Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
/fcllFtf** 1Nlr111 F.l-)' .?1.. WB&JLZr ESTABLISHED IS51. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y. =
BWTETXN YN ERYRI.
BWTETXN YN ERYRI. GAN LLYSTYN. Mown bwthyn yn Eryri, yn nghesail serth y cwm, Lie rhodia'r geifr a'r defaid ysgwyddau'r creigiau lIwm; Lie clywir tvwf rhaiadrau a gwyntoedd hyf y nen, A'r lluwch yn Haw y corwynt yn dawnsio uwch fy mhen; Lie rhua stormydd gauaf gerddoriaeth yn fy liglilyw, Mewn bwthyn yn Eryri fel hyn dymunwn fyw. Mewn bwthyn yn Eryri, yn nghanol Cymry gltln, Lie clywir y clogwyni o hyd yn adsain can; Lie gwelir haf yn chwareu yn llawen efo'r wyn, A haul y nef yn chwerthin yn lion mewn twmpath brwyn; Lie ceidw ehedyddion gyngherddau yn fy nglilyw, Mewn bwthyn yn Eryri fel hyn dymunwn fyw. Mewn bwthyn yn Eryri-Eryri Gwalia wen. Lie clywir swn addoli o hyd yn llenwi'r nen; Lie gwelir diniweidrwydd fel oen heb adwaen brad, Lie megir plant enwogrwydd hyd greigiau serth fy ngwlad, Lie clywir mawl a gweddi 'mhob teulu'n myn'd at Ddaw; Mewn bwthyn yn Eryri fel hyn dymunwn ryw.
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD.
LLYTHYR EPHRAIM LLWYD. AT EI GYDWLADWYR YN Y TALAETIIAU UNEDIG. "Dylanwad y pwlpud yn entilio"—Mamau yn nghyfraith- Cyfarfod Llenyddol yn Chatham street, Liverpool (T. C.)-Diwyg- iad Cymreig-Yi, Herald Cymraeg mewn angen am siwt newydd-Gwenery Groglith Amrywiaeth. Lerpwl, Ebrill 10.—Heb ragymadroddi ar y naill beth na'r Hall, nyni a ddisgynwn ly ar ein testyn fel Barcut ar gyw-fel huddygl i botes, neu gath yn nghylch ei busnes ei liun. Yn y lie cyntaf, neu yn mlaenaf, chwedl y-'Gethwrs yma. Yr yd- ym yn gydwybodol anghytuno a'r Goheb- ydd, M. G. Thomas, Given, Iowa, o berth- ynas i "Ddylanwad y Pwlpud yn Encilio." Fe ddywed rhyw hen adnod (?) yn y llyfr canol, sef yn nechreu gweithiau "Twm o'r Nant," argraphedig gan Isaac Foulkes, (Y L'yfr-bryf), fel hyn: "Rliyddi bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar, felly o gan- lyniad, megis, ac o herwydd, y mae genyf finau ryddid i ddweyd fy marn gyda golwg ar y mater pwysig hwn. Ni roddwn i yr un ddimeu-werth o ginger am ddynion fydd bob amser o'r un farn-rhyw gloch- yddion o fodau, yn gwaeddi "Amen" i bob barn a syniad, am nas gallant, mae'n debyg, gan ysgafnder eu penglogau, ffurfio yr un farn wahanol i'r hwn y maent yn clochydda iddo. Hoff genyf fi ydyw gweled dynion yn groes i'w gilydd ar bynciau pwysig, (mewn ysbryd addfwyn, of course.) A chan fod Lowri yma wedi fy argyhoeddi fod genyf rywbeth yn fy mhen, (ddywed- odd hi ddim beth), yr wyf finau am ei ddefnyddio i wahaniaetliu yn fy marn i'ch Gohebydd o Iowa. Dyma ei farn ef, (sef fod y pwlpud yn colli ei ddylanwad,) am fod cynifer o ddyn- ion anysgedig, diddawn a diddylanwad yn esgyn grisiau ein pwlpudau. Dyma fy marn i, Syr: Mai gormod o ddysg, dawn a dylanwad sydd wedi ac yn