Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
MWYAFRIF YN ERBYN Y LLYWODRAETH.
News
Cite
Share
MWYAFRIF YN ERBYN Y LLYWODRAETH. 141 chafodd y Llywodraeth fwynhau melus- Ion swydd cyn cael profi hefyd y chwerwder sydd yn ngltn a hyny. Dechreuodd eu gofidiau yn fuan, ac ni chant lonydd gan flinderau nes daw yr adeg iddynt gyflwyno yr awenau i ddwylaw ereill cymhwysach a galluocach i'w dal. Yn Mesur Estyniad yr Etholfraint a basiwyd gan y Llywodraeth flaenorol yr oedd adran oedd yn ei gwneyd yn gyfreithlon i ddynion arfer yr etbolfraint, er iddynt gael eu gorfodi gan amgylchiadau I dderbyn cvmhorth meddygol plwyfol idd- ynt eu hunain neu eu teuluoedd. Pasiodd y mesur y Ty Cyffredin a'r adran bon yn- ddo; ond pan ddaeth i ofal Ty yr Ar- glwyddi, lie y mae y mwyafrif yn Doriaid, gwelsant gyfieustra i gyfyngu ei effeithiau trwy dynu allan yr adran hon, a thrwy byTly awddifadu o leiaf 66,000 o'r bawlfraint i arter y bleidlais, yn unig am eu bod wedi dygwydd derbyn cymhorth meddygol, beth J^yQag allasai fod eu cymhwysder naturiol. •^aeth pawen fforcbog Toriaeth i'r golwg yn y weithred hono. Ymffrostiant yn eu bam- ddiffyniad o fuddianau y werin, ac yn eu eYfeillgarwchj'r dosbartb gweithiol, ond ni phetrusant gyfyngu ar eu hawliau, a'u dar- °stwng i gyflwr anifeiliaid direswm ar bob ^yfle a ddaw ar eu ffordd. Yna dygodd Mr "ESSE COLLINGS fesur yn mlaen i gywiro y ryg a. wnaethai y Toriaid. Un adran yn Unlg a gynwysai y mesur, a'r adran hono yn dadwneyd gweitbred yr Arglwyddi, trwy yQegi pad oedd dyn oherwydd derbyn cy- mhorth meddygol plwyfol yn ei anghy- Ib.hwyso i arfer y bleidlais. Pan ddaeth y ^'ywodraeth bresenol i awdurdod gwasgai JESSE COLLINGS ac ereill arnynt am gael ytieustra i basio y mesur byr, ond gwir J^genrheidiol bwnw. O'r diwedd dywedodd ^YR M. HICKS-BEACH fod y Llywodraeth yn j Wrjadu cymeryd y mater i fyny, ac y dygent esur yn mlaen yn fuan i gyrhaeddvr amcan 6dd mewn golwg ganddo. Yn wyneb add- J^d felly, ymneillduodd MR JESSE COLLINGS ^aes, gan adael y mater yn ngofal y j^ywodraeth, gan fod yn sicr, os cymerai y jj1 yw°draeth yr achos i fyny, a dwyn mesur ei }!^Wyl mewa; y buasai yn sicr o gael f Prin y gallasai neb feddwl na ew'rf1 llywodraeth yn ffyddlon i'w hadd- triv ac e^° yr oedd y rhai cyfarwydd a'u *au yy aiuheu, ac yn teimlo yn sicr y buasai Arglwydd SALISBURY yn arfer ei fedr i eirio y mesur yn y fath fodd fel ag i'w wneyd yn ymarferol ddiwertb. Y gallasai trwy hyny ymddangos i wneyd yr hyn a geisiai Mr JESSE COLLINGS, heb mewn gwir- ionedd ddadwneyd ei weithred lfaeuorol yn tynu allan yr adran yn Nhy yr Arglwyddi pan oedd y Mesur Diwygiadol ger bron. Tra yr oedd pethau yn y sefyllfa hon edrychid yn brydejus am fesur addawedig y Llywodraeth. Yn y cyfamser nis gallasai Mr JESSE COLLINGS wneyd dim ond eu procio yn mlaen gyda chwestiynau yn ei gylch. O'r