Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
NODION PEBSONOL.
NODION PEBSONOL. CYNI&IA Pwyllgor yr Eisteddfod a fwr- icdir gynal yn ninas New York y Nadolig nesaf, wobr o $40 am y Farwnad oreu i'r diweddar Barch. HOWELL POWELL; hefyd $10 am yr Hir a Tlioddaid, wyth llinell, goreji, yn feddargraff iddo, sef Gorchan chwie' ben, deg sill yr un, a thoddaid o 19 sill. Mae y Farwnad a'r Beddargraff yn agoted i'r holl fyd. JIAE gorsedd Ynys Enlli yn wag, mewn caalyniad i farwolaeth y Parch ROBERT "WILLIAMS, yn yr oedran teg o 81 ml vydd. .^YNELIR cyfarfod blynyddol nesaf y Gymcleithas Hynafiaetliol Gymreig yn Nghaerfyrclclin, o dan lywyddiaeth Esgob JONES, o Dy Ddewi, un o ysgrifenyddion y Gymdeitlias, ac am dymor, golygydd ei chylchgrawn chwarterol. YN ddiweddar traddodwyd darlith ragor- ol dan nawdd Cymdeithas y Cymrodorion, yn y Freemasons' Tavern, Llundain, ar "Sefyllfa y Celtiaid yn y Llwyth Japhet- aidd," gan Mr. JOHN Ruys, M. A., Arhol- wr Ysgolion ei Mawrhydi. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan Mr. Charles W. Wynn, M. P., yr hwn wrth agor y cyfarfod a adolygodd veithrediadau yr hen gym- deithas yn yr amser a basiodd, ac a siaradai yn obeitliiol am ei defnyddioldeb yn y dy- fodol. BARNA gohebydd o Milwaukee y dylasai cyfeiriad y Proff. LLEWELYN J. EVANS, fod yn fwy cyflawn yn Hysbysiad Eisteddfod Wisconsin. Dodwn ef yn y fan lion-Proff Ll. J. Evans, M. A., Lane Seminary, Cin- cinnati, O. GWELIR fod Pwyllgor Eisteddfod Hyde Park, Pa., wedi sicrhau gwasanaeth Mr. J. W. PARSON PRICE a Carl ZERRAHN, Bos- ton, yn feirniaid cerddorol, a disgwyliant gael atebiad cadarnhaol oddiwrth Gerddor arall o radd uchel o New York. Mae y Cad. Hartranft, a'r Anrhy. Horatio Gates Jones, wedi eu sicrhau yn lluwyddion. Deallwn fod gohebiaeth yn cael ei chario yn mlaen a'r Parch. J. GORDON JONES, M. A., gyda'r amcan o sierhau ei wasanaeth fel Beirniady Farddoniaeth. AR yr 16eg cyfisol, ymgasglodd nifer o etholedigion i 3 E. McMillan St., Cincinnati, 0., ar yr achlysur o Briodas Arian DAVID EVANS, Ysw., a'i briod hawddgar. Treul- iwyd amryw oriau mewn modd difyr iawn. Yn mysg y rhai oeddynt yn bresenol enwir Mr. Thomas a'i briod o ardal Racine, Wis., Dr. J. D. Jones, a Mr. Foulkes, efrydydd yn Lane Seminary. COFiit am ddamwain ddychrynllyd a ddigwyddodd yn ngorsaf Merthyr, D. C., yn mis Mai diweddaf, trwyyrhonyniweid- iwyd rhyw 80 o deithwyr ac y lladdwyd Mrs. MORGAN, priod Mr. Thomas Morgan, Ross & Castle Inn, Cefn. Dygodd Mr. Morgan gyngaws yn erbyn y Cwmni, a'r dydd o'r blaen, dyfarnwyd fod iddynt dalu £2,000 o iawn iddo ef a'i bedwar plentyn. Mwy o ddyfarniadau cyffelyb a barai i gwmniau rheilffyrdd fod yn fwy gwyliad- wrus. DARLLENWN fod Miss JONES, cliwser J. Collen Jones, yr hon sydd yn enedigol o Langollen, wedi ei hethol i fod yn brif athrawes ar un o Ysgolion Bwrdd Ysgol tref mor fawr a phwysig a Sheffield, Lloegr. DERBYNIWYD y newydd trwm yn Man- gor fod dau forwr adnabyddus o Ogledd Cymru—Capten HUGH ROBERTS o'r Con- way House, Bangor, a Capten GRIFFITHS, o'r Collingwood, Pwlllieli-wedi boddi yn Macabi, ger Callao, Peru, mewn canlyniad i ddymchweliad y cwch, yn yr hwn yr oeddynt yn ceisio rhwyfo i dir. Boddodd dau forwr hefyd yr un pryd. YMDDANGOSODD y nodyn canlynol yn y Milwaukee Sentinel am Ebrill 16eg: Y mae 11 Mr. THOS. C. WILLIAMS, hen breswylydd o Union Grove, Swydd Racine, yn cael cynyg myned yn weinidog y Llywodraetli i Peru, yn lie yr Anrhyd. Francis Thomas, sydd wedi ymddiswyddo. Nid yw Mr. Wil- liams eto wedi hollol benderfynu derbyn yr apwyntiad, er ei fod yn cael ei demtio i hyny gan$10,000 o gyflog. Os penderfyna dderbyn y swydd, bydd y Llywodraeth wedi sicrhau cynrychiolydd galluog yn mhrif ddinas y chwaer werinol. ARNOT, PA.