achosi, i ddylan- wad y pwlpud i encilio! Y mae gormod- edd o ddysgeidiaeth yn andwyo ein preg- ethwyr! yn peri iddynt feddwl eu hunain uwchlaw pawb eraill, a thrwy hyny yn eu hangliyfaddasu i bregethu gair Duw yn rymus a nerthol, er achubiaeth pechadur- iaid. Y mae y cyfryw ddynion wedi dyfod i'r penderfyniad mai dysg, dawn a dylan- wad ydyw rheol y Beibl i achub y byd Ond y maent yn camgymeryd yn ddirfawr. Nid oes eisiau myned i athrofa i astudio Hebraeg, Sroeg, Lladin, &c., tuag at ddangos i bechadur y ffordd i fywyd tra- gywyddol, ac ni feddyliodd y Bod Mawr i'r cyfryw sefydliadau gael eu codi tuag at hyny. Na, na, gall yr hen bregethwyr mwyaf distadl, tlodion, ond duwiol, fod yn foddion yn llaw Duw, i achub pecliadur- iaid; acynwir, y cyfryw rai fuont, ac yd- ynt eto y moddion trwy ba rai y mae y Jeliofa yn achub dynion. A gafodd John Jones, Tal-y-sarn, Christmas Evans, Daf- ydd Cadwaladr, Dafydd Rolant, Cadwal- adr Owen, John Williams, Llycheiddior; Daniel Jones, Llandegai, a'r cyfryw rai, erioed addysg golegawl, tybed? Naddo, ond yn ngholeg natur a'r Beibl, y fan y dylai pob pregethwr fyned i astudio "mawrion betliau Duw." Pa sawl enaid a achubwyd drwy weinidogaeth y cyfryw hen seintiau, tybed? Miloedd—cydmar- wch hwy a rhan o'n Jacks slarchiedig ni y dyddiau hyn-dynion (?) rai o honynt, wedi eu chwyddo gan falchder o herwydd gormod o ddysgeidiaeth, nes y maent yn edrych ar eu cydgrefyddwyr fel pe baent laid yr heolydd. Ni wnant gymaint a darostwng eu hunain i ofyn iddynt (ar yr lieol), pa fodd y maent yn teimlo, troant y wyneb draw oddiwrthynt, ac ymaith a hwy. Ni wna yr hen dadau a enwyd mo hyny, ac y mae'n bur debyg fod hyny i'w briodoli (a diolch am hyny), am nachaw- sant yr un addysg athrofaol i stiffio eu cynr alau. Pob parch i ddysgeidiaeth, cofiwch, a byddcd i bawb ar bob cyfrif, wneyd yr ymdrech mwyaf tuag at gyraedd pinacl enwogrwydd drwy hyny. Ond cadwer y dynion hyny ydynt yn cario syniad mor isel am bregethu yr efenfyl, sef mai dysg- eidiaeth, dawn a dylanwad, sydd yn cadw dylanwad y pwlpud (Cymreig beth bynag) i fynv. Anfonwch ddynion wedi eu trwytho a'r Ysbryd Glan i'n pwlpudau, ac yna ceir gweled tyrfa fawr yn dylifo tua Seion. Yn awr, gan na ddaeth eich goheb- ydd ond ag un rheswm dros ei farn, ni bydd i ninau ychwanegu; ac os teimla ar ei galon ychwanegu ar y pwnc, byddaf yn barod i'w gyfarfod, mewn ysbryd addfwyn a thymer dda. FONEDDIGION Y Drych: Nis gwn yn iawn a fyddwcli chwi o'r un farn a fi o berthynas i rai mamau yn nghyfraith, neu fel y dywed yr Hwntws, "Mam Wen." Drwy drugaredd, ni chefais fy mendithio (?) erioed a'r un o'r cyfryw, a gobeithiaf na chaf byth. Wn i ddim pa sut y mae rhai o'r rhai hyn yn gallu ymddwyn mor ofnadwy o anrhugarog tuag at blant y gwr, o'r wraig gyntaf. Cewch weled yn mhen ychydig flynyddau ar ol cyplysu a'u gilydd, pan y bydd plant yr ail wraig yn lluosogi