Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

< Y.SENEDD YMHERODROL.

News
Cite
Share

< Y.SENEDD YMHERODROL. TT TB ARGLWYDDI.—Dydd Llun. — Gofynodd Arglwydd Mount-Temple pa bryd y gallai y Llyw- odraeth gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o ddeddfu amddiffyniad ychwanegol i ferched ieu- aino. Atebodd Iarll Beauch amp nas gallasai atob. Wrth fyned i Bwyllgor ar Fesur Tai i'r Doabarth gweithio)rcymerodd Iarll Wemyss y cyfleusdra i nodi y ditfygion a farnai efe yn y mesur. Dy- munai Arglwydd Salisbury i faterion o fanylion gael eu trafod mewn Pwyllgor. Yna aed i Bwyll- gor, a phasiwyd y mesur gydagyobydig o g.yfnew- idiad. Darllenwyd yr ail waith. Fesur Pryniad Tir yn yr Iwerddon, a chododd y Ty. TT T CYFFREDIN.— Mewn atebiad i Mr A. Arnold, dywedodd Cangbellydd y Trysoilya nas gallasai y pryd hwnw nodi y personau sydd i fod ar y Ddirprwyaeth i wneyd ymchwiliad i sefyllfa wasgedig masnacb. Mewn atebiad i Mr Talbot, dywedodd Cangbellydd y Trysorlys fod y Llywod- raeth am ystyried cyfleustra y Ty yn nglyn a Mesur Diwygiadol y Criminal Law, ae y dygid ef yn mlaen un o'r dyddiau nesaf. Yna aed i Bwyll- gor Cyflenwad. Ty YR ARULWYDDI.—Dydd Mawrth.—Dygwyd i fyny adroddiad Mesur y Tai i'r Dosbarth Gweith- iol, a'phasiwyd ef. Wrth fyned i Bwyllgor ar Fesur Pryniad Tir yn yr Iwerddon, cymerodd Iarll Spencer gyfleusdrai roddi yehydig o'i brof- iad yn y wlad hono. Gan nad oedd yn cynyg gwelliant, derbyniwyd ei sylwadau yn garedig iawn. Pasiodd y mesur trwy Bwyllgor heb un gwelliant, a, chododd y Ty yn fuan. Ty Y CYFFREDIN.—Wrth ateb cwestiwn neu ddau ar faterion dibwys, mewn atebiad i Mr Raikes, dywedodd Mr Bourke fod Arglwydd Salisbury wedi cael caniatad gan Iarll Granville i ddyweyd, ddarfod i M. de Billing, yn mis Mai, 1884, gynyg gwaredu y Cadfridog Gordon am -850 000 ar delerau neillduol. Wedi gwneyd ym- chwiliad, barnodd y Llywodraeth nad oedd yn ddoeth ynddynt i gael dim i'w wneyd a M. de Billing. Galwodd Mr Hill sylw at y lenyddiaeth lygredig oedd yn cael ei lledaenu ar hyd heolydd Llundain; ond ni fynai Syr R. Cross wneyd sylw pellach o'r mater. Ar y cynygiad i fyned i Bwyllgor ar Fesur oedd yn rhoddi y bleidlais i rai wedi derbyn cymhorth meddygol plwyfol, dymunai Mr Courtney gynyg gwelliant yn erbyn y mesur, am fod tuedd ynddo i gefnogi dibyniad ar ereill, a'i fod yn milwrio yn erbyn Deddf y Tlodion. Eiliwyd gan Mr C. S. Reed. Gwrthwynebwyd gan Arglwydd Emlyn. Cafwyd dadl gref a maith. Ar raniad y Ty, yr oedd dros y gwelliant, 22 yn erbyn, 226; mwyafrif, 204. Pasiwyd y mesur trwy Bwyllgor. TY YR ARGLWYDDI.—Dydd Mercher.—Cyfarfu- wyd am 4 o'r gloch i dderbyn y cydsyniad Breninol i atnryw fesurau. Ty Y CYFFBEDIN.