Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
[No title]
DYWED y Carnarvon & Denbiyh Ilerald fod Iihydychain yn debyg o ddilyn esiampl Edinburgh, a sefydlu Cadair Geltaidd yn Nglioleg lesu. Enwir JOHN Riiys eto, fel person cymwys i lenwiy swydd. MAE Loader a Price, y rhai a wnaethant hv eu bod wedi gweled Beecher yn ym- ddviryn yn anweddaidd yn nhy Mrs. Tilton, yn 1869, wedi eu traddodi i sefyll euprawf am anudoniaeth. Cyfaddefodd Price mai celwydd noeth oedd eustori o'r dechreu i'r diwedd, wedi ei llunio o bwrpas er budr- elw. Y mae y cyfryw gymeriadau yn Iiaeddu cosb drymaf y gyfraith. YMWELODD dirprwyaeth a Due Rich- mond y dydd o'r blaen, yn erfyn arno ofyn i'r Llywodraeth Brydeinig am swm blyn- yddol o £ 2,500 at dreuliau y Brifysgol yn Aberystwyth, a rhodd o £ 5000 at gwblhau yr adeilad. Wedi gwrando ar ddadl Mri. PULESTON, HENRY RICHARD, D. DAVIES, OSBORN MORGAN, a'r Parch. Mr. BEVAN, addawodd y Due osod y mater 'yn fuan o flaen y Weinyddiaeth; ac yr oedd ef ei hun yn bur ffafriol i'r cais. Gan fod y Brif- ysgol wedi profi ei hun yn sefydliad mor lwyddianus, ac yn ateb angenion y Dywys- ogaeth gystal, hyderwn na fydd i'r Llyw- odraeth liel esgusodion dros bbidio caniat- au grant blynyddol, fel i golegau eraill yn Lloegr, yr Iwerddon a Scotland. RIIYDD y Sun ddwy golofn lawn o ffigyr- au i ddangos y cynydd dirfawr sydd wedi cymeryd lie yn yr arian a delir gan y wlad i gadw i fyny anrhydedd y Ty Gwyn, yn Washington. Cyfrifir y costau blynyddol, ,ar gyfartaledd, o amser Fillmore hyd yn bresenol fel y canlyn: Dan weinyddiaeth Taylor-Fillmore (Whig) $34,066 Dan weinyddiaeth Pierce (Democrat). 41,996 Dan weinyddiaeth Bachanan (Democrat) 46,575 Dan weinyddiaeth Lincoln (Gwerinol). 52,195 Term cyntaf Grant (Gwerinolj 104,726 Ail derm Grant. 119,289 YN ol y Miner's Journal, y swm o lo a an- ion wyd o Randir Schuylkill, am yr wyth- nos yn diweddu Gorph. 3, gyda'r rheil- ffyrdd, oedd 115,454 o dunelli; gyda'r can- al, 27,564; yn gwneyd cyfanswm o 143,048 o dunelli ar gyfer 63,515 yr wythnos gyfer- byniol y llynedd; cynydd 79,533 o dunelli. Cynyrch yr holl randiroedd am yr wythnos oedd fel y canlyn: Anthracite 478,433 o dunelli; Bituminous 87,796, yn gwneyd cyfanswm o 566,202 o dunelli ar gyfer 419,- 280 am yr wythnos gyferbyniol y llynedd. Cynydd 146,922. Y cynyrch o'r holl ran- diroedd o ddechreu y flwyddyn hyd yn hyn yw 8,458,988 o dunelli ar gyfer 10,666,033 o dunelli am yr un tymor y llynedd. Llei- had 2,212,045. Mae y rhan fwyaf o'r glo- feydd yn yrjioll randiroedd yn gweithio yn bresenol. <6 —
MARWOLAETH JOlIN TREVOR.
MARWOLAETH JOlIN TREVOR. Ymddengys oddiwrth newyddiaduron Rochester, N. Y., fod John Trevor, Cymro adnabyddus yn y cylchoedd hyn, wedi ei saethu gan lofrudd o'r enw John Clark, tra yr oedd yn cyflawni ei ddyled- swydd fel gwyliedydd un o ariandai y 4ddinas hono. Cymerwyd y llofrudd i'r ddalfa, ac yr oedd y fath deimlad yn mhlith y dinasyddion yn ei erbyn, fel y credid ar un adeg y byddai iddynt'ei gymeryd oddiar y swyddogion, a'i grogi heb reithfarn na phrawf._ Bu John Trevor fyw am agos i wyth diwrnod ar ol y gyflafan; ond er yr oil a allai y meddygon wneyd, bu farw ar y 5ed cyfisol. Ganwyd John Trevor yn Bethesda, Ar- fon, Ionawr 1, 1839, ac felly ar adeg ei farwolaeth yr oedd yn 36.mlwydd oed.— Daeth i America yn 1868, a chan ei fod yn meddu llawer o wybodaeth electric batteries, cafodd waith yn fuan gyda'r W. U. Tele- graph Co., a bu yn eu gwasanaeth am nifer O flyn I(Ioe(id, a symudodd o Utica i liochester. Tun phedair blynedd yn ol, ymgymerodd a gwylio yr ariandai, a gofalu am y Bank Alarm Telegraph, a thra yn cyflawni ei wasanaeth y cafodd ei lofrudd- io. Wyth mlynedd yn ol priododd Mr. Trevor Miss Annie Evans, Utica, yr hon yn awr sydd yn weddw gyda thri o blant amddifaid, mewn cyilwr nad ydyw uwch- law eisiau. Amlygir cydymdeimlad cyff- redinol a Mrs. Trevor yn yr amgylchiad pwysig, ac mae symudiadar droed igasglu arian i orphen talu am y ty yr oedd ei phriod yn ymdrechu yn ddiwyd i'w ddi- ddyledu. Pan hysbyswyd y llofrudd yn y carchar fod Trevor wedi marw, dywedodd yn war-galed a chilwgaidd, "Mae'n rhy ddrwg." Os na weinyddir prif gosb y gyf- raith ar y llofrudd hwn, gwirir yr hyn a ddy- wedir gan lofruddion y dyddiau hyn, sef fod "Crogi wedi ei chwareu o fodolaeth."