y teulu (in addition to the children of the first wife), dyna blant y gyntaf yn gorfod gwasan- aethu ar blant yr olaf; rhaid bwydo y rhai diweddaf yn gyntaf, a rhaid i'r rhai cyntaf fwyta leavings y lleill; y gegin gefn ydyw trigle plant y wraig gyntaf-y parlwr i'r lleill. Y mae y plant diweddaf yn cael eu gorwychu a'u gwisgo mewn style, a'r lleill ryw ddull, ryw-sut—clytiau yn weledig ar bob dilledyn, druain, a'r lleill yn fflounces a rhyw aflwydd felly i gyd, a'r penbwl ei gwr yn llygaid dyst o'r cyfan; ei geg wedi ei chloi i fyny-faidd ef dd-eyd yr un gair; yn llygaid-dyst o weled ei anwyl blant yn cael eu trin felcywion estrys. Yn mha le y mae y dirgelwch, tybed? Oes neb fedr roddi esboniad ar hyn i mi? Os oes, anrhegaf ef a gwialen fedw i stido y merched diras hyn. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn nghap- el y Methodistiaid Calfinaidd, Chatham street, Lerpwl, nos Fercher, Mawrth y 24ain. Nid oedd y cynulliad yn fawr, ond yr oedd y gweithrediadau yn cael eu cario yn mlaen yn bur ddeheuig; cyfansoddiad- au da-canu da, ac adroddiadau campus. Un peth sydd yn andwyo cyfarfodydd fel hyn, sef gosod dynion dibrofiad i ddarllen beirniadaethau hirion, gwaith oddeutu ug- ain mynyd, nes blino amynedd Jobbraidd; ac un beirniad yn gwneyd araeth braidd o haner awr wrth feirniadu. Onid doethach fyddai enwi y buddugol, ac yna anfonfy beirniadaethau i'r wasg? Dyna fy marn:i beth bynag. Y mae'n dda genyf eich hysbysu fod ym- weliad Meistri Sankey a Moody a'n tref- wedi peri fod diwygiad mawr yn y capelau Cymreig. Goboithiw-n y bydd iddynt ddai wedi ymuno a'r fyddin, ac na bydd iddynt ddychwelyd i'w hen ffyrdd yn ol. Da fyddai i berchenogion yr Herald Cym- raeg dalu ymweliad ag Utica, er mwyn i chwi ddangos iddynt yn mha le y gallant -1 gael siwt newydd; y mae yr hen siwt wedi myned yn hynod o lom. Y mae llawer ynj'anfon atom am spectol, er eu galluogi i weled pa fath frethyn y mae yn ei wisgo. Os na fydd iddynt brynu siwt yn fuan, rhaid iddi redeg yn noethiymyn. ■ Ni fu yma ddim neillduol yn y dref Gwener y Groglith. Aeth y Llyfr-bryf a minau i'r Botanic Gardens i syll'u ar bryd- fertliion natur-ar ol hyny i stwytho ein cymalau drwy redeg race, ac efe gariodd y dydd, achos yr oedd ei goesau ef yn ddwy droedfedd, un modiedd ar ddeg a thri' chwarter yn hwy na fy rhai i. Pa ddiolch felly, onide? Dymunaf ddiolch i ryw un o'r enw Elias Hughes, am ddau newyddiadur Saesoneg a anfonodd, wedi eu cyfeirio, "Epliraim Llwyd, Liverpool, England;" daethant yma yn ddiogel, a llythyr doniol oddiwrth Mr. Ebenezer Evans, Oshkosh, Wis., wedi ei gyfeirio yr un modd. Y mae Mr. E. Evans7 39 Bamber street, o'r dref hon, yn cofio at bawb y cafodd y fraint o'u cwmni pan yn Utica a'r cyffiniau. Cofiwch finau at bob copa walltog, a diwallt hefyd, o ran hyny. a byddwcli dda, gwych a duwiol, medd ErIIRADf Llwyd,
CRISTIONOGAETIR.