—Nos Fercher, Ebrill 21ain, bu y Parch. C. JONES, M. A., o Morris Run, yn y lie hwn yn traddodi ei ddarlith ar Seryddiaeth i gynulleidfa fawr yn nghap- el y Presbyteriaid; a siaradodd yn rhagor- ol ar y gwahanol blanedau am tuag awr a haner. Yr oedd y gwrandawiad yn ddifrif- ol, a chododd awydd mawr ynom i ymfudo i'r Haul i edrych am waith tori glo, gan y byddai lawer iawn gwell, yn gymaint a bod tun ell o lo yma wedi ei throsglwyddo yno yn 27 tunell. Byddai cael gwaith yno yn fantais fawr i'r hyn ydyw yn ngwlad y ddaear yn bresenol. Yr oedd y mynediad i mewn i'r ddarlith yn rhad, a chasgliad ar y diwedd.—Herbert Lewis. PITTSBURGH, PA., Ebrill 22.-Nos Sad- wrn diweddaf cynaliwyd cyfarfod pur ddyddorol yn Neuadd .Oyfrinfa Roger Wil- liams ar gongl Market, st., a Fifth Ave., .gyda'r amcan o gyflwyno Clorian ardderch- og (Analyt/cal Balance Scale), yn ngliyd a phedair cyfrol hardd ar Fferylliaeth, i JOHN GRAY, Ysw., arolygydd galluog a chymeradwy y Soho Copper Works, fel arwydd o deimladau, caredig a pharchus y gweithwyr tuag ato. Yr oedd y rhoddion yn werth tua $300; ac yn gerfiedig ar y glorian yr oedd y geiriau- "PRESENTBD to JOHN Gray, Superintendent of the Soho Copper Works, by the workmen, April 17, 1875." 11 Cafwyd anerchiadau ar yr amgylchiad gan y boneddigion canlynol, yn mhlith er- aill: Mri. H. J. Thomas, John Jones, Evan Jones, Owen Jones ac Evan D. Evans. Y cadeirydd.oefcld yr Henadur H. J.'Thomas. -Cadvan.
I GWE,-TILFAOL--MASNAC-UOL._…
GWE,-TILFAOL--MASNAC-UOL._ I -Da genym gael ar ddeall fod gobaith am heddychiad buan rhwng y gweithwyr a'u meistri yn Ohio. Ysgrifena gohebydd o Coalburgh: "Credwyf y bydd y strike drosodd ddechreu Mai. Y maent hefyd yn darparu i gycliwyn melinau haiarn Youngs- town. Mae melinau Sharon yn gweithio i gyd yn awr. Diolch fod golwg weddol addawol ar fasnach eto." —Derbyniwyd newyddloa gyda'r pellebyr fod perchcnogion glofeydd Dekeudir Cym- ru yn cynyg agor eu gweithfeydd os bodd- lona y gweithwyr i dderbyn 15 y cant o ostyngiad. —Mae strike y mwnwyr yn Clay County, Ind., yn parhau o hyd, heb unrhyw argoel am ddealltwriaeth rhwng meistr a gweith- iwr. —Y "Contract" mwyaf a gymerwyd er- ioed ar y tro gan un felin Americanaidd, oedd contract a. melin haiarn Cleveland, i wneyd 12,500 o dunelli o reiliau haiarn, yn ol $52.75, a 11,000 o dunelli o reiliau dur yn ol $76.75, at wasanaeth y Cincinnati Southern. —Mae yr Iron Age yn beio meistri haiarn Pittsburgh am eu ffolineb yn caniatau go- fynion yr Undebwyr, sef $5.50 y dunell. Mae rhoddi i fyny i'r Undeb o dan yr amgylchiadau," meddai, "yn gyfaddefiad na fedr cyfalaf amddiffyn ei liun yn erbyn Undebau gweithiol; a bydd i hyn chwan- egu at ddylanwad a nerth yr Undeb, i ben- derfynu y cyflog." Ni allesid disgwvl dim yn amgen oddiwrth bapyr sydd yn dibynu ar y meistri am ei gynaliaeth. WILKES-BARRE, Pa., Ebrill 23.-Nid oes nemawr o gyfnewidiad ar sefyllfa y glo- wyr. Y inaent yn dal yn lied benderfynol i beidio rhoddi i fyny, er cymaint yw eu tlodi. Ar y cyfan, y maent yn ymddwyn yn dangnefeddus; ac ni buasai raid i'r awdurdodau alw allan y milwyr i gadw yr heddwch. Gwir fod y Gwyddelod yn creu tipyn o derfysg yma a thraw; a neithiwr ymosodasant ar dy1 a fferm James Morrison, tua thair milltir o Beech Mountain a thair- ar-ddeg o Hazleton, pryd y lladdwyd un o honynt ac y clwyfwyd dau. Cymerwyd pleidlais gan y mwnwyr yn Hillman's Mines, ddoe, ac yr oedd y mwyaf dros bar- had y strikes. L. PITTSBURGH, PA., Ebrill 22.-Bydd yn dda gan lawer glywed fod y sefyll allan yn mhlith y puddlers, yn ol pob tebygol- rwydd, ar ben; a gallwn ddweyd eu bod wedi dal eu tir yn dda am yn agos i haner blwyddyn, ac wedi cael buddugoliaeth ar y galluoedd grymus oedd yn ymosod ar- nynt. Y maent wedi sefyll amser a thy- wydd caled, ac yn ddiddadl, gallant gael addysg oddiwrth y brofedigaetli hon i ofalu mwy am danynt eu hunain pan fyddo hi yn amser da arnynt; felly y gallant gael y cyfaill hwnw wrth law. Y mae amryw o'r gweithfeydd wedi dechreu er's peth amser, ac yn eu plith yr American Iron Works, Cwmni Jones a Laughlin, un o brif weith- feydd y ddinas. Ystyrir hyn yn argoel di^onol o derfyniady sefyll ^an.—Crymbo o hoho.
