Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
La A WEEJZLT AfJ? W S T.A 5PJZ1R. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
----------.0...-YR YSTORM.
-0. YR YSTORM. Mae'r nefoedd yn pryddhau uwchbcn, Tros ruddiau'r haul ymdaena lien, Ymgasgln mae cymylau lu, Gan wisgo galar-wisgoedd du; Ni chlywir mwyn sonlarus gerdd Yr adar, yn y goedwig werdd; Mae'r awel fel yn dweyd ei chwyn Mewn hodau lleddf yn mron y llwyn, Ac wrth gusanulr blodau man Mae fel yn canu galar-gan. Gorwedda'r gwartheg yn y pant Mewn tawel fan gerllaw y nant, Y defaid sy'n ymdyru dan Adenydd clyd y clogwyn ban. Mae anian mewn rhyw drymder prudd— Mae fel yn nos ar ganol dydd; Pa beth sy'n bod i beri braw? Ateba'r gwynt, MAE 'STORM GEKLLAW." Ar hyn dacw fellten yn ffiamio'n orphwyllog 0 fol y du gwmwl fel cleddyf dau-flniog, A'r daran yn nghanol y gwagle yn rhuo Nes ydyw colofnau daiarfyd yn siglo; Croch rua'n ddigofus y corwynt cynddeiriog Yn nghrombil holltedig y creigiau ysgythrog, Mae mantell gaddugawl tros wyneb yr huan A'r cymyl yn wylo wrth wel'd y gyflafan; Mae natur yn gwgu mewn llawn uthroldeb, Fel pe ar ymsuddo i fro tragwyddoldeb; Mae'r gwlaw yn pistyllio, rhaiadrau'n crochfloeddio, Taranau yn rholio, mellt cochion yn fflachio, Coedwigoedd yn siglo, aneddau yn cwympo, Afonydd yn llifo, ynysoedd yn nofio, A dyn yn y cyffro mewn braw yn arswydo Yn gofyn dan wylo a yw Duw wedi digio? Ond ah! yn y cynwrf dacw fwa'r Cyfamod Yn oriel y nefoedd yn traethu ei benod- Nilth foddaf a diluw, mae'r 'storm wedi darfod." Fel cadarn fyddinoedd ymgilia'r cymylau I hebrwng y daran i'w thawel lochesau; Pelydrau adfywiol, goreurog yr heulweu Sy'n dawnsio o amgylch palasdy y fellten. Mae'r nefoedd amryliw, a'r ddaiar mewn cymod, Mae hedd yn teyrnasu, mae'r storm wedi darfod; Mae'r ddaiar yn gwenu, a'r blodau i'w canfod Yn chwerthin yn iachue, mae'r 'storm wedi darfod; Yn nheml y goedwig y clywir yr ednod Yn seinio yn beraidd "mae'r storm wedi darfod." Clodforwn y Duwdod, mewn anthem ddiddarfod, Mae'r 'storm wedi darfod, mae'r 'storm wedi darfod. DAFYDD T GAREG WEN. American House, Youngstown, 0.
AWGRYM I FWNWYR.