CRISTIONOGAETIR. CORFF 0 DDUWIIs YDDIAETH IACIIUS. Yn gymaint ag mai y Drycii ydyw fy wythnosolyn er's ychwaneg na phedair-ar- liugain o fiynyddoedd-er mai anfynych y byddaf yn olwbydd-eto byddaf yn ddar- llenwr cyson arno; ac hyd yr wyf yn gwybod, yn ffyddlawn yn mhob peth arall sydd yn gysylltiedig ag ef-a chan mai y grefydd Gristionogol ydyw y grefydd a broffesir genym, nis gallaf dybied ei fod yn un sarhad ar y Drych, am unwaith, i gyhoeddi ychydig o resymau paham yr yd- ym yn proffesu Cristionogaeth mwy na rhyw gyfundrefn arall. Mor foreu ag y mae hanesiaeth gysegredig wedi dechreu tywallt ei belydrau, y peth cyntaf braidd a. gofnodir ar ol creu, ydyw crefydd, a hyny. mewn cysylltiad a'r teulu cyntaf a droedt. iodd ddaear erioed. Hefyd dangosir mai yr un ydoedd crefydd y pryd hWIIW ag ydyw yn awr. Yr un ydoedd o ran y cyf- rwng trwy yr hwn yr oedd yn ymwneyd a'r Anweledig. Fe ddywedir mai "trwy ffydd yr offrymodd Abel." Y mae agos i chwe' mil o flynyddau wedi cael eu claddti yn ngliromgellau yr oesoedd oddiar hyny; llawer o dalentau gorwych, a llawer swydd odidog, a llawer gwyneb hardd ydynt, er y pryd hwnw, wedi n-lyneclyn hen ac oed- ranus, a marw a myned i dir angof. Ond am holl hanfodion y grefydd ddwyfol oedd. yn y byd y pryd hwnw, y maent ar gael lieddyw, ac yn dangos cymaint o wrid bywyd yn ngwyneb-pryd priodas-ferch yr Oen heddyw a'r mynyd cyntaf erioed. Tybiwyf fod rhyw un yn gofyn, beth yw crefydd ? Y mae yr ateb wrth law. Cref- ydd ydyw rhwymedigaeth dyn i Dduw yir cael ei gydnabod gan y galon, a1 weithic allan yn yr ymarweddiad. Y mae yn y byd filoedd o grefyddau a mwy na hyny o dduwiau; ond y mae pawb o honynt yr. teimlo y rhwymedigaeth yna. Dyna ydyw teimlad y pagan mwyaf anwybodus; iaitli yr hwn wrth ei gydryw pan mewn rhyw gyfyngder mawr yw, "Cyfod, galw ar dy 71 6 Dduw, fe allai yr ystyr y Duw hwnw wrth.- ym fel na'n coller." Ond wedi'r cyfan; tybiwyf nad oes yn y byd heddyw ont3 ur. grefydd a etyb un dyben i ddyn yn ei sef- yllfa bresenol, fel ag y mae pethau yn sefyll rhyngddo a chyfraith ei natur; rhyngddo a'r Duw a'i creodd, sef y grefydd; Gristionogol yn unig, a hyny yn y modd y datguddir hi yn y Beibl-yr- hwn- yw yr unig reol i ddyn, ac wrth yr hwn y bydd yn rhaid i bob dyn sefyll neu syrthic i bob,, tragwyddoldeb, yn ol y ddedfryd s gy- hoedda. Hwyrach fod rhywti-Q^yn barocE i ofyn, beth ydyw ein rhesymau dros gred*-
ADNODDAU CALIFORNIA.
