Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
CAR M E L, C END L.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CAR M E L, C END L. P R E G E T H. Sabboth, Mai lOfed, yn oedfa yr hwyr, traddododd y Parch W. Griffiths, yn Carmel, bregeth mewn cyfeiriad at farwolaeth Dr Rees, Abertawy. Y testyn ddarllen- odd oedd Hebreaid xiii. 7 Meddyliwch a™ eich blaen- oriaid, y rhai a draethasant i chwi Air Duw ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Dywedodd Y mae y gair biaenoriaid yma yn cyfeirio at weinid- ogion a dysgawdwyr y Gair, llawer o ba rai a ddyoddef- asant ferthyrdod yn yr erlidiau fu yr Hebreaid trwy- ddynt. Tebyg fod cyfeiriad at Stephan, y merthyr cynt- af, at Iago, brawd loan, a lago mab Alpheus. Ystyr y gair yw dynion sydd ar y blaen yn add) sgu, arwain, a chymbell ereill i fywyd crefyddol. Dywed yr adnod eu bod wedi traethu Gair Duw, b.y., preaethu yr Efengyi. Gair Duw" yw yr Efengyi, ewyllys Daw, a threfn Dnw i gadw pecbaduriaid, yw ei sylwe id. Gelwir ar yr Hebreaid i feddwl am danynt, eu galw i got, myfyrio yr athrawiaeth a draethasant, ac ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Y gair diwedd yn golygu effaith a ffrwyth llafur eu bywyd. Y mae yr adnod hon yn addas i'r amcan sydd genym, sef galw sylw at yr anwyl Dr Rees, Abertawy, marw- olaeth yr hwn sydd wedi peri y fath deimlad gahrns a thrist, yn arbenig felly i gynifer yn v lie hwn, He y bn yn weinidog mor dderbyniol a dylanwadol am dair blynedd ar ddear, sef o'r flwyddyn 1849 hyd 1863. Blaenor" mewn gwirionedd oedd efe, ac un gadw- odd y blaen hyd ei ddiwedd. Teimlwn felly fod gwneyd sylw cyhoeddus fel hyn o Dr Rees, yn Carmel, yn weddus a hollol addas ar y Sabboth cyntaf wedi ei gladded'gaetb. Mi gefais i fy hun aduabyddiaeth o Dr Rees pan oeddwn yn ieuanc, dim ond naw mlwydd oed. Cefais fyned gyda fy nbad a fy mam yr amser hwnw, pan aethant ar ymweliad a sir Benfro diwedd haf 1845, ac yr wyf yn cofio aros vn nhy Mr Rees yn Llanelli, bod yn ei study, a gweled ar ei fwrdd yno Esboniad Barnes pan yr oedrl efe wrth y gwaith o'i gvfieithu. Gwnaeth argraff ar fy meddwl yr adeg bono, fel yr wyf yn ei gofio byth od,iiar hyny. Bu wedi hyny yn nby fy rhieni yn y Garthuchaf, ger L'anharan, ac yn Llwyny- brain lawer gwaith. Cof genyf ei fod un o'r tro on cyntaf yn ysgrifenu llythyr yn Liwynybrain, ty fy rhieni, at y Duke of Beaufort mewn parthynas i'r ysgoldy eang a gododd efe yn benaf gyda chynorthwy ei eglwys yn Carmel, yn gystal a llu iws o ayfeillion ar hyd y wl td yr ysgoldy cyflens cyntaf godwyd yn y lie hwn i gynal vsgol ddyddiol ynddi, ac yn yr hwn y ba Ysgol Frytauaidd ragorol am flynyddoedd. Y mae yr ysgoldy hwnw yn awr yn cael ei dderoyddio gan yr eglwys Seisomg yn Barham, ac yn ddiau y mae yn help mawr i'w cyfleusdra. Ystyriwn fod ei waith yn ysgrifenu at y Duke yn arwydd o ddyn mawr. Cofiaf yn dda fy mod yn meddwl felly pin yn gweled Mr Rees, oblegid nid oedd yn Ddoctor y pryd hwnw, yn ysarif- enu y llythyr, ac yr wyf yn teimlo heddyw fod y teim- Jad, hwnw yn eithaf cywir. Cefais wedi hyny adna- byddiaeth helaeth<ch ohono, ac yr oeddwn yn teimlo parch o'r fath ddyfnaf tuag ato, fel ag y mae ei golli wedi peri i mi brofi teimladau trist a galarus iawn. wedi peri i mi brofi teimladau trist a galarus iawn. Prio iol iawn ydyw testyn y Parch J. Matthews. Fab- t lahs Bay, oldiar Zech. xi. 2 "Y ffynidwydd ndwch, canys cwympodd y cedrwydd." Yr wyf am wneyd dau, gyfeiriad yn I. Y pethau yn Dr Rees y byddai yn dda meddwl am danynt. 