Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
DYDD IAU, MAI 20, 1875.
DYDD IAU, MAI 20, 1875. T. J. GRIFFITHS, Cyhoeddwr. GOLYGWYR, J. W. JOvlis, J. C. ROBERTS. YN ol cyfrifiad ystadegwyr Ffrainc a Lloegr yn 1848, swm yr aur bathedig yn y byd adnabyddus oedd$2,740,000,000.— Caed llawer o drafferth i wneyd allan ad- roddiadau arianwyr China, ond hernid I ad oedd y cyfrif yn mhell o fod yn gywir. Bathwyd o aur o'r fiwyddyn 1848 liyd 187.5, $2,800,000,000, yr hyn a wna yr holl swm mewn bodolaeth yn $5,540,000,000. Cyfrifir fod y golled flynyddol drwy dreul- iad yr aur mewn cylchrediad yn $15,000,- 000; ac mewn 27 mlynedd cyrhaeddai y swm yna i $405,000,000. Osydywycyf- rifiad yna yn gywir, swm yr aur bathedig yn awr yn y byd ydyw $5,135,000,000, sef oddeutu 204,167 o dunelli!
[No title]
CREWYD cynwrf yn mhlith masnacliwyr haiarn yn Lloegr yn ddiweddar, drwy ddy- fodiad swm o haiarn perchyll American- aidd i'r farchnad, yr hwn a werth wyd yno am £ 7 y dunell, tra yr oedd haiarn car- trefol, heb fod yn ddim gwell, yn cael ei gynyg am C8 y dunell. Yr oedd y pris a cblwyd yn Liverpool am yr haiarn Americ- anaidd yn cael ei ystyried yn uchel, er fod y perclienogion wedi bwriadu cael C8 y dunell; ond yn awr y maent yn hysbysu y gallant fforidio ei werthu am £ 7, a der- byniasant archeb am 100 o dunelli. Anfon- wyd yr haiarn i Loegr o fwnglawdd Cedar Bluff, Cherokee County, Alabama; ac nid oedd pris y cludiad i Liverpool ond $1 y dunell yn fwy na'r pris i Cincinnati. Bwr- iada y ewmni barliau i anfon yr liaiarn dros y Werydd.
Advertising
EIN TELERAl) AM 1875. Pris yn mlaen littw Pris y DRYCH i Glybiau ..$2 20 m- Pris y DRYCH i Canada 70 pjf" Pris y DUTCH i Gymru • S 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, new mewn Draft arNew York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. 1LYFR KBWYDD—" The Golden State and its i Resources" GTUI y Parch. J. J. POWELL. YR han- es goreti am Dalåeth California. Pris $1.50, ac i'vr sraol gan R. T. Roberts, U. S. Mint, San Francisco, California. 4'75—29'75 o BfVYS I i G-E, RDD ORIO-V. CANEUON D. P. HUGHES.—Bydcled hysbys i'r cerdd orion y bydcl cyfaasoddiadau D. P. Hughes, di- weddar o Newark, N. J., sef Y Gw.iswrs," "NANS O'B GLYN," a "FY ANWYL FAM," i'w cael o liyn allan gan J. T. HUGHES, 42 Taylor Ave., Utica, N. Y. Oil WA REL WYR YN EISIA U! Yn Chwarel Huron Bay Slate and Iron Co Michi- gan. Cyflog,$2.50 y dydd, a'r tal yn fisol. Bwrdd, $20.00 y mis. JOHN. THOMAS, Supt., x 19-21 Arvon, Houghton Co., Mich.
UOFADAIL I R. U. WILLIAMS.
UOFADAIL I R. U. WILLIAMS. AT Y CYHOEDD. Mae yn hysbys bellach fod y canwr enwog, Mr. R C. Williams, diweddar o Garnarfon, G. C., a mab i'r Parch. David Williams, Bangor, yn bresenol, wedi marw yn yr Hospital yn New York; a chan nad oes un math o nod yn dangos man fechan ei fedd," y mae nifer o'i gyfeillion wedi penderfynu rhoddi cofadail ar ei fedd. Gwneir apeliad taer at y Cymry am gyfraniadau i ddwyn traul yr anturiaeth, a chof- nodir y symiau a dderbynir yn gyhoeddus. Cyf- eirier- J. W. JONES, DRYCH Office, Utica, N. Y.
(Bin (§0^bfajj(r art ,£rgun\)JJ1X.
