Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AT LODWICK A THOMAS.
AT LODWICK A THOMAS. LOUISVILLE, KY.-Da mechgyn i1 ced- wch y cwac yna yn y ddalfa hyd y deuaf fi i'w ryddhau. Camsynied wnaethoch, boys, pan yn galw "twll y baw" yn bwll glo." Am danoch chwi, eich dau, does dim esbonio i fod o'm tu i, oblegyd a'r Gwyliedydd y bu pob peth. Am eich gwasanaeth da yn dal y cwac, gwnaf fy ngoreu er eich anfon i Washington, i lanw y swyddi o heddgeidwaid y Ty Gwyn—un y dydd, a'r llall y nos; yn y swyddi hyn, gellwch gael digon o gyfle i exercisio'r llais drwy waeddi, '1 Who's thereV Diolch i chwi am ddal yr "hen gwac o dwll y baw." Yr eiddoch yn serchog Parson Price. O. Y. Dylaswn ddweyd fy mod am i chwi gaggo yr hen gwac. —P. P.
GARIBALDI A'I GELWYDD.
GARIBALDI A'I GELWYDD. WANAMIE, PA.-Goddefwch i mi hys- bysu lluaws darllenwyr y DRYCH, trwy ei golofnau, mai celwydd noeth ddywedodd "Garibaldi" yn ei ysgrif o'r lie hwn, Mai 6ed, pan yn dywedyd "fod crefyddwyr yn pleidio dawnsio, gan ddywedyd mewn effiiith, fod mwy orinwedd mewn dawnsio nag sydd mewn gweddio." Nid oedd gan y personau y cyfeiria efe atynt ddim llaw yn y dawnsio o gwbl. Mae yn ymddangos mai nid egwyddordda "Garibaldi" a'i eyn- yrfodd i ysgrifenu yr hyn a ysgrifenodd; ond yn hytrach cenfigen a malais tuag at y personau hyn sydd a'r contract. Paham y mae felly, nis gwn; sicr nag ydynt wedi gwneyd anghyfiawnder ag ef mewn perth- ynas a'r contract. Ni chlywais fod un o'r cenedloedd eraill wedi dweyd gair; ond pan ddeallodd rhai o'r Cymry pwy oedd i gael y contract, llanwodd eu mynwesau o genfigen; ac yn mhen tua blwyddyn o amser, dyma ffrwyth eu cenfigen yn ym- ddangos trwy y wasg. Anwyl ddarllenydd, mae yn galed dweyd fod rhai o'r cenfigen- wyr hyn yn frodyr eglwysig. 0 Dywedodd Garibaldi hefyd "fodymarai teuluoedd yn dioddef eisiau bwyd." Os oes, arnynt hwy eu hunain y mae y bai.— Mae yma Relief Committee, ac mae ar law ganddynt yn brescnol tua phedwar deg (40) o fafrilau o gan a pliethau eraill—er nad ydyw pob peth i'w gael fel pan yn gweith- io. Yn awr, carwn ddywedyd wrth y cyf- aill "Garibaldi," os oes rhyw beth wedi ei ddweyd yn yr ucliod yn anwireddus, yn 01 eich tyb, gellir cael prawf arno, os byddwch mor garedig a rhoddi eich enw priodol. )( l' eiddoch—Daniel J. Lewis. ATEBIAD AR^LL,—Ysgrifena Mr. John D. Williams hefyd i ddweyd fod "Gari- baldi" wedi drwg-liwio pethau yn Wan- amie, a gofyna. t 1. A oedd gwaitn y cref- yddwyr iiyny yn rhoddi eu pleidlais dros rentu yr ystafell (ar ol cael eu sicrliau gan y Dancing Clubs na fuasai dim anweddaidd yn cymeryd lie,) yn milwrio yn erbyn lies a llwydd y gymdeithas? 3. A oedd hyn yn profi eu bod yn dweyd fod mvvy o rinwedd mewn dawnsio na gweddio; a pha.bryd yr esgeulusodd .y crefyddwyr y cyfarfod gweddi er bod yn bresenol yn y dancing p■arty? 3. Pa bryd yr amlygwyd fod un- rhyw bersoii mewn os na chydym- ffurfiai a cliais y Bosses gyda golwg ar y dawnsio? Gan na ateuai un dyben daionus i barliau y ddadl hon, dymunem liysbysu na bydd i rii gylioeddi dim eto o'r naill ochr na'r llall.—[GOL. Y DRYCH.]
GOHEBW\li :OI3iOWYDPOR.