ADNODDAU CALIFORNIA. GAN ISAAC II. ELLIS. Y mae yn debygol nad oes mi rhan o'r byd ag y teimlir mwy o ddyddordeb cyff- redinol ynddo nagororau y Tawelfor, ac yn d neillduol y Dalaeth hon. Ceir yma gYll- rychiolwyr o bob gwlad; ac yn mhob gwlad ac ardal ceir cynrychiolwyr o California. Yma cydgrynhoa llewyrchiadau mwyaf tanbaid gwareiddiad pob gwlad, ac ad- lewyrclia ^liithau yn ol i bob cyfeiriad, gan fod yn wrthrych o sylw a gallu, a dylan- wad cyffredinol. Dyma faes brwydr a ddygodd allan adnoddau goreuon pob gwlad wareiddiedig dan haul, mewn yni, medr ac anturiaeth, yn yr ymdrechion i gael o liyd iVtrysorau ag y maeAnian wedi eu cuddio yn y manau mwyaf cudd, a'u diogelu yn ei chestyll mwyaf cadarn ac an- liygyrch. Hyd o.fewn ychydig flynyddau yn ol, nid oedd dim ond ei haurgloddiau yn tynu sylw y byd,lac yn wir ei tlirigolion hi ei hun, oddigerth rhyw ychydig; ond erbyn hyn, er hwyrach yr edrychir am y ffrydiau auraidd ac arianaidd ydynt yn dylifo o honi, er adgyflenwi angenion masnach, a bywiocau ei rliedwelian, yn awr gymaint ag erioed, tynir sylw fwy a mwy at yr ym- erodraeth eang a sylfaenir-y gwareiddiad a gynyrcliir dan amgylchiadau a dylan- wadau mor neillduol—y dyfodol mawr- eddog sydd o'i blaen, a dylanwad pwysig ei sefyllfa ar drafnidiaeth a gwareiddiad y gwledydd a'r cenedloedd mawrion cymyd- ogol iddi-ei hinsoddau liyfryd, rhagor- iaethau ei chynyrchion, ei thiroedd breis- ion, a'r golygfeydd rhamantus ac arddunol -yr hyn a brofir trwy sylwadau y meddyl- wyr dyfnaf, y teithwyr a'r sylwedyddion enwocaf, a'r miloedd ymwelwyr a ddeuant iddi o bob gwlad i weled ei rliyfeddodau, a'r ymfudiaeth sydd yn amlwg gynyddu o ,y flwyddyn i flwyddyn, a'r hyn yn ddiau nid yw ond blaen y llanw mawr sydd yn rhwym o osod i mewn am y gororau ffafredig hyn cyn bo hir. Rhoddaf yma daflen o'r teithwyr trawsdirol (overland pas- sengers) i'r gorllewin (westward) dros y Central Pacific Railroad am nifer o flyn- vddoedd: Dosbarth" ;Ymfudwyr Wn- Blaenaf. -j[. Gyffredin. Cyfanrif. 1871. 27,879 8,699 36,578 25.965 11,153 87,118 19,641 24,882 44,523 lb<4 21,463 36,777 58,240 Cyfanrif 94,948 81,511 176,459 Sef cynycid yn 1872 dros 1871 o 540; yn 1873, dros 1872, ctf,405; ynl874, dros 1873, o 13,717. Daeth^hefyd dros for i borth- ladd San Francisco: yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, 29,786 o deithwyr; aeth allan yr un ffordd 14,113. A rhwng pawb, bernir r fod y cynydd trwy ymfudiaeth am y flwyddyn yn 62,000 o eneidiau! Oddi- wrth y daflen uchod, gwelir yn eglur iawn gynydd pwysig yn nifer yr ymfudwyr canolradd; ac yn wir, wrtli ystyried man- teision ac adnoddau y wlad, y mae yn rhyf- edd fod ei phoblogaeth yn awr mor fach.