AWGRYM I FWNWYR. SYLWADAU AR FWNGLODDIAU PLWM A ZINC Y TALAETHAU, A'R POSIBILRWYDD L'R GEN- EDL GYMREIG YMDDYRCIIAFU I ANRHYD- EDD A LLWYDDIANT. GAN ROBERT PARRY (CYNFELYN). FREDERICKTOWN, Mo., Gorph. 5-Mae yn fy mryd er's llawer dydd bellach ysgrif- enu ar y cyfleusderau ardderchog sydd yn cynyg eu hunain i sylw jmwnwyr ac eraill o'n cenedl. yn Illinois a Missouri, gyda gol- wg ar Fwngloddiau plwm a zinc; a fy am- can yw gwneyd rhywbeth tuag at godi y Cymry o'r sefyllfa isel y maent wedi eu daiostwng iddi drwy orthrwm uchelgais y meistri yn Pennsylvania, Ohio, a Thai- aethau eraill. Llawer o gwyno sydd y naill wythnos ar ol y llall nad yw y mwnwr mewn llawer man ond megis caethwas di- obaith. Wel, pa beth a wneir yn ngwyneb amgylchiadau o'r fath? Arferwch dri pheth—cynildeb, gwroldeb, a phenderfyn- iad, fel y cawn nodi eto wrth fyned yn mlaen. Awn yn mlaen i sylwi yn gyntaf ar Dal- aeth Missouri, yr hon sydd yn un o'r Tal- aethau cyfoethocaf yn America mewn mwnau, megis mwn plwm, mwn zinc, copr, &c. Dull yr lanci ydyw prynu llaw- er o'r tiroedd anhygyrch a chyfoethog hyn, 11 pa un bynag a fydd ganddo ddigon i dalu am danynt ai peidio—ni ofala fawr am hyny, ac ni waeth ganddo mo'r llawer. Ar 01 cael y tiroedd i'w feddiant ar y telerau o dalu ychydig yn awr a phryd arall, dech- reua weithio, drwy roddi gwell dynion nag ef ei hun yno, heb ddim mewn golwg ond speculation/ a thrwy dwyll ac ystrywiau drwg, mae Ilawer o'r lancis diegwyddor hyn wrth werthu yn gwneyd eu miloedd. Gosodant rai o'r gweithfeydd i'r mwnwyr ar share-i dalu y bedwerydd,mwy neu lai, iddynt hwy; ond gofalant bob amser gadw yr hawl iddynt eu hunain o brynu y mwn- au am oddeutu deg dolar y dunell yn llai na'i wertli, a rhaid i'r mwnwyr hefyd roddi iddynt un cant ar ddeg ac ugain pwys i'r fil. Mae llawer o'r gweithfeydd hyn yn cael eu gweithio ar raddfa eang iawn gan gwm- niau cyfoethog, ac yn talu elw mawr idd- ynt, ac eraill yn tori, o herwydd fod dyn- ion anonest, anwybodus a diegwyddor yn eu harolygu. Digwyddodd hyn yn Mine la Motte er's ychydig yn ol; a gellir dweyd mai dynion o'r cymeriadau hyn sydd yn dinystrio gweithfeydd mwn plwm y Tal- aethau o'r bron. Dyna weithfeydd Joplin Jasper Co., y maent wedi dod i feddiant dynion oedd yn dlodion ar y dechreu; ond y rhai drwy anturio a chael lease ar y tir- oedd, erbyn hyn ydynt wedi dyfod yn gyf- oethog, a hyny drwy benderfyniad a llafur. Er's llai na phedair blynedd yn ol, nid oedd ond tua chwech o deuluoedd yn byw yno; ond erbyn hyn mae Joplin yn cynwys tua saith mil o drigolion. Dyna Gran by City