GOHEBW\li :OI3iOWYDPOR. IRWIN STATION, pA.-Yr wyf, MRI. Gol., am gynyg yn r, am y tro cyntaf erioed ysgrifenu ilcii er eich rhy- buddio rh,, g syrthio i'r un amryfusedd agy gwnaeth eraill cyn liyn o barthcd y lie ucliod. Yr ydwyf wedi cael ar ddeall fod newyddiadur arall ar gau ei golofnau rhag rhai o ohcbwyr y lie, o lierwydd eu gwaith 171 yn tynu anghariad a chenfi^en rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol sydd yma. Mae yn llawn bryd i hyny gymeryd lie.— Byddwcli ochelgar os. bydd i rai o lionynt droi eu cynyrchion cyfclireulig tua'r dwyr- ain yna, rhag y bydd i'r DRYCH gael ei restru yn mysg eraill, fel yn fagl ar ffordd liwyddiant crefydd a moesoldeb. A clian eich bod chwi yn dealt Physiognomy yn drwyadi, feallai na fyddai darlun lmch o honynt yn anerbyniol gdnycli. Maegenym haner llond eae o honynt, ond dosbarthwn hwynt yn bum dosbarth. Y cyntaf yw I I Yspi-ycid & Co." a gyfar- fyddant yn Oak st.; the noble men of fashion, fine talkers in front, but beware behind. Y chydig amser yn ol, cyhoeddasant ddyn- ion i'r byd yn goesau duon, pryd nad oedd strike na son am un yn y lie. Ac yn fwy diweddar cawn liwynt yn cynllunio ffordd i greu cenfigen rhwng brodyr crefyddol, ac ar yr un pryd yn cynal cyfarfodydd gweddio i ofyn am ddylanwad yr Ysbryd. 0 ddifrif, onid yw ymddangosiad y fath litlioedd mewn newyddiadur Cymreig yn ddigon a gwneyd i bob Cymro ymrestru a Die Shon Dafydd wrth weled y fath ang- hysondeb. Yr ail ddosbarth yw Jarker Snapper y cracli feirniad, yn crychu ei ymenydd i ddatigos gwahaniaeth rhwng coes d a choes dd: Y trydydd yw Ap Icuan, yn cario y pot soft soap, ac wrth slicio un yn splasio eraill yn gyuddeiriog. Pa ryfedd mewn difrif fod cin cenedj yu y lie hwn yn gwrthod derbyn y cyhoeddiadau'Cymreig? Pagan gaiff fod enw y pedwerydd. Y mae hwn heb ei efengyleiddio, ac am bechu yn erbyn "Yspiydd & Co." Cafodd ei suspendio am ddweyd y gwir gan y Gol.— Yr olaf yw y bacligen Ihvyd. Ei nod ef yw pwffyddiaeth. Tipyn llai wnaiff y tro, gyfaill, oblegid mae rhai dynion mor dueddol i explodio. Nid fy amcan wrth roddi desgrifiad byr o'r personau uchod ydyw creu cenfigen, Mr. Col.; na, mae fy meddwl yn mhell oddiwrtli hyny, a charwn ynfawr weled dynion y pin a'r inc yn ys- tyried beth maent yn ei wneyd, a threio bod yn gyson a liwy eu liunain, a pheidio achosi rhegfeydcl a melldithion ar y papyr- au hyny ydynt yn ddiniwed. Mae dvmon yn talu arian am eu papyrau, gan ddisgwyl cael rhyw adeiladaetll trwyddynt; ac os na allwn anfon ryw beth a wna les, gwrthod- wcli hwynt rhag i'r DHYCII fyned ar y rhestr a nodais o'r blaen. Yn bresenol, y mae y DRYCH yn uchel iawn yn ei gymer- iad.—Moloch.
WEST BANGOR, PA.
WEST BANGOR, PA. Er fod amgylchiadau yr ardal fechan, dawel a neillduedig hon, yn weddol gysur- us, ac nad oes yma son am "sefyll allan" na "chloi allan"—nad oes yma feistri gorth- rymus, na gweithwyr cynhyrfus; eto mae rhyw bethau pur anymunol yn ein cyfarfod ninau yn fynych y dyddiau hyn. Mae gofidion angeu yn amgylchu llawer teulu yma—llawer o galonau yn gwaedu, llawer o'r llinynau tynaf a thyneraf yn cael eu tori—llawer o ddagrau heilltion yn Ilifo, ac ocheneidiau trwm-lwytliog yn mynych ddyrchafu o galonau drylliedig. Oes, mae llawer o rai anwyl yn llithro o'n gafael ac o'n golwg am byth; rhai yn cael eu liir gystuddio, ac eraill yn cael eu cipio yn sydyn i'r tuhwnt i'r lien. Bu yma bedwar o gladdedigaethau mewn byr amser. Y cyntaf ydoedd un Mrs. Jane Jones, priod Griffith Jones, a march Abel a Margaret Jones, Slate Hill. Bu yn nychu am amser maith, ond bu farw yn y diwedd yn lied sydyn ac anysgwyliadwy, a hyny cyn bod yn cliwech ar hugain mlwydd oed. Yn mhen ychydig ddyddiau, daeth corff un arall yma i gael ei cliladdu, o Bangor, Northampton—un oedd wedi cael ei geni a'i magu yma, sef Mrs. Mary Evans, priod Owen Evans, neu fel yr aduabyddid hi yma, Mary Roberts, merch y diweddar John Roberts y gof. Yr oedd yn ddyneS ieuanc hynod brydweddol. Ni chafodd ond byr gystudd. Cymerwyd hi ymaitli yn wraig ieuanc tua 23 mlwydd oed er galar dwys i'w pherthynasau a'i cliyf- eillion. Y nesaf ydoedd Miss Ellen Ann Wil- liams. Yr oedd hithau yn blanliigvn rhy dyner i ystormydd croesion y byd hwn.— Bu yn dihocni yn raddol am tua thairblyn- edd. Er ei bod yn addfed i fyned o'r byd, yr oedd llu mawr o gyfeillion a pherthyn- ,,y asau yn alarus iawn wrth ei rhoddi yn "nhy ei hir gartref." Yr olaf oedd claddedigaeth yr hen chwaer, Mrs. Margaret Williams, priod Griffith Williams, un o'r hen frodyr hynaf a pharchusaf yn yr ardal, Mae ei marwolaeth sydyn hi wedi taflu rhyw bryder dwys dros y gymydogaeth. Mae pawb yma yn teimlo i'r byw dros ei pliriod oedranus yn ei drallod blin. CREFYDDDOL.—Mae y ddwy eglwysyma, yr A- a'r T. C. heb neb i'w bugeilio. Bu y Parch. John Williams, hen weinidog yr A., ond yn awr o Bangor, Northampton, gyda ni yma am ddau babboth, a phregethodcl yn gymeradwy iawn i'r ddwy gynulleidfa. Wedi hyny bu Mr. Edward C. Evans, o Goleg Princeton, yma am ddau Sabbotli, a rhoddodd yntau foddlonrwydd cylfredinol i'r ddwy gynulleidfa. Buan y delo ylna ryw fugail ysbrydol.—Pererin.