(Bin (§0^bfajj(r art ,£rgun\)JJ1X. At Bobl Pottsville, Pa.—Carem wneyd yn hysbys mai W. TALIESYN JONES, Ysw., yw ein Agent yn y cylchoedd yna, a bydd yn dda ganddo ef dderbyn enwau newyddion ac arian am y DRYCH. Yn Ein Nesaf.—Dylanwad y Pwlpud, gan Jun- ius; Dyddiwr mewn Dadleuaeth, gan R. O. Williams, Boston Llythyr Ephraim Llwyd Y Seithfed Heol; Catherine Woodford, gan Trabaiarn; Yr Ysfa Englynawl, &c. Y maent oil yn ysgrifau dyddorol a da. Y mae genym nifer o ysgrifau gwerthfawr craill ar law, y rhai a gyhoeddir y cyfle cyntaf. Hen Weinidog.—Mae yn ddrwg genym fod am- gylchiadau wedi ein gorfodi i adael eich ygg;-ilau o'r neilldu am gyhyd o amser. Ymdrechwn waeyd lie i'r gyntaf yn ein rhifyn am Mehefln 3, a cha y gwedd- ill ddilyn. Parch. R. H. Evans, HYDE PARK.—Daw tro yr ysgrifau ar "Rheswm Dynol," &c, yn fiian. Gwell yw peidio dechreu eu cyhoeddi, heb fod y ffordd yn glir i'w parhau yn ddifwlch. Dymuna Mr. Thomas Evans, Sioux Rapids. Iowa, gywiro camsyniad a wnaed genym wrth roddi crynodeb o'i atebiad i Sioux yn y DRYCH dro yn ol. Ei amcan ydoedd dangos nad oedd y cynulliad hwnw y soniai Sioux am dano fel yu ymgynull i addoli yn yr ysgoldy, yn dal yr un cysyHtiad a'r Bedyddwyr neillduol. Y gwir am dani," medd ef, uid ydynt yn eghvys o gwbl, nac yn dal pertliynas a'r un en- wad."
[No title]
MAE adroddiad diweddar Dirprwywyr yr lieddgeidwaid yn New York yn rlioddi ar ddeall y carcharwyd yno yfiwyddyn ddi- weddaf am feddwdod, 40,777, sef 27,203 o ddynion, a 13,574 o ferched! Euogfarn- wyd o'r rhai uchod am wahanol droseddau tra yn feddw, 15,186 o ddynion, ac 8,927 o ferched; ac mae yn ymddangos fod meddw- z, dod yn mhlith y menywod yn cyuyddu yn ddychrynllyd. Allan o bob 10,000 o'rbobl- ogaeth yr oedd 638 yn feddwon; ac yr oedd yn y ddinas 8,403 o saloons yn gwerthu gwirod, sef 1 saloon ar gyfer pob 119 o'r bobiogaeth, yn cynwys y gwyr, y gwrag- edd a'r plant, yllanciau a'r llancesau! Yn ninas Llundain y flwyddyn ddiweddaf, ac mewn parth neillduol a ddewiswyd i'w archwilio, yr oedd 264 o bobl o bob 10,000 o'r boblogaeth wedi eu dirwyo am feddw- dod; yn Liverpool, 329; yn Cork, 382, ac yn Dublin 41. Mae y ffaith fod y menyw- od yn meddwi yn profi fod eu tai vn gartref anaddas iawn i ddwyn plant i fyny.
[No title]
MAE dinasyddion Boston wedi adferu eu masnach yn dda ar ol y tan dinystriol fu yno; ac yn awr y maent am dclechreu an- turiaeth bwysig a drudfawr, sef agor cam- las i longau ar draws Cape Cod, er byrliau y ffordd i'r porthladd. Os edrychir ar bartlilen o Massachusetts, gwelir fod Cape Cod fel braich enfawr yn cau y porthladd i mewn, ac mae yno 14 o filltiroedd i'w am- gylchu o un cyfeiiiad, a 80 o filltiroedd o gyfeiriad arall. Ni raid tori camias ond 1 7% milltir o hyd i gysylltu Buzzard's bay gyda Barnstable bay. Mae y cwmni wedi ei ffurfio, ac mae ganddynt $1,000,000 o gyfalaf; ond cyst yr holl waith $3,000,000. Dywedir fod amryw o'r rhan ddalwyr yn New York; ac mae pleidiau yn Ewrop yn cynyg am y gwaith. Dywedir y decbreuir y gwaith cyn diwedd yr haf.