Cli EF YD I) OL AC EGLWYSIG.
Cli EF YD I) OL AC EGLWYSIG. —Cynelir Cymanfa y Bedyddwyr yn Wisconsin, yn Bethania, Ridgeway, a Salem y Coed, i ddechreu am 2 o'r gloch dydd Mawrth Mehefin y 7ed, ac i barhau hyd nos Fercher yn Bethania; ac i ddech- reu yn Salem y Coed am 2 dydd Iau, ac i ddiweddu nos Wener. Taer erfynir ar yr eglwysi perthynol i'r Gymanfa anfon eu gweinidogion a'u cynrychiolwyr yn bryd- lon i'r wyl hon. Rhaid iddynt fod yn Ar- ena erbyn nos Lun, pryd y bydd rhai o'r brodyr yno i'w derbyn a'u cludo i ben y daith.—Rhys D. Jones. —Yn wyneb cylchlvthyr diweddar y Pab y mae deg o aelodau Pabyddol parliament Prwsia, wcdi arwyddo papyr yn protestio yn erbyn lioniad y Pab fod ganddo hawl i ddirymu cyfreithiau. Dywedant fod y cylclilythyr yn peryglu awdurdod y llyw- odraeth a gwadant fod deddfau yr Ymer- odraeth yn groes i gyfansoddiad yr eglwys na hawliau yr esgobion. —Dengys adroddiad y Cynulleidfaolwyr am 1874, fod aelodau eu hysgolion Sabboth- ol yn rhifo 385,338, yr hyn sydd yn enill o tua 13,000 ar y flwyddyn flaenorol. -Yn ystod y cynulliadau crefyddol blynyddol yn yr India, cyfrifir fod mwy o bobl yn ymgasglu at lanau yr afon Ganges, nag sydd o drigolion yn yr oil o'r Talaethau Unedig. Mewn rhai lleoedd a gyfrifir yn dra chysegredig, ymestyna y gwenylloedd am o 3 i 5 milldir o ffordd, a chywysant tua haner miliwn o bobl. Nid yw y perer- inion dan angenrheidrwydd yn awr fel I' cynt i wneyd eu teithiau ar draed gan fod y rheilffyrdd at eu gwasanaeth. Dichon fod Cristionogion yn ystyried yr arddangos- ladau hyn ynynfydrwydd, ond tybed ai nid oes ynfydrwydd llawn cymaint ag ystyr- ied yr amgylchiadau, i'w gael yn nes gar- tref. & WRTII WELY ANGEU Y PARCH. JOHN JONES, BLAENANEHCH, D. O.—YSGRIFENA Mr. Daniel Williams, Rhyd, Blaenanerch, fel y canlyn at Thos. Davies, Ysw, watch- maker, o'r ddinas hon: Yr oeddwn i gyda'r hen bererin, y diweddar Barch. JOHN JONES o'r lie hwn, arliyd y noson olafy bu fyw. Hawdd oedd gweled yn nechreu y nos na fyddai fyw nemawr o amser. Deffrodd tuag 8 o'r gloch, a dywedodd, "Na, Na, chollir dim o honynt. Maent wedi costio yn rhy ddrud; taiwydyr hat- ling eithaf drostynt," ac yna syrthiodd drachefn i gysgu. Wedi bod yn rhoddi bwyd iddo tua 12 o'r gloch, a phan yn ei roddi i orwedd, agorodd ei lygaid a gofyn- odd, "Sutymaeheno Daniel bach." Yn mhen ychydig dywedodd yn floesg, "Mae y graig yma; yr wyf yn teimlo fy mod ar y graig." Tua dwy awr wedi hyn clywn ef yn adrodd yr hen benill melus, Os gwelir fl bechadur Ryw ddydd ar ben fy nhaitli." Yr oedd hwn yn un o'r penillion lioffaf ganddo bob amser, a pharhaodd i dderbyn cysur oddiwrtho hyd y diwedd. Prin ddau fis y bu Mrs. Jones fyw ar ei ol. Bu hi farw yn dra anisgwyliadwy. Aeth i'w IIWY gwely fel arferol, ac yr oedd wedi marw cyn 12 o'r gloch dranoeth. Yr oeddwn i wedi galw yno oddeutu deng munyd cyn iddi farw. MORRIS RUN, PA.—Cynaliodd ysgol Sab- bothol Annibynwyr ylle hwn ei chyfarfod Tri Misol dydd Sul, Ebrill yr lleg. Dech- reuwyd cyfarfod y boreu trwy ganu ton, adrodd penod, a gweddio. Yna adrodd- wyd y benod gyntaf o'r Datguddiad gan yr ysgol yn gyifredinol, a holwyd oddiarni gan ein gweinidog. Yr oedd cyfarfod y pryd- nawn wedi ei fwriadu i'r plant a chawsant hwyl neillduol mewn adrodd a chanu. Ar y diwedd cafwyd ton gan y cor. Yn ngliyfarfod yr hwyr cafwyd adroddiadau, dadleuon, areithio a chanu. Er ei fod wedi ei drefnu i bobl mewn oed cafodd y plant ran lielaeth o hono. Canodd y cor amryw ddarnau dan arweiniad galluog Mr. David Williams, a tlierfynwyd trwy ganu "Can Moses. "-Phillips. VIENNA, O.-Ebrill 18fed, bedyddiwyd wyth o bersonau ar broffes o'u lfydd yn Mab Duw, trwy drochiad gan y Parch David Hopkins, Mineral Ridge. Mae golwg lew- yrchus ar yr achos yma yn bresenol. Er ein bod yn amddifad o fugail i fyned i mewn ac allan yn ein plith, eto, nid yw y pen bugail wedi ein gadael.—M. J. M. -l..