1. Mai Cymro heb gael mariteision addysgol yn morsu ei oes yf'oedd. Bacbgen o Gymro anwyd mewn ardal wle iii yn sir Gaerfyrddin ydoedd Dr Reps. Nid oedd cyfleusdra addysgol yn gyrhaeddadwy iddo, ac nis cafodd hwy ond eto llafuriodd trwy fawr ymdrech i gyrhseddyd gwybodaetb. Anhawdd i ni yw sylweddoli y gwasafeuoo a'r cale li yr oedd yu rbald myned trwy- ddynt er llwyddo, eto llwyddo a wnaeth, a theimlwn y dylai becbgyn bach Cymru gotio mai un obonvnt hwy oedd Dr Rees. Nid drwg fyddai i'r rhai sydd yn es- geuluso yr hen iaith, ac yn mabwysiadu iaith estroniaid i yoiio y ffaith hon. Cymro, a (Jbymro heb fwynhau manteision addysgol yn moreu ei oes, oedd Dr Rees. 2. Dysgybl yn prottesa Crist yn ddyn ieuanc tair-ar- ddes: oed ydoedd. Buasai yn dda gcayf fod mewn cyfleusdra i weled y bacbgen bach gwladaidd hwnw Thomas Rees, wedi ei ddwyn i fyny a'i faxu mewn lecbyd ar gynyreh blasus gwlad ei enedigaeth, y boren hwnw y daeth at fwrdd yr Arglwydd i broffesu ei fod yn earn Iesu Grist—yn ihoi ei hunan 011 iddo i fyw yn ei dy, a gweithio yn ei winllau. Gwnaeth hyny pan yn 13 mlwydd oed, ufuddhaodd i'r geiriau hyny, Cofia dy GrCiiwdwr yn nyddiau dy ieuenetyd." Y mae mwyaf- rif y rhai a wnaethant waith mawr dros Iesu wedi dechreu yn foreu. Ieuenctyd Carmel, cofiwch mai un felly oedd Dr Rees. Dechreaodd yn foreu, a pharha- odd hyd y diwedd. 3. Gweinidog yr Efengyl yn un-ar-hugain oed. Urddwyd Thomas Rees i gyflawn waith y weinidcaeth yn Craigybargoed, Medi 14eg a'r 15fed, 1836, pan yr oe'd yn 21 mlwydd oed. Nid otdd rhif yr aelodau yn yr eglwys yno ond deuddeg ac o herwydd hyny rha"- olwg gwati a ymddangosai am gynaliaeth. Ond yr oedd calon y bachgen ieuane dderbvniwyd at fwrdd yr Ar glwydd yn 13 mlwydd oed wedi ei mtddianu mor Hwyr Sa?jg-anaiel Da phetrusai roddi ei holl ailu- iV ijosto y maes aooroid o'i flaen, ac ymddiried iddo M am ei gynaliaeth, ac y mae ei hanes yn proh na ddarfu lodo ed.farhau n=> chael achosihyny hyd ei fedd. Y weinidogaeth efengylaidd oedd nod ucbaf ucbelgais Dr Rees. "Meddylier" am dano yn yr arweddiad hwn. Ouid oes eto yu eiu mys<r ac yn ein gwlad fecbgyn o Gymry yn teimlo awydd i ymroi i'r gwaith hwn ? 4. Gweithiwr diwyd, caled, didor, ar hyd ei oes a fu fel presrethwr gwir hyawdl, ac awdwr galluog a def- nyddiol. Yr oedd yn godwr boreu, yn ddarllenwr di- biid, yn nn o'r teithwyr mwyaf ar hyd a lied y wlad. Pregetbai tua phump presjeth hob wythnos ar hyd blyn- yddoe^d haner diweddaf ei oes Cynysgaeddwyd ef a Dais disjyffelyb eHeithiol, cof difesur, deall treiddiol, a galluoedd cryfion, o'r rhai y gwnaeth ddefnydd rhaa- orol. Densys Esboniad B irnes yn yr iaith Gymraeg, 1 History of Nonconformity in Wales, Hanes Eglwysi Anrnbynol Cvmru,' ei 'Feibl Teuluaidd,' &c., mae gwr gweitbaar a fu efe. 5. Dyn call, caredig. a chymwynasgar. Gwnaeth fil- oedd yn gyfeillion calon. Olld nid ydym yn meddwl iddo wneyd gelyn yn ei fywyd. 11. KSaith ei fywyd. Diwedd eu hymarweddiad hwynt." 1. Llwyddo yn mhrif amcan bywyd, sef gwneuthur daioni. Pwy al fesur na phwyso y daioni a effeith- iwyd gan fywyd Dr Rees-enill eneidiau at Iesu- cynorthwyo i ledaenn ac adeiladu yr eglwysi, sefydlu achosion Saesoneg ? &c., &c. 2. Enill yr aDrhydedd uchaf ar y ddaear. Dangos- wyd ddydd ei angladd mai tywysog a gwr mawr mewn parch ac anrbydedd oedd Dr Rees. Dewiswyd ef er's blynyddoedd i'r lleoedd mwyaf anrhydeddus yn ei wlad. G. a<idiwyd ef gan un o Brifysgolion America, a chafodd ei benodi i gidair yr Undeb Cynulleidfaol bron yn hollol nnfrydol. 3. Marw yn yr Arglwydd. Gwers ei fywyd yw, Ffydd y rhai cilynweh," &c.
