Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

ADGOFION DEUGAIN MLYN EDD.

News
Cite
Share

ADGOFION DEUGAIN MLYN EDD. GAN AMOS LMVYD. I PENOD XXI. MAGWYD yn nhawelwch gwlad atEaethyddol Gymreig lawer o feibion a merched a droisant allan yn gymeriadau hynod, ac ydynt wedi cerfio eu henwau yn ddwfn ar groniclau y plwyfydd lie magwyd hwy. Geneth ieuanc folly oedd Martha Humphreys, Gorsfelerij acer na fu ei henw mewn papyr newydd ferioed, ae er na fu nemawr tuallan i'w bro enedigol, eto yr oedd yn gymeriad mor eithriadol, fel pe buasai Mrs Wood, neu George Eliot, neu Emma Jane Worboise yn cael gafael arni, gallasent wneyd defnydd da ohoni i daflu cyffrousrwydd i'w nofelau cynhyrfus. Safai y Gorsfelen, a saif eto o ran hyny, mewn ewmwd tawel dan gysgodion mynydd-dir uchel, yn mhell o ddwndwr a gwagedd lluaws tref. Tyddyndy byehan ydoedd. ac nid oedd y ffertn ond byehan a diffrwyth. Yr oedd y tir oil yn wlyb, eleiog, a mawnog, ac nid oedd c<vys ohono yn dwyn fawr arwyddion triniaeth ac achles. Cawsom olwg arno yn ddiweddar, ac yr oedd golwg newydd arno, ac edryclvu i'n golwg frysiog ac anmhrofiadol ni yn dyddyn taclus a Jf'rwythlon. Mae yr amseroedd wedi cyfnewid llawer mewn haner can' mlynedd, ac y mae dynion yn gwybod y ffordd i drin daear lawer yn welt. Deallwn fod yr amaethwr. a breswylia yno heddyw yn wr deallus, cefnog yn y byd, a thrwy ei ddyfais a'i ddyfalbarhad wedi gwisgo yr hen Gorsfelen mewn dillad mor newydd. fel mae yn anhawdd i'r hen gydnabyddion ei hadwaen. Ond yn y cyfnod pell dan sylw, preswyliai yno wr a gwraig, a nith iddynt, gyda rhyw was a morwyn. Os ydym yu cofio yn iawn, ond nid ydym yn sicr ychwaith. yr oedd y tir yn eiddo iddynt hwy. Modd bynag, yr oeddynt mewn amgylchiadaucysurus, ac yn bobl barchus iawn. Siaredid yn barchus gan bawb am Mr a Mrs Humphreys, Gorsfelen, ac yr oeddynt, byd y gwyddom ni, yn haeddianol o barch eu cymyd- ogion oil.; Ni chlywsom anair ar unrhyw gyfrif yn. cael ei roddi iddynt gan neb Yr oeddynt yn aelodau dichlynaidd gyda'r Bedyddwyr, ond nid oeddynt yn rhyw selog iawn ac er an. rhydedd iddynt hwy, yn hollol amddifad o'r p^nboethni erlidgar oedd yn nodweddu Bedydd- wyr yr oes a'r ardal hono. Dan ryw amgylch- iadau daeth Miss Humphreys, y nith, i wrando at yr Annibynwyr pan oedd yn eneth ieuanc un ar-bymtheg oed. IN is gwyddom paham y gwnaeth y dewisiad hwn, ond yr oedd ei galiuoedd meddyliol yn ddigon cryf, a'i gwybod. a >,th Ysgrythyrol yn ddigon eang, fel ag i dierbyn argyhoeddiad mai yr Annibynwyr oedd yn iawn yn ol y Testament Newydd, a bod taenel'u babanod wedi ei orchymyn gan lesu Grist, a'i arfer gan yr apostolion. Hefyd, yr oedd cyrchfa y bobl ieuaine agos oil i Siloh, capel yr Annibynwyr yn Llansior, ae yno yr oedd ei chyfeillesau oil yn myned. Hefyd, yr oedd y Parch." illiam Kdwards, y gweinidog, yn anterth ei boblogrwydd a'i ddylanwad fel pregethwr, ae yn swyno y wlad gan ei frwd. frydedd