Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
- YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,…
News
Cite
Share
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1885. Gwyddom fod llawer o'r ymgeiswyr yn yr ym- drechfa genedlaethol eleni, fel yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio, yn rhwym o fod yn yeimlo yn bryderus iawn yn nghylch eu cynyreh- lon, pa un a ddaethant i law aipeidio felly teimla y Pwyllgor yn ddiolchgar i chwi, Mri Gol., am gyhoeddi eu henwau yn y drefn ganlynol:— BARDDONIAETH. Awdt, "Y gwir yn erbyn y byd.Bardd heb ei jJrddo, Bychan, Ap Daiar, Fiat Justitia, Aletheia, ^lywarch Llwyd, Latimer, ac Yn ngwyneb haul a %gad goleuni—8. Pryddest — testyn, Hywel Dda." — Merch ■^faud, Gerald Thompson, Arfonydd, Glan Powys, ^riffydd ap Maelog, Gwilym, a Gwrnerth Llwyd -7. Rhiangerdd — testyn, Aeres Maesyfelin." — Bugeilydd, Herder, Mihangel, a Gogerddan-4. Cywydd-testyn, Yr Aelwyd." — Un o hil Corner, Rhys Goch, LIef Einioes, Bachgen hynaf yr Aelwyd, Lemuel, Llef y Twt Hill, Hiraddug, Rheolwr ar ei Aelwyd, Amddifad, Ieuan, Un heb Penteuluwr, Arthur Wyn, Gelyn Meithder, "enteulu, Idris, Mabon Wledig, a Lemuel—17. Coster o Englynion-testyn, "LIais Cydwybod." -Ichabod, Beuno, Aurora, Dychrynedig, Iago, ^erddin, Kant, Siomedig, Ystyriol, Eudaf, Dif- Jifol, Erasmus, Aneurin, Ap Rhys, Talfardd, a Mwfyn-16. Hir a Thoddaid — testyn, "Cyfeillgarwch. Adsain Hedd, Damon, Adda Fras, lolo Fardd Glati, Dyngarwr, Cadwaladr, John Hume, Dryden, Llew gurir drwy gyfeillgarwch, Amyneddgar, *ideJius, Pax, Pythias, Amicus, Versus, Iolo Glyn Jonathan, Jonathan (etoj, Laelius, Ieuan, Adwal, Jeremiah, Hen ,Awenydd, Emrys, Un a gafodd gyflawn gyfaill, Brawd o Brydydd-26. Englyn-testyn, "Y Trydan.Franklyn, Volta, Anticus, Amanydd, Meredith Rbys (2 englyn), John Franklyn, Coch y Berllan, Pellwelydd, Ffer- ^'ydd, Serydd, Thompson, Seryddwr, Irlas, El- Eorth, Dyfal, Meddyliwr, Pw, Tele, ^ooke, Philos, Amicus, Careg DAn, Rhys Penardd, Macsen ab Ithel, Tudur Aled, Anianydd, Hum- purey Davy, Franklyn, Tyst o'i rym, Prydain, Terence, Athron II, Campus onite, Ap Tân, Dyna Fo, Mellten, Un a'i Gwelodd, Ofnus, Martial, Pelion, Volta, Galileo, Llwydfab, loan ab Dewi, Idwal, Doctor Dick, Yr Hen Wr, Sapban, S. 0., Franklyn, Teithiwr, Gwas, Volta, Galileo, Syllydd Gwyddongar> Carwr Gwelliant, Fferyllydd 1~)> Hoffwr Goleuni, Cymro, Teimlydd, Tasso, iien Brydydd, Lletywr, Ieuan, Electrician, Galileo, Tubal. C Y-FIEITHIADA u. Alcestis, g-c. — Apion, Illtyd, Aristophanes, Oilhelyn, Appolonius, Delta Rho, Cantab, Eusebius «wen Haf, Sint Meecenates, non deerunt, Bute, ^larones, Speque metumque inter Dubius, ^•eurig Morus, Tydain, Casaubon, Hippolytus, ot under the walnut tree, Admed-17. Emynau Lladinaidd-Rhif 10,—Terentius—1. Salmau. — Iolo Morganwg, Un garsai wneyd Swell, Anglo Celt, a Brythonwr-3. RHYDDIAETH. Traethawd, — "Hanes Bywgraffyddol," &c.