[No title]
HYSBYSIR yn y newyddiaduron Seisnig fod math o bylor newydd. wedi ei ddyfeisio yn Nghymru, yr hwn sydd yn tra rhagori ar bob math o bowdr mewn. bodolaeth o'r blaen. Ymgasglodd 500 o beirianwyr a mwnwyr yn nghyd i rodai prawf ar y ddyfais yn ddiweddar, a chaed boddlon- rwydd cyffredinol. Mae y pylor yn liollol ddiogel oddiwrth hunan-enyniad, ac nid oes perygl iddo danio yn ngwres yr haul. Hefyd, nid ydyw ei ffrwydriad yn cyn- yrchu llawer o fwg, nac yn dadblygu nwy- au afiach ac anymunol. Mae yn wahanol hefyd i'r "powdr oil," yr hwn a dania mewn gwrthdarawiad neu wynt; ac yn ddiweddaf, dywedir fod y pylor newydd yn rh,.ttacli na'r hen, ac yn cynyrchu gy- maint arall o effeithiau mewn craig.
[No title]
YMDDENOYS fod y nodedig Van Pelt, y tafarnwra'r meddwyn diwygiedig yn Ohio, yr ymffrostiwyd cymaint ynddo, wedi myned i grafangau swyddogion y gyfraith am ladrata cerbyd a dau o geffylau rhagor ol. Pan ddechreuodd y diwygiad dirwest- ol yn Ohio, torodd Van Pelt ei saloon i fyny, ac arllwysodd yr holl wirodydd i'r gwter, a derbyniodd ganmoliaeth uchel am yr aberth a wnaeth. Arwyddodd yr ar dystiad dirwestol, a thaI odd y dirwestwyr iddo $25 y dydd am fyned drwy y Dalaetli fel diwygiwr, a buyn llwyddianus dros ben- Yr oedd y bobloedd yn ymgynull i wran- daw arno o bob cyfeiriad, ac aeth son am dano drwy bob gwlad wareiddiedig. Pan ddarfyddodd y penboethni heintus hwnw, methodd Van Pelt a chael ei$25y dydd yn hwy, ac efe a ddechreuodd werthu whisky drachefn, a chyhuddo y dirwestwyr o'i lwgr-wohrwyo i ymuno a hwy, er mwyn creu cynwrf Mae yn amlwg yn awr iddo fyned yn rhy hyf yn ei dwyll a'i anonest- rwydd, ac mae yn debyg o dderbyn ei wobr.
[No title]
DARFU i Ymerawdwr Rwsia yn ddiwedd- ar anfon gorchymyn allan drwy ei holl ym- erodracth i'w swyddogion i arcliwilio yr holl reilffiyrdd, er cael allan yn mha gytlwl, y maent, nifer y cerbydau, a faint ofllwyr ellir anfon drostynt i'r terfynau mewn am- ser penodedig. Os nad ydynt yn dyfod i fyny a'i ddysgwyliadau, ac yn alluog i gludo milwyr ac adnoddau rhyfel yn ddi- gon cyflym, rhaid rhoddi holl ymadfertli- oedd yr ymerodraeth ar waith i wneyd y diffyg i fyny, a hyny heb golli dim amser. Mae yr Ymerawdwr Alexander yn llydan effro, a'i olygon yn eraffu ar symudiadau gwleidyddol Ewrop ac Asia, ac mae wed; penderfynu na fydd neb yn allnog i'w ddal yn cysgu. Gwelir fod rheilffyrdd yn gyfryngau pwysigyn amser rhyfel,a phrof- ly wyd hyny yn a.mlycach nag erioed yn y rhyfel rhwng Prwsia a Ffraine. Mae y symudiad hwn o eiddo Ymerawdwr Rwsia wedi creu cynwrf yn mhlith gwleidiadwyr Ewrop.