— 11 Ond gwyr y cyfarwydd fod achosion pwys- ig yn rhoddi cyfrif am y ffaith. Yn ystod y cynauaf auraidd cyntaf, edrychai pob peth arall yn llwyd a di- werth am flynyddau, ynllewyrch syfrdanol yr aurgloddiau. Nid oedd fawr neb yn meddwl am sefydlu, ond am wneyd ei ffortiwn a dychwelyd i'w hen ardaloedd at eu cyfeillion. Ond o'r diwedd, pan ddech- reuwyd anobeithio am y ffortiwn, ac i lewyrch*y mwngloddiau dywyllu, dechreu- asant feddwl am gartrefu, ac agor eu llygaid i wir fanteision anghydmarol y wlad. Ond y rhwystr mawr i sefydliad mwy poblog y Dalaeth hyd yn awr, yw fod y rhan fwyaf o'i thiroedd goraf yn medd- iant ychydig o bersonau cyfoethog, y rhai a ddewisant yn hytrach na'u gwerthu yn fan ffermydd i sefydlwyr tlodion, ond gweithgar, am brisiau rliesymol, eu cadw yn borfau i filoedd o anifeiliaid, neu eu hamaethu i godi gwenith ar raddfa fawr. Ond y mae amser yn gyffredin yn unioni pob peth fel hyn; ac y mae arwyddion addawol y bydd yr agwedd yma ar bethau yn cyfnewid cyn hir. Dichon y bydd i bris isel y gwartheg yn awr er's blynydd- au, o herwydd eu lluosogrwydd, er cym- aint a gollwyd yn mharthau gogleddol y Dalaeth y gauaf diweddaf, ac hefyd yn Nhalaethau Nevada ac Oregon, yn ogystal a'r colledion mawr mewn defaid, naill ai o herwydd sychder yn y parthau deheuol, nett erwinder ambell i auaf eithriadol yn y parthau gogleddol, dueddu i arwain i'r cyfryw gyfnewidiad; ac hefyd y profir cyn hir anoethineb ac andwyaeth y drefn o godi cnydau gwenith flwyddyn ar ol blwyddyn ar yr un tir heb ddim gwrteitliiad. Pa mor fras bynag y tir, amlwg yw nas gall barliau o hyd yr un mor gynyrchiol. Hefyd dygwyd y trethi yn ddiweddar i bwyso ychydig yn drymach arnynt, sef drwy eu trethu yn fwy cyfartal i'w gwir werth, a diau y dylent gael eu trethu yn llawer trymach eto. Pe perchenogid hwy gan fan ddalwyr, y mae yn sicr y trethid hwy lawer yn fwy. Yn 1871, nid oedd gwerth yr holl eiddo yn y Dalaeth, fel y cafoddei "assessio," ond $268,709,133; yn 1872, yn $636,378,114; yn 1873 yn $527,203,982; ac yn 1874 yn $607,- 220,630. Dyna wahaniaeth dirfawr, onide, rhwng "assessments" 1871 ac 1872; ac achoswyd ef yn benaf trwy drethiad y tir- oedd yn agosach i'w gwir werth, a thretli- iad manylach ar frenhinoedd arianol San Francisco, y rhai yn gyffredin a lwyddant ryw ffordd neu gilydd i beidio a thalu eu cyfran gyfiawn o'r trethi. Yn 1871, asses- siwyd holl eiddo San Francisco yn $104,- 991,359; yn 1872 yn $287,938,817; ynl873 yn $212,208,535; ac yn 1874 yn $361,979,- 094. Yma eto gwelir gwahaniaeth dirfawr rhwng assessment 1871 ac 1872; ac hefyd am y flwyddyn ddiweddaf Y mae y gyfraith yn y Dalaeth hon yn gyffredin yn galw am drethi mortgages ar eiddo hefyd, ond nid yw banciau a breninoedd San Francisco byth yn ei thalu; ond ar yr un pryd codant hi oddiar eu benthycwyr, heb byth ei thalu yn ol. Ond cesglir hi yn ddigoll yn yr holl siroedd eraill. Dyna engraifft o allu arian mewn gwlad rydd. Difroda gyfraith, a pheth ar ill, nis gall ei wneyd. Gyda threth- iad cyfartal y tiroedd, a phob eiddo arall, a rhaniad y ranches mawrion yn fan ffermydd, a throsglwyddiad priodol y dyfroedd er dyfrhau rhandiroedd