CIl'EFYDDOL AC EGLWYSIG.
CIl'EFYDDOL AC EGLWYSIG. —Llwyddwyd i dori ewyllys Mr. Crugar, z, drwy yr hyn y cyll y Feibl Gymdeithas a'r Presbyterian Board of Mission,$240,000! Penderfynodd Cyfarfod Dosbarth y T. C. a gynaliwyd yn y Nant, Gorph. 1; 2, roddi gwahoddiad i'r Parch. W. C. HOB- ERTS, D. D., Elizabeth, N. J., i Gymanfa Utica, yr hon a gynelir Hyd. 7, 8. —Cynaliwyd Cymanfa A. Meirion eleni yn Ninas Mawddwy, Meli. 16--17. Preg- ethwyd yno gan Probert, Porthmadog; Thomas, Lerpwl; Thomas, Bethania; Evans, Caerfyrddin; a Nicholson, Groes- wen. Yn Nghymanfa-Annibynwyr Meirion, a gynaliwyd yn Ninas Mawddwy, Meli. 16, 17, siaradodd y Parch. JOHN THOJIAS, Liverpool, am weinidogaeth Mri. Moody a Sankey yn y dref hono. Yr oedd Mr. Thomas wedi eu dilyn am 31 o gyfarfod- ydd yn olynol, a'r argraffi yn dyfnhau o hyd mai dynion Duw oeddynt, a bod Duw yn gweithio yn nerthol iawn trwy eu gwei- nidogaetu. Yr oedd tua 900 wedi eu liychwanegu at eglwysi Cymreig Liver- pool o amser eu hymweliad a'r dref. CYMANFA B. MOHGANWG.—Yn y Gym- anfa hon a gynaliwyd yn Nghaerdydd, Mehefin lo, a 16, yn mysg eraill, derbyn- iwyd y Parch. W. L. Evans o Ohio i'r Un- deb; penderfynwyd fod achos E. T. John (leuan Dyfed), Maesteg, i'w adferu i breg- ethu, yn cael ei ohirio hyd y Gymanfa nesaf; gwrthûd wyel adferu J. Thomas, Walters Road, i bregetliu; penderfynwyd fod y pwnc o uno yr Athrofeydd yn cael ei adael yn agored; cymeradwywyd y drych- feddwl o anrhegu Dr. Thomas, Pontypool, S$2,000 am ei wasanaeth i'r Athrofa am 40 mlynedd, a rhoddwyd y mater i ystyr- iaeth yr eglwysi. Cafwyd Cymanfa hynod lewyrchus. COLUMBUS, 0., Gorph. 9.—Mae y Parch. R. D. THOMAS (Iorthyn Gwynedd), wedi bod yn pregethu yn nghapel yr Anpibynwyr ar Town st., gyda chvmeradwyaeth cyffred- inol er's mis bellach. Nos Sul diweddaf, rhoddodd yr eglwys a'r gynulleidfa bleid- lais unfrydol i roddi galwad i Mr. Thomas i gymeryd gofal yr eglwys, ac yr ydym yn deall ac yn gobeithio y bydd i Mr. Thomas ateb yr alwad yn gadarnhaoi, ac v bydd i'r Arglwydd fendithio ei ddyfodiad er lies ac adeiladaeth mawr i'r eglwys. Credwn y bydd yn anrhydedd ac yn ddyrchafiad i ni fel cenedl yn Columbus.—NicholasDdu. nOSENDAL, Wis.—Cynaliwyd Cymanfa gyda yr Annibynwyr yn Soar ar y 7fed a'r 8fedo Mehefin. Y gynadledd am 10 yn y boreu, society am 2; a'r oedfaon am 6 yn yr hwyr, a thrwy y dydd dranoeth; ac er rliwyddhau y gwaith i fyned yn mlaen yn ddeheuig, gosodwyd y dyn ieuans Evan Roberts, y Prairie, i flaer-oi-i yn y cyfarfod. ydd, ac aeth drwy y gwaith yn anrhydedd- us. Gresyn na byddai mwy o ddynion ieu- ainc deheuig a thalentog yn cael eu gosod i flaenori mewn pethau o'r fath. Mae yn galondid i'r genedl fod dyn ienanc o'r fath yn cyfodiyn ein plith, agobeithiaf y parha i fyned yn mlaen, gan nad oeso'r hen frod- yr un cymwysi lanw y swydd, er calondid i ddynion ieuainc fyned yn mlacii.-D. Roberts. CYMANFA GYFFREDINOL Y T. C.—Cynal- iwyd hon eleni yn Mhorthmadog, Meh. 21 y Parch. R. Lumley. Etholwyd y Parch. Thomas Owen, Porth- madog, yn ysgrifenydd dm y tlwyddyn ddyfodol, yn lie y Parch. W. James, Man- chester, a'r Parch. L. Edwards, D. D., yn llywydd yn lie y Parch. W. Williams, Abertawe. Penderfynwyd mai yn Aber- tawe y cynelir Cymanfa, 1876, i ddechreu Meh. 16eg. Dangosai adroddiad y Genad- aeth Dramor fod cynydd wedi bod" ar Fryn- iau Cassia a Jynteah, er y llynedd o 79. Nifer yr aelodau eglwysig yno oedd 739; nifer deiliaid yr ysgolion Sul, 1,200, a nifer y gwrandawyr 1,300. Cyflwynwyd Mr. John Jones, Treffynon. i sylw y Gym- anfa, fel gwr ieuanc oedd yn awyddus i fyned yn genadwr i'r India; a rhoddwvd awdurdod i'r pwyllgor gweithiol i'w ordeinio a'i anfon allan mor fuan ag y barnent yn ddoeth. Cafwyd moddion cy- hoeddus llewyrchus. ASHLAND, PA. Urddiad Gweinidog.