[No title]
Bu etholiad cynhyrfus yn Montgomery, Alabama, y dydd o'r blaen; ac er fod y ddinas yn Werinol er's llawer o amser, bu y Democratiaid yn aHuog i'w chrafangu eleni. Mae y newyddiaduron Democrat- aidd yn uchel eu hymffrost o herwydd eu buddugoliaeth; a chan fod rhai o'r negro- aid wcdi pleidleisio eu tocyn, y maent yn uchel eu gorfoledd, gan ddywedyd fod y negroaid yn dechreu dyfod i ddeall mai y Democratiaid ydyw eu gwir gyfeillion. A ddarfu iddynt ddeall hyn o'r blaen yn ys- tod y can' mlynedd diweddaf? Mae yn llawn bryd i'r DcmocratiaId. ddeclireu cania- tan eu hiawnderau i'r bobl dduon, ar ol eu caethiwo cyhyd. Yn mhlith henaduriaid y ddinas a-etholwyd y mae Major Thomas G. Jones, un o filwyr ffyddlonaf Jeff. Davis, yn yr ymdrech ofnadwy i fytholi caethiw- ed, a dymchwelyd llywodraeth y Talaeth- au Unedig. Canmolir Major Jones ynfawr yn awr am iddo siarad yn barchus am fil- wyr yr Undeb, wrth osod cof-adeiladim ar eu beddau. Onid oedd yn ddyledswydd arno wneyd hyny? Beth na wneir o flaem etholiadal1 er enill pleidleisi-au ? CYNALIODD y cymdcithasau cydweith- redol eu cynadledd fiynyddol yn ddiweddar yn Lloegr, dan arweiniad Prof. Thorold Rogers, Rhydychain, a chaed profion di- amheuol fod y sefydliad daionus hwnw yn cynyddu yn gyflym yno. Mae yr ystorfau cydweithredol yn mhlith gweithfeydd Lancashire, wedi casglu yn barod dros $1,- 000,000 o elw i'r gweithwyr. Caed $70,- 000 o elw clir oddiwrth ystorfeydd cyfan- werth cydweithredol Scotland y ilwydd- yn ddiweddaf. Maent yn prynu ac yn gwerthu yn ol pris cyffrediny farchnad, ac yn rhanu yr elw rhwng yr aelodau. Mae 12,000 o aelodau yn peithyn i ystorfeydd Oldham; ac maent wedi adeiladu 300 o dai cysurus a thlysion i'r aelodau. Gwna rhai o'r cymdeithasau fasnach flynyddol i'r swm o $1,500,000; ac mae ganddynt tua 60 o felinau cotwm yn cael eu gweithio, yn y rhai y mae$18,000,000 o gyfalaf. Pedair blynedd ar ddeg yn ol, sefydlwyd cym- deithas gydweithredol yn Manchester, gan 100 o ddynion, yn talu i lawr $5 yr un; ac feliy yr oedd eu cyfalaf yn $500. Heddyw y mac yn y gymdeithas 5,000 o aelodau a $200,000 o gyfalaf; ac heblaw talu elw da yn flynyddol i'r holl aelodau, rhanwyd thyngddynt$240,000 o arian nad oedd eu heisiau i gario eu masnach yn mlaen.— Darllenwyd adroddiad oedd yn dangos fod holl aelodau y cymdeithasau yn Ynys Brydain yn rhifo 400,000 a'u hclw blyn- yddol yn$7,000,000. Mae y symudiad cydweithredol hyd yn hyn wedi troi allan yn fethiant yn y wlad lion, tra y mae yn hynod o Iwyddnmus yn Lloegr.
PRAWF Y PARCH. 1L W. BE EC…
PRAWF Y PARCH. 1L W. BE EC HER. Wele o'r diwedd derfyn ar holi tystion yn y prawf hynod hwn; ac yn awr y mae gobaith y gwelir terfyn ar y cynghaws tua I, 17, 11 dechreu y mis nesaf. Penodwyd Mai 19eg i ddechreu symio i fyny y tystiolaethau, a thraddodir areithiaa amddiffynol dros Mr. Beecher gan Mri. PORTER ac EVARTS, y rhai a gymerant i fyny tuag wythnos.— Bydd i Mr. BEACH gytlwyno achos Mr. Til- ton i'r rheitliwyr, mewn araeth dros ddau neu dri diwrnod; yna anercliiry rheithwyr ar eu dyledswydd yn yr aclios yn ngwyneb y gyfraitli, gan y Barnydd. Wedi i hy^iy gymeryd lie, ymneilldua y rheithwyr i wneyd i fyny eu dyfarniad, a'r wlad a war- edir oddiwrth y gwaradvvydd a'r'fiieidd- bcth hwn
----AMSER CALEB A MASNACH.