-CLIVE A HADWALL,
News
Cite
Share
-CLIVE A HADWALL, EGLWYSI ANNIBYNOL GER AMWYTHIG. Cyfarfod Croesawol y Parch W. Harris, diweddar o Goleg Bryste.-Mawr edmygwn chwaeth yr eglwysi uchod yn dewis dyn ieuanc mor dalentog, a phreg- ethwr mor goeth a chymeradwy, a Christion hardd a diledryw. Gorphenaf 13eg, cynaliwyd cyfarfod i roesawu Mr Harris, pryd y daeth gweinidogion a lleygwyr, a llawer ereill, i'w longyfarch ar ei ddy- fodiad i'w plith. Am 3 o'r gloch awd drwy y rhanau arweiniol gan y Parch J. B. Walton, B.A.,LL.B., Wem, a phregethodd y Parch F. Tinkler, Amwythig. Am 4.30 awd i'r Grinshill Hill, lie yr oedd te a theisen flasus wedi ei pharo- toi, a'r boneddigesau yn gweini gyda'r sirioldeb a'r medrusrwydd mwyaf. Am 6.30, cyfarfod anerchiad- ol dan lywyddiaeth Parch J. B. Walton, B.A.LL.B. Dechreuwyd trwy wed'di gan y Parch A. Buckley, Market Drayton, a siaradodd y Parchn T. E. Sawday Prees; F. Tinkler, J. Hall, Bristol; A. Buckley a J. Davies, Amwythig. Hefyd, caf- wyd ychydig eiriau serchus a phwrpasol iawn gan Mr Harris. Canwyd amryw ddarnau yn ystod y dydd gan y cor, a chafwyd cyfarfod ardderchog. Dymunwn bob llwyddiant i Mr Harris yn ei faes eang, a'r Arglwydd a arddelo ei weinidogaeth. CYNFRYN.
ABERLLEFENI.
News
Cite
Share
ABERLLEFENI. Te Parti a Chyfarfod Gwobrwyo. — Cynaliwyd te yn yr ardal hon dydd Mawrth diweddaf, sef Gorphenaf 21ain, mewn cysylltiad &'r Board School. Rhoddwyd y te iddynt gan ychydig o foneddigion y lie. Ar ol i'r plant gyfranogi yn helaeth o'r te a'r bara brith, cawsom y fraint o'u clywed yn canu dwy don. Yr oedd yn llawen genym weled Mrs Dr Jones yn bresenol. Am 7 o'r gloch yo yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn Bethesda, capel yr Annibynwyr, i wobrwyo y plant am eu ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn, pan ddaeth cynulleidfa luosog yn nghyd. Yr oedd amryw o aelodau y Board yn bresenol. Cymerwyd y gadair gan y Parch L. Davies, gweinidog y lie. Dangosodd Mr Daviesyn ei araeth agoriadol, fod addysg yn angenrheidiol, buddiol, a gwerthfawr, yn nghyda'r pwys oedd i rieni i anfon eu plant yn gyson i'r yagol. Yna cafwyd ton gan y plant. Galwyd ar Mr D. O. Jones, ysgrifenydd y Bwrdd, i wobrwyo y plant yn ol eu teilyngdod. Rhodd- wyd 2s. 6c. a certificates i'r dosbarth cyntaf; a llyfrau a certificates i'r ail ddosbarth. Traddod- wyd anerchiadau gan y boneddigion canlynol:—y Parch J. Owen (M.C.), D. O. Jones, Owen Roberts, Lloyd Jones, a E. R. Williams, ysgol- feietr. Canwyd hefyd amryw d6nau gan y plant. Cafwyd cyfarfod rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Gobeithio y bydd yr anerchiadaa a draddodwyd yn cael argraff briodol ar feddyliau y rhieni oedd yn bresenol. Yr oedd yn llawen genym weled y Parch L. Davies yn edrych mor dda, a deall ei fod yn llwyddianus iawn yn ei faes newydd. YMWELYDD.