CREFYDDOL AC EGLWYSIG.
CREFYDDOL AC EGLWYSIG. -Gwel yr Esgob Bowman wers pwysig i'w thynu oddiwrth y scandal yn Brooklyn, a chyngora weinidogion ei eglwys i fod yn ofalus o bartli eu gciriau, eu tymerau, eu harferion, a'u cysylltiadau cymdeithas- ol, ac uwciilaw y cyfan, i ymddiddan yn gynil ac ymddwyn yn ochelgar gyda gwragedd." —Mae yn y Talaethau Unedig bedwar cant o gyhoeddiadau crefyddol. Perthyna 47 ohonynt i'r Methodistiaid; 41 i'r Pab- yddion; 35 i'r Bedyddwyr; 29 i'r Presby- teriaid; 21 i'r Esgobyddion; 14 i'r Luther- iaid; 14 i'r eglwys Germanaidd Ddiwyg- iedig; 9 i'r luddewon; ac 8 i'r Cynulleid- faolwyr. ,a yr eglwysi Efengylaidd yn Jerusalem 400 o aelodau o wahanol genedl- oedd. IUtifa y Protestaniaid brodorol yn Galilea rhwng 500 a 600. Mae oddeutu 11 1,400 oblant dan addysg yn yr ysgolion Protestanaidd yn yr oil o Palestine. C CWRDD CnWARTEROL BEDYDDWYR DE- HEUBARTH O. A W. V A.-Cynaliwyd hwn yn egIwys Carr's Run, Pomeroy, 0., Eb- rill 17-18. Yn y gynaaledd am 10 y dydd cyntaf, ar ol anerchiad gan y Parch. D. B. Williams, cafwyd sylwadau gan y cenadon ar sefyllfa. yr eglwysi. Yr oedd tangnef- ydd yndclynt yn gyffredin, ac arwyddion adfywiad mewn rhai lleoedd. Mae wyth o eglwysi yn yr undeb hwn, sef Ebenezer a Centrevillo., yn Gallia Co.; Portland, Beth- lehem a Jackson, yn Jackson Co.; Carr's Run, Meigs Co.; ac eglwysi Mason City a Hartford City yn. W. Va. Yn y cyfarfod dau o'r gloch cafwyd ancrchiadau ar bwnc neillduol gan Lewis Morgans, Bethlehem; D. H. Thomas, Edw. Edwards a Richard Collins, o Mason City; a D. Daniels, o Carr's Run. Pregethwyd yn yr hwyr a thrwy y dydd dranoeth gan y Parch. Jona- t'nan E. Thomas, D. B. Williams a D. S. Jones. Cafwyd cyfarfodydd da a chynull- iadau lluosog. Cynelir y cyfarfod nesaf Gorphenaf 14—15, yn 'eglwys Bethlehem, Jackson Co., O.—D. S. Jones. WILKES-BARRE.—Achos y Bedyddwyr.— Da genym allu dweyd fod achos y Bedydd- wyr Cymreig yn y He hwn yn myned rhag- ddo. Boreu Sabbotli, yr ail o'r mis hwn, cawsom yr hyfrydwcli o wrando ary Parch. H. C. Parry (Cefni) yn traddodi pregeth Saesneg alluog ar Fedydd, oddiwrth y geir- I z, iau Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwed'g."—Marc 18. 16. Ar ol y bregetli gweinyddwyd yr ordinliad o fedydd trwy dansuddiad ar dri o bersonau. Bu y Bed- yddwyr Seisnig mor garedig a rhoddi ben- tliyg eu capel i ni i gynal y gwasanaeth. 11 Yn yr hwyr cafwyd pregeth rymus yn y zll capel Cymreig, a gweinyddwyd yr ordin- had o swper yr Arglwydd.. Yr ocdd llew- yrch neillduol ar yr oedfaon.