MOBGANWG. The Great South Wales Choir at Aberdare; Pre- sentation of tne Welsh Flag; Meeting at Colston Hall, Bristol; Journey to London; Harp and Fiddle in the Train; the Victory at the Crystal Palace; the Reception by the Prince and Princess of Wales, and the Czarevna of Russia; and a complete list of MEM- BERS OF THE SOUTH WALES CHOIR, as it appeared below the Handel Organ at the Crystal Palace on the day that Caradog Led them on to Victory." I rejoice to find that a gentleman connected with the South Wales Press has published a book giving the history of the visit to the Crystal Palace in 1873, and also a complete list of my glorious five hun- dred." Yours-faithfully, GRIFFITHRHYS JONES (Caradog). Treorky, Rhondda Valley, June 15. CARNARVON CASTLE. NO. 50 LIBERTY ST., UTICA. EVAN EVANS, PERCHENOG. Ceir yn y Gwesty Cymreig uchod y diodydd goreu, ac ymborth a llety am y prisiau isaf. 43'74 Masnachdy lad, Arian Parod ABBEY, RHIF. 40 HEOL COLUMBIA, CONGL BROADWAY, UTICA, N. Y. Dyma y lie mwyaf manteisiol i brynu GROCERIES am brisiau isel. Te da 30, 40 a 50 cents. Te Japan goreu$1 00. Broken Leaf" Japan 40 cents. English Breakfast Tea 60 a 75 cents. Tip top Green and Black Teas 75c. a $1 00. Currants 8c. 2 lb Can Corn 20c. Stove Polish 5c. 3 Th Can Tomatoes 20c. Candles 10c. Sugars Standard A 109c. Kerosene Oil 15c. Ex. C 10c. ice 9c. C 9c. Baking Powder 40c. Saleratus 8c. We have also on'hand a large lot of JOHN F. ALI,EN & Co.'s RICHMOND, VA., TOBACCO, which we are selling at very low prices- Killikinick and Sunny South Smoking Tobacco only 60 cents per pound. Good Chewing Tobacco 65c.; 17c. per X pound. Splendid Chewing Tobacco 80c; good as you can buy at. $1 00. Very Best Chewing Tobacco $1 00. Yr ydym yn meddwl bussness," pan yn dweyd y p-ellwch gyuilo arian drwy brynu nwyddau yn ein 2masnachdy. Rhoddwch brawf arnom. WM. D. ABBEY, 26-29 40 Columbia St., cor Broadway. W. H. PHILLIPS, USTUS iieddwcii, Room G, Exchange Buildings, Utica, N. Y. [4'75tf T y Ieddyginiaeth SEISONIG NODEDIG Y CORDIAL BALM 0 SYPICUill A'R PELENA U CRYFIIAOL. LLESGEDD GIEUOL. Pa mor ddirgel bynag y gall yr achos fod sydd yn cynyrchu gwendid gieuol, yr hwn sydd salwch mor gyftredin, yn efteithio ar haner y boblogaeth, y mae yn ffaith dorcalonus ein bod yn dystion o gynydd dychrynllyd yr anhwyldeb, o'r gwaew yn y gwyneb hyd lwyr YMOLLYNGIAD GIEUOL. Mae o'r pwys mwyaf i bersonau fod yn alluog i farnu drostynt eu hunain, drwy eu teimladau, pa mor bell y maent yn ngafael y gelyn bradwrus hwn i iechyd, dedwyddweh a bywyd ei hun, rhag iddo red- eg ei gwrs yn ddirwystr, fel y gellir defnyddio medd- yginiaeth yn amserol. Adnabyddir LLESGEDD GIEUOL Drwy wendid cyffredinol yr hall gyfansoddiad, yn enwe,dig y gyfundrefn gieuol, gan ddyrysu a rhwystro swyddogaethau cyffredin natur, o ganlyniad y mae yr organau dydoliadol yn myned i annhrefn, a di- lyna rhwymedd, lleiha y lieisw, a daw o liw coch, yn cynwys gwaddodion materol, a arwydda dreuliad yr ymenydd a'r gewynau; gorguriad y galon, diflaniad y cof; eiddilwch mewn penderfyniad; anallu i roddi unrhyw fwriad mewn gweithrediad, neu sefydlu y meduwl dros amser ar unrhyw wrthryeh. Bodola teimlad tyner hawdd ei gynyrfu, ond hynod o gyf- newidiol, a'r meddwl yn nwyfus a chrynedig, nes