yr un fath; mae miloedd o erwau o dir eto, a hwnw yn dir Ilawn o arwyddi( n goreu ynddo am lwyddiant, ond cael dynion a chyfalaf i'w weithio. Wel, beth sydd i'w wneyd, a plia fodd i ddod i feddiant o'r tiroedd hyn, ar- ynisef- ydlu arnynt ? Ffurfier cwmni neu gwmni- oedd Cymreig i gymeryd man "raneion (litftited shares), dyweder o bedair i bum' mil o raneion. Taler pum' dolar, mwy neu lai, ar bob cyfran, a hyny yn fisol, i'r bane, ac yna bydd y cyfanswm mewn blwyddyn (yn ol 15.0,0 y rhan ar 4000 o ranau) yn$242,000, heb son am y Hog. Oni fyddai hyn yn gychwyniad i anrhydedd? Gellir a'i- cyfalaf hwn brynu tir mwn ar delerau esmwyth gan yr Atlantic & Pacific R. R. Co., gan y rhai y mae 200,000 o er- wau o dir ar law, a llawer o hono wedi ei bron yn gyfoethog mewn mwnau, ac heb fod yn mhell o'rrheilffordd. Mae$242,000 yn ddigon o gyfalaf i roddi dros ddwy ill o Gymry mewn sefyllfa ddedwydd, heblaw digon wrth law i ddwyn traul cychwyniad y gweithfeydd, megis gosod i fyny beirian- au, pympiau, &c., tuag at gycliwyn yr an- turiaeth. Gellir prynu y Lead Hills yn Il- linois, yn cynwys plwm, fluer spar, a zinc o'r natur oreu-yn cynwys dros dri chant o erwau o dir, am $14,000, a gosod saith gant o Gymry mewn sefyllfa hapus mewn llai na blwyddyn. Gwerthwyd deugain erw o dir er's blwyddyn yn ol ar y Lead Hills am gan' mil o ddoleri. Yr wyf yn golygu nad oes i neb weithio yn y gweithfeydd hyn ond y sawl a fyddo wedi rhoddi cyfalaf i mewn, a'r rhai hyny yn ddynion sobr a diwyd. Beth fyddai yn fwy dymunol nagweled Cymry dringo i'r safle hon, pe na byddai iddynt ond gwneyd bywoliaeth gysurus ? Byddent yn rhydd oddiwrth orthrwm a thrais, ac ar y ffordd lydan i anrhydedd. Mae y peth yn bosibl, ond ymysgwyd ati o ddifrif. Pe yn anlwcus mewn un man, byddai llwydd- iant yn rhywle yn sicr, gan y byddai cyni- fer o sheffitydd ar waith. Mae y Lead Hills yn llawn o'r meini (veins) mwyaf ff afriol yn y byd, sef meini unionsyth (perpendicular veins), yr hyn na cheir ond yn anfynych yn y Talaethau. Mae y lie hwn yn fanteisiol i fasnach, gan ei fod yn sefyll o fewn dwy filltir a haoer i'r afon Ohio, a digonedd o dir glo o gwmpas. Ni raid i neb fyned i Patagonia, nac yn mhell i'r gorllewin o ran hyny, tra y mae digon o arwyddion llwydd- iant yn ein hymyl, ond arfer penderfyniad i'w gyraedd. Gan hyny ymysgydwn o'n y Ily llwfrdra; bydd hyn yn enw a dyrchanad i ni fel cenedl. Mae digon o dir mwn yn Missouri i osod deugain mil o bobl ar waith. Hyderaf y cawn wasanaeth y DRYCH o'n plaid i ymdrin ar y mater; dis- gwyliwn hyny beth bynag. Ati, Gymry, o ddifrif, mae elfenau llwyddiant o'n blaen.