—Bedyddiwr. UNDEB EGLWYSIG A BEDYDDWYR MORRIS RUN, PA,-Oni bae nodiadau anfoneddig- aidd, gwrthun a dibwynt y Parch. J yn y DRYCII am Ebrill 29ain, yr oeddwn wedi meddwl peidio a'ch blino yn rhagor ond gair neu ddau eto. Mr. Jones, nid yw haeru a gwawdio ffeithiau ond ffordd wael iawn i'w gwrthbroft. Ni feddyliais am bigo neb, ac ni theimlais ychwaith frath- iad gan neb. Ni amheuais erioed rif aelod- au y B. Bethyw eich amcan wrth nodi y ff aitli.? Os mai profi nerth moesol yr en- wad, mae yn gyf-relyb i waith y cybydd wrth brynu llyfr, sef edrych ar y quantity, ac nid ar y qnality-safon aumherSaith iawn. Conwcll am fyddin Gideon. Pwy yw gelyn y B ? Nid myfi—nage yn wir. A .aetlium yn elyn i chwi wrth ddywedyd y gwir, fel Paul wrth y Galatiaid ? Ffordd liawdd iawn i brofi haeriad yw dweyd ei fod yn aros. Cyfeiriais chwi at y rhai a ymgeleddwyd genym, sef y rhai a ffoisant am noddfa aclilysurol yn adeg yr ymryson- fa fawr gan y B. fel y rhai cymwysaf i farnu, os oes sail i'ch haeriad. Gofynwcli iddynt, maentmewn sefyllfa i dystiolaetb u, os mynant. Nid er mwyn eu harian, nac er mwyn diddymu y B. y cawsant lety dros nos genym; ond er mwyn iddynt gael llonyddwch i addoli Duw, yr hyn oeddynt wedi fethu gael gan y B. meddynt. Felly fe wel y deallgar mai y B. oedd yn ceisio diddymu eu liunain. Verbum papientt sat est," (Mae gair yn ddigon i gall). Mae eich cydmariaeth o'r haul i osod allan natur gwirionedd yn wrthun iawn.- Gwydckom fod gwirionedd yn achlysur i ddrwg, fel y mae deddf yn achlysur i bech- od, ond nid yn achos o hono. Mae eich dull yn osgoi yr hyn a ddywedais yn profi ei fod yn wir, sef na fynech fel B. uno a'r enwadau eraill mewn pethau crefyddol. Onid gwir hyn ? A pha angen oedd myn- ed i dymcr ddrwg am hyn ? Diolch yn fawr i chwi am eich esboniad o'r "pethau difudd;" gwnaethocli drugaredd a mi, oblegid mae eicll eglurhad yn cynwysgwers newydd i mi. Macnt yn deilwng o awdur- dod a gallu anffaeledig y Pab, ac y mae yn sicr nad yvr y neb a greda ac a haera beth- au fel hyn am enwadau CristionOgol eraill mewn satle i resymu a hwynt, ond y dylid yn garedig resy mu drostynt. Mewn enwad yn honi y fath anffaeledigrwydd, disgwyl- id cysondeb mewn ffydd ac ymarferiad.— Er engraiift, dyna rai o aelodau y B. yn cydgyfranogi gyda y paganiaid hyn, a thrwy hyny yn euog o dori eu cyfamod eg- lwysig a deddfau y B.; eto derbynir hwy yn ol i gymundeb y brodyr heb edif eirweli, Gallwn enwi rhai a gafodd eu derbyn felly. Neu os gwnaethant gyfaddef, buont yn dorwyr 11 won. Ond credaf fod ganddynt fwy o barch i'w gair a'u cymeriad da, na boddloni enwad trwy ddweyd anwiredd. Honwch na fedyddiwcli neb ond y rhai a broffesant edifeirweh, a chred yn y bed- ydd, wrth reswm ond i chwi ail feddwl, chwi ddygwch i gof eich bod wedi bedydd- io rhai heb gredu. Nid wyf yn ameu eich hysbryd gweddi, na'ch egwyddor ddirwest- ol, nac ychwaith eich bedydd. Yr wyf fi er's llawer dydcl yn rhoddi mwy o bwys ar waith Ysbryd Duw ar y galon, na gwaith dyn ar gorff dyn. Mae bedydd gan y B. fel yr A. yn rhy lydan i fod yn ddrws i'r eglwys. Undeb crefyddol oedd y cwest- iwn; a chan eich bod wedi ei adael, a myned at fater arall, gan wadu y llall, gad- awaf yn y fan hon, rhag eich blino.-S wedydd.
EHESWM AC YSGRYTHYR.