LLA WE It MEWN YCHYDIG.
LLA WE It MEWN YCHYDIG. —Mae Cwmni y New York Central R. R. wedi rhoddi gorchymyn i'r holl swyddog- ion yn y Gorsafoedd, a cheidwaid y cludai ar hyd y ffordd, i wisgo unweddwisg (uni- form) yn ol larpariadau y gyfraitli, er eu gwahaniaethu oddiwrth bersonau eraill. —Darfu i'r Capt. Mix gymeryd i'r ddalfa nifer o fwnwyr yn ngwlad y Bryniau Duon, yn unol a'r gorchymynion a rodd- wyd allan amser yn ol; ond anfonodd yr Arlywydd ato i'w rhyddhau ar yr addewid na fydd iddynt oresgyn gwlad yr Indiaid, —Fel yr oedd dau ddyn wedi cael gor- mod o wirodydd yn ceisio tori y drws i fyned i Rush's Tafarn, yn Wales, Mass., yr wytlinos ddiweddaf, saethodd y per- chenog y ddau i farwolaeth. —Yr oedd y tywydd yn hynod o oer yn Ontario, Canada, yr wythnos ddiweddaf, ac ar rai adegau bu y gwres-fesurydd naw o raddau islaw zero. I Gwertllwyd addoldy Dr. Hall, New York, ar gongl y 5tli Avenue a 19th St., yr wythnos ddiweddaf, am $340,000. —Darfu i'r llifogydd diweddar ddinystrio y pontydd ar Ifordd haiarn y Tawelfor. fel na fu yr un gerbydres yn alluog i fyned drwodd am ddyddiau lawer; a chafodd nifer mawr o deithwyr eu hatal ar y Ifordd —Fel yr oedd dau yriedydd, Lewis Erbe a Henry Dugan, yn cweryla yn Phila- delphia yr wythnos ddiweddaf, tarawodd Erbe Dugan ar ei ben a darn o haiarn fel y bu farw yn y fan. —Glaniodd yr Anrh. John Jay, gwein- idog diweddar y T. U. yn Vienna, a'r Mil. Jerome Napoleon Bonaparte, yn ninas New York, ar yr un agerlong, yr wythnos ddi- weddaf. —Mae y carwyr priddfeini (hod-carriers) ar strike yn Brooklyn, am $2.50 y dydd am wyth, awr, tra y mae y gosodwyr pridd- feini wedi cytuno i weithio 10 awr. Mae y strike wedi tallu lluoedd allan o waith. —Esgynodd y Proff. Donaldson mewn awyren ddydd Mawrth, Ebrill 20, o Phila- delphia; ac ar ol myned yn dra uchel, daeth i lawr ynagQsi Atco, N. J., pryd y torodd y Proff. ei hun yn rhydd oddiwrthi, yna ymsaethodd i fyny o'r golwg, ac ni welwyd hi mwy. —Fel yr oedd tri dyn yn glanhau geudy ar Staten Island, ger New York, yr wyth- nos ddiweddaf, daethant o hyd i rhwng $20,000 a $30.000 yn aur, yn y gwaelod. Ymddengys fod arianydd un o fanciau New York wedi bod yn byw yno, yr hwn sydd yn awr yn Ewrop, ar ffoedigaeth, wedi lladrata$160,000. SALEM, N. Y., Ebrill 19eg.—Y mae yn llawenydd genyf hysbysu Cymry America ein bod eto yn fyw ac yn iaeh, ar ol y fath auaf caled, yr hwn erbyn hyn ni a obeith- iwn sydd ar gael ei rifo yn mhlith y pethau a fu. Hefyd gallaf ddweyd ein bod oil fel gweithwyr yn aelodau o'r gymdeithas am- ddiffynol hono sydd i'w hadnabod erbyn hyn wrth yr enw "The United State Slate Quarrymen's Union;" ac er caleted yw yr amseroedd wedi bod yn ein plith er diwedd Tachwedd 1874, ac er mor lleied y,mae pawb o honom wedi ei enill at ei gynaliaeth, nid ydym wedi bod yn fyr o fwyt-A liyd at ddigon, a gwisgo hyd at glydwch; ond teg yw adrodd yn y diwedd, fod y storeJccepcrs a'u llygaid arnom yn wastad, a'r cwestiwn cyn- taf a ofynant i ni beunydd ydyw, "When do you commence at the quarry?" Gan hyny na foed i neb o honom, er mwyn ein cym- eriad ein hunain, ac anrhydedd ein cenedl, ddiystyru y caredigrwydd ydym wedi ei gael