diwedd gwnaeth ei ymddangos- iad, a darllenwyd ef y waith gyntaf. Erbyn yr ail-ddarlleniad yr oedd COLLINGS ac ereill wedi cael amser i'w chwilio a'i brofi, pwyso a mesur pob gair, dadansoddi ei frawddegau, a barnu beth fuasai ei weith- rediad ymarferol. Datguddiodd y geiriad fedr nodedig Arglwydd SALISBURY Ii lunio brawddegau teilwng o'r ben Oraclau Pagan- aidd gynt—yn cynwys meddyliau mor amwys fel y gallesid eu cymeryd y naill ffordd a'r llall, a thrwy hyny beri fod yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Cynwysai y mesur y geiriau, nad oedd i ddyn dderbyn cymhorth meddygol neu surgical," ac yn arbenig "cyfferi medd- ygol (vhedicine), yn ei anghymhwyso i ar- fer yr etbolfraint. G-welwvd twyll a chyf- rwysdra y Llywodraeth yn ngeiriad y mesur. Mae cyfferi meddygol, yn briodol, yn gol- ygu dim ond y cyfferi a gedwir gan y medd- yg neu y fferyllydd. Ond gwyr pawb mai rban fechan yn ami, yn neillduol yn nglyn a'r dosbarth yr oedd llygad y mesur arnynt, o gvfarwyddiadau meddygon yw y cyfferi hyn. Cynwysant gyfarwyddiadau am luu- iaeth briodol i'r claf. Nid an ami y gor- chymynir stimulants o dan amgylchiadau neillduol; ac yn mysg y dosbarth a dder- byniant wasanaeth meddyg y plwyf, nid oes llawer a wrthodai stimulant o dan gyfar- wyddyd y meddyg, ac wedi ei bwrcasu ag arian y tretbdalwyr. Teimla y meddygon plwyfol yn ami fod mwy o angen lluniaeth briodol ar y cleifion hyn ddaw o dan eu gofal nag un cyfferi meddygol, ac felly rhoddant iddynt orders i fyned at yr overseer i gael cymaint a chymaint o beef tea, jellies, &c. Yn .gweled hyn oil, cynygiodd Mr JESSE COLLINGS welliant i'r perwyl fod "medical," neu surgical assistance," a "medicine" i olygu pob cymhorth medd- ygol a pbob peth a orchymynai y meddyg ag y telid am dano gan y plwyf. Ar hyn cafwyd dadl yr wytbnos ddiweddaf, a ffrom- odd Syr M. HICKS-BEACH yn aruthr. Fodd bynag, ar raniad y Ty, cafwyd 50 o fwyafrif dros gynygiad Mr JESSE COLLINGS, ac yn erbyn y Llywodraeth. Taflodd y Llywodr- aeth y mesur i fyny, gan fynegi na fyddant bellach yn gyfrifol am dano. Fodd bynag, aed yn mlaen a'r mesur, ac ychwanegwyd y gwelliant ato. Nos dranoetb, pan bolwyd CANGHELLYDD Y TRYSORLYS am yr acbos, dywedodd nad oedd y Llywodraeth yn bwr- iadu gwrthwynebu y mesur yn y stage hono, cystal a dyweyd, yr ydym yn y lleiafrif yma, ond pan anfonir ef i'r Ty arall, y mae genym ni fwyafrif yno, a bydd ganddynt hwy rywbeth i'w ddyweyd a'i wneyd yn yr achos. Ni cbyfnewidiodd yr Ethiop ei groen, na'r llewpard ei frychni. Nid oedd y Toriaid am ollwng y dosbarth hwn i'r etholaeth pan allan o swydd. Yr un ydynt mewn swydd, a cheir trafferth ganddynt cyn y terfynir y mater hwn Methasant yn eu cyfrwysder, ac yn lie cael mesur twyllodrus i siarad o'u plaid yn yr etholiad nesaf, eodir ef yn amlwg. yu eu herbyn, a gwneir def- nydd priodol OhODO.