EHESWM AC YSGRYTHYR. AT MR. HUGH WILLIAMS— Nid liawdd rhoddi atebion "eglur, anghwm- pasog a boneddigaidd," i ofyniadau sydd mor ddiffygiol yrr y priodoleddau hynj ag ydyw yr eiddocli, cyfeiriedig ataf trwy y DRYCH. 0 leiaf, nid hawdd i nd. Eto gwnaf a allaf i'ch boddhau. Gwir i mi "geisio," ac yr wyf yn ddigon hunandybus i gredu i mi hoyddo hjfyd yn fy erthyglau i ddatigos fod cynawmadau -Cristionogaeth, fel ei dcallir gan y rhai a :P-yfenwir yn uniongredwyr, yn gosod ei Sefol lianiad uwciilaw amheuaeth. Profi ei rhssymoldeb oedd eu hamcan, a bod eich o-oganiadau chwi a'cli brodyr o lioni fel Syfundraith a wna y trais mwyaf ar Ileswm yn anghyfiawn a disail. I ategu fy ng-os- odiadau o'i plilaid, yn gyson a'r fath fwriad,^ myfi a ymgedwais yn ochelgar a bwriadol' at ffeithiau a moudau ymresymiadol a gyfreithlonir ac a barchus gydnabyddir gan Reswm yn ddigonol i clerfynu acliosion eraill. Nid ydwyf yn credu fod Pabydd- iaeth, Mahometaniaeth, Confuciaeth, Zoro- a,steraeth, Buddhaeth na Rhesymoliaetli, ar wahan, na'chyda'u gilydd ychwaith, wedi gwneyd nac yn gwneyd, nac yn alluog i wneyd, nacyn arncanu at icnegd cymaint o les yn mllOb rhyw fodd i bcrson- au ac i'r byd, ag y mae Cristionogaeth, hyny yw, Uniongredaeth wedi ei ddeehreu ac yn sicr trwy Dduw o'i orphen. Eto, fel y gwypoch fy mod, yn nglyn a'r mater hwn fel rhai eraill, yn barod i wrandaw ar ac i dderbyn rhesiom, ymrwymaf yma—os prof well y gwrthwyncb, fel y dywedvvcli, "y gall weh yn ha-wdd" -1, ganiatau fir un- waith, yn ddiwarafun, ac ar gyhoedd i chwi yr oil a ofynwch ar eu rlian. Dyna atebiad diamwys i'ch gofyniad cyntaf. Am yr ail, digon yw dweyd nad ydycli eto wedi sefydlu y gwyn o anghysondeb yn ein herbyn, o lierwydd einbodyngorseddu Rheswm i'r graddau ygwnawn mewn cref- ydd, ac yn diorseddu Rhesymoliaetli.— Profwch yn gyntaf, os gwelwch yn dda, fod Rheswm a Rhesymoliaeth, yn eu liys- tyrion arferedig a dealledig yn dermau z7, cyfystyr, ac a newidiant a'u gilydd, fel ag yr ydych chwi trwy rywbeth tebyg i Juggleriaeth Buddhaidd wedi eu new id. Nid ydycll anwybodus o'r ffaith mai barn gydwybodol miliynau o ddynion goraf a mwyaf goleuedig y ddaear eto yw, mai yr liyn a ffrostgar-gyfenwch yn Rhesymol- iaeth, o holl grefyddau rhanau diwylliedig I y 11 y ddaear, ydyw y dlotaf o Beswm, a'rlawnaf o Ragfarn. Yn ngoleu y crybwylliad yna— oedd amlwg i bawb ond y dall-bleidiol o'r blaen-fe welwch cliwitliau mor anmherth- ynasol a disynwyr eich gofyniad-"Pa les ymresymu i gondemnio rhesymu?" yn ei gyfeiriad ataf fi neu ryw un o'm dal- iadau. Cincinnati. G. GRIFFITHS.
GAIR AT IOBTHRYN (iWYNKDIJ.
GAIR AT IOBTHRYN (iWYNKDIJ. CHATTANOOGA, TENN.—Goddefwch i mi, Barchus Syr, trwy gyfrwng y DRYCH, ofya ,,y 1=1 un neu ddau o gwestiynau i chwi mewn perthynas i'r chwedlau a daenir ar liyd a lied y wlad, yn fwyaf neillduol Pennsyl- vania, eich bod yn cynghori pobl i beidio dyfod i Tennessee, am y rheswm nad yw 7 bywydau nac, eiddo yn ddiogel yma. Ai gwir y eliwedl eich bod wedi dweyd neu ys- grifenu hyny? 2il. Os gwir, ar ba sail y dygwch y fath gamgyhuddiadau yn erbyn eich brodyr yn East Tennessee; neu a oes genych unrhyw brawf neu brofion o fod "hen ysbryd gelyniaethus y De" (fel y dy- wedir), yn parhau yma yn rhyw ardal neu ran o'r wlad ? Os oes, pa le a pha fodd yr amiygwyd hyny i chwi? Gadawaf fi chwi ar hyna yn bresenol, gan obeitliio y gwnewch ateb yn foneddigaidd, gan fod o bwys i'r cyhoedd gael gwybod y gwir, a iliyny yn sylfaenedig ar ffeithiau o berthyn- as i fanteision ac anfanteision y wlad, cyn ymfudo iddi. Yr eiddoch, &c.-I ap Llwyd.
IXENLADRAD ETO.