— Gorph. 3ydd a'r 4ydd, daeth amryw weini- dogion a chenadon yr eglwysi yn nghyd er ystyried y priodoldeb o urddo y brawd L. M. ROBERTS, 0 Urdd Ysgol Lewisburg, i fod yn fugail ar eglwys Ashland. Nos Sadwrn, wedi darllen a gweddio gan Lewis o Lewisburg, pregethodd y brodyr Thomas, Mahanoy, a Harries, Nanticoke. Boreu Sul, wedi darllen a gweddio gan y brawd R. Edwards, Pottsville, (yn absen- oldeb y brawd W. Morgan, yr hwn a luddiwyd gan afiechyd i fod yn wyddfod- ol.) Holwyd yr ymgeisydd yn y dull ar- ferol gan y brawd J. P. Harries; cafwyd boddlonrwydd cyffredinol yn ei atebion syml a gonest; a dyrchafwyd yr Urdd- weddi gan y brawd o Nanticoke. Rhodd- wyd iddo ddeheulaw cymdeithas i'r cylch gweinidogaetbol gan y brawd R. Edwards. Yna pregethwyd Siars i'r Gweinidog ieu- anc gan y brawd D. W. Thomas, Mahanoy, ac i'r eglwys gan J. P. Harries. Am 2 o'r gloch, pregethodd Edwards yn Seisnig, a chyfranogwyd o Swper yr Ar- glwydd. Am 6, pregethodd y brodyr Har- ries a Thomas. Cafwyd cyfarfodydd ben dithlawn; pawb, feddyliem wrth fodd eu calon yn gwrando geiriau Duw. Yr oedd yn dda genym weled y brodyr yn y weini- dogaeth wedi gwnevd y self-surrender i wasanaethu y Meistr mawr. Mae y brawd Roberts yn dechreu ei lafur gweinidog- aethol dan amgylchiadau addawol. Ben- dith Ner fyddo ar ei ymdrechion, a bydded iddo gael ei goroni a llwyddiant mawr.— Un oett(I giio.
G lVEITHF AOL-MASN A CITO-L.
G lVEITHF AOL-MASN A CITO-L. —Gohebydd o Nanticoke, Pa., a ysgrif- ena: Y mae olwynion masnach wedi de- chreu troi yma eto, ar ol seibiant o chwe' mis. Bywyd ofarw ydyw—adgyfodiad ys- bryd a cliorif y gweithiwr dirwasgedig. —Yn ol hanesion diweddar, ymddengys mai pur ddifywyd yw masnach haiarn yn Neheudir Cymru; ychydig o archebion o'r trefedigaethau ar law. -Illiifai y glowyr a safasant allan yn Belgium y mis diweddaf 30,000. Ymddyg- asant yn berffaitli dangnefeddus, er eu bod yn teimlo yn dost o herwydd gorthrwm y meistri. Y mae Mri. Presswell, Merthyr, a James, Crown, Aberdar, yn paiiiau i anfon minteioedd o ymfudwyr i Queensland.— Cychwynodd tua lianer cant ganol y mis diweddaf. Deallwn fod Brythonfryn Grif- fiths, Aberdar, yn awr wedi ei benodi yn brif oruel, ivyli wi- dan y Llywodraeth Bryd- einig i anfon ymfudwyr allan ar delerau rhad i New Suth Wales, gwlad sydd yn ffimo ar Queensland, yn Awstralia. -Cyf i-ifir y cyst y magnel anferth a wneir yn awr yn Woolwich, Lloegr,$2,500,000! —Dywed T. R. Watkins, Warrior Run. Pa., nad gwir oedd yr hyn a ddywedodd "Detective" yn y DRYCH am Meh. 24ain, fod "gweithwyr cwmni L. & W. R. R. wedi ymostwng yn lioliol ddiamodol." z;1 —Mae pob petli, meddir, "yn myned yn mlaen mor hwylus ag y gellid disgwyl yn chwarel lechi cwmni San Francisco, Calif- ornia. Gwneir 10 squares o geryg yn ddydd- iol, ac y mae wyth o Gymry yn gweithio yn gyson. Disgwylir rhagor yn fuan. —Rhoddwyd peiriant newydd at wasgu llwch glo yn danwydd, ar waith yn ddi- weddar yn Harrisburg, Pa., a gwnaed tun- ell o lo caled mewn chwe' mynyd o amser. Y mae y peiriant yn syml, ac yn debyg o ateb dyben ymarferol. —Yn 1870 tybid y cynwysai Deheudir Cymru 900 milltir ysgwar o lo, i lawr hyd 4000 troedfedd o ddyfnder. Cyfrifir y cyn- yrclia hyn 31,783 o filiynau o dunelli o lo; a phe elid yn mlaen ar raddfay cynyrchiad yn 1870 (13,664,112 tunell), pery y g10 am fwy na 2,300 o flynyddoedd; ond yn ddi- weddar gwnaed darganfyddiadau newydd- ion helaeth. -Ni chodwyd dim Uai na gwerth $1,- 500,000,000 o aar ac arian o fwngloddiau America yn ystod y deng mlynedd ar hug- ain diweddaf; ond fel y mae yn ofidus syl- wi, nid oes ond prin$200,000 o'r swm an- ferth hwn wedi ei gadw yn y wlad. COAL VALLEY, ILL. -Ni gallwn ymffrost- io yn hwylusdod y gweithfeydd yma y tymor marwaidd hwn. Pur araf ydynt; tua phedwar haner turn yr wythnos a weith- ir, ond gallwn beidio cwyno, pan gydmar- om y lie hwn a'r lleoedd ydynt yn dioddef cymaint gan strikes a lock outs. Gwaith gauaf y gulwir cf.