bydd y person yn anwadal yn mhob peth. Mae yn wir y bydd yr arwyddlon hyn yn wahanol mewn gwa hanol bersonau, yn ol ansawdd eu cyfansoddiad, a'r cryniadau gieuol naturiol i organ corif pob un. Gwahaniaetha hyn yn ol gwahaniaeth y personau. Nid ydyw yr arddangosiadau gwahanol hyn, yn ar- wyddo fod yn ofynol i'r driniaeth feddygol fod yn wahanol; mae yr un meddyginiaeth yn gyinwysiaaol i'r gwan a'r cryf, i'r gwrol ac i'r gwael, gan wahan- iaethu yn unig mewn graddau a'r amser a gymerir i wrthweithio yr anhwyldeb. Mae Uesgedd gieuol mor gyfnewidiol yn ei arddangosiadau ag ydyw breuddwydion morwr mewn llongddrylliad, yr hwn a esyd ei hun i lawr 1 gysgu am fomeni, tra yn nofio ar ddarn o'r llong, ac elfenau dinystr yn ei am ylchu; ond dychlamiad cyntaf ei natur yn y fath Ie ydyw cael daiar dan ei draed. Mewn rhai achosion o'r anhwyldeb hwn bodola gloesau mawrion a llesgedd eithafol yn mhob man, yn ft'urfio cyflvvr mallgryniadol yn ei holl agweddau, gan ddangos ei hun yn ami yn fwyaf grymus yn ngiau y gwyneb. Hefyd gall y poenau hyn fod yn unrhyw barth arall o'r corff, megis y gwddf, y col- uddion, yr aelodau, gyda phoen yn ymsaethu yn dreiddiadol drwy y corff. Gellir egluro ycyflwrhwn drwy y fEatth fod ymegniadau gormodol, cynhyrfiad- au eithafol ar amserau anaddas, yn cynyddu teim- ladrwydd gieuol, yr hyn a ganlynir gan farweidd-dra neu wanychiad yr egwyddor fywydawl. Gall rhai pethau ddylanwadu ar y giau mewn modd ail achos- ol, yr hyn a gynyrfa yr achosion gwreiddiol. Mae rhifrestr yr achosion yn helaeth iawn megis twym- ynau, anlladrwydd, manwynau, mallrwydd, hen ddoluriau a enynant yn eithafol. Wedi i'r anhwyl- derau hyn ddylanwadu ar fadruddyn y cefn, canol- bwynty-giau, dilyna gorwendid, a pharlysir holl er- migau y corif, fel na fyddant yn alluog i gyflawni eu swyddogaeth, a dinystrir pob cyfaddasrwydd yn y person i gytlawni dyledswyddau ei alwedigaeth a mwynhau dedwyddwch bywyd. Gellir gwella y cytlwr hwn, er mor erchyll ydyw, drwy ddefnyddio y HEDDIGMETII SEISOIG ODEDIG Y Cordial Balm o Syricum a Pliel eni Cryfhaol Lothrop. Sef cyffeiriau anghydmarol, a rhyfeddol eu gallu i wella Anhwylderau Gieuol; ac maent yr un mor eli- eithiol i wella Dafaden, Wyllt, Cylymau, Corn wyd; ydd, Llyfrithod, Plorynau, Tarddwreinion, Doluriau Twymynol, Marchwraint, Tan Iddwf, Pen Crachlyd, Ymgrafu yr Eilliwr, Clefri Poeth, Ymgrafu, Dyfrwst Hallt, Pylorod o liw Cop:, Chwyddiadau Chwarenol, Pryfed ac Ysmotiau Duon ar y Gwyneb, Dadliwiad y Cnawd, Doluriau Rhedegol yn y Gwddf, yn y Genau, yn y Trwyn, Dolur Coesau, a doluriau o bob math dros yr holl gorlf; canys y mae y cyifer hwn y goreu i Feddyginiaetlm y Gwaed, A roed erioed o flaen y bobl. Dyma y cyffeiriau Newidiadol mwyaf Nerthol a ddyfeisiwyd erioed gan ddyn. Cyfranant NERTH I'R CORFF AC YNI I'R MEDDWL, Teimladrwvdd Afiach, Iselder Ysbryd, Gorphwylledd a'r Pruddglwyf. Pris$2 50. Y sypyn mwyaf$5 00. Mae pob syp- yn o'r Cordial Balm yn cynwys Blychiad o'r Peleni Cryfhaol, y rhai hefyd a werthir ar wahan am 50c y blwch. TYSTIOLAETHAU DIWEDDAR. FREWSBURGH, Tachwedd 12,1874. Defnyddiais y Cordial Balm o Syricum a Pheleni Cryfhaol Lothrop, i atal a gwella arferiad diodydd cadarn a meddwdod arferol; ac yr wyf wedi eu can- fod yn feddyginiaeth briodol yn