mawrion, ar y rhai y mae tymorau sychion yn ami yn llosgi gobeithion yffarmwr, trwy dor camlesi mawrion i'r pwrpas, cynygia y Dalaeth hon y manteision ardderchocaf i filiynau wneuthur eu cartrefl ynddi, yn mhlith y rhai y gellir cyfrif iachusrwydd, ffrwythlonder, a'r hinsawdd hyfrydaf, yn nghyd a'r golygfeydd naturiol mwyaf arddunol a rhamantus. Bu y flwyddyn a basiodd yn hynod o gynyrchiol o ran y cnydau o bob math; ond hynodwyd y rhan ddiweddaf o honi gan ddarganfydd- iadau o gyfoeth mwnol bron anhygoel ar y "Comstock Lode" yn Nhalaeth Nevada, a lluaws o fanau eraill yn y Dalaeth hon, ac yn Oregon. Fel dangoseg o gyflwr llewyrchus y mwngloddiau, nid yw yn angenrheidiol ond hysbysu fod trafodaethau y Mining Stock Board yn San Francisco, wedi cyr- aedd yn ystod y flwyddyn raddfa aruthrol; cyrhaeddodd y swm o $260,000,000 yn erbyn $146,000,000 yn 1873, neu enill o $114,000,000 mewn deuddeg mis. Fod dinas fel San Francisco yn cynwys ond poblogaeth o tua 240,000 o eneidiau. yn delio ond mewn un math o eiddo i'r swm a nodwyd yn yr amser rhoddedig, sydd brawf diymwad o adnoddau arianol o'r fath eangaf. Dywedir fod y rhai mwyaf cyfar- wydd a chymwys i farnu, yn cytuno i gyf- rif gwerth y mwn sydd yn y golwg yn y "Comstock Lode" 0 $250,000,000 i $300,- 000,000, gyda rhagolwg am adgyfienwadau Ily mawrion o darddiadau eraill. Ychydig amser yn ol gwnawd darganfyddiad tua chan milldir i'r gogledd o'r lie y mae yr ys- grifenydd yn preswylio, yn Oregon, ag sydd yn debyg o droi allan yn un pwysig iawn. Ceir yno dair o wythienau cyfredol, y fwyaf yn 270 troedfedd o led; y nesaf yn 80 troedfedd, a'r drydedd yn 30 troedfedd o led;' ac y maent eisoes wedi cael eu holrhain a'u cymeryd i fyny i'r pellder o ddeng milldir, a thora Rogue River i lawr drwyddynt i'r dyfnder o 500 o droedfeddi; a gildia y mwn wedi ei gymeryd o luaws o ,,y wahanol fanau, o $80 i $90 y dunell, dwy ran o dair o hono yn arian, a'r drydydd yn aur, neu o leiaf dyna adrodda rhai y mae yr ysgrifenydd yn eu liadnabod. Os gwir,ac os ydyw, profir hyny cyn bo hir, dyma faes arall o gyfoeth dihysbydd. Gwnaed dar- ganfyddiad pwysig iawn, meddir hefyd, tua chan milldir i'r de yn ddiweddar, yn agos i Shasta, sef gwythienau "quartz" cyfoethog iawn. Cynyrchwyd yn California y flwyddyn ddiweddaf, o aur ac arian,$20,300,531; cynydd ar y flwyddyn o'r blaen o dros ddwy filiwn; a chynyrchodd Talaeth Ne- vada, $35,452,233, sef ond ychydig yn fwy na'r flwyddyn o'r blaen. Yr oedd yr holl gynyrch mewn aur ac arian am 1874 yn $85,000,000, sef mwy nag un flwyddyn flaenorol. Gyda golwg ar y gyfraith a basiwyd gan y Gydgyngorfa yn ddiwe;ldar yn penodi y cyntaf o Ionawr, 1879, fel y dyddiad i ddychwelyd at dalu arian bathol, nid dibwys nac anyddorol efallai yr ys- tadegau hyn. Yn ein nesaf sylwn nr rai o ryfeddodau naturiol ein Talaeth, y rhai a ddenant ymwelwyr o bob parth o'r byd i'w gweled. Pinery, Scotts Valley, Cal.