-C. TERRE HAUTE, IND., Gorph. 10-Y mae y glowyr yn y cylchoedd hyn, o'r rhai y mae llawer yn Gymry, wedi dioddef llawer gan effeithiau y strike bresenol, yr hon sydd wedi parhau chwe' mis, heb un argoel o derfyniad eto. Dywedir fod cymaint o lo yn cael ei dori yn bresenol ag sydd o alw am dano. Trueni na bae gweithwyr yn gallu cydweled, ac agor gweithiau en hun- ain, yn enwedig yn Indiana, am nad oes eisiau cymaint o arian yma ag sydd mewn manau eraill, am fod y glo mor agos i'r wyneb. Mae yma ddigon o diroedd eto a ellir eu leasio. Carwn weled ychydig o Gymry crefyddol gydag ychydig o arian ganddynt yn anturio yma, ac agor gwaith iddynt eu liunain, yn lie bod dan iau a gor- mes eraill o hyd. Er fod yma ganoedd o Gymry yn bresenol, nid oes ganddynt yr un achos crefyddol o un math yn y byd,a'r achos o hyn yn benaf yw, eu bod yn was- garedig mewn gwahanol weithiau. Pe byddai y Cymry yn feddianol ar waith eu hunain, gallent ddewis gweithwyr eu liun- ain o'u cydgenedl. Yn sicr, y mae vma fanteision i'w cael, ond edrych am danynt. W. J. Jones. UNDEBAU A'U SWYDDOGION-Gaii, at 'Syl- icedt/dd.'—MRI. GOL. Y n eich rhifyn am Gorph. laf, yr oedd un Sylwedydd," dan y penawd Cyfrifoldeb Mawr," yn adlew- yrchu ar sefyllfa y glowyr wedi iddynt golli y dydd. Y mae hyn yn naturiol i greaduriaid nad oes ganddynt ddigon o ddynoliaeth ac hunan-ymwadiad i chwilio eu hunain am y bai; ond ceisiant bob am- ser lychwino cymeriad pobl eraill. Ceisia S. ddangos fod cyfrifoldeb mawr ar ryw rai heblaw y meistri, gan led awgrymu mai y swyddogion sydd yn euog o'r cyfrifoldeb. Mr. S., oni ddarfu i'r glowyr bleidleisio ar y pwnc o strike cyn iddynt ymgymeryd a'r gorchwyl ? Afedrwch chwi gyfeirio mewn hanesyddiaeth at unrhyw gymdeithas neu lywodraetli sydd wedi Ilwyddo i gyraedd unrhyw amcan heb swyddogion i'w calon- ogi a'u llywodraethu. Hyd nes y gwnewch hyn, lol yw i chwi siarad am ddiswyddo y swyddogion. Awgrymwch hefyd fod y swyddogion yn budr-elwa ar amser strike. Y mae hon yn hen dune bellach. Bu y Cymro Gwyllt yn treio ei lais arni yn nglyn a strike Deheudir Cymru. Bu yr "Inter Ocean" a'r "Iron Age" yn ei swnio at swyddogion y gweithwyr haiarnyn y wlad hon. Ac yn awry mae Welch, Siney, Linn, Kinghorn, Reid, a gwahanol rai eraill yn cael yr un peth. Y maecymeriadau y rhai hyn oil yn anfeidrol uwchlaw gallu S. a'i gyffelyb i'w niweidio 3,'i ensyniadau baw- aidd ac anynol. Carwn iddo egluro pa fodd y mae y swyddogion yn elwa yn am- ser strike. Gwyr pob un sydd yn perthyn i'r Undeb nad ydyw eu cyflog yr un cent yn fwy ar amser strike er fod eu perygl yn llawer mwy. Gwyr pob bachgen deng mlwyud oed mai amcan yr Undeb ydyw sicrhau manteision i'w aelodau; ondbeidd- iaf ddweyd wrth S. mai yr unig achos o'i Uflwyddiant ydyw, am fod cymaint o'r un argraff ag ef yn eu plith—bob amser yn "chwilio bai lie na bydd." A phwy bynag a anoga y glowyr i ddiswyddo ei swydd- ogion, y mae yn elyn i'w achos, ac yn flaidc1 o'r garwaf mewn croen dafad. Terfynaf y tro hwn, gan ddymuno llwyddiant i'r Un- deb a'i swyddogion. Danville, Ill. Ap THOMAS.