oddiar law yr Yankee ar hyd y gauaf presenol, trwy ddianc oddiwrtho yn anon- est, a dwyn arnom y fath warth mewn can- lyniad, na ddileir mohono gan amser, na thragwyddoldeb, oblegid "nid yw efe yn haeddu gweuthur o honom hyn iddo." Er cymaint sydd wedi ymfudo o'r wlad hon i'r hen wlad, yn nghorff y pedwar mis di- weddaf, yr ydym ni yma yn cael prawf dyddiol fod eto ormod o honom ar draws ein gilydd yn aros yn America, gan fod yma rywrai y naill ddydd ar ol y Hall yn ymofyn gwaith, o wahanol Dalaethau megis Pennsylvania, Vermont, Canada, &c., a'r hyn sydd yn rhyfedd yw, fod yma eleni drachefn, irai o blant caethglud Michigan wedi bwrw eu coelbren yn ein mysg. I Er calondid i chwarelwyr America, y mae yn dda genyf ddweyd wrthynt fod yr "Excel- sior Slate Co. wedi galw yn nghyd un- waith yn rhagor y naill asgwrn o'r peiriant i gydweithredu ag asgwrn arall, ac wedi gofalu am gytlawnder o'r moddion angen- rheidiol tuag at gynyrchu anadl einioes yn ei gyfansoddiad, yr hwn erbyn" hyn sydd yn gofalu am roddi bloedd i'r gweithwyr yn gyson hwyr, bore, a haner dydd. Hefyd y maent wedi agoryd y chwarel yn lied gyffredinol ar y cyfan, ag ystyried am- gylchiadau presenol y fasnach, er y dydd cyntaf o'r mis hwn, ond ni allaf hyd yn hyn ddywedyd mai eu harwyddair eleni ydyw "Pwy bynag a ddel, nis bwrir ef allan." Nid yw y rhagolygon ychwaith llawn mor addawol a gobeithiol eleni ag oeddynt ddechreu y flwyddyn o'r blaen. Y pryd hwnw yr oedd yma dri contract wedi eu tynu i'r good shape fel y dywedir, a'r gweithwyr arnynt yn amrywio o 12 i 15 mewn rhif ar bob contract; pryd nad oes yma yn bresenol ond un mewn cryfder, ac wedi cadw ei gymeriad i'r fath raddau, fel i'w alluogi i roddi gwaith i nifer pur uchel o chwarelwyr; hwnw ydyw yr eiddo Davies a Jones. Boed llwyddiant iddynt oddi- wrtho.— Joseph D. Jones.
Adolygiad y Wasg. .-
Adolygiad y Wasg. LL YFBA U AD A WD URON. MAE y Parch. M. A. Ellis, M. A., wedi ymddiswyddo o fod yn un o olygyddion y Cyfaill. Golygir y cyhoeddiad o hyn allan yn gyfangwbl gan Dr. Roberts. BWRIADA Mr. Hugh Humphreys, y cy- hoeddwr anturiaetlius o Gaernarfon, ddwYR allan lioedditdliyriafiaethol. ,,y DYWEDIR fod y nofel nodedig, Don Quixote, o'i hymddangosiad cyntaf hyd 1863, wedi myned drwy 1,175 o argraffiadau gwahanol—301 yn y Saesneg. MAE Mrs. Vaughan Williams, Bodlonva, Llanelwy, G. C., wedi cyfansoddi ton ar y geiriau—"Gwraig y llong a merch y Fell- ten," o waith J. Ceiriog Hughes, y rhai sydd fel y canlyn: 0 Mae gwraig wen y capten yn esgyn y graig Lie nytha gwylanod afrifed yr aig, A llefain y mae er pan aeth ar ei daith, Aeth deufis yn bedwar a phedwar yn saith; Mae'r lloer ar fy wyneb yn edrych yn brudd, A'r gwynt swnia'n elio- wrth basio fy nor, Fel pe baent yn gwyhod, ae ofn arnynt ddweyd Fod fy ngwr yn y nefoedd a'i long yn y m&r! A thranoeth a thradwy ar greigiau y mae Gwen wraig y dewr gapten o hyd yn parhau, Mae'n gofyn i'r gogledd, i'r dwyrain a'r de, Pa le mae'm hanwylyd, pa le, opa le! Ar hyn daeth merch fechan y fellten yn mlaen A llythyr yn dwedyd-oedd drydan ei hun- Mae'm llong wedi suddo, ond byw ydwyf fl Dysgwylia fi adref rhwng haner ae un." MAE W. E. Williams, Kingston, Green Lake Co., Wis., newydd gyhoeddi ail argraffiad o'r hen gerdd ysmala, "Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf," yr hon a enfyn i unrhyw gyfeiriad am ychydig o sentiau. YSGRIFENA Mr. W. fel y canlyn am y gan, "Dedwyddwch y Nef," mewn atebiad i nodyn y Cymro Gwyllt: "Yr wyf yn wir ddiolchgar i'r "Cymro" am ei sylwad. Ni wyddwn pwy