Advertising
Advertising
Cite
Share
G-EU'EN MOUNTAIN ASTHMA CUBE — Aufouir tiuiau bychaiu yn rliydil trwy y iJythyrdy am XsSc.- F. JSKWBKRY, a'i FKIBION, 1, SKins Edward-street, Llundaiu. Sefydlwyd yu yJiwycldyu 1746.
Newyddion Cyffredinol. ---
News
Cite
Share
Newyddion Cyffredinol. SEFYLL ALLAN YN LANCASHIRE. — Dydd Llun, yr 20fed cyfisol, gwrthododd gweithwyr yr Oldam Factory fyned yn mlaen gyda'u awaith ar ostyngiad o 10 punt yn y cant. Mae tua 25,000 wedi gadael eu gwaith. Cyfloa blaenorol pob nyddwr oedd 12s. yr wythnos, yn ngbyda swllt yn ychwaneg ar ayfer pob plentyn. tfir gofid, mae y strike yn debyg o barbau am rai wythnos- au. Pa bryd y derfydd y strikes o'r byd P CHWARRL LLANBBRIS. — Dydd Mercher, drachefn gwrthododd gweithwyr Chwarel Mr Assheton Smith, Llanberis, fyned yn mlaen gyda'u gwaitb. Yroriau gweithio yw yr acbos o'r gwrthdarawiad. Mae 5,000 yn gweithio yn y chwarel. Hyderwn y deuir i ddeall. dwriaeth buan, neu bydd y canlyniadau yn ddifrifol. Y dydd o'r blaen brathwyd bu ch o eiddo Mr Parry, Penyfan, Mynwy, gan neidr yn ei chadair, a bu y cre- adur farw cyn y gallwyd cyrchu y meddyg anifeiliaid ati. Gorphenaf 20fed, cauwyd yr Arddangosfa Amaeth- yddol Freninol yn Preston. Nifer yr ymwelwyr a'r lie dydd Llun oedd 14,908. ar gyfer 17,690 ar y dydd diweddaf yn yr Amwythig y llynedd. PRIFYSGOL LLUNPAIN. — Bydd yn llawenydd gan gydnabod a chyfeillion Mr Jenkin R. Davies, Peniel Green Board School, L'ansamlet, glywed ei fod yn ar. boliad diweddaf Piifysgol Llundain, wedi llwyddo i basio y matriculation yn y dosbarth blaenaf. Aed rhagddo eto. ISELDBR Y FASNACH LO YN NEHEUDIR CYMRU.— Isel iawn yw y fasnach mewn glo ager wedi bod yr wythnosau diweddaf yn nyffrynoedd Merthyr, Aberdar, a'r Rhondda. Dywedir fod y gweithwyr ar gyfartal- edd yn colli dau ddiwrnod o bob wythnos, a rhai dri a phedwar diwrnod yr wythnos. Mae o gwmpas 38,000 o lowyr yn yr ardaloedd uchod, sef yn y Rhondds. 20,000; Aberdar, 10,000; a Merthyr Vale, 8,000. A chyfrif fod cyflog pob dyn yn dyfod yn 83. 6c.. y dydd, dyna golied pob dyn yn 7s. yr wytbnos; felly mae colled y milperld gyda'u gilydd yn cyrhaedd i'r awm anferth o £ 13,300 yr wythnos. Aberdar yn colli J63,500. Rhondda, ^87,000; a Merthyr Vale, £ 2,800. CWRW BACH YN MOUNTAIN ASH.—Dirwywyd nn James Murray o'r lie ucbod y dydd o'r blaen gan Ynadon Aberdar, i'r swm o itIO a'r costau, am werthu cwrw heb drwydded, a hyny ar y Sabboth. Dyma rybudd eto i'r troseddwyr byn, ac hefyd dylai fod yn symbyliad i drigolion pob ardal i wneyd eu gorea er ceisio rhoddi terfyn ar yr arferiad felldigediz, yr hon sydd yn barhaus yn lluchio parddu i wyneb ein cenedl ni. Pwy bynag fyddo yn drwgdybio tai o'r fath, hys- bysed yr heddaeidwaid yn ddioed. All hands upon deck," a bydd yr arferiiid hon eto yn mhlith y pethan fu. TYNGKD OLIVER PAIN ETO !