GOBAITH I'R PAGANIAID.
GOBAITH I'R PAGANIAID. GAN Y PARCH. R. J. MATHEWS, FAIRHAVEN. Peth tra chyffredin yn ein heglwysi, y dyddiau hyn, yw teimlad gobeithiol yn nghylch sefyllfa grefyddol y paganiaid. Mae y gred yn enill tir fod eu hanwybod- aeth a'u llygredd wedi eu dangos gan edrychwyr oedd yn analluog i gydym- deimlo a hwy, na gwneyd cynawnder a'u haddoliad. Mae dywediadau hynod Zoro- aster, Sakiamuui, Confucius a Socrates wedi dyfod i gynddrychioli i ni sefyllfa feddyliol a moesol yr hollfyd paganaidd.— Mae llawer yn edrych ar Gristionogaeth fel llewyrchiad mwy dysglaer yn unig na'r gwahanol ffurfiau yn mha rai yr ym- ddengys paganiaeth, ac yn ymdrechu mynwesu tuag atynt y cydymdeimlad a'r goddefiad hyny, ag y mae ysbryd yr oes yn ddangos sydd i fodoli rhwng gwahanol ffurfiau y ffydd Gristionogol. Hawdd iawn yw llithro o'r fan hon i'r gred ddymunol y gwna y paganiaid ymdaro yn bur dda heb yr efengyl yn y byd hwn. a'r byd a ddaw. Diameu mai hyn yw tuedd y gwrthweithiad anocheladwy y sel benboeth fu yn rhag- farnu y byd paganaidd wrth safon Cristion- ogaeth. Sicr y caiff y pagan ei farnu yn ol y goleuni sydd ganddo, ac nid yn llewyrch ein heiddo ni. Gweddus i ni gyfaddef ein hanwybodaeth hollol am drefn Duw yn y fath amgylchiadau, a gadael iddo eu trin yn unol a'i ddoethineb a'i drugaredd ddwyfol. Ond beth bynag yw eu dyfodol i fod, mae eu cyflwr presenol yn resynol i'r eithaf. Y mae gwyddoriaeth a datguddiad yn uno i gyhoeddi yr angen cyffredinol sydd arnynt am rywbeth gwell. Cymerais amryw o'r ffeithiau canlynol o waith Dr. Lord, y rhai a ddangosant yn amlwg sefyllfa y pagan- iaid. Dengys dywediadau gonest teithwyr 9 1:1 y a chenadau, fod llwythau o ddynion yn bodoli heb grefydd na Duw. Cynydda y tystiolaethau hyn yn barhaus. Mae y ffaith lion yn myned at wraidd y pwnc, ac edrych ami yn ei chysylltiad a llwythau paganaidd. Mae y Veddahs yn Ceylon yn credu mewn bodau drwg, ond nid oes ganddynt un drychfeddwl am Dduw goruchaf a daionus, nac am sefyllfa ddy- fodol, nac am drefn o wobr a chosp, ac o ganlyniad golygant nad yw o wahaniaeth pa un ai drwg ai da wnant. Dywed Bagert, Cenhadwr Pabaidd, fod llwyth o Indiaid yn California heb grefydd na llywodraeth, heb ynad, pen swyddog na deddfau-del- wau, temlau, ac addoliad crefyddol oedd- ynt yn anhysbys iddynt-nid oeddynt yn credu y gwir Dduw, ac ni ychwanegent dduwiau gau. Nid oedd geiriau am Dduw nac enaid yn eu hiaith. Dywed Burchell 'nad oedd gan y Boachapir Kaffirs nac addoliad allanol, na duwiau mewnol, nac un gred am