Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

"DYLANWAD Y PWLPUD."

News
Cite
Share

"DYLANWAD Y PWLPUD." GAIH AT "EPLIRAIM LLWYD." Y mae y gohebydd doniol "EPHRAIM LLWYD wedi gwneyd rhai sylwadau ar fy llythyr, a ymddangosodd ychydig amser yn ol, o dan y penawd uchod. "Eliydd i bob barnei llafar," a boed rhyddid i "Ephraim Llwyd," ac hefyd i'cli gohebydd o Iowa. Nid wyf yn 'cydweled ag E. Ll. pan y dy- wed, mai "gormod o ddysg, dawn a dylan- wad, sydd wedi, ac yn achosi i ddylanwad y pwlpud encilio." Atolwg, pa rai o'n pregethwyr Cymreig sydd wedi derbyn gormod o ddysg ? Ai Griffith Jones, Llan- ddowror; Jones, Llangan; Griffiths, Nev- ern; Williams, Pantycelyn; neu awdwr "Canwyll y Cymry ?" Ai nid teimlo dros anwybodaeth ac ofergoeledd y werin a gyn- hyrfodd Jones, Llanddowror, i sefydlu 3186 o ysgolion er rhoddi addysg i 150,215 o'r trigolion ? Bydd enwau y rhai uchod yn dysglcirio yn ffurfafen Cristionogaeth, pan y bydd enwau Dafydd Cadwaladr, Da- fydd Rolant, Siencyn Penhydd, a'r çy- ffelyb, wedi myned i ebargofiant oesol. Ni erys ond eu henwau moesol hwy yn unig; gweithredoedd sydd yn aros,ac nid geiriau. Pan oedd y byd yn un chaos o anhrefn, y peth cyntaf a wnaeth y Bod Mawr oedd creu goleuni; ac o'r dydd hwnw hyd yn awr, ymestyn mae'r byd at fwy o oleuni. Os nad oes eisiau dysgeidiaeth ar arwein- wyr y bobl, pa raid oedd dwyn Moses i fyny yn holl ddysgeidiaeth yr Aipht er ei barotoi i arwain plant Israel o'u caetliiwed, neu ddwyn St. Paul i fyny wrth draed Gamaliel er ei gymwyso i fod yn Apostol mawr y Cenedloedd? Gorchymyn Crist i'w ddysg}TbIion oedd, "Ewcli a dysgwch yr holl Genedloedd." Eto, St. Paul a ddy- wed, "Traddoda y rhai hyny i ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd." Pa gymwysdcr sydd mewn dynion annysgedig i esgyn grisiau ein pwlpudau, gan gymeryd arnynt fod yn ddysgawdwyr i'r bob! ? Mae tuedd yn hytrach yn eu gweinidogaeth i greu pen- boethni ac afreoleiddiwch crefyddol, megis gwynfyclu a neidio, &c., yr liyn bethau a gollfernir yn awr gan bawb, ond a achlesid gan amryw yn yr oesoedd a aethant lieibio, gan ddwyn Cristionogacth i anfri yn ngol- wg pob dyn gwybodus. Dywed E. LI., "Anfonwch ddynion wedi eu trwytho a'r Ysbryd Glan i'n pwl- pudau." Amen, meddwn inau. Ond gall dyn fod yn feddianol ar draed i gerdded ond pa lesad fyddant oni bydd ganddo hefyd lygaid i weled ? Dall yn arwain y dall fydd yno, a'r ddau a syrthiant i'r pwll. Y mae cyfnod wedi bod ar Gymrll y buas- ai i'r pregethwr grochfloeddio, Jokeea noor mm jurruk llunygen," achosi i'r Amenau ddyrchafu oddiwrth y gynulleidfa yn un fanllef fawr; ond erbyn hyn mae yr oes wedi ymlareiddio; ac i ateb hyny, gweinid- ogaeth yn cyfai-cli y meddwl yn hytrach na'r teimlad sydd yn eisiau. Y mae yn rhaid cael dysg a gwybodaeth i arwain a llywodraetliu mewn pethau crefyddol yn gystal a phethau tymorol. Atolwg i chwi, beth ydyw yr achos fod cymainto anhrefn, yniranu ac ymbleidio yn mysg crefyddwyr y dyddiau hyn? Ai nid am fod cynifer o ffug-ymhonwyr anysgedig, di-ddawn a di- ddylanwad wedi rhuth-o i fod yn arwein- wyr i'r bobl. "Fools rush where angels fear to tread!" Dywed E. LI. yn mllellach-"Cydmar- wch hwy (sef y dynion anysgedig) a rhai o'n Jacks starchiedig ni y dyddiau hyn- dynion (?)—rliai o honynt wedi eu chwyddo gan falchder o herwydd gormod o ddysg- z!1 o eidiaeth." Nid dyna gymeriad gwir ddysg- eidiaeth—nage ddim; boneddigaidd ydyw, addf vyn a diymhongar. Yn wir, y mae ffug-ymhonwyr anysgedig i'w cael, y rhai a wnant bobpeth er gwneyd i'r byd gredu eu bod yn ddysgedig! Y mae llawer o honynt yn ddigon pen-feddal i wario eu' harian am deitlau, y rhai sydd i'w cael yn y wlad hon, ac yn Germani, am brisiau rhesymol. Gresyn fod dynion mor Hol a gwario eu heiddo am y bubbles hyn—dynion ydynt yn hollol amddifad o ddysg a tlial- entau. Wel, meddweh chwi, llawer o beth yw dysga moesoldeb. Atolwg, a yw mynycli- wyr ein capeii yn fwy moesol fel rheol nag eraill ? Fel y mae yn resyn meddwl, y mae twyllo, liocedu, rlioddi pwysau bach a mesur cwta, cribddejlio, gloddesta, tyngu anudon a'r cyffelyb, yn bechodau ag y mae ychydig iawn o gondemnio arnynt gan bregethwyr, ac felly cyllawnir hwy mor gyff i-ediii gan grefyddwyr a plilant y byd. Darllenasom yn ddiweddar yn un o bapyr- au Cymru, y rheswm paham na letyir y pregethwyr teithiol fel cynt gan aelodau yn eu cylch, sef am eu bod yn rliy lygredig eu liiaith, a rhy isel eu moesau. Y mae yn llawn bryd i bobl gyfrifol gau liefjrd ddor y pwlpud rhagddynt. Gellwch roi i fyny gyda dylni, ond y mae anfoesgarwch yn anesgusadwy. Dywedaf wrth y rhai hyn fel y dywedodd Dafydd wrth ei weis- ion gynt—"Aroswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi." Y maeymddyg- iadau anoeth a phlentynaidd ein pregeth- wyr. diddysg yn sawru mor drwm o ysbryd culfarn a dallbleidiol, nes y maent o'r bron fel drewdod yn ffroonau ein dynion gwir fawr. "Ecclesiastes said, all is vanity [show it, Most modern preachers say the same, or By their example of true Christianity." Bydded i E. LI. ymgynghori eto yn nghylch y mater pwysig hwn, ac yna fe all- ai y daw i ganfod fod yn anhebgorol ang- enrheidiol y dyddiau hyn cael dynion o ddysg, dawn a dylanwad, i lanw ein pwl- pudau. Given, Iowa. M. G. THOMAS.

Advertising

Y FAM A'I BABAN.

RHYDDID CREFYDDOL.

EIN BHSILFPYRDE

[No title]