Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

LLOFFION 0 BELL AG A G 08.

News
Cite
Share

LLOFFION 0 BELL AG A G 08. Dymuna Thomas Jenkins, Salem, Iseb., ar i rai o ohebwyr y Ditycii yn Cali- fornia, Oregon, neu Diriogaeth Washing- ton, roddi gwybodaeth am le dymunol o ran hinsawdd a ffrwythlonrwycld y tir, i fIurfio sefvdliad Cymreig blodenog. Pa le y gellir cael mwyaf o dir y Llywodraeth, neu y gellir prynu tir am$5 yr erw ac isod? Byddai ysgrifau byrion ar faterion fel hyn yn ddyddorol i lawer heblaw ydos- barth amaethyddol o'n darllenwyr. Derbyniwyd 20,000 o fwsieli o yd yn Philadelphia, Mai 5, wedi cyraedd yno o Toledo, dros y llynau, yr afonydd a'r cam- lasau, y tymor hwn. .Mae math o ryg yn tyfu yn Grass Valley, California, a elwir Wild Goose; ac mae y grawn yn grwn a mawr, yn cynwys defnydd blawd rliagorol. Deuwyd o hyd i'r grawn y tro cyntaf yn nghrombil gwydd wyllt, yr hyn sydd yn esbonio yr enw. .Dymaenglyngo dda i'r Amaeth- wr," er nad yw yn hollol ddiwall, o gy- maint a bod yr orphwysfa a'r brif-odl yn proestio-iN-r-dofw,i--difai-: Diwyd wr dofwr clifar -par yni Pur enwog mewn daiar; Mewn anial-dir gwelir gwar, Deg amyd 'r un digymar.- TV E. W. z," cl Mae llaethwyr ymarferol yn dweyd os bydd dwfr aliach o fewn 100 troedfedd i'r fan lie cedwir llaetli yn yr haf, y bydd i'r llaeth gael ei ddyfetha. Bydd i nifer o ffarmwyr symud yn fuan o Wellsville, Alleghany Co., N. Y., i Washington Territory. .Mae papyr newydd yn Iowa yn des- grifio gwraig rinweddol yn y Dalaetliliono, sydd yn cynorthwyo ei gwr i drin y tir, drwy sefyll yn y drws i ysgwyd yr ysgib arno bob tro y gwelai ef yn gorphwys ych- ydig. ;Mae Jfarmwyr swydd Wayne, N. Y., yn dechreu ofni na chant gystal cnwd af- alau eleni, o herwydd diweddarwch ac oer- ni ag a gawsant y llynedd. Sychwyd a defnyddiwyd i wneyd cider y llynedd 100,- 000 o farilau; cadwyd at wasanaeth car- '^refol 100,000 o farilau, ac anfonwyd i ffwrdd 341,057 o farilau. G-wna hyny gyn- yreii perllanau y swydd yn 541,057 o far- ilau. Y.MBORTH NEWYDD I GEFFYLAU. — Ponhir llawer o geffylau yn California ar yr ymborth canlynol: Dau chwart o geirch, un a haner o fran, a pheint o had liin. Rhodder y ceiich yn gyntaf yn y bwced, yna yr had llin, ac wedi hyny dwfr poeth a bran. Gorchudder y cymysgedd a hen fretliyn, a gadawer i sefyll am bum awr. Nid oes eisiau ond un dogn y dydd i borthi ceffylau yn gampus. GRASSHOPPERS.—Mae adran amaetliydd- ol y Llywodraeth wedi gwneyd arbi-ofion ar ddefnyddioldeb y grasshoppers. Can- fyddwyd eu bod yn cynwys llawer o olew gwell nag a geir mewn pysgod; a gellir darparu rhan o honynt yn ymbortli rliag- orol, a gwna y gweddillion sothachlyd wr- taith i'r tir. Bwriedir defnyddio moddion i'w dal, os gwnant eu hymddangosiad eleni. PRYFED BRESYCII.