—Cyfarfuwyd am yehydig ar ol 12. Gofynai Mr Onslow os oedd dim modd gosod atalfa ar ledaeniad y lenyddiaeth ffiaidd a werthid ar hyd yr heolydd. Atebodd Syr R. Cross fod y neb a wnai eu hargraffu yn gwneyd hyny ar eu perygl eu hunain. Aed i Bwyllgor Cyflenwad, a phasiwyd symiau da o arian. Cod- wyd yn yr amser arferol. Ty YR ARGLWYDDI.—Dydd lau.—Darllenwyd y waith gyntaf Fesur Arferion Llygredig mewn Etholiadau Seneddol. Cyflwynwyd cofeb oddi- wrth foneddigesau yn sir Benfro gan Arglwydd Denman dros estyniad yr etholfraint i fenywod; rhoddodd yntau rybudd y byddai iddo yntau, ddydd Mawrth nesaf, gynyg ail ddarlleniad mesur i'r perwyl hyny. TY Y CYFFREDIN.—Cyfarfnwyd am 4 o'r gloch. Pasiwyd nifer mawr o gwestiynau. Yna darllen- wyd lly thy r gan y Clerc oddiwrth Cadben Gossett, yn ymueillduo o'r swydd o Sergeant-at Arms, yr hon a lanwodd am 50 mlynedd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am y modd y cyila-wnodd ei swydd yn y tymhor hwnw. Dygwyd i fewn ad- roddiad o'r gwelliantau ar Fesnr i roddi y bleid- lais i rai wedi derbyn cymhorth meddygol plwyfol. Gwrthodwyd gwelliant Mr Thomassou yn eithrio aelodau Cymdeithasau Darbodol, er eu bod wedi. cael cymhorth meddyg plwyfol. Cynygiodd Mr Jesse Collings adran newydd i'r perwyl, fod cy- mhorth meddygol yn cynwys pob peth a orcbym- ynai y poor law officer. Gwrthwynebai Mr Balfour ar ran y Llywodraeth, a rhybuddiai hwynt, os pasient y gwelliant, y byddai yn rbaid iddynt dderbyn y canlyniadau. Rhanwyd y Ty. Dros y gwelliant, 180; yn erbyn, 130; mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth, 50. Ar y cynygiad fod y. gwelliant i gael. ei ycbwanegn at y mesur, dy- wedodd Syr M. Hicks-Beach na fyddai y Llywod- raeth bellach yn gyfrifol am y mesur. Ty YR ARGLWYDDI.—Dydd Givener.-Ar y cyn- ygiad i ddarllen Mesur Tai i'r Dosbarth Gweith- iol, ni ddymunai Iarll Wemyss gynyg gwelliant, ond datgan ei wrthdystiad yn erbyn ei egwyddor- ion. Wedi yehydig eiriau gan Arglwydd Salisbury, mewn amddiffyniad, a chan Arglwydd Bramwell yn erbyn, darllenwyd ef y drydedd waitb. 'Ar y cynygiad i ddarllen y drydedd waith Fesur Pryniad Tir yn yr Iwerddon, gofjnodd Iarll Wemyss os gallai Arglwydd Gangbellydd yr Iwerddon roddi enwau y dirprwywyr oedd i gario allan y mesur, a thymhor eu gwasanaeth. Ateb- odd Arglwydd Asbbourne nas gallasai. Yna dar- llenwyd ef y drydedd waitb. TY Y CYFFREDIN.—Mewn atebiad i Mr Heneage, dywedodd Cangbellydd y Trysorlys nad oedd yn tnwriad y Llywodraeth i wrthwynebu Mesur Es- tyniad yr Etholfraint i rai wedi derbyn cymhortb meddygol plwyfol y pryd hwnw. Wrth fyned i Bwyllgor Cyflenwad, gwnaeth Mr O'Brien gynyg- iad yn condemnio ymddygiad Mr Waipole fel dir- prwywr o dan Ddeddf y Tir yn yr Iwerddon. Cafwyd dadl gref a phoetb. Ar raniad y Ty, caf- wyd dros y cynygiad, 32 yn ei erbyn, 123. Yna aed i Bwyllgor Cyflenwad. »

DYFFRYN TAF A'R AMGYLCHOEDD.

Advertising

- CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.'