AMSER CALEB A MASNACH. Mae rhesymau cryfion dros gredu fod pobl wedi ymgynefino a chwyno o her- ",Y wydd caledi yr amserau, heb fod achosion i gyfiawnhau hyny; ac mae yn sicr ddar- fod i lawer gymeryd mantais ar hyny i bcidio cyflawni eu hymrwymiadatf, tra maent yn alluog i wneyd. Esgusododd llawer eu liunain i beidio talu drwy gyf- drio at y "panic." Ymddengys oddiwrth adroddiad swvddogol y llywodraeth, yr anfonwyd oddiyma i wledydd tramor, y flwyddyn ddiweddaf, werth$680,403,937 o nwyddau, ac o'r swm uchod yr oedd $C)O,- 000,000 yn aur ae arian, cynyrcli y mwn- gloddiau. Mae y symiau aruthrol uchod yn dangos helaethrwydd masnach, er maint y cwyno a'r grwgnach y sydd. Gwelir oddi- wrth hyn, ein bod wedi anfon i wledydd tramor werth $614,500,000 o nwyddau a chynyrcliion y tir, heb gyfrif yr aur a'r arian. Hefyd prynasom gan genedloedd tramor, werth$555,243,818 o nwyddau, yr hyn a ddengys weddill o$59,256,182 yn ilafr y Taiaethau Unedig. Er fod Lloegr yn parhau i haeru nas gallwn gystadlu a hi mewn llaw-weithfeydd; ac o herwydd hyny y dylem.droi ein holl ddiwydrwydd i amaethyddiaeth, a gadael pob cywrein- waith celfyddydol iddi hi, eto y mae yr adroddiad diweddaf yn dangos ein bod yn gwerthu cryn lawer o gynyrchion llaw- weithfaol i bobl eraill. Gwerthasom i dra- moriaid, y flwyddyn ddiweddaf, o beirian- au gwnio, werth$1,770,951 offerynau amaethyddol,$3,146,493; llongau hwylio, $695,233; dodrefn tai,$1,836,919; peirian- au agerol,$1,145,669; peirianau eraill, $4,- 163,258; arfau rhyfcl, $3,613,430; arfau miniog, $875,538; esgidiau a^botasau,$448,- 138; lledr darparedig,$4,975,475; offeryn- ttu cerdd, $2,56,673; Iperaroglau, $808,585; argrafEwasgau 228,847; rhalfau 186,504; def- nydd dilladau cotwm,$3,590,797, a def- nyddiau gwlan, $135,967. Ac heblaw yr uchod, gwerthasom i dramoriaid werth $212,260,207 o gotwm li3b ei wefthio. Diclion y bydd yr allforiad yn llai eleni, canys hysbysir yn barod.focl Lloegr wedi prynu llai o gotwm y ] ddau fis cyntaf o'r ll'-yyddyn lion [o 280,000 can' pwys nag a wnaeth yn ystod yr un amser y llynedd. Anfonasom i wledydd tramor y llynedd werth$26,964,013 o Indian corn; gwenith, $82,752,131; a pheillied,$28,000,000, yn gwneyd cyfanswm 0 $137,716,144; sef mwy o $17,854,954 nag a dderbyniwyd am ddef- nydd bara yn 1873. Dealler nad ydyw y symiau uchod ond yr hyn a werthasom dros ben y swm oedd eisiau at wasanaeth eartrefol. Cvnyrchasom werth $141,000,- 000 o ddefnydd bara; cig n-locli, 392; gwer a bloneg,$12,295,066. Mae y ffaith fod y Talaethau a'r Tiriogaethau gorllewinol, yn cynyrchu digon o ymborth i gynal yr holl bobl yno, a llawer yn y de a'r dwyrain, gan adael ymborth yn weddill i'w anfon i wledydd tramor, yn werth agos gymaint a'r holl gotwm a allforir, yn profi ffrwytlilourwydd anghydmarol y tir. Gwelir oddiwrth y ffeithiau blaenorol, fod y cotwm a allforiwyd, a chynyrch y maes grawn yn cyraedd agos i'r swm anferth o 41. $420,000,000 ac er y cwbl cwynir o herwydd amser caled.