—Cwynir yn gyffred- inol fod yn anhawdd codi cabbage, o her- wydd fod pryfed yn eu hysu; a defnyddir amrywiol foddion i ladd y pryfed, ond an- aml y llwyddir. Bydd rhai yn rhoddi calch, halen, hellebore, &c., ar y dail, eithr er y cwbl ysir hwy gan y pryfed. Can- fyddwyd yn ddiweddar fod bran neu flawd buckwheat yn sicr o ddifa y pryfed! Mor fuan ag y gwna y pryfed eu liymddangos- iad, ysgydwer llonaid llaw o'r blawd mewn gogr dros bob un o'r bresych, yn y boreu neu yr hwyr pan fydd y gwlith ar y dail, a ditlana y pryfed. Rhaid gwneyd hyn tra y byddant yn ieuainc, a chyn iddynt gryfhau a clialedu. Bydd 100 pwys o fiawd neu fran yn ddigon i lanhau erw o fresych. Anaml y bydd yn ofynol defnyddio y blawd fwy nag unwaith. LLADD ANIFEILIAID.-Dyfeisiwyd dull newydd i ladd anifeiliaid yn Ewrop, yn y fath fodd ag i greu dideimladrwydd union- gyrchol, rhag gweinyddu arteithion diang- y 11 enrhaid ar anifeiliaid direswm. Defnydd- ir mwgwd liaiarn i'w roddi ar dalcen yr anifail yn yr hwn y mae twll yn union gy- ferbyn a chenwyllyn y talcen. Mae lioel wedi ei darparu i'w rlioddi yn y twll yn nghanol y mwgwd, ac un ergyd bychan a morthwyl ar yr hoel fydd yn ddigon i ddi- feddianu yr anifail o bob teimlad ar am- rantiad. Cymer marwolaetli le cyn y bydd amser i'r anifail ddioddef poen. Y MODD I DYFU OSAGE ORANGE.— Rhodder yr hadau yn wlych mewn dwfr am chwech wythnos, gan ddechreu Ebrill laf; ond os arhosir yn hwy rhaid eu mwydo mewn dwfr poeth am oriau. Rhaid aredig y tir yn ddwfn a'i deilo yn dda cyn hau, a chadw pob chwyn i lawr. Hauer dwy res o fewn 8 modfedd i'w gilydd, yna gadawer 24 modfedd rhwng y rhesi dwbl. Rhodder yr had tuadwyfodfedd o ddyfnder, ahauer yn y cyfartaledd o fwsiel a chwarter i'r erw. Wedi i'r egin darddu chwyner y gwell glas a phob llysiau o'u plith; a phan fydd y coed yn chweeh neu saith modfedd o uchder, defnyddier yr hoe i godi pridd atynt. Mae y coed hyn yn gystal i wneyd gwrychoedd a drain gwynion Cymru, a thyfant yn gyflym a thoreithiog gydag ychydig o ofal. TOBACO YN CALIFORNIA.—Yr oedd codi tobaco yn fethiant yn California am flyn- yddoedd, a digalonodd llawer yn yr ym- drech. Tua pedair blynedd yn ol ffurfiwyd cwmni yn swydd Santa Clara, a sicrhawyd breinteb ar dyfais newydd i godi tobaeo. Yn 1872 ni chodwyd ond ychydig; ond yn 1873 yr oedd y cynyrcli yn 500,000 pwn, ac yn 1874 codwyd 1,500,000 pwys. Nid oedd gan fasnachwyr tobaco fawr o ffydd yn y cynllun ■ newydd, a gwrthodasant brynu y tobaco. Darfu i hyn symbylu y cwmni i ddefnyddio y tobaco eu hunain, a. dechreu gwneyd cigars, &c. Maent yn awr yn gwneyd 200,000 o cigars yn fisol, ac yn darparu 10,000 pwys o dobaco mygu. Gwnant y flwyddyn hon 1,000,000 o cigars yn fisol, a 1,500 pwys o smoking tobaco yn ddyddiol.

A WGRYMIAI) A If.

(JYTIIllA UL G WY-Y.

I ERLED1GAETH YN GERMANI.…

"y WRAIG A RODDAIST I ML"

Family Notices

[No title]

[No title]

DYLEDWYR ANONESl'.

[No title]

Advertising