IXENLADRAD ETO. PROSPECT, N. Y.—MR. GOL. Diameu eich bod yn barod i gyd-ddweyd a mi fod llen-ladrad yn ddrygwaith a gyflawnir yn fwy ami gan y genedl Gymreig na yr un genedl arall dan haul. Dylid priodoli y drygwaith eithafol isel hwn i ddosbarth aieillduol o grach-feirdd a chrach-lenorion, y rhai na allant sefyll ar eu gwadnau eu hun- ;ain. Y mae y mwyafrif o'r dosbarth hwn yn wasgaredig ar gyfandir y wlad hon; ac oblegid eu mawr awydd am ddyfod yn feddianol ar enwogrwydd fel beirdd a llen- orion, a hwythau yr un pryd heb y gallu awenyddawl a meddyliol ynddynt eu hun- ain i gynyrchu dim a theilyngdod ynddo, ant i ladrata cynyrch awenyddawl a ffrwyth meddyliau eraill er lliniaru angerddol- rwydd eu chwant aflan. Trueni, meddaf, fod y fath ddosbarth a hwn yn cael anadlu awyr daear am foment. Wrth edrych yn frysiog dros '-Flodau'r Oes" am Rhagfyr, 1873, gwelais y dcrnyn awenyddol a theimladol hwnw o eiddo loan Maethlu, sef Can y Cryclynddo, ac Ellis E. Ellis, alias Ellis Glyn Dyii, yn honi ei hun yn awdwr i'r gan; ac ond i'r neb a fyno droi i'r rhifyn ucliod o Flodau'r Oes, cailf weled enw y llenladradwr digywilydd uchod uwch ei phon. Y mae y dernyn ;prydferth 'hwn idd ei gael yn llyfr bardd- onol loan Maethlu. Nid ydym yn coiio yn sicr y tu dalen; ond yr ydym yn sicr ei fod yn agos i ganol y llyfr. Yr ydym yn .gwybod am y dernyn yn dda, canys dysgas- om* ef idd ei adrodd mewn cyfarfod llen- yddol amser yn ol. Y mae loan Maethlu heddyw yn ei feddrod, fel nad all amdditlyn ei eiddo gonest a gwerthfawr ar y ddaear; ac o barch idd ei goffadwriaeth anrhydedd- ais, amddiffynaf ef tra byddwyf ar dir y ibyw. Y mae "Can y Oryd" loan Maethlu air am air gan y llenladradwr dan sylw, yn decllreu- 'J! cwsg, 0! cwsg, fy maban bach, Mae calon bur dy fam Yn gwylio uwch dy ddwyrudd iach, Rhag ofn i ti gael cam," &c. Prospect, N. Y. D. DTJL. HUGHES, (Eilon Mon.)
DYDMADUR I'R T. C.
DYDMADUR I'R T. C. COLUMBUS, O.-Caniatewch i mi alw sylw eglwysi y T. C. at yr angen mawr sydd arnom am gael Dyddiadur yn perthyn i ni yn y wlad hon, er gallu bod yn Drefnyddion, a gwybod hanes ein gilydd yma a thraw; ac mae'r Parch. Thomas Jenkins, Utica, yn alluog i ddwyn un teilwng o'r enwad ac o hono ei hun, os ym- gymer a'r anturiaeth. Bum yn ymddyddan ag ef am hyn, gan ei anog; ac felly yr oedd fy anwyl frawd, y Parch. R. H. Evans, yn teimlo. A beth pe cymerai cymanfaoedd y gwanwyn hyn i sylw, a'r cyfarfodydd dos- barth iiefyd, a nodi brawd yu r 10b dos- barth i gasglu yr ystadegau yn brydlon, a sicrhau derbynwyr iddo, a thai am danynt? Gweithredwn yn nnol a cliais ein hanwyl frawd Jenkins yn y DRYCH diweddaf; ac yna sierheir liwyddiant yr anturiaeth.— David LLtrries.