_---------__-__l-IAINT Y GRASSHOPPERS
l-IAINT Y GRASSHOPPERS Derbyniwyd newyddion yr wythnos ddi- weddaf o'r Gorllewin a greodd fraw a syn- dod yn gyffredinol drwy y wlad, sef adgyf- odiad miliwnau o geiliogod y rhedyn yn Missouri, Minnesota, Kansas, Iowa, Neb raska, &c., a'u bod yn barod wedi difa yr egin tyner. Mae y pla wedi dechreu eleni cyn i'r trigolion gael eu gwaredu. oddiwrth ddioddefiadau y flwyddyn ddiweddaf; a thra mae casgliadau yn cael eu gwneyd yn y dwyrain, i brynu ymborth a dillad i'r teuluoedd, yr ysodd y pryfed hyn yr oil oedd ganddynt. Dyma fel yr ysgrifena Mr. Daniel D. Davies, o Swydd Richardson, Nebraska Mae y grasshoppers wedi deor allan yma, ac maent yn dyfetha y cropiau o'i bron. Maent yn chwalu dros gae mawr mewn un diwrnod, pan mae yr haul yn boeth. Caw- som wlaw trwm Mai 10, a chariwyd hwy ymaith gan y llifeiriant, a gobeithir y bydd i'r wlad gael gwaredigaeth oddi withynt." Mae James Hughes, o bentref Nicollet, Minnesota, yn dweyd fod y locustiaid wedi deor yno, a'u bod yn taflu pla yr Aifft yr amser gynt yn gwbl i'r cysgodion yn gwbl. Maent yn gorchuddio y ddaear yn gwbl mewn rhai manau; ac nid ydynt eto yn alluog i ehedeg. Maent yn arfer ym- gynull yn nghyd yn y nos yn llanerclii mawrion. Bwriada Hughes daenu gwellt yn nghylchoedd y parthau hyny, yna ei danio nes rhostio miliwnau o honynt mewn un noson. Bernir yn gyffredinol mai dynay cynllnn mwyaf effeithiol i'w difa, cyn iddynt ddyfod yn ddigon cryfion i ehedeg Dadleua rhai dros arfer y modd- ion dwyreiniol i'w difa, sef agor ff isydd dyfnion ar draws y maesydd, a'u gyru idd- ynt i'w claddu yn fyw. Mae rhai ffarm- wyr yn rholio y maesydd a. rholiau haiarn trymion, nes malurio y pryfed yn yfflon. Ond y mae eraill gyda mwy o sel nag o ddoetliineb yn anog y bobl i gynal cyfar- fodydd gweddio i ofyn am waredigaeth oddiwrthynt. Mae y syniad hwn yn awgrymu fod y grasshoppers wedi eu creu yn wyrthiol, i ddifa ymborth a phoeni pobl; ac os yw yr athrawiaeth yna yn gywir, y mae yr hwn sydd yn ceisio eu difa yn herio y Goruchaf! Dywedir mewn adroddiad o ddyffryn y Republican yn Minnesota, fod miliwnau ar filiwnau o locustiaid yn barod yn difa y cnwd, a bod y ffarmwyr yn tori eu calonau mewn trallod, ar ol haner newynu drwy y gauaf, wrth fywar elusen; ac ar ol llafurio yn galed i roddi yr hadau a anfonwyd iddynt yn y ddaear yn amserol. Ond wedi i'r egin tyner ddyfod allan yn eu holl bryd- ferthwch, weley pla dinystriol yn eu llwyr ddifa! Yn ol ymddangosiadau pethau yn bresenol, bydd y dinystr eleni yn llawer gwaeth nag ydoedd y llynedd. Z-1
JJNIAD CANADA A'R UNDBB.