[No title]
COAL VALLEY, ILL., Gorph. 8—Y mae Tafalaw wedi cytuno i arosi wasanaethu yr eglwys yn y lie hwn am flwyddyn arall, ac mae yma lawer yn teimlo yn llawen am hyny, ac un neu ddau wedi tramgwyddo. Y dyn geisiodd foddloni pawb, syrthiodd ef a'i fulyn dros y bont i'r afon. Cadwyd yma ddau ddiwrnod eleni yn Fourth"-un ddydd Sadwrn gan y "sect -'fawr," a'r llall ddydd Llun, y 5ed, gan yr Ysgolion Sabbothol, mewn unedd. Ar y bryn uwchlaw y Valley yr oedd banlawr cyfleus wedi ei godi; ac wedi cyfarfod o'r ysgolion yn nghapel y M. E., a chanu ton neu ddwy, dan arweiniad medrus Richard Hughes, ffurfiwyd yn orymdaith drefnus i gyphwyn tua'r bryn. Ar y ffordd cawsom sefyll i gael arlun o bonom oil. Yr oedd y brass band a gyflogwyd heb gyraedd; ond pan yn ein satie, clywem ei semiau yn peri i'r bryniau ddiaspedain. Yr oedd yno gyf- lawnder o'r danteithion goreu ar wertlii ac am ddim, a tfyddloniaid ein liysgolion yn gweithio a'u holl egni. Pan oedd pob petli I I ar eu huchel fanau, dechreuodd y gwlaw ddisgyn, y mellt yn dechreu ymfrochi, y nef yn cwyno gan gyflymder ei cherdded- iad, a'r cymylauyn wylo yn hidl. Nid hir y bu y gwlybyr yn tynu y starch o gadach- au gwynion y rliyw deg, a gyru y rhyw ar- all i chwilio am gysgod. Parhaodd y gwlaw yn hir, a gorfodwTyd ni i adael y bryn, a myned tua chapel y Ranters—yno y terfyn- wyd yr wyl.— Hu Gadarn.
LLAWER MEWN YCHYDIG.
LLAWER MEWN YCHYDIG. -Bu tymestl erchyll o wlaw yn nwyrein- barth Kansas, ac ar derfyn 'JL'alaeth Mis souri, yr wythnos ddiweddaf, yr hon a bar- liaodd am 48 o oriau. Gwnaed cryn lawer a niwedi gynyrcli y ddaear, ac i amryw o'r rheilffyrdd. —Fel yr oedd tri o dclynion ieuanc yn rhedeg peiriant dyrnu yn agos i Milton, Georgia, yr wythnos ddiweddaf, tarawyd hwy gan fellten, alladdwyd y tri. —Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, ffrvvydrodd berwedydd agerbeiriant oedd yn gweithio llifiauyn Hot Springs, Ark., a 11 add wyd pedwar o bersonau yn y fan, ac anafwyd saith. —Ar y pumed cyfisol lladdodd Walker Wliittacker, Frank Doud, yn Scranton, Pa. mewn cweryl o herwydd merch ieuanc oedd y ddau yn garu. —Mewn ymrafael gyda'i dad yn nghyf- raith, Mr. Griswold, darfu i J. Huntington ei lofruddio drwy saethu tair pelen i'w gorff, yn Port Jervis, N. Y., ar y 5ed cyf- isol. —Fel yr oedd Mr. Montgomery a'i deulu, yn cynwys 8 o bersonau, yn amcanu croesi yr afon yn Des Moines, Iowa, ar y 3ydd cyfisol, dymchwelvvyd y bedrol-fen gan y dwfr, a boddwyd cliwech o honynt. —Ymunodd 3,000 o Indiaid gyda dinas- yddion gwynion yn Atoka, Indiana, i ddathlu y 4ydd o Orplienaf, a hyny am y tro cyntaf erioed. —Caed gwlawogydd anarferol o drymion yn neheubarth Olito yr wythnos ddiwedd- af, a gwnaed cryn lawer o niwed i'r cnydau. —Daeth yr agerlong ysblenydd Oceanica o Hong Kong, China, i San Francisco, pellder o 6,090 mewn 27 o ddyddiau. Ni fu ond 16 o ddyddiau a 10 o oriau yn croesi y Tawelfor o Yokohama, Japan, i San Francisco. Hon oedd y fordaith gyflymaf a wnaed erioed ar y Tawelfor. —Bu y mellt yn hynod o ddinystriol ar fywydau nlewn gwahanol barthau o'r wlad yr wythnosau diweddaf, a chofrestrir fod 21 wedi eu Hadd mewn 15 o ddyddiau. —Daeth 19 o ladron drosodd o Mexico i Texas yr wythnos ddiweddaf, a llaclratas- ant 400 o ychain a gwartheg. Buont yn alluog i'w cael dros yr afon Rio Grande, a diangasant ymaith. KINGSTON, WIS., Gorph. 