mhob achos. Yr wyf yn eu hystyried y cyffeiriau mwyaf gwerthfawr, ac nis gall dim fy narbwyllo i fyw hebddynt. JACOB MESERVE. TIPTON, Rhag. 3,1874. Yr ydym yn cymeryd pleser mawr i'ch hysbysu o'r buddioldeb rhyfeddol a ddeilliodd o ddefnyddio eich Meddyginiaeth Seisonig, y Cordial Balm o Syricum, a Pheleni Cryfhaol Lothrop, mewn achos o Lesgedd Gieuol mawr, ac Ymollyngiad Gieuol, un aelod o'r teulu, yr hwn a fu dan ddwylawmeddygon gwahanol am agos i dair blynedd, heb dderbyn dim lies; ond darfu i'ch cyffeiriau chwi gynyrchu y cyfnewidiad mwyaf nerthol er daioni; ac mae y dioddefydd yn awr yn mwynhau iechyd rhagorol. MRS. HARRIET STURGISS. D. S.—Yr ydym yn dweyd wrth bawb a adwaenom mewn gwaeledd am iddynt roddi prawf ar eich cy- ffeiriau. GORUCHWYL WYR CYFANWERTHOL. JOHN F. HENRY & Co., New York City. JOHNSON, HOLLOWELL & Co., Philadelphia, Pa. SETH S. HANCE, Baltimore, Md. E. MONTEUSE & Co., New Orleans, La. VAN SHAACK, STEVENSON & REID, Chicago, 111. JOHN D. PARKS, Cincinnati, Ohio. STRONG & COBB, Cleveland, Ohio. Ar Werth gan Gyffeirwyr yn gyffredin yn mhob man. Gellir dal cymundeb a Dr. Lothrop, y Perchenog, drwy lythyrau, a hyny yn rhad. Cyfeirier DR. G. EDGAR LOTHROP, 143 COURT STREET, BOSTON. 22'ly
[No title]
PROSPECT, N. Y.-Mellenn 30ain, cyn- aliwyd Cyfarfod Llenyddol rhagorol yma, oddiwrth yr hwn y cafwyd uwchlaw$24.00 o elw, er cael llyfrau hymnau, &c., i gapel y T. C. Dymunwyd arnaf grybwyll dros flaenoriaid y capel eu bod yn dra diolch- gar i bawb a roddasant gefnogaeth iddynt. Llywydd y cyfarfod oedd John T. Jones, a'r Arweinydd Howel R. Jones (Rodri Ar- fon), Remsen, y rhai a wnaetliant eu gwaith yn ganmoladwy dros ben. Howel hefyd vdoedd y Beirniad ar y Traethodau a'r .earddoniaetli. Y buddugol ar y traethawd ar Hanes Joseph," Ellis W. Griffith; ail, Edward J. Hughes; ar y penillion i "Falch- der," Lewis N. Jones; ail, Edward J. Hughes; ar yr englyn i'r Ceiliog Rhed- yn," Ellis W. Griffiths; ar ganu y don Normandy," John W. Jones a'i barti; ar ddarllen difyfyr, Lewis N. Jones; ar ar- eithio difyfyr, David J. Hughes; ail, Jo- seph Jones; ar adrodd yr wythfed Psalm, Lanra Ann Jones, Penycaerau. Dyma en- wau y rhai a gymerasant ran ynddo, megis canu, adrodd, &c.: David J. Hughes, Lewis N. Jones, Abraham N. Rees a'i gor, Miss Owens, Llanbadarn, a'i pharti, Wm. Jones a'i barti o Remsen, Ella Charles, Margaret Griffiths, Liza A. Jones, y Parch. John Ll. Jones o'r lie hwn, Dr. E. G. Williams, Remsen, H. Farley a'i briod, William R. Jones (Vermont fab) yn awr o Remsen, a'r hen dad Levi James a John O. Pritchard, Penycaerau. Os wyf wedi gadael yn angof enw rhywun, yr wyf yn gobeithio y bydd iddo faddeu i mi, gan fod arnaf ofn cael drwg gan y Mri. Gol. am wneyd rhyw ad- roddiad maitli. Terfynaf gyda dymuno ar i bobl dda Prospect (gan fod hwn wedi troi allan yn gwrdd mor dda, ag ystyried nad oedd dim un cent i neb am eu gwaith oddi- gerth ychydig a roddwyd i'r plant gan ber- sonau unigol) i ddyfod allan y tro nesaf gyda rhestr o destynau a gwobrwyon lied dda, i'w cyhoeddi trwy y DRYCH, &C., fel y gwna ardaloedd eraill; o herwydd y mae yn ddiamau fod yn y cylchoedd yma len- orion gwir alluog. Ewch ati o ddifrif, a mynwch un cwrdd eto cyn mis Rhagfyr. Yr eiddoch-FIlis vv. Griffiths, Ysg.