oedd awdwr y gan, ond yr oeddwn yn gobeithio, pwy bynag ydoedd, ei fod yn mwynhau sylweddoliad o'i drych- feddyliau, yn yr ardal y canodd am dani. Daeth y gan i'm sylw pan oeddwn yn lied ieuanc, a bu canu i-nawr arni yn y cylch- oedd hyn, fel yn wir y mae eto i raddau. Cyhoeddwyd hi yn y Cyfaill ryw ugain mlynedd yn ol, ac y mae yn wir deilwng o fod yn mhob ty yn America. Carwn gael cyfeiriad gweddw yr awdwr, fel y gallwyf anfon copi o'r gan iddi hi a'i merch. Mae genyf nifer o gopiau ar law." DEALLWN fod awdl fuddugol Gurnos ar "Y Beibl," yn Eisteddfod Bangor, allan o'r wasg. YN nghymdeithasfa y T. C. a gynaliwyd yn St. Clears, Sir Gaerfyddin, ddiwedd y mis diweddaf a dechreu hwn, dymunwyd ar fod i'r holl gyfarfodydd misol ystyried y copi o'r argraffiad newydd o'r "Cyffes Ffydd," a dyfod a'u penderfyniad o barth iddo i gymdeithasfa Awst, yn Sir Benfro. Y MAE Bywyd ac Areithiau y Gwir Barch Deon Cotton, B. C. L., newydd gael ei gy- hoeddi, dan olygiaeth y Parch. W. Hughes, Curad Glasynfryn, Bangor; a rhydd y Church Bells ganmoliaeth uchel iddo ef a'i olygydd. "BLODEU'R OES A'R YSGOL. "-Yn ben- difaddeu mae ysgolion Sabbothol y Saeson yn fwy dyddorol na'r rhai Cymreig. Mae mwy o Dduwinyddiaeth egwyddorol feallai ynyrolaf; ond yn sicr, mae yr offerynau trwy y rhai y cyfrenir addysg grefyddol a duwinyddol yn tra rhagori gyda'r Saeson yn y wlad hon. Rhai o'r moddion hyn ydynt llyfrgellau pwrpasol i'r Ysgol Sul, a cliyhoed(Ladau dyddorol a phwrpasol i'r plant. Mae'n debygol na ddaw plant Cym- ry America byth yn ddigon Cymreig i gyf- iawnhau eglwysi i brynu llyfrgell i'r ysgol; ac anhawdd fyddai cael llyfrgell Gymreig i'r pwrpas. Ond yn sicr, mae "Blodeu'r Oes" dan olygiaeth y brodyr M. A. Ellis a T. C. Ed- wards yn cyflawni angen neillduol iawn yn ein hysgolion Sabbothol. Pan oeddwn i yn facligen, nid oedd y fath beth i'w gael a chyhoeddiad i blant yr Ysgol Sul. Difyrwn fy hun drwy droi dalenau "Athraw i Blentyn" oedd yn llyfrgell fy nhad wedi ei rwymo-hen gyhoeddiad anwyl i blant y Bedyddwyr yn Nghymru, a olygid gan Dr. Prichard, Llangollen. Pwy bynag a glywodd M. A. Ellis yn anerch cynulleiddfa, nid oes eisiau dweyd wrtho fod y brawd y very one i borthi plant yr ysgol Sul gyda dysgleidiau llenyddol a chrefyddol; ac mae'r cyhoeddiad bach hwn yn wir deilwng o ben a chalon Mr. Ellis.— Ni byddai arnaf ofn ei gydmaru gyda misolion goraf ysgol Sul yr Americaniaid; ac mae yn wir werth sylw a cliefnogiad pob ysgol Sul Gymreig yn America. Mae ein henwad ni, y Bedyddwyr Cymreig, yn amddifad o unrhyw gyhoeddiad. Yn awr, fy mrodyr, pan oedd genym y Glorian, gwnaetbym fy ngoreu i'w dal i fyny; ya- grifenais iddi, a threthais y DRYCH time and agam i'w chymeradwyo, ond bu farw o ddiffyg cefnogaeth. Heb ymddanc os fel yn cyfarwyddo fy mrodyr beth i wneyd dymunwn yn ostyngedig gymeradwyo i bob ysgol Sul Fedyddiedig y cyhoeddiad— 'Blo-dmt'r Oes." Dysgu ysbryderefyddMab Duw y mae. Y mae yn hollol anenwadol, ac mae genyf yr ymddiried llwyraf yn y golygwyr nad ymddengys dim ynddo i ym- yraeth a'n golygiadau neillduol ni fel enwad. Bydd cyflenwad o bob rhifyn o hono yn fisol yn sicr o ychwanegu at ddyddordeb yr ysgol yn mhob lie. Os byddwn am ddysgu dull a deiliaid bedydd i'r plant—y Testament Newydd yw y llyfryn goraf i'r pwrpas allwn byth gael- felly ni ddylem ddysgwyl hyn o ffynonell arall. Fel llenyddiaeth grefyddol ddifyr- us, nis gallwn yn bresenol wneyd yn well na lledaenu'r Blodett ar lwybrau'r plant. Yr eiddoch yn gydwybodol. Whitestown, N. Y. H. O. ROWLANDS.