JJNIAD CANADA A'R UNDBB. Nid llawer o ysgrifenu, areithio na dad- leu fu y blynyddoedd diweddaf ar y pwnc o uno y Canada gyda'r Talaethau Unedig; ond hyny oedd testyn dadleuon y dydd yn barliaus, cyn y gwrthryfel diweddar. Yr amser hwnw yr oedd llawer o bleidwyr i'r symudiad yn y Talaethau Deheuol, yn mhlith y rhai oeddynt a'u bryd ar eangu tiriogaethau caethwasiaeth. Dichon nad oeddynt yn bwriadu cario caethiwed i'r Canada; ond buasai dynesiad y Tiriogaeth- au Brydeinig at y Talaethau GoglecMol yn esgus da dros eu hymdrechion egniol hwy I i uno Cuba gyda'r Talaethau caethwa sol. Darparwyd ar gyfer hyn lawer gwaith yn y De; ac aeth minteoedd rhyfelgar allan o New Orleans a phorthladdoedd eraill droion, i'r dyben o oresgyn yr Ynys, a bu ami anghydfod rhwng y wlad lion a Spaen o herwydd hyny. Ni fu gair o son am uniad Cuba a'r wlad hon, ar ol diflaniad caethwasiaeth. Adnewyddwyd y pwnc o uniad Canada yn ddiweddar; a chan fod y blaid Dory- aidd yno yn gwanhau, y mae cyfeillion y symudiad yn lluosogi yn gyflym. Gan fod diwedd y can' mlwydd cyntaf o fodolaeth y Weriniacth Americanaidd mor agos, y mae cefnogwyr uniad y ddwy wlad yma ac yn Canada, wedi galw Cynadledd i gyf- arfod yn Buffalo, ar y 4ydd o Orphenaf nesaf, i gymeryd y pwnc dan ystyriaeth, a threfnu moddion i ddwyn hyny oddiam- gylch yn heddycliol, ar y 4ydd o Orphenaf, 1876, sef prif ddiwrnod y dathliad can- mlwyddol. Mae y blaid Doryaidd yn Canada yn cliwerw yn erbyn y symudiad, ac yn galw cefnogwyr yr anturiaeth yn deyrnfradwyr hacddianol o gosb; gan aw- grymu y bydd i Loegr anfon ei byddin a'i llyiiges drosodd i atal y fath drychineb.— Diau fod y syniad hwn yn eithafol, canys mae y fam wlad wedi rhoddi ar ddeall i'r Canada lawer gwaith, fod yn rhaid iddi gymeryd gofal o'i buddion ei hun, a llyw- odraethu ei helyntion cartrefol. Mae y llinell-derfyn rhwng y ddwy lywodraeth yn achosi anhwylusdod mawr i fasnach, a chostau diangenrhaid i'r ddwy wlad. Pe yr unid y gwahanol drefedigaethau Canad- aidd gyda'r wlad hon, a'u gwneyl yn Dal- aethau o'r Undeb Americanaidd, ni fyddai eisiau deddfau y tollau a'r tariff na swydd- ogion cyllidol ar y terfynau. Diflanai acliosion y cweryla parhaus yn ngliyleh y pysgocl lynoedd, yr arfordir ac aberoedd yr afonydd, yn nghyd a'r amodau mas- nacnol cydgyfnewidiol. Bwriada o 900 i 1,000 o gynrycliiolwyr gyfarfod yn Buffalo i ddadleu y pwnc yn ei wallanol agweddau; eithr nid ydyw yn debyg y bydd canlyniadau pwysig i'r pen- derfyniadau a fabwysiedir yno. Mae plaid gref yn Canada yn awyddus am annibyn- iaeth hollol, heb fod dan warogaeth i'r Taiaethau Unedig na Lloegr, a cliredant na lwyddant hyd nes y sicrbant hyny. Dadleua y dosbarth ucliaf, sef y teuluoedd mwyaf pendefig, cli-os ynilynu yn geidwad- ol wrth y fam wlad, ac ni fynant son am ysgariaeth. Dengys hyn fod yno dair plaid yn wahanol yn eu hamcanion. Mae y Ffrancod a'u disgynyddion am annibyn- iaeth a Gwerinlywodraetli gartrefol; ond mae y Gwyddelod, a dosbarth cymysgedig o wahanol genedloedd, yn ffafrio uniad a'r Talaethau Unedig, neu ryw beth yn hytrach na bod dan iau Brydain, tra y mae y Seison a'u disgynyddion yn glYllJ. yn dyn wrth y fam wlad. Rhaid iddynt ddyfod yn u ifrydol ar ryw gynllun, cyn y llwyddant y naill ffordd na'r Ilall; ac nid ydyw ond o'eredd dadleu y pynciau, tra y pery y fath wahaniaeth yn eu syniadau. Mae tynged y Canadiaid yn eu dwylaw hwy eu z, hunain i raddau pell yn awr, ac mae ar- wyddion nad ydyw Lloegr yn bwriadau ymyraeth llawer a'u helyntion cartrefol.- Ceir eglurhad cyflawnach ar syniadau y bobl mewn cysylltiad a'r symudiad ar ol cynadledd Buffalo.
1775- TIGONDEROG A -1875.