Dduw daionus, nric un drych. feddwl am greadigaeth. Dywed Moffat nad oedd gan yr Affricaniaid un dirnad- aeth am ddrychfeddwl duwinyddol. Yn sicr, nis gallem gario drychfeddwl cysurus iawn am y fath anwariaid. Pan ofynodd Tom Payne farn Benj. Franklin am ei "Age of Reason," dywedodd wrtho am ei losgi, "oblegid," meddai, "os yw dynion mor ddrwg pan yn credu mewn crefydd, beth fuasent heb unmath o grefydd?" Gwir nad yw y llwythau sydd mor isel a hyn yn lluosog, ond mae eu bodolaeth gwasgaredig yn bwysig, yn enwedig pan ystyriwn fod canoedd o filoedd o baganiaid nad ydynt ond ychydig o raddau yn uwch. Nid yw euj pwybodaeth o Dduw ond ffyn- onell o bryder, dychryn a chreulondeb.— Nid yw crefydd yn dwyn iddynt heddwch na phurdeb, ac nid ymddengys yn ddim ond crefyddolrwydd crefyddol yn ym- balfalu mewn tywyllwch. Nid yw ond ofn dall ger bron dirgelwch natur, a duwioliad yr angenfilaidd. Ofergoeledd barbaraidd yw eu ffydd a'u harchoffeiriaid yn anuw- iolaeth, a'u seremoniau yn ddewiniaeth dieflig, a'u hunig effaith ar gymeriad yw creu rhagrith a chreulondeb yn eu offeir- iaid, ac ofn ac anynoliaeth yn eu diofryd- wyr. Mae swyn paganiaeth yn gyfangwbl yn ei bellder oddiwrthym. Yn ffurfiau uchaf paganiaeth yn unig y mae duwiolder yn dechreu gofyn am gymeriad personol; ac nid yw hawl y goreu i hyn ond rhanol ac anmherffaith iawn. Gwyddom beth oedd Baal, Ashteroth a Moloch. Ydym wedi darllen am atgasrwydd Jupeter a Juno, Venus a Bacchus. Mae crefydd a moesoldeb yn hollol ar wallan mewn pagan- iaeth. Cristionogaeth yn unig sydd wedi uno y ddau a gosod y naill yn delerau hanfodol i'r llall. Nid yw y mwyafrif o grefyddau paganaidd ond gweithrediadau anhyfforddiedig greddf wyllt; a'ucydmaru a Christionogaeth, nid ydynt ond clebrau yr Hottentot yn ymyl iaith wareiddiedig. Gall y golygiadau dymunol hyn am bagan- iaeth fod yn gynildeb, oblegid diddymant ein cenadaethau costfawr; ond yr ydym yn gosod ein hunain yn erbyn ffeithiau tra ad- nabyddus, os credwn eu bod yn wirionedd. Tra y mae llawer o Affricaniaid yn credu y gallant wrth losgi eu fettish, ddiddymu eu Duw a dial arno am ei esgeulusdra dychym- ygol; ie, tra mae y Chineaid yn curo eu delwau i ufudd-dod, a benywod India yn addoli y basgedi sydd yn dal bwyd, a'r am- aethwr yn addoli ei aradr, pa faint o dyw- yllwch raid fod yn meddyliau y llwythau hyny sydd heb un math o addoliad? Nid yw yr amser wedi dyfod eto i ni leihau ein casgliadau i'r Genadaeth Dramor. Y mae gwyddoriaeth a gwareiddiad yn cadarnhau gorchymyn Crist: "Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur."