—Y dydd o'r blaen cy- hoeddodd yr Egyptian Bosphore lythyr oddiwrth beir- ianydd o'r enw Berte, yr hwn a ddywedir sydd wed i dianc o Berber. Yn y llythyr tystia yr ysgrifenydd fod Oliver Pain yn fyw, ac yn aros yn Berber. Maeyr Aipht wedi myned yn; enwog beilach am gyhoeddwyr anwiseddau, fel nas gellir credu dim a ddaw oddiyno. GOLYGFA RYFEDD A DYCHRYNLLYD. — Ger Haw Paris y dydd o'r blaen i-welwyd ceffyl yn rhedeg yn ddychrynllyd ar hyd St. Germain-road, ac yn rhwym wrtho yr oedd cerbyd yn fflamau i gyd. Wedi dal yr anifail, cafwyd cortf y gyriedydd ar waelod y cerbyd wedi llosai yn lludw, felnaageiliddyweydbronmai gweddillion dynol oeddynt. Bernir mai tan wedi syrthio o bibell rhywun fu yr achos i'r cerbyd gymeryd tan, a bod y gyriedydd, druan, wedi cysgu ar ben y cer- byd pan gymerodd y path Ie. BRAVO, MON.—Yr wythnos o'r blaen yr oedd yr An- r'nydeddus F«rnwr Stephen yn cynal Brawdlys Monac Arfon, ond ymddengys nad oedd yn Mon ddim nn troa ddwr i'w ddwyn ger bron y fainc, a chanmolai y Barnwr anrhydeddus siroedd Gogleddol Cymru yn fawr. Dim ond un achos oeJd wedi ei gael mewn tair sir. Trueni na fyddai yr un peth yn wir am siroedd ereill. GWAITH DUR NKWYDD. — viae gwaith dur newydd Trimsaran, ger Cidweli, sir Gaerfyrddin, yn dechreu enill sylw gwneuthurwyr haiaru a dur y deyrnas. Neilldnolrwydd mawr y gwaith yw ei fod yn bwriado gallu gwneyd y dur yn unionayrchol o'r mwn. Y dar- ganfyddwr yw un Mr Bui1. Os Ilwydda, mae yn debyg o eflfeithio yn fawr ar y fasnach bwysig mewn haiarn a dur. £10 AM FADDEU I'W H N GARIAD. — Beth amser yn ol cyfarfyddodd dil edydd o Portbmadog a genetb ieuanc a arosai yn Ffestiniog, ac aeth yn gytundeb carwriaethol rhyngddynt. Dygwyddodd y 'ddau fod o ran cyflwr yn bur debyar, gan eu bod wedi syrthio allan a'u hen gariadau. Ond er cystal oedd y newydd, teiml- ai y cariadlanc mai gwell oedd yr hen, a pheuderfynodd faddeu iddi, gan ddymuno ar ei gariadferch newydd i wneyd yr un fath a'r eiddo hithau, ¡pn ail-enyn yr hen serchiadau o'r ddwy ochr. Ond yn hyn yr oedd Ffest" iniog yn wahanol ei theimlad a'i hysbryd i Porth- inadog felly yn mrawdlys diweddaf Caernarfon gorfn i'r llanc dalu £ 10 am ei faddeugarweh. Bydd ynofynol gyru y nodwydd ddur dipyn yn gyflymach bellach er enill yr a-iau dalwyd ar fwrdd gwamalrwydd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
AMANA, ARFON.—Cynaliwyd cyfarfod blynyddol y lie hwu nos Sadwrn a'r Sabboth, Gorpheuaf 18fed a'r 19eg, fel arferol. Gweiuyddwyd ar yr achlysur gan 1 Parchn T. Johns, Llanelli, a J. Miles, Aberystwyth.