a'i ddawn. Modd bynag, trwy y pethau hyn oil, ymsefydlodd Miss Humphreys yn Siloh, ac yr oedd y Bedyddwyr yn Gerizim -capel bychan o'u heiddynt ger lIaw-yn ffyrnigo yn aruthr am fod merch ieuanc mor addawol wedi diane o'u corian wlyb at yr Annibynwyr. Cododd yr aragylchiad hwn ystorm chwerw yn yr eglwys—by^ythid gan y penboethiaid y cosbau tryma-f ar Mr a Mrs Humphreys am adael i'r ferch fyned ymaith, bygythid myned a'r achos i'r Gymanfa, a bygythid eu diarddel vn ddidrugaredd. Yr oedd y bygythion yn fuan fel mellt fflamgoch trwy y cwm, ac er fod yn yr af'on fach a redai yn ddmiwed ger llaw ddigon o ddwfr i drochi dynion a ddymunent hyn?, nid oedd ynddi '^oa 'awc i ddiff'odd melldithion y penboethiaid hyn. Bu yno lawer cwrdd eglwys brwd ar y mater, a buasai y ddau wedi eu diarddel aaa y fath esgeulusfcra cywilyddus oni buasai craffder un henafgwr yno yn gweled y buasent yn cael eu gyru gyda'r nith at yr Annibynwyr, ac felly tawelodd y cynhwrf di- i angenrhaid hwnw a ddechreuodd mewn sel heb wyboaaeth, ac a ddiflanodd mewn cwmwl o fvrg. Wed.i bod yn gWr&iidd am ysbaid, arosodd Miss Humphreys yn y seiat; ac wedi bod am y tymhof arferol ar brawf, derbyniwyd hi yn tymhof arferol ar brawf, derbyniwyd hi yn aelod ar foreu Sabboth sych yn y gfranwyn. Edrycher arni yn sefyll gylieg 'ereill yn y set fawr i gael eu derbyn yn aelodau. Gwisga yn brydferth a ekVf&ethus, gyda het ddu loew, a chantal llydan iddi ar ei phen. Mae ei gwyneb llasvld wedi ei brydferthu a rhosynau iechyd tnae ei llygaid glas, bywiog, a'i gwallt du dysgleiriog, a'i chorff bychan lluniaidd a chyd- nerth, yn ei gwneyd yn un o'r genethod mwyaf tlws a hardd yr edrycliodd llygaid arni erioed Gwisgai ei gwyneb arwedd orddifrifol y boreu hwnw, a disgynai dagrau. lawer o'i llygaid pan oedd. Mr Edwards yn rhoddi deheulaw cym- deithas iddi. Wylai a chydymdeimlai y gynulleidfa oil, a barnai pawb fod un o'r genethod ieuainc mwyaf gobeithiol a fagodd Cymru erioed wedi cychwyn ei gyrfa grefyddol y boreu hwrivr. Dechreuodd ar unwaith i ymdaflu i holl waith Crefyddol yr eglwys fach hono. Dilynai y cyrddau gweddi a'r Ysgol Sabbothol yn rheol- aidd. Ni welid ei lie yn wag yn un cwrdd gweddi, He bynag y cynelid ef. Canai yn beraidd, ac ymddangosai yn dra thebygol o gadw yn fyw hen folianu gorfoleddus y dyddiau gynt. Ail a thrydydd gychwynai y don ar y diwedd, nes buasai swn gorfoledd trwy y lie. Rhoddwyd dosbarth dan ei gofal yn yr ysgol, a phrofodd ei hun yn athrawes fedrus. Esboniai yr adnodau mwyaf dyrys fel duwinydd, ac yr oedd yn yr addysg a gyfranai ddigon o brofion ei bod yn darllen ac yn myfyrio y Beibl gyda manylrwydd. Cynelid yn y capel bob wythnos gyfarfod gweddi y menywod, fel ei gelwid, ac yr oedd y rhan fwyaf o wragedd a merched ieuaine yn myned iddo yn rheolaidd, a pharha- odd yn bobLgaidd iawn am ychydig flynyddau. Daw hwn dan ein sylw eto. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda y eyfarfod hwn oedd Miss Humphreys. Hi fyddai yn dechreu canu ynddo, ac yr oedd ynddi gymhwysderau neill- duol at y gorchwyl hwn. Gweddiai yn fynych, ac yr oedd y fath briodoldeb yn ei deisyfiadau, a'r fath felusder a thynerwch yn ei dawn, nes ei gwneyd yn weddi-wraig gyhoeddus ddylanwadol iawn. Elai i bob eyfarfod pregethu trwy yr holl wlad. Am ddeg milldir o gylch, nid oedd yr un Cyfarfod Chwarterol, nac agoriad capel, na chyfarfod diwygiadol na fyddai hi ynddo, ac yr oedd ei phrydferthwch a'i chrefyddolder yn tynu sylw ac yn swyno calon pawb. Nid oedd llawer o alwad am ei gwasanaeth gartref, ac yr oedd ei hewythr a'i modryt) wedi anwesu cymaint ami er yn blentyn, nes yr oedd yn cael ei ffordd ei hun yn mhob peth, ac yr oeddynt yn llawen iawn ei gweled yn ymroddi mor llwyr i fywyd crefyddol. Marchogai gaseg wineuddu ysgafndroed, a efean fod y creadur yn cael digon o fwyd ae ychydig waith, yr oedd yn fywiog ac yn nwyfus. Prynwyd hi o bwrpas i fod yn gaseg farchogaeth i Miss Humphreys, a 11 chadwyd hi yn ofalus i'r amcan hwnw am flynyddau. Nid oedd yn gweithio mewn aradr, nac 6g, na chert, ond yn unig yn cario ei meistres ieuane lie bynag y byddai yn myned, a byddai yn myned i ryw gyfarfod neu gilydd bron bob dydd. Yr oedd yn hoff iawn o gym- deithas pregethwyr, ac yn eu plith nwy ni fyddai yn siarad am ddim ond pethau crefyddol, a hudodd llawer un o'r cyfrj'W i gredu ei bod yn angyles mewn sancteiddrwydd. Cyfan- soddodd lyfr emynau, ac ysgrifenodd yr oil mewn llawysgrif ddestius yn barod i'r wasg a diau y buasai wedi ei argraffu oni buasai i ystormydd geirwon dori arni, fel y rhwystrwyd hi yn y bwriad hwnw, yn nghydag ereill cyffelyb. Clywsom hi yn darIlen rhai o'r emynau i'r gweinidogion, a gwnelai hyny mewn llais tyner a doniol, nes peri i'r farddoniaeth ymddangos yn dra rhagorol. Ni wyddom beth ddaeth o'r ysgrif—diau ei bod wedi myned i ddifancoll gyda llawer o bethau ereill o'i heiddo ond pe caffem afael arni heddyw, byddai yn drysor anmhrisiadwy yn ein golwg oblegid y cysyllt- iadau boreuol. Parhaodd felly am dymhor i ddilyn llwybr crefyddol hollol gymeradwy, ac yr oedd pawb ond Mr Edwards, y gweinidog, yn siarad yn hynod barchus ac edmygol ohoni. Kid sfe ytt dyw^yd dim atd dani, Crybwyll ei henw ond tian fua^ai.rAid idd° Dyn ieuanc oedd Mr Edwards y pryd hW'O«' ond ni tbybiodd y mwyaf winciaidd a drvvg, dybijs yh yr ardal fod unrhyw garwriaet cydrhyngddynt, fel nad hyny oedd yn cyfrif ei ddystawrwydd. Yr oedd efe wedi dysgu y wers werthfawr hono, nad aur yw pobpet sydd'yn dysgleirio," a gwyddom heddyw ei yn ofni o'r dechreuad nad oedd crefyddoMe mawr y ferch ieuanc hon ond ffug. a rhagrith, thwyll i gvd a than ddylanwad yr ofn ilwnn yr oedd yn ddystaw, hyd y gwyddom ni, ytt e\ chylch, gan adaBl amser i esbonio yr oil. On am gyfansum crefyidwyr y wlad hono, yr oeddynt yn credu nad oedd ei rhagoi-ach a wyneb daear.

Y GOLOFN WLBIDYDDOLi-