6.—Y mae y tywydd yn dal yn ffafriol iawn i'n cropiau —cawodydd o law maethlon, yn cadw y bugs rhag niweidio yr yd, &c. Cawsom amser bywiog ar y 3ydd. Cynaliwyd cyf- arfod yn y cylchoedd hyn, sef Proscaeron, Portage Prairie, Blaen-y-cae a Lake Emily, a chafwyd cyfarfod llewyrchus dros ben. — W. PEACE, RICE Co., K..vs.-Mae y ddaear wedi bwrw foraeth o fwyd i ddyn ac anifail eleni eto. Dechreuodd y cynauaf gyda ni ar y 15fed o Mehefin, ac y mae golwg obeithiol ar bob peth a'r trigolion yn teimlo yn bur galonog. Cafodd dyffryn yr Ar- kansas lieddwcli oddiwrth y locustiaid a'r ieir eleni. — T. B. Oicen. NELSON, N. Y., Gorph. 10.—Ar y 5ed cyfisol, cefais y pleser o fod yn bresenol mewn cyfarfod llenyddol a gynaliwyd yn nghapel y M. C. Nelson. Dewiswyd Mr. I). Howell yn gadeirydd ynlle y Parch. Griffith Jones, gan ei fod ef wedi ei ludd- ias i fod yn bresenol o herwydd afiechyd ei briod hawddgar-yr hon, erbyn hyn, fel y bydd yn chwith gan lawer ddeall, sydd wedi ffarwelio a'r ddaear hon. Y beirniaid oeddynt Mri. H. Daniels, D. Hughes a Llew o'r Llain. Ar ol cael anerchiad campus gan y llywydd, aed yn mlaen fel y canlyn: Anerchiadau y beirdd; caneuon gan D. Hughes, P. Hughes (Eos Cwmpedol) a C. Davies a'i chyfeillion; adroddiad gan II. Roberts; can, E. Hughes; adroddiad, W. Roberts; caneuon, D. X. Jones ac Eos Cwmpedol; anerchiad, Llew o'r Llain; caneuon, D. Hughes a H. Hughes; araeth ddifyfyr, pump yn cystadlu, goreu G. Mor- ris; can, E. Hughes; darllen difyfyr, goreu o bump, E. Hughes; anerchiad, H. Wil- liams; can, Eos Cwmpedol, yr hwn sydd yn meddu talent i adrodd, ac a ddcuai yn enwog gydag ymroddiad; ton ymadawol gan y dorf.Eielt Gohebydd. O. Y.—Yn ddiweddar bu farw Samuel Daniels, plentyn bychan 5 mlwydd oed i Mr. ll. a Mrs. G. Daniels, Nelson. Yr oedd yn blep<vn tlws, ac yn ganwr peraidd. Pe cawsai fyw, < alia :a1 ddyfocl yn enwog; ond torwyd ef i lawr yn m ode 1 ei ddyddiau. Os oedd ei gan yn felus iav n Tra yma ar y llawr, Mae'n canu'r anthem Iddo E' 0 fewn y nef yn awr. PENRHYN, CALIF.—Lie bychan yw hwn o ran poblogaeth a masnach. Yr unicr waith o bwys yw chwarel Mr. G. Griffith, yr hwn sydd Gymro parchus ac adnabydd- us drwy yr lioll Dalaeth o'r bron. Cyfloga ef lawer o chwarelwyr a stone cutters i bar- otoi ceryg adeiladu; ac mae ganddo ef pol- ishing mill i loewi pob math o geryg bedd- au, gronynfeini, &c., yn y modd goreu.— Nis gall Cymry California gael gwell lie i brynu nwnuments. Mae yma ddau neu dri o deuluoedd Cymreig. Ychydigofoddion crefyddol a geir, ac nid oes yma yr un cap- el. Cynelir ysgol Sul mewn ystafell, a cheir yno hefyd ambell i bregeth. Ond y mae yma dair o saloons, a'r diafol yn cael gogoniant ynddynt bob Sabboth, yn gystal a dyddiau eraill. Gorph. 3ydd torodd tan allan yma, gan losgi cryn lawer o dir, ond ni losgwyd ond un ty.—T.
Twrei.
Twrei. Adroddir fod gwrthryfel wedi tori allan yn erbyn y Twrciaid yn Herzegovina. An- fonwyd y gwragedd a'r plant a'r hen ddyn- ion i Dalmatia er diogelwch. Mae milwyr wedi eu hanfon i ddarostwng y gwrthryfel. Mae Awstria wedi anfon milwyr i Meko- vich er diogelu ei thcrfynau.
Itali.
