Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLOFFION 0 BELL AG AG08.

News
Cite
Share

LLOFFION 0 BELL AG AG08. Mae tramoriaid yn dcclireu dyfod i werthfawrogi y Talaetbau Delieuol, lie mae digonedd o dir bras, a hmsawdd iaeliusol; canys hysbysir fod cwmni o ddynion arian. og yn Ewrop wedi talui mewn$20,000,000 i ffurfio cyfalaf er prynu tir a'i amaethu yn Louisiana. Hysbysir yn awr fod ffarm Don Ju- an Forster, yn San Diego County, Californ- ia, yn cynwys can' mil (100,000) o erwau o dir. Profwyd yn ddiweddar fod rhoddi llawer o halen i anifeiliaid yn dylanwadu yn niweidiol ar y cylla, a'r coluddion, ac yn eu heffeithio fel gwenwyn enynol, yr hyn yn ami sydd yn achosi marwolaeth. .Dylai pob amaethwr fod yn ofalus gyda chnydau ei faesydd, a gweled eu bod oil yn talu am y llafur, yr hadyd, &c. Mae amryw o ffermwyr ymarferol yn cymell ymryson aredig mewn ffeiriau amaethyddol, fel ag y gwneir yn Ewrop, yn lie ymryson rliedeg ceifylau, yn ol y ffas- iwn bresenol yn America. Diau y bydd i'r cyfnewidiad ddylanwadu er daioni mewn amryw ddulliau. Mae pobl Tennessee mor awyddus am gadw cwn, fel y bydd y dreth oddiwrth- ynt yn werth llawn$300,000 i drysorfa y Dalaeth eleni, yr hyn fydd yn 25 y cant o ychwanegiad at gyllid y Dalaeth. 0 Hysbysir fod ffarmwr yn Mississippi yn fwy llwyddianus na neb o'i gymydog- ion wrth godi pob math o gnwd y ddaear, er eu bod hwy yn defnyddio gwahanol fathau o wrtaith costus; eithr yr oil y mae ef yn wneyd ydyw hau rhyg, a'i aredig dan y gwys yn dail i'r tir. Dylai ffarmwyr gofio nad oes modd cael gwell gwrtaith i bob math o gynyrch y ddaear na lludw coed, o herwydd fod ynddo swm mawr o'r sylwedd a elwir pot- ash, un o brif elfenau tyfiant. Os paentir pyst fences a, Unseed oil wedi ei ferwi, a'i gymysgu a llwch charcoal, parhant heb bydru yn hwy nag oes neb sydd yn fyw. Yr oedd y cnwd gwenith yn Mhryd- ain am y naw mlynedd diweddaf yn 29y2 o fwsieli i'r erw 'at ei gilydd. Un o'r magwyr gwenyn mwyaf yn y byd ydyw Adam Grimm; Jefferson, Wis., yr hwn y flwyddyn ddiweddaf a werthodd 1:Z o dunelli 0 fel oddiwrth 1,158 o gych- od gwenyn. Gydag awel Mr y boreu, A thywyniad gwres yr haul, Gellir canfod y Wenynen Yn mhlith blodau glwys a dail; Ar ei helynt a yn hwylus Drwy'r perthi a'r parthau pell, Dan ei llwyth, yn mron a'i lletliu, Mae'n dychwel 'nol i'w chell. Draw yn mhell yn llwyni'r llanerch, Mae ei si i mi yn swyn, Yno mae yn dra llafurus, Casglu met, i'w thy gwna'i ddwyn, Gael gwneyd cartref clyd, cysurus, Cyn daw'r gerwin auaf du, Yno bydd mewn gwir ddedwyddwch Yn ei hanedd, geinwedd gu. Anfonodd siroedd deheuol Californ- ia i San Francisco eleni 5,380,000 o euraf- alau (omnges); 620,000 o lemons; a 80,000 o chwigr-afalau (limes). Defnyddir yn Calif- ornia