[No title]
—Pan ryddhawyd Dr. Kenealy yn y llys yn Llundain oddiwrth y cyliuddiad o athrod rhwygwyd yr awyr a banllefau gor foledd. Yr oedd yno ftloedd o filoedd o bobl yn ei longyfarch, a chariwyd ef ar ys- gwyddau drwy yr heolydd. 1:1 —Cafodd un o esgobion y Mormoniaid ei chwipio yn ercliyll yr wythnos ddiweddaf gan werthwr glo, o herwydd iddo wrthod talu am lo a losgodd rhai o'i wragedd yn ei absenoldeb. —Derbyniodd T. Goodman, labrwr cy- ffredin a gweithiwr caled, yn Kansas City, y newydd cysurus ei fod yn etifedd darn o dir yn nghanol tref Columbus, 0., gwerth $1,500,000!
Prydain Fawr.
Prydain Fawr. LLUNDAIN, Ebrill 27.-Gwnaed symud- iad yn Nhy y Cyffredin i droi pawb allan, ond aelodau, ac os cymer hyn le, ni oddef- ir gohebwyr y newyddiaduron i mewn.- Ar y 23ain gwnaeth Dr. Kenealy symud- iad "fod Dirprwywyr Breiniol i gael eu penodi i chwilio i ymddygiad barnydd y Llys, yn yr hwn y profwyd yr Hawlydd Tichborne; a thraddododd araith rymus ar y pwnc am dros dair awr o amser. Dywed- odd fod y wlad oil yn anfoddlon o herwydd y cam a gafodd yr Hawlydd, ac nad oes dim a foddlona y bobl, ond penodiad Dirprwywyr Breninol i chwilio i'r pwnc; ac yr oedd wedi derbyn llawer o lythyrau o America, yn mynegu yr un syniadau. Haerodd fod y Prif Farnydd, Syr Alexan- der Cockburn, wedi dweyd mewn cwm- niaeth y byddai cfe yn sicr o roddi 15 mlynedd o alltudiaeth i'r Hawlydd, a hyny tra yr oedd y pra,wf yn myned yn mlaen. Dywedodd fod y Weinyddiaeth ddiweddar wedi ei gorchfygu o herwydd fod y bobl yn credu i'r llywodraeth ymddwyn yn ang- hyflawn tuag at yr Hawlydd. Eiliwyd y cyuygiad gan Mr. Whalley, yr hwn a dra- ddododd araith, yn cymeradwyo y symud- iad. Gwrthwynebwyd y penderfyniad gan Syr Richard Baggallay, Syr Henry James, Mr. John Bright a Mr. Disraeli. Dywed- odd Disraeli fod yn ddrwg ganddo weled dyn mor dalentog a Dr. Kenealy yn an- dwyo ei gymeriad drwy y fath gamsyniad y y breuddwydiol. Gwrthwynebwyd y pen- derfyniad drwy bleidlais o 433 yn erbyn 1. Bu cryn lawer o siarad yn nau Dy y Par- liament yn nghylch y llythyrau a anfonodd Bismarck at Belgium, i wrthdystio yn z, erbyn nodded oedd yn roddi i'r Pabyddion a'r Jeseuitiaid oeddynt yn ymgyngreirio yn erbyn heddwch Germani. Sicrhaodd Disraeli yn Nhy y Cyffredin fod nodyn cyntaf Bismarck yn gyfeillgar, ac nid bygythiol; ac mewn atebiad i Iarll Russell, dywedodd Arglwydd Derby fod ail nodyn Prwsia yn gyfeillgar. Amlygodd fod Lloegr yn meddwl llawer o annibyniaeth Belgium, yn gystal a heddwch Ewrop; ond heb adrodd ei farn bersonol ar y pynciau, dywedodd nad oedd yr un o honynt yn awr mewn perygl.
Ffi-aine.
Ffi-aine. PARIS, Ebrill 27.—Dywedir nad oes am- heuaetli ar y pwnc o etholiad M. Thiers i'r Senedd newydd; a chredir mai efe fydd y cadeirydd. Bu farw J. W. Kenos con- sular agent, y Talaethau Unedig yn Brest. Penododd y gweinidog addysg y Barnydd Cambert i ddyfod i'r Talaethau Unedig i arcliwilio a deall trefn addysg gyhoeddus yma; ac wedi ymweled a Washington, Baltimore, Philadelphia, New York, Bos- ton a dinasoedd eraill, rhaid iddo wneyd adroddiad i fwrdd addysg Ffrainc.