[No title]
—Nid oes ond 5,000 o farilau yr wythnos o graig olew yn cael ei dynu o holl ffyn- onau olew Canada. —Dyfarnwyd tafarnwr yn euog yn ddi- weddar, yn Louisiana, o werthu gwirod i ddyn meddw, a hyny yn barhaus, a gorfu iddo dalu $1,200 o iawn i'r teulu.
0 AMERICA I GYMRU.
0 AMERICA I GYMRU. GOHEBIAETH ODDIWRTH REES E. LEWIS,. (TEWDWR.) MERTHYR, Mehefin 23ain.—Yr wyf yn cymeryd y cyfleusdra hwn i hysbysu i chwi, yn gystal a'm cyfeillion a'm cyd- nabod yna, fy mod wedi cael fy nhraed unwaith eto ar dir, ac wedi glanio yn ddi- ogel y tu yma i'r Werydd, heb i un ddam- wain na digwyddiad o bwys gymeryd He. Darfu i ni gychwyn allan o Philadelphia am naw o'r gloch boreu dydd Iau, y 3ydd cyfisol, gyda'r ager-Iong "Ohio," perthynol i'r American Line; llestr ragorol, yn mesur 355 o droedfeddi hyd, wrth 44 o led, ac yn cario 3,104 o dunelli. Nid yw y trefniadau er cysur a diogelwch y teithwyr yn gwbl mor gyflawn a'r eiddo Inman a Cunard; y mae y first cabin yn dda, a'r intermediate i bob pwrpas ymarferol, am a wn i, gystal a'r second cabin ar rai ager-longau, ac am lawer llai o bris, ond y steerage yn wael. Y mae y cadben Morrison, yn gystal a'r swyddogion a'r holl ddwylaw, yn ym- ddangos yn bobl bur foneddigaidd, hynaws a charedig, ac fel pe byddent yn awyddus i roddi boddlonrwydd i bawb; ond ryw fodd nid ydynt yn medru cyfaddasu eu hunain ar gyfer anghenion teithiwyr lawn cystal a'r eiddo eraill ag sydd wedi cael ychwaneg o brofiad. Yn ystod ein harosiad yn America, er nad oedd ond byr amser mewn cydmar- iaeth, darfu i ni enill llawer iawn o gyfeill- ion, ac yn eu plith rai Ellmyniaid, Francod a Gwyddelod, a llawer iawn o Gymry, rhai o'r bechgyn goreu a "sangodd ddaear er- ioed," ac felly yn gwirio y ddwy linell hyny o eiddo rhyw un- 'Tis said from Adam mankind arose, Making brothers of the direst foes. Nid oes angen i ddyn fyw ddwy fiynedd yn America, cyn gorfod teimlo fod y byd, wedi'r cwbl, yn cyraedd yn mhellach na glanau mor Sir Aberteifi, a bod dynion da i'w cael heblaw y rhai sydd yn perthyn i genedl y Cymry. Ar ol treulio rhyw gy- maint o amser yn Ngwlad y Gorllewin, yr ydym teimlo fod rhyw gyfathrach rhyng- om a. chenedloedd eraill, a phaham lai, oni wnaeth Duw o un gwaed bob cenedl o ddynion ?" Y mae dyn, ar ol dechreu ym- fudo, yn dyfod i deimlo fod y byd yn gar- tref iddo, a phob llwyth, iaith a chenedl o ddynion yn gymydegion iddo; a phawb yn gydradd yn yr ystyr yma. Pe na byddai dim arall wedi anfarwoli enw Gladstone, heblaw y frawddeg hono o'i eiddo pan yn dadleu dros estyniad yr etholfraint i'r dos- barth gweithiol, "Are they not our own flesh and blood," y mae hona yn ddigon. Nid oes yn y syniad yma, yn ddiau, ddim ag sydd yn rhoddi un achles i ddynion wadu eu hiaith, ac i dori pob cysylltiad yn hollol ac am byth a Chymry ac a Chymraeg, ond yn hytrach fe ddylai peth felly gynyrchu mwy o genedlgarwch ynom, a mwy o an- wyldeb at y cyff oddiar yr hwn yr ydym wedi tarddu. Y mae rhyw gymaint o gys- egredigrwydd ac o swyn o gwmpas y fan y cawsom ein geni, ac y mae rhyw bryd- ferthwch yn y llanercliau hyny y buom yn cliwareu ar hyd-ddyn pan yn blant; y mae yr awyr iachus fuom yn fwynhau wrth rodio pegynau Twynywaun a Tlioryfan, a'r golygfeydd swynol o ben yr Hen Gas- tell, yn enyn rliyw syched ynom am eu mwynhau unwaith eto. Dichon fod rhai. nad yw o un dyben i geisio eu naturioli o gwbl, y maent yn rhyclanish i ddygynaod a dim o arferion eu gwlad fabwysiedig, ac i siarad, hyd yn nod yn America, yr un iaith ond iaith eu mamau, ac felly yn ym- ddifadu eu hunain o lawer iawn o'r rhag- orfreintiau hyny ag y mae eraill sydd yn ymddwyn yn wahanol yn eu bywydau. Ond y mae rhai fel arall-gan gynted ag y glaniant yn New York, os yn meddu ar ddigon o Yankee brogue j otyn am plug o dybaco, yn anghofio yn y fan mai Cymry ydynt, ac yn ddigon haerllug i wadu pob perthynas a'r iaith Gymraeg; ond yn gy- ffredin y mae eu lleferydd yn eu cvhuddo, ac wrth hyny bradychant eu hanwybodaeth fel ag i fod yn wrthddrychau dirmyg i'w cydwladwyr. Y mae meddwl am ambell un y gwyddom eu hanes yn bur dda, yn ymddwyn felly, wedi peri i ni wrido lawer pryd- Breathes there a man, with a soul so dead, Who never to himself hath said, This is my own my native land. Oes y mae rhai yn wir, dynion y gallem
..... AWSTRALIA A'I BRODORION.