Itali. RHUFAIN,. Gorph. 13.—Mae y llywod- raeth wedi penderfynu na bydd i Itali gy- meryd rhan yn yr Arddangosiad Can- mlwyddol, o herwydd y draul fawr fyddai yn angenrheidiol. Ywelodd ystorm aruthrol a manau yn Switzerland. Lladdwyd a clilwyfwyd iluaws o bersonau, a thorwyd yr holl ffen- estri yn y parthau He y digwyddodd gan genllysg o faintioli anferth. —Mae Cortina a'r carcharorion eraill werli eu hanfon i ddinas Mexico. —Gwasgarwyd cwmni o'r gwrthryfel- wyr yn Cuba gan y milwyr Spaenaidd, gyda cholled o ddeg. Lladdwyd pump o Spaen- iaid, a chlwyfwyd tri.
[GYDA Y PELLEBYR TAN, WERYDDOL.
[GYDA Y PELLEBYR TAN, WERYDDOL. Prydain Fawr. LLUNDAIN, Gorph. 13—Yr oedd dau gant o bersonau yn bresenol yn y wledd a (rad- wyd er anrhydedd i gyhoeddiad Annibyn- iaeth America. Yn mysg y gwahoddedig- ionyroeddU. S. Grant, ieu., a Mr. Henry Richard, A. S. Cyflwynodd John Bright yn Nhy y Cyffredin ddeiseb wedi ei llaw- nodi gan 60,000 o aelodau Undeb y Llafur- wyr ac eraill o blaid y mesur i lielaethu yr etholfraint yn y bwrdeisdrefi a'r siroedd, ac ail drefniad eisteddleoedd seneddol.— Gorchfygwyd y mesur drwy bleidlais o 166 yn erbyn 268. Cymerodd ymdrechfa le rhwng A. H. Bogardus, o Illinois, a Geo. Rimmel, champion Lloegr, yn Hendon, ar y 7fed cyfisol. Yr oedd pob un i saethu 50 o adar yn y pellder o ddeg llath ar liugain, o drapiau bum' llath oddiwrth eu gilydd. Lladdodd Bogardus 36 o adar, a'i wrthwy- nebydd 30. Mae Bogardus yn rhoddi her i holl Loegr i gystadlu ag ef -C3,Daliodd y diwygwyr Moody a Sankey eu cyfarfodydd ymadawol yn Llundain y Sabboth diwedd- af.—Y mae clybiau radicalaidd Llundain wedi penderfynu mewn cynadledd i alw cyfarfod cylioeddus yn Trafalgar i brotest- io yn erbyn i'r Llywodraeth roddi grant i dalu treuliau Tywysog Cymru yn India.— Rhedodd yr agerlong Scythia. perthynol i Ii nell y Cunard, yn erbyn moifilyn agos i Roches Point, a choliodd un o lafnau ei propeller, fel y gorfu iddi droi i Queens- town. Y CHWYUNSAETIIWYR AIEIUCANAIDD- Yn Belfast, ar y neel cyfisol, cymerodd ymdrechfa le rhwng y Gwvddelod a'r Amer- icaniaid am y Gwpan a gynygiasid yn rhodd gan ddinasyddion a maer y dref. Y pell- der oedd 1000 o latheni; caniateid pum' ei- gyd i bob dyn, a'r score uchaf a allesid wneyd oedd ugain. Yr oedd miloedd o bobl wedi ymgynuil i weled yr ymdrechfa, ,,y yr hon oedd yn amheus hyd y mynyd olaf. Safai y scores fel y canlyn: Gildersleeve, 19; Lee o Belfast, 19; Fulton (Amer.), 1"; Johnson, Dublin, 18; Bruce (Amer.), 17; McKenna, Dublin, 17; Wylie, 16. Ganfod Gildersleeve a Lee wedi cael yr un nifer, penderfynwyd iddynt saethu" tair ergyd drachefn; daethant allan yr un fath wed'yn —pob un y honynt, yn gwneyd bull's eye and a centre, yn cyfrif 11. llhoddwyd banllef- au o gymeradwyaetli iddynt ill dau. Saeth- asant drachefn, a'r canlyniad fu buddugol- iaeth i'r Americanwr-Acoriodd ef 12 a Lee 10. Rhoddwyd gwledd ardderchog yn yr hwyr, er anrhydedd i)' Americaniaid, y rhai oeddynt i ymadael dranoeth am Glas- gow.—Rhoddwyd derbyniad brwdfrydig iddynt yn Glasgow. Ymwelsant a'r lleoedd pw.ysicaf, ac a Loch Lomond a llynau er- aill. Ymadawsant oddiyno am Edinburgh, lie y derbyniwyd hwy gan Mr. Robeson, y llysgenadwr Americanaidd.
Ffi-ainc.
Ffi-ainc. PARIS, Gorph. 13—Cymerodd dadl frwd le yn yr Assembly o barth mesur y gallu- oedd cylioeddus. Mabwysiaclwyd gwell- iant i'r perwyl, os a yr Arlywyddiaeth yn wag pan na bydd y cynghorau yn eis- tedd, fod i'r Senedd gyfarfod, ac i etlioliad- au cyffredinol gael eu cynal yn uniongyrch- ol. Pasiodd y mesur ei drydydd darllen- iad drwy bleidlais o 546 yn erbyn 97.— Cyfarfu y dirprwywyr ydynt i ofalu am gynrychiolaeth Ffrainc yn yr Arddangosfa yn Philadelphia. Cafwyd fod pris cludiad nwyddau o Paris i Philadelphia ddwy ran o dair yn llai na'r pris o Paris i Vienna, ac yn haner y pris o Paris i Lundain.—Torodd yr afonydd Touques ac Orbec dros eu glan- au, gan orlifo tref Lesieux a'i chyffiniau,yn rhanbarth Calvados. Mae y rheiffyrdd wedi eu hatal, ac amryw bontydd wedi eu dinystrio. Collwyd rhai bywydau. Cyf- rifir fod y golled yn nhref Lesieux a'r cy- ffiniau yn 2,000,000 o francs. Ofnir gorlif- iadau eraill yn nyffrynoedd y Seine, Marne a Laone; ac y mae dyfroedd y Rhine yn codi yn brysur.