oddeutu 10,000,000 o eurafalau mewn hlwyddyn, ac atgludiryno o Mexico 5,000,- 000. Dywed Mr. J. J. Mechi, y ffarmwr Seisonig nodedig, ei fod yn dra gofalus am wlydd y pys a'r ffa, gan y gwnant borth- iant o'r fath oreu wedi eu malu. Mae def- nid yn hynod hoff o honynt. Rhoddir dwfr poeth am eu penau i'r gwartheg. Mae y Llydawiaid yn Ffrainc yn codi y ceffylau goreu yn Ewrop, a'u prif ymborth ydyw moron gwynion. flefyd, y maent yn eu dysgu i ddeall ac ufuddhau gyda manylrwydd mawr. Bu ffarmwr yn California yn alluog i gadw 1,500 o ddefaid am 22 o ddyddiau ar 25 o erwau o feillion a elwir alfalfa, yr hwn a dyfir yn gyflym drwy ddyfrio y tir. Cadwyd y defaid i bori rhanau, tra yr oedd y rhanau eraill yn tyfu. Dywedir fod y corn a dyfir yn bwr- pasol yn borthiant i anifeiliaid yn fwy tor- eithiog ac yn well, wrth ei hau ar antur fel ceirch neu haidd, na thrwy ymdrafferthu i'w blanu mewn rhesi. .Caed amryw brofion yn ddiweddar fod yr hen chwilod a elwir Colorado beetles, ydynt yn ysu cymaint ar y pytatws, wedi gwenwyno amryw o bersonau i farwolaeth wrth iddynt eu lladd a bys a bawd! Yn ffair Machynlleth, Mehefin 9fed, caed y prisiau canlynol :-Heffrod dwy flwydd oed gyda lloi, o £ 10 i £ 14; gwartheg tewion, o E12 i E16. Gwerthwyd un fuwch cyrn byrion am zC23 15s.; lloi blwydd, cyrn byrion, o C6 i £7. Llwdn dafad blwydd (Cymreig), 18s; wyn tewion cymysg eu Thywogaeth, 18s. 6c. yr un. Dau Englyn i'r Pytaten, cyflwyned- ig i'r Amaethwr, gan Thomas L. Thomas: Byw it' eto bytaten—er helaeth Sirioli plant angen; Er dy hau pan yr wyt hen, Deori mewn daearen. E dyf Och! o d'afiechyd—rhyw ganoedd Oer gwynant bob enyd, Yn glaf wrth wel'd dy glefyd, Er eu cwyn, yn parhau c'yd. CYNAUAFU GWAiR-Dyma yr amser i'r ffarmwyr ddeall pa fodd i gynauafu y gwair heb ei ddyfetha. Rhaid bod yn ofalus i beidio gadael y gwair yn agored i ddylan- wad gwres tanbeidiol yr haul yn hir ar ol ei dori, rhag i'r nodd, y lliw a'r maeth gael eu gyru allan o hono. Mae yn ofynol i'r dwfr gael ei fwg-dartliu ymaith, fel y bydd i'r gwair gael ei sycliu heb newid ei liw gwyrddlas. Os crinir y gwair yn holl- ol yn ngwres yr haul, collir lliw naturiol y Ilaeth a'r ymenyn, yn nghyd a llawer o sylwedd meithrinol y porthiant. Mae y gwair a grinir ac a gochir yn yr haul yn colli braid d yr oil o'i faethlonrwydd, ac ni cheir ond y o laeth nac ymenyn oddiwrtho. Torer y gwair wedi iddo or- phen tyfu, cyn dechreu cochi, sycher yn dda, ond na ddeifier yn yr haul, a cheir ym- ymborth maethlon i'r anifeiliaid. Casgler y gwair yn fan dociau ar y maes, fel y ca amser i gynauafu heb grasu, a sicrheir porthiant i'r gwartheg, a Jlaetll ac ymenyn iliwgar a blasus.

Y LOCUSTIAID.

0 EMPORIA, KANSAS.

Family Notices

MABW-GOFFA.

Advertising

[No title]