AWSTRALIA A'I BRODORION. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, O. LLITH 1. Darganfycldiad Awstralia. Darfu i ddarganfyddiad America gan Columbus, yn nechreu y 15fed ganrif, sym- bylu morwyr Holland a Portugal i wneyd archwiliadau tua chyfeiriad Pegwn y De- heu; Cawn hanes i rai llongau o'r gwled- ydd uchod fyned i archwilio y cefnfor Ind- iaidd tua diwedd y flwyddyn 1539; ond dy- chwelasant yn 1541, heb ddarganfod dim ond ynysoedd Java, a'r Moluccas. Yn 1601 gwnaed ail archwiliad i barthau de- heuol y cefnfor crybwylledig, gan Manael Godinho De Evedia, gwr dysgedig o Portu- gal, yr hwn, wedi morio am 14 mis, a lan- iodd ar draeth gogledd-orllewin y cyfandir Awstraliaidd; efe oedd y dyn gwyn cyntaf erioed a sangodd dir Awstralia. Yn 1605, yn ddamweiniol braidd, aeth llong Ysbaen- aidd, dan lywyddiaeth L. Vaes Des Torres, drwy y culfor peryglus hwnw sydd rhwng Awstralia a New Caledonia (lie yr alltudia y Ffrancod eu drwg-weithredwyr yn bres- enol). Gelwir y cyfyngfor hwn ar enw ei ddarganfyddwr, sef Torres's Straits. Chwiliwyd yr arfordir gogleddol, mor bell a Cape York, gan J. W. Yerclioor (Is- Ellmyn), yn 1606. Dirk Hartog, o Portu- gal, mewn llong o'r enw Edracht, a ddar- ganfyddodd y rlian orllewinol o'r wlad, ac a elwir Tir Edracht. Ar ei ymadawiad, gadawodd Hartog blad haiarn ar y traeth, yn hoeliedig ar goeden, a'i enw ef, ei for- wyr a'i long, yn gerfiedig arno. Cafwyd y plad yn yr un man gan y Cadben Hamlyn, o Ffrainc, yn mhen 200 mlynedd wedi hyny (1808). Cariodd ef adref, a rhoddodd ef yn anrheg i Amgueddfa Paris, lie y gell- ir ei weled yn bresenol. Gwnaeth morwr Is-Ellmynaidd dewr, o'r enw Jan De Edel, gynyg clodfawr i wneyd taitli arcliwiliadol i fewn i'r wlad; ond cafodd ei ymlid yn ol gaa yr anwariaid, wedi iddynt ladd pump o'i wyr. Gelwiry fro angliysbell Tir De Edel." Darganfyddwyd ac archwiliwyd arfordir Cape Leuwin gan Edel yn 1622. Yn 1623 glaniodd Jan Gartens, o Holland, ar draeth Arnheim's Land" (enw eilong). Lladdwyd Cartens, ac wyth o'i wyr, gan y brodorion, tra yn teithio i fewn i'r wlad. Darganfyddwyd y Gulf of Carpentaria, ac arcliwiliwyd 1000 o fllltiroedd o'i arfordir gan Nuyats a Carpenter, o Holland, yn 1637. Yn 1642 anfonodd y Dutch East India Company long fawreddog allan o Batavia, dan lywyddiaeth Abel Jan Tasman, i wneyd archwiliad pellach, ac i ymdrecliu cael all- an faintioli y eyfandir Awstraliaidd. Ar- chwiliwyd y rhan fwyaf o'r arfordir. Pas- iodd drwy Torres's Straits; ac wedi myned y tu draw i'r wlad, hwyliodd yn ddeheuol hyd yn lledred 40 gradd de, pryd y cyfeir- iodd tua'r gorllewin, a daeth ar draws ynys, yr hon a alwodd Tir Van Diemen," sef enw llywodraethwr Batavia y pryd hwnw; ond gelwir hi yn awr Tasmania," enw ei darganfyddwr. Hwyliodd Tasman oddi yno tua'r dwyrain, a darganfyddodd New 11 Zealand. Yno ymosododd y brodorion ar- no yn ffyrnig, a bu orfod i Tasman gilio, wedi iddynt ladd a bwyta tri o'i wyr. Ym- ddengys mai yr Hollandiaid fu fwyaf blaen- llaw yn narganfyddiad ac archwiliad y wlall anghysbell, am yr hwn achos y gal- went hi Holland Newydd, er na wnaethant un cynyg at sefydlu trefedigaeth o'i mewn; o ganlyniad, archwiliwyd y rhan fwyaf o honi gan Loegr cyn dechreu y ganrif bres- enol. Anogwyd y Llywodraeth Brydainig gan Cook, Dampier, St. Vincent, Bass, ac eraill o'r archwilwyr, i gymeryd meddiant o'r wlad, a mesur ei harfordir, yr hyn a wnaed yn fuan, ac y mae 6 trefedigaeth Brydeinig yno yn bresenol; a geilw y Saes- on y wlad Awstralasia, neu Awstralia, hyny yw, Asia ddeheuol. Os priodol ei galw yn ynys, y mae y fwyaf yn y byd; ac o ran ffurf yn debyg i wrthban y Gwyddel (as broad as it is long); ei hyd o ddwyrain i or- llewin yn 2,400 milltir, a'i lied sydd tua 2,000 o filltiroedd.