Spaen.
Spaen. MADRID, Gorph. 13.-Dygir y rliyfel yn erbyn y Carlistiaid yn mlaen yn egniol. Enillwyd amryw frwydrau pwysig gan fil- wyr y brenin. Yr oedd colled y Carlist- iaid yn Trevins yn 400 wedi eu lladd, a 60 yn garcliarorion. Cyfrifir fod y rliyfel ar ben yn y canolbartli. Mae y pwjdlgor o naw a benodwyd i dynu cynllun o gyfan- soddiad newydd i Spaen wedi gorphen eu gwaith. Dechreua gyda datganiad o rydd- id personol a chrefyddol. Mae y ddeddf- wneuthurfa i gynwys Senedd a Thy o Gyn- rychiolwyr; a'r llywyddiaetli i fod yn sef- ydlog. Bernir y bydd iddo gael ei fabwys- iadu.
[No title]
—Bu amryw farw o'r dwymyn felen yn Key West, Florida, yr wythnos ddiweddaf. GLAN Y REPUBLICAN, KAS.-Gwir yr hen air, "Daw hindda wedi gwlaw." Gan i'r locustiaid diffaith fwyta pob peth yma y llynedd, nid rhyfedd ein bod yn teimlo yn galonog yma 'eleni, gan fod pob argoelion y cawn gnwd toreithiog o bob peth. Y mae y cynhauaf wedi dechreu, ac y mae y corn yn edrych yn rhagorol. Gwir fod y locustiaid wedi bwyta pob peth o'r broil am tua 30 milltir o'r rhan ddwyreiniol o'i- Dalaeth, ond y maent wedi gadael yno yn awr; ond nid ydynt wedi biin.) y North West o'r Dalaeth eleni. Yr yd ii yn cael gwlawogydd trymion, a mellt u uxaranau ddigon. W. R. Charles.
NOD I OX PEliSONOL.
liongian wrth ei oclir yn waeth na diles— <3 yngliorodd cyfeillion Ihk ef i fyned i Chicago, ond efe a ymgyngliorodd a'r xneddyg Cymreig, Mr. Davies, yr hwn a gyflawnodd yr operation yn llwyddianus ar y 6ed o Fai dlweddaf-gweithred mor gywrain, na chyflawnasid erioed ei chyff- elyb o'r blaen yn Columbus, nac, mae'n debvg, o fewn y swydd chwaitli. Yr hyn yi- aiiacenid ato oedd cael yresgym i uno a'u gilydd, ond cyn y gallesid disgwyl hyn, yr oedd yn rhaid tyllu drwy y cnawd a dryllio penau yr asgyrn, er mwyn creu inflamation. Gwnaed yr offerynau a'r steel dHUs yn ol cyfarwyddyd y doctor gan Harvey Howell, Columbus. Pwy a ddywed gan liyny fod achos i neb fyned i ymgyng- hori a meddygon Chicago, tra y mae gen- vm feddyg mor gywrain a gofalus yn ein mysg ?—Gohebydd. CYDNABYDDIAETH.- Y sgrifena Mrs. E. Salisbury, gweddw y diweddar Barch. E. Salisbury, York Centre, Iowa, fel y can- lyn: Neithiwr (Gorph. 1), y cefais air o Utica, N. Y., fod y maen wedi. ei osod wrth fedd fy anwyl briod. Mae yn rhesymol disgwyl i miriau ddiolch i'm cymwynas- wyr, y rhai fuont yn garedig iawn i mi yn yr amgylchiad sobr a'm cyfarfu yn mhell o gartref—na ni ddywedais yn iawn-dyfod adref a wnaethom at yr amgylchiad. Ily Dymunwn ddiolch i bob un a'm cynorth- wyodd o bob man, ond yn enwedig eglwys Utica, fel ein hen fam, yn ein helpu yn garedig; hefyd y ddwy eglwys yn Iowa, Welsh Prairie a Williamsburg, ac yn ber- sonol i Mr. David Anthony, Utica, yr hwn a fu mor ffyddlawn a chymeryd gofal y cwbl o'r declireu i'r diwedd. Collodd lawer o amser—c&fodd lawer o clraffertli- a byny yn rhad. Fy nymuniad yw, ar i'r Arglwydd dalu iddynt oil yn ddauddyblyg. Gan gredu mai er mwyn yr efengyl y •dangoswyd y caredigrwydd hwn i goffad- wriaeth y gwas hwn i Grist a'i deulu trallodedig, ydwyf, ei weddw, ELIZABETH SALISBURY. York Centre, Iowa. O. Y.—Y mae y plant yn cyd-ddiolch a mi. -+-l..