Germani.
Germani. BERLIN, Ebrill 27.-Hysbysir yn bresen- ol fod Rwsia ac Awstria yn cefnogi Prwsia yn ei hawliau ar lywodraetli Belgium. Y mae Ty isaf y Ddeddfwrfa wedi pasio deddf arall yn gwasgu mwy ar awdurdod- au yr Eglwys Babaidd, yr hon a fydd yn achos anghydfod adnewyddol yn y wlad. Nis gellir gweinyudu amryw o reolau eg- lwysyddol, na phenodi swyddogion clerigol yn annibynol ar y deddfau gwladol.— Rhoddodd yr liedd-ynadon yn Parson rybudd i'r holl Chwiorydd Ursuline, nad ydynt yn enedigol yn Prwsia, fod yn rhaid iddynt ymadael o'r wlad o fewn dau fis o amser.
Kliiva, Asia.
Kliiva, Asia. Hysbysa y newyddion diweddaraf o'r wlad uchod fod brad-fwriad i lofruddio y Rwsiaid wedi ei ddarganfod; ac mewn canlyniad y mae y Rwsiaid wedi anfon rhagor o filwyr i'r lie. Bernir fod gan Emir o Afghanistan law yn y brad; ac os ydyw hyny yn wir bydd y canlyniadau yn bwysig. —Mae gwallgofrwydd a gorphwylledd crefyddol yn cynyddu yn y Workhouses yn Liverpool, a lleoedd eraill, yr hyn a briodolir i ben-boethni crefyddol. —Nid oes llawer o bwysigrwydd yn y newyddion diweddaraf o Spaen; ond y mae y rhyfel cartrefol yn myned yn mlaen yn araf. —Prynodd llywodraeth Ffrainc 10,000 o geffylau yn Bohemia yn ddiweddar. —Cymer newyddiaduron Prwsia ddydd- ordeb mawr wrth sicrhau y byd nad ydyw y wlad hono yn cweryla gyda neb. —Cymerodd gornest le yn Paris rhwng dau olygydd ar y 19 cyfisol, gyda chleddyf- au; a chafodd y ddau eu hanafu, ond nid yn angeuol. Golygydd yr Union oedd un o'r enw Maggielo, a'r llall oedd Ragot, golygydd y Pays. 11 —Dywedir fod y Twrciaid wedi llofrudd- io 270 o Gristionogion yn Roumelia a Bulgaria, mewn tri mis.
[No title]
BANGOR, PA.—Gofyniad pwysig yn nglyn ag unrhyw beth yw. Pa beth yw ei ganlyn- iadau? Profir daioni unrhyw symudiadgan yr effeitliiau a gynyrclia. Os cymhwysir y rheol hon at y "sefyll allan," rhaid i ni ateb na ddaeth dim daioni oddiwrtho. Dichon na wnaeth ryw lawer o ddrwg chwaith, ond credwn fod yn haws canfod y drwg na'r da. Er i bawb wneyd ymgais i gael gwell pris, maent yn y diwedd wedi myned i weithio fel o'r blaen. Os na wna sefyll allan esgor ar ryw ganlyniadau gwell na hyn, gwell o lawer fyddai i ni fod yn llonydd. Mae amgylchiadau lluaws o'r cliwarel- wyr yn ddigon cyfyng erbyn hyn, o her- wydd fod y chwareli mor anniben yn agor. Aeth rhai i'r Hen Wlad, fisoedd yn ol, a diameu i hyny droi yn fantais iddynt hwy, yn gystal ag i eraill oeddynt yn dal cysylit- iad a hwy yn y wlad hon..Hawdd iawn yw condemnio personau pan yn symud o un fan i'r llall, yn enwedig os byddant mewn tipyn o ddyled, fel y gwnaed i radd- au gormodol mewn papyr arall. Oad têg yw hysbysu i Moses R. Moses anfon rhai ugeiniau o ddoleri i'w ofynwyr i'r wlad hon, yr hyn sydd yn profi nad yw yn un o egwyddor dwyllodrus ac anonest. Gallwn ddysgu, fel gwersi oddiwrth hyn, mai an- hawdd yw canfod pa fath egwyddor sydd mewn dyn pan mewn amgylchiadau neill duol; nad yw diffyg gallu yn brawf o ddi ffyg ewyllys ac egwyddor; ac y dylem gofio ein.gofynwyr er i ni fod filowdd o fill- tiroedd oddiwrihynt.—Nid Sylwedydi.
[No title]
Caed adroddiadau diweddar o Indiana, Ohio a Michigan, fod y tywydd sych ac oer a gaed yr wythnosau diweddaf, wedi niweidio llawer ar y gwenith. -Mae deddf yr Iawnderau Gwladol i g 1cl ei phrofl yn New York, gan i ddyn da gael ei atal i fyned i eisteddle yn -C,ilwareudy Booth.