"SEB.EN tiOMEB" A I'HETHAU…
"SEB.EN tiOMEB" A I'HETHAU EKAILL. AT T. AB MORGAS.—Arnvyl Gymro: Y mae yn dda gan fy enaid i chwi ddyfod alian a'ch gofyniad mor foneddigaidd. Vr oedd fy syndod i yn llawu gymaint a'r eiddqcli chwi wrth weled y fath wall; ac nid oeddwn ond disgwyl y buasai rhyw un yn dyfod allan. Cotiwch mai Seven Gomer oeddwn wedi ysgrifenu, ac nid "Seren Cymru," ac mai Joseph Xlavries, Abertawe, oedd y cycliwynwr a'r golygydd; ac yn y flwyddyn 1825. Nid oedd ond fy nhad a William Rees, Ty'rheol, fEarmwr parciius, yn byw tua milltir o'r hen bentref henafol y Felinfoel, yn derbyn y "Sercn Gomer" yn y plwyf. Am y gweinidogion, nid oedd ond Daniel Davies a David Bowen yn mhlwyf Llanelli gyda y Bedyddwyr yn gweitiidog- aetlm yn y Felinfoel bob yn ail ddydd Sul; ac nid oedd ganddynt hawl ar gyflog, fel ag sydd y dyddiau presenol, ond un yn rhoddi torth a'r Hall yn rhoddi cosyn o gaws a Aarli o gig, ac arnbell i ffarmwr yn rlioddi bwsiel o wenith ac ymenyn, a'r gof yn pedoli y ceffyl bach i gario yr hen bregethwr, yn lie arian y weinidpgaeth. Dyna fel yr oedd gweinidogion yr ej-engyl yn byw pan oeddwn i yn hogyn. Bu yr Hybarch Daniel Davies yn gweinidogaethu yn hen gapel y Felinfoei am 50 mlynedd, a llawer blwyddyn heb weled yr un swllt; o ganlyniad, gwaith anhawdd oedd iddo gael chwe' cheiniog yn y mis i dalu am "Seren Gomer;" ac wedi i Ieuan Ddu, unig fab yr Hybarch Joseph Harries, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawe, farw, gofid- iodd yr hen wr i'r fath raddau fel y bu yntau farw mewn ychydig amser wedi hyny. Syrthiodd golygydcliaeth y "Seren Gomer" i Samuel Evans yn nhref Caer- fyrddin, ac ar ei ol ef i'r Parch. Hugh Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn heol Awst; wedi hyny i'r Parch. David Rhys Stephens, ac yna i'r Parch. Daniel Davies (Davies Ddall). Y mae 30ain o flynyddoedd o "Seren Gomer" wedi eu rhwymo yn nhy fy chwaer yn y Felinfoel, yn nghyd a llawer o lenyddiaeth afyddai yn ddyddorol i'r oes hon. Gweinidog arall yn y plwyf o'r enw Howell Williams, gydayr Annibynwyr, yn nghapel Als; gwr doniol a doeth oedd ef, ond efe a fu farw; ac ar ei ol ef y daeth y Parch. David Rees o'r Athrofa, yn fachgen gwridgoch a didroi, yr hwn a enwogodd ei hun yn mhlith yr A. trwy Dde a Gogledd Cymru. Ond nid oedd yr A. yn teimlo dyddordeb yn "Seren Gomer," ac o gan- lyniad bu i'r Parch David Rees gychwyn y "Diwygiwr." Y William Rees crybwylled- igoedd y dosbarthwr o'r "Seren Gomer," a chlywais ef a fy nhad yn siarad yn ami mor ddlehwacth oedd pobl at lenyddiaeth -am eu bod yn gwrthod cefnogi Mr. Har- ries yn ei amcan clodwiw. Am y gareg y bu Paul yn pregethu, a Dafydd ap Owen, Lawgoch, nid wyf yn coflo; ond yr oedd hen draddodiad yn mhlith yr hen bobl fod Owen Lawgoch mewn ogof yn Llandebie, 9 1 tuag wyth milltir i'r dwyrain o Llanelli; a plian y daw adferiad pob peth oddiamgylch y bydd Owen Lawgoch yn dyfod allan i sefyll yn ei ran yn mhlith y Cymry. Gobeithio y bydd yr uchod yn boddloni y cyfaill mwyn, T. ab Morgan.—-Yr eiddoch yn serchog, loAN GLAN CY-NON. Austin, Nev., EbriU 15.
"0 NA BAWN ADERYN BA ;K."
—Nid oes ar diry byw ond saith yn unig o'r 64 cardinaliaid oeddynt yn bresenol pan ddyrchafwyd y Pab i gad air Pedr yn Rhufain. —Dywedir fod y pianist enwog, Haus Yon Bulow, yn bwriadu talu ymweliad a'r Talaethau Unedig yn fuan. —Paham y mae newyddiadur yn debyg i frws dancdd? Ateb. 0 lierwydd y dylai fod gan bawb un o'i eiddo ei hun yn lie benthyca eiddo ei gymydog. —Meddylia y Salem Post, pe buasai George "Washington ei hun wedi cael ei groesholi gan Mr. Fullerton, y cawsid allan ar ol y cwbl, ei fod wedi dweyd celwydd yn ngliylcli y goeden hono. —Yn ml) alas Llwyn On gynt fe drigai pendefig. Efe oedd ysgweiar ac arglwydd y wlad, Ac iddo un eneth a anwyd yn unig, A hi, 'nol yr hanes, oedd aeres ei thad; Aeth Cariad i'w gweled, yn lan a phur lencyn, Ond codai'r ysgweiar yn afar ac erch, A saethodd at Gariad, ond gwyrodd ei linyn, A'i ergyd yn wyrgam i fynwes ei ferch! Rhy hwyr ydoedd galw y saeth at y llinyn, A'r llances yn marw, yn welw a gwan, Bygythiodd ei gleddyf trwy galon y llencyn, Ond ni red odd Cariad un fodfedd o'r fan! 