1775- TIGONDEROG A -1875. Mae y dathliadau canmlwyddol wedi de- chreu o ddifrif; ac ar ol y dathliad gorfol- e Idus yn Concord a Lexington, Ebrill 19, cymerodd un arall le yn hen amddiffynfa Ticonderoga, ar y 10fed cyfisol. Mae am- ddiffynfa Ticonderoga yn Swydd Essex, N. Y., ar linell rhwng Lake Geroge a Lake Champlain. Mai lOfed, 1875, cynullodd tyrfaoedd lluosog o bobl o ogleddbarth New York, Vermont, Connecticut, New Hampshire, &c., i Ticonderoga, i'r dyben o gydlawenhau am Mai lOfed, 1775, pryd y cymerwyd y gaerfa gan y GitE, IMOUNT- AIN Boys, dan arweiniad y milwr byd en- wog ETIIAN AIVLEN. Ar doriad y dydd taniwyd 13 o fagnelau, un am bob Talaeth a wrthryfelasant yn erbyn Lloegr, ac a ffurfiasant yr Undeb yn y dechreu. Crc- wyd y cynwrf cyntaf yn y dathliad drwy ddyfodiad tren i mewn yn cynwys 17 o geir, yn llawn o'r Green Mountain Boys, a'r Green Mountain Girls, o Burlington, Rut- land, St. Albans, &c.; ac wedi hyny daeth Iluoedd i mewn o'r agerlongau a'r gwalian- ol ffyrdd. Yr oedd amrywiol gwmniau milwrol yn bresenol, seindyrfaoetld, a gwa. hanol gymdeithasau, y rliai oil a ymffurf- 17, iasant yn orymdaith ysblenydd, dan ar- weiniad y Mil. Joseph Egloff. Cliwifias- ant eu banerau, ac ymdeithiasant ar hyd yr un llwybr ag y teithiodd Ethan Allen a'i filwyr gan' mlynedd i'r un diwrnod.— Wedi cyraedd pen y bryn lie saif adfeil- ion yr hen amddiffynfa, dechreuodd y bobl arcliwilio yr hen furiau drylliedig, ydynt yn awr yn gofgolofnau, yn dangos lie y bu ein cyn dadau yn colli eu gwaed dros ein rhyddid a'n hannibyniaeth ni yn yr oes hon. Chwareuodd y seindyrfaoedd wahanol alawon cenedlaethol, a rhwygwyd yr awyr a banllefau gorfoleddus. Wedi adferu tawelwcli, agorwyd y gweithrediad- au drwy weddi effeithiol gan y Parch. L. V. Price; a thra yr oedd efe yn llefaru, bu pawb mor ddistaw a'r bedd. Can' mlyn- e id yn ol, rhuadau magnelau a thinciadau cleddyfau yn gymysgedig a dolefau y elwyfedigion, a glywid yn yr un He. Tra- ddodwyd yr anerchiad longyfarchiadol gan y Mil. W. E. Calkins, mewn ymadroddion priodol, ac effeithiol. Prif areithiwr y dydd oedd y Parch. F. J. Cook, yr hwn a aeth yn fvr dros hanes boreuol y lie. Yr oedd Ticonderoga yn perthyn i'r Ffrancod 113 o flynyddoedd yn ol; wedi hyny cym- erwyd y lie gan y Seison, a 100 mlynedd i'r boreu hwnw y gorchfygwyd milwyr George IV, gan Ethan Allen a'r Green Mountain Boys. Traddodwyd amryw o anerchiadau doniol yn ystod y dydd. Un o'r amddiffynfeydd pwysicaf yr am- ser hwnw oedd Ticonderoga, gan fod mag- nelau y castell yn llywodraetliu yr un g ffordd i ddal cymundeb rhwng yr afo-i Hudson a'r Canada, drwy Lyn Champlain. Adeiladwyd yr amddiffynfa yn gadarn, canys mae rhai o'r muriau ithfaen yn sef- yll yn awr, ac maent dros ugain troedfedd o uchder. Yr oedd y lie yn eang iawn, ac wedi ei ddarparu i gynwys canoedd o fil- wyr mewn diogelwch. Yno yr oedd yr arfdy a'r pylordy, a mynedfeydd tanddae- arol i'r milwyr o'r naill fan i'r llall. Yr oedd y pyrth yn gedyrn a mawrion, ac yn cael eu liamddiffyn gan wrthgloddiau a rhagfuriau. I Ganwyd y nodedig Ethan Allen yn Con- necticut; ond yn 1769 symudodd i Ver- mont, lie y gwnaeth ei hun yn adnabydd- us i'r holl drefedigaethau, drwy ei frwd- frydedd yn amddiffyn iawnderau y sefydl- wyr. Ni chafodd oncl yehydig o fanteision addysg, ac yr oedd yn lied anghoethedig yn ei arddull wrth siarad yn gyhoeddus, ond yn. frwdfrydig a grymus. Dywedodd Washington am dano, "fod rhyw beth yn