Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

DYDD IAU, EBRILL 29, 1875.

PR A WF Y PARCH. Ll W. BEE…

YMDDIS W YDDI AD WILLIAMS.

ANQHYDFOD CREFYDDOL.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

" CANTATA YR ADAR."

News
Cite
Share

CANTATA YR ADAR." UTICA, N. Y., Ebrill 26.-Nos Iau diweddaf, yn addoldy yr Annibynwyr, canwyd y Cantata dlos uchod, gan G6r ysblenydd o blant, o dan arweiniad medrus Mr. R. T. DANIELS. Yr oedd y capel yn or- lawn o wrandawyr parchus a deallus. Peth newydd a dymunol i Gymry Utica oedd cael y fath arddang- osiad o allu a dylanwad eu plant, mewn ystyr gerdd- orol. Hyderwn mai cychwyniud yn unig ydyw hyn ac y daw ein cenedl i deimlo fod y plant yn rhwym o gael eu cefnogi mewn addysg, ac arddangosiadau llengarol a cherddorol, mewn trefn i gryfhau elfen Gymreig y ddinas, a sicrhau llwyddiant yr Ysgol Sul a'r eglwys. Esgusoder ni am fyned Vieibio rhan gyn- taf y programme, oddigerth sylwi fod Master Morton Owen wedi profi yn amlwg ei fod yn meddu talent gerddorol gref, a'i ddull medrus o leisio yn profi gof- al ei fam gerddorol. Agorwyd ail ran y cyngerdd gyda chydgan bywiog a tharawiadol, gan gtir o'r adar tlysaf a welsom er- ioed yn Utica. Yr oedd gwenau'r haf ar bob gwyn- eb, a gwisgoedd anian dlos yn cael eu cynrychioli i'r dim. Yr oedd y Bachgen (Mr. Henry 0, Hughes) mewn llais rhagorol, ae yn adolygu gwahanol ystori- au yr adar yn glir ac hunanfeddianol. Y Gwcw (Miss Fannie Hughes) a ganai ei hunaufwynhad," nes oedd y Bachgen yn eiddigeddu wrthi. Yr Eur- binc (Mri. J. G. Jones ac Owen Humphreys) yn ym- ffrostio yn ddoniol yn harddwch eu plyf, gan anog pawb i fod mor falch a hwythaa. Robin Goch an- wyl ar riniog y drws" (Mr. John Q. Hughes) yn dad- leu ei serchogrwydd a'i garedigrwydd diarhebol, gyda'r fath lwyddiant hapus nes enill serch yr holl adar prydferth i delori "Hwre" gynhyrfus nes ad- seinio yr holl goedwig. Gyrodd hyn fraw i galon yr Eryr (Bardd Cudd a W, M. Owen) yr hwn a dybiai yn goeg-falchus nad oedd neb cystal a galluocach nag ef, brenin yr adar; ond gyrodd hyawdledd y Plentyn [Miss Margery Morris] efe a'i ddychryn marwol" o'i olwg mewn eiliad, ac ni feiddiodd ddangos ei wyneb mwy. Gyda hyn dyma y Dryw Bach [Mr. Jo- seph Jones] mewn alaw felusber yn anog yr adar i welthio a chanu, a'r Fronfraith [Miss Hannah Wil- liams] yn ateb yr alwad mewn llais treiddgar, dwfn gysurus a thynerwch cerddorol, nes cynyrfu calonau holl gantorion y wig. Cododd hyn y Wenynen [Misses Rebecea Williams a Jennie Lewis] ar ei thraed, a brwd fu y ddadl rhwng y Fronfraith a'r Wen. ynen, nes i'r Bachgen benderfynu rhyngddynt.— (Rhwng cromfachau, goddefer i ni ddweyd fod dull naturiol a Chymreigaidd Rebecca yn adrodd ei darn- au, wedi gwefreiddio pawb; a phrofodd hi nad yw yn aninhosibl i rieni ddysgu eu plant, hyd yn nod yn nghanol estroniaid, i barablu yr hen iaith" yn llithriga chroew.) Parodd hyn i'r Eos [Miss Fannie Ellis] ddawnus eu cynghori oil i ganu "nog a dydd," gan ddangos ei phrydferthwch lleisiol ei hun, nes tanio ysbrydoedd tri Uchedydd [Misses Hughes a Morris a Mr. Jones] a'u nodau hwythau drachefn yn cynyrfu mawl y Bachgen a'r holl adar, nes oedd y goedwig oil yn adscinio y cydgan gorfoleddus- Cydganwn Haleliwia o glod i'r Arglwydd glan, &c." Llongyfarchwn Mr. Daniels ar ei lwyddiant yn cael cynifer o adar tlysion i ganu Cymraeg mor eglur. Cyfiawn a theg fyddai galw sylw neillduol at dair o'r merched, am fod rhagoriaeth a thalent yn perthyn iddynt. Miss Nellie E. Roberts. Profodd Nellie ei hun yn Piano Soloist ac Accompanist neillduol o dda. Mae ei thalent gerddorol yn amlwg, a haedda gefn- ogaeth ddi-ildio. Miss Fannie Ellis. Canodd Fannie mor hunanfeddianol a phe buasai wedi hir arfer a'r concert staqe. Credwn y daw Fannie yn gantores en- wogos cymerir gofal o'i llais mewn pryd, gan roddi addysg gerddorol iddi. Miss Hannah Williams. Teimla pawb fod Hannah yn meddu ar lais tu hwnt i'r cyfEredin—llais yn llawn melodedd a theimlad; ond atolwg, ai ni ellir darbwyllo ei chyfeillion fod perygl iddi golli ei llais prydferth trwy ganu gormod? Nid yw meddu llais gwych yn ddigon, na, rhaid gwr- teithio y llais goreu,a dysgn ei berchenog sut i'w ddef- nyddio. Credwn fod dyfodol dysglaer o flaen Hannah, os rhoddir iddi addysg gerddorol a gwrteithiad lleis- iol mewn pryd. Ai gormod a fyddai disgwyl i'r can- torion ail ganu y Cantata er budd i Hannah Williams, fel ag i roddi addysg iddi—curwch yr haiarn tra fyddo yn boeth, fechgyn. Diau y ceir capel y M. C. at y fath ddyben ardderchog. Byddai yn glod i un- rhyw eglwys roddi eu capel i'r fath bwrpas. Ail- ganer y Cantata ar unwaith, a llanwer y capel o wranda,A,yr.- GohebYdd.

[No title]

[No title]

[No title]