'Roedd Golud" ei darpar yn hen ac an- ynad, A geiriau diweddaf yr aeres hardd hon Oedd, "Gwell genyf farw trwy ergyd fy Ngliariad Na byw gyda Golud' yn mlialas Llwyn On.—■Ceiriog. ■—Dyma sydd ar gareg fedd yn Colorado: He was young, He was fair, But the Injuns Raised his hair. —Y llinellau canlynol a ganodd Sion Lleyn, yn y llwyddyn 1793, ar y gwahan- iaeth rhwng y gau a'r gwir.fardd: Nid bardd pob clerfardd cul-arfod—i'n Sy'n pletliu rhigymod; [plith, Nid oes un hardd fardd i fod, Da ei dwf, a dau dafod. Dau lafn yn yr un safn seeli, Un o nef a'i enwi'n iach; A'r llall yn chwith, brith a brych, Ail i fardd, ac wele fwch. Cywir-fardd, hoyw-fardd ei hawl-—car Cerddoriaeth oreliestawl; [ddirwyn L Cynefin ei fin o fawl, Can fwynaidd cynefinawl. j "0 NA BAWN ADERYN BA ;K." 0 na bawn aderyn bach, Yn gallu canu 'n llawen, Uwch holl ofidiau gau y byd, A rhyddid dan fy aden; Cawn felly fyw heb friw na braw Uwchlaw caethiwed bydol, A chanu'n iach yn awyr Duw, A byw mewn bro iacliusol. 0 bren i bren ehedeg wnawn, A gwenu uwch gelynion, Er iddynt geisio anfon saeth Marwolaeth i fy nghalon; Fel eos canu'n ber a wnawn, Neu'r fronfraith ar y brigyn, Neu fel ehedydd bychan llwyd, Uwcli Dyff i-yi-i Clwyd y, gwanwyii. Mae dyrys amgylchiadau'r byd A bywyd yn lielbulus, A throion rhagluniaethau'r lor Fel tonau'r mor peryglus; Mae ami un i'r bedd yn myn'd O'm hen gyfeillion siriol, A minau'n wylo, ambell dro, Mewn gwlad a bro estronol. FE SYCHWYD HEN FFYNON Y BRYN:— Ffarwel i'r hen Frank am y gwyddau, ys- gyfarnog a phesant a fish; ni welir yn rhagor mo'r hogiau, yn ddiau, yn llenwi ei ddish; cwningod gant lonydd i bori, a phesgi ar ochr y foel; torgochiaid a gwich- iaid yn gwaeddi, "Old Franky, fe sycli- wyd yr oel." Fe sychwyd hen ffynon Bryn Derwen, yn sychach na bryniau 'r hen BS1, aeth salmon a phenog a 'slywen, yn ffynon Bryn Derwen yn sal; ceir clywed y ceiliog yn canu, a'r twrci yn moli am hyn, y pyod a'r petris yn gwenu, pan sychwyd hen ffynon y Bryn.—J. S. Jones (yr Hen Sion), Fair- haven, V. 1. Y GOGES A'I CHAWL. BROOKFIELD, O.-Creodd coginiaeth y goges lawer o chwerthin yn mhlith yr hen lanciau, a tliuedda rhai o honynt i gredu ei bod hi yn deillio o linach yr hen wraig hono a anrhegodd y Brenin Sior a. bowlied o gawl yn Mrycheiniog, pan oedd o ar ym- daith drwy Gymru gynt. Ond wrth edrych dros ddarpariaeth y crochan, arweinir ein meddwl i gyfeiriad arall, sef i Sir Aber- teifi, lie y mae y merched yn gwneyd cawl o'r amrywiol fwyd-lysiau a enwid yn yr ysgrif. Ac os mai o gymysgfa felly y porthir y llanciau yn y boarding-houses, ddwy waith yn y dydd, nid oes angen rhyw lawer o fara ac ymenyn arnynt, a bydd y cig erbyn y pryd nesaf. Gweithir y cawl hwn gan dewed o'r Ilysiau, fel y saif y liwy ynddo megis hwylbren, ac nid syn fyddai genym glywed y llanciau yn gwaeddi yn ngeiriau y Prydydd gynt, pan yn helpu ei hun mewn gwledd, ac y rhoddwyd y pars- ley sauce iddo gyda'i gig: Cawl myn d—1 ydi o-y llysiau Yn lluosog sydd ynddo; Ymenyn 'rwy'n ddymun 0, Rho liwn i'th gwn, \vr o'th go'. Er hyny, pell ydym o wawdio cawl, o herwydd yr ydym yn lioff o hono, yn ei le, fel pob peth arall. Ond nn. thyhied y goges y gall lucliio 11 well i'n llygaid a dweyd fod ei chawl yn costio 50 cents; pe felly, bu- asai yn nhw}l metlidaliad er's talm. Pe dywedasai bum' cent buasai yn nes i'w lie. Ac y mae yr hyn a awgrymasom am wael- der a phrisiau uchel y boarding yn rhy wir o lawer—nid yn "unig yn Brookfield, ond mewn llawer o fanau eraill, a phriodol iawn, feddyliwn i, yw y cyngor i'r llanciau fyned i faichio, fel y gwnaeth nifer o wyr priod y dydd o'r blaen. Ni ddywedaf ragor yn awr, "gan liyderu y cawn ddiwygiad buan, ac y gwelir holl gogesau y w lad yn cario calonau o gig yn eu mynwesau, yn j He y rhai ceryg a gariant yn bresenol. HEN GARVIWR.