""" Adolygiad y Wasg.
News
Cite
Share
Adolygiad y Wasg. CYFEILLACH A WEN: sef Qweithiau Barddonol Ab Volant Pns Swllt Argraffwyd gan Joseph Williams, Sivyddfa r Tyst a'r Dydd," Merthyr. CYNWYSA y llyfryn luaws o ddarnau tlysion, cymhwys rnan f^y?f oh°nyrlt'"i>w badrodd mewn cyfar- fodydd Jlenyddol. Maent oil o duedd iachosol a moesoJ, ac ni wnant niwed, ond lies i'r neb a'u dar- llenant. Mae i'r llyfr ei le yn Jltnyddiseth e n ewlad a hyderwn y bydd yr anturiaefch o'i gyhoeddi yn l'ea i'r amiwr, ac y gwerthfawrogir ef gan luaws ei sydgenedl. Cymeiadwywn ef yn galonog i sylw ein darllenwyr.
RHOS A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
RHOS A'R CYLCHOEDD. Cyfarfod Blynyddol.—Oynaliwyd ein cyfarfod eleni Gorphenaf 19eg a'r 20fed. Pregethwyd gan y Parchn T. Nicholson, Dinbych; Ll. B. Roberts, Caernarfon; a D. Jones, B.A., Abertawy. Cafwyd hin hyfryd, cyixulliadau lluosog, pre^ethaix grymas, a gwenau y Nefoedd ar yr boll wasanaeth. Festri newydd.—Mae cyfeillion y Pockey yu brysur iawn y dyddiau byn gyda'r festri. Bydd yn adeilad brydfertb, yn ddigon eang i gynwys dros gant o blant, ac mae yn ddiamben y bydd ya gaffaeliad mawr i ddwyn yn mlaen waith yr Ysgol Sabbothol. Mae yr achos yn y lie mewn sefyllfa ddymunQl a llewyrcbus. Hen wron mewn cystudd blin.—Cyfeirio yr vdym at yr hybarch Mr Griffiths, diweddar o'r Kino-'a Mills. Mae wedi bod yn bir dan ddwylaw oerion cystudd, a gwyr beth ydyw ami a blin cystuddiau. I Er hyny, yr oedd efe yn dawel ac ymroddedig i ewyllys ei Dad nefol, ac yn gwbl sicr ganddo ei fod yn abl i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y J dydd bwnw. Da genym allu hysbysu ei fod yn dipyn gwell erbyn bYD. Mae wcdi bod yn hynod i haelionus at achosion crefyddol am oes bir, ac yr J ydym yn gobeithio yr adferir ef am enyd cto i I ymhelaetbu mewn pob daioni. Dichell yr Ynadon Toriaidd. — Dygwyddodd ynadon Toriaidd j sir i amddifadu y Rhos o bleidlesle (polling booth). Eu barn hwy oedd v dvlasai dyrnaid fetholwyr Rbiwabon gael pleidleisle cyflena dan gyagodion Wynnstay! a chanoTdd I etholwyr y Rhos i ymlwybro i gadarnle y seh-n er mwyn p eidleisio. Yr oedd yr amcan yn amlwg. Cynahwyd cyfarfod lluosog a brwdfrydig yn yr awyr agored i brotestio yn erbyn y fath gamwri. Anerebw.vd y dyrfa fawr gan y Parchn J. Jones (M.C.), R. Roberts, ac amryw ereill o fasnachwvr a gweithwyr yr ardal, a phasiwyd penderfyniadau crynon, a nodwyd personau cymhwys i'w dwyn i sylw y faicc ynadol; ac y mae yn dda genym ddyweyd fod ein hymdrechion wedi llwyddo ac y bydd genym bellach "bleidleisle cyfleus i bob etholwr yn y rbanbarth hon. Dylai pob ardal fod yn fyw i weitbrediadau y bobl a alwent eu hunain yn Geidwadwyr. Mae dylanwad Syr Wavkin yn lledgryf yn y parthau hyn, ond nid oes ynom y pryder lleiaf am ganlyniad yr etholiad agosaol, ond i bob Rhyddfrydwr fod yn ffyddlon i'w eg. wyddorion. GOllEBYDD.
MR JOHN EDWARD LLOYD, B.A.
News
Cite
Share
MR JOHN EDWARD LLOYD, B.A. Mae yn bleser genym hysbysu fod y gwr ieuano ucbod, mab Mr Edward Lloyd, Overton-street, Liverpool, wedi myned trwy yr arholiad am y gradd o B.A. yn Rbydyebain yn llwyddianus, ac wedi enill safle neillduol o anrhydeddus. Heblaw ei fod yn un o'r pedwar a basiodd yn double first class, saif ei enw ef yn uchaf yn rbestr boll vm- geiswyr y BrifysgoJ. Gwyr y rhan fwyaf o ddarllenwyr y TYST fod Mr Lloyd yn bregethwr gyda'r Annibynwyr, ac wedi ei benodi yn olynydd ir Parch D. Silvan Evacs fel Darlithydd ar yr Iaith Gymraeg yn Mhrifysgol Aberystwyth, a phair yr hysbysiad uchod foddlonrwydd nid bycban i bawb sydd yn ei adnabod, ac yn dysgwyl pethau mawrion oddiwrtho yn y dyfodol. ° Llongyfarchwn ef yn gaJonog ar ei Iwyddiant, ac eiddunwn iddo bir oes ac iecbyd i gysegru ei dalentau dysglaer i wasanaeth ei wlad a'i Dduw.
[No title]
News
Cite
Share
TAN YN Y PWLPUD -Pan yr apeliwyd at barson yn mhen llai na blwyddyn ar ol ei apwyntiad am iddo osod stove yn yr Eglwys, gofynodd pa mor hir yr oedd ei ragflaenor. wedi bod yno, a phan yr atebwyd, "Denddeg mlynedd," dywedodd yntau- Wel, ni chawsoch erioed ddn yn yr Eglwys yn ei amser ef. "Naddo, syr," meddent bwy'hau hwntr'' °enym dia ya y pwlpud y
Telerau y Tyst a'r Dydd.
News
Cite
Share
Telerau y Tyst a'r Dydd. Anfonir ef trwy y Post am Chwarter yn ol y tele, an canlyr ol:—! (os telir yn mlaen) am2s; 2 am 3s 4c. 3 am 4s. 6c. Os na thelir yn mlaen, 1 am 2s. 2c; 2 am 3s. 9c.; a 3 am 4s 11 c.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
odd yr ymdrechfa wrth gymeryd y flaenaf tua saith niwrnod, a bernir iddo golli tua 70,000 o filwyr rhwng Ebrill y laf a'r 3ydd. Yn mhen wyth mis ar ol dechreu y rhyfel- gyrch, drwy gydymosodiad Grant a Butler, cymerwyd Petersburg a Richmond, ac wrth gymeryd y ddau le yma torwyd asgwrn cefn y Deheuwyr, a chafwyd terfyn ar y rhyfel cartrefol ofnadwy hwn. A phan ddaeth yr a-deg i ethol olynydd i'r Arlywydd Lincoln, yr oedd llygaid yr holl fyd ar Grant fel v person cymhwysaf drwy boll America, ac etholwyd ef i'r swydd anrhydeddus hon yn Mawrth, 1869 a phan ddaeth ei dymhor i ten, ail-etholwyd ef am dymhor ychwanegol. Ond er ei holl wrhydri, ei wroldeb, ei feidd- garwch, a'i lwyddiant fel un o ryfelwyr Hwyaf llwyddianus ei wlad, rhaid dyweyd ara dano yr hyn raid ddyweyd am bawb yn eu tro-efe a fu farw.