— jl-heoreme, Griff ab Edd, Mab y Gao, Edno, uli-heinydd—5. T, ^raethawd,—" Rhagoriaethau Cymharol," &c.-— el Hael, Idwal, Bychan, Ysbrydonwr—4. Serial Story.William Tell, Wnionfab, I am a Railwayman's Wife, Wilfred Gray—4. Traethawd-" G wlan-weithfeydd," &c.—Distaff, Ap Rhobert, loan Myrddin, Ap Gomer-4. Qasgliad Gwreiddiol— Lleny Werin."—Crofton °ker, Ysbryd Twm o'r Nant—2. Ffugchwedl Gymreig — Dos allan i'r byd a gwna aioni, Ardalydd, Alltud o Avfon, Un o deulu Sian Fach o'r Bont, Llywarch Morgan—6. Traethawd-" Y Cynllun goreu i Gyfaddasu yr Ysgol Sabbothol, &c."—Ap Bran, Martin Luther, ato, Aelod o'r Ysgol Sul, Jethro, Awstin Fychan, chif^*18™' yr <->es> Edmygwr, ac Aristar- Traethawd—" Urddasolrwydd Llafur."—Gelert, ri ln., Egbert, Gwent, Arthur Llwyd, Hen lnV>le"D' ^U»°> Mab y Wyddfa, Peris Much- onr, Gordon, Y Bachgen Bach, Labour Vincit Elwy, Rhiwallon, Aui-elian, M. de Y Wenol Law, Sycurgus, Maelor, A Son of Labour, a Dido-21. „ rciethawd— Dysgeidiaeth Ymarferol." — °Wr leuanc, Rhadamanthus—2. raethawd,—"Y Pwys a'r Budd, &c."—Hen Gweledydd, Hen Lowr Profiadol, Llaw- teithiwr, Hywel Tydfil-5. Llaw-lyfr — Llenyddiaeth Farddonol, &c."— Cynddylan Hen, Meigant, Roland Fychan, Celtio, lolo Morganwg yr Ail, Celynog-6. Llaw-lyfr—" Gwaith a Chenadaeth, &c."—Hen Bererin, Desciplinarian-2. CERDDOROL. String Quartette. Young Student, Walter Hugo, An Admirer of Beethoven, A Welshman in Leipsic, Yioloncello—5. Anthem -Pwyll, Wylwr, Palestrir a Cymro Pell o'i Wlad, Sebastian Bach, Cymro, Hen Weithiwr, Eglwysbach, Arthur, Marcello, Peulan, Heman, Esaiah, Udgorn, Jonathan Battishill, Albrecht3- berger, Philantropist, Norman, Philantropist, Gomerydd-21. Madrigal.-Marenzio, Dr Blow, John Dowland -3. Contralto Song-Weber, Bach, Alltud o'i Wlad, Awel Fechan, Ismael—5. Tenor Song-Un o Fechgyn Sirgaer, Schubert, Josephus, American, Havelock, Southwelian, Morley, Frederick ap Griffydd, Rondo, Glan y Werydd, Emigrant, Albert, Ap Bach-13. Fe wêl eich darllenwyr, Mri Gol, oddiwrth nifer yr enwau, fod y gystadleuaeth eleni, ar gyfartal- edd, yn gystal ag un o'r Eisteddfodau blaenorol. Pwysa un o'r Llaw-lyfrau ar Lenyddiaeth Fardd- onol, 11 pwys, a chynwysa 799 o dudalenau fool. scap, pwysa y chwech cyfansoddiad a dderbyn- iwyd ar y testyn hwn 32^" pwys, a chynwysant cydrhyngddynt dros 3,009 o dudalenaufoolscap. Paciwyd a gyrwyd yr holl gyfansoddiadau i'r gwahanol feirniaid heb golli amser. HYWEL CYNON,) Y J. R. LEWIS, ) YSGN* -0.
LIBANUS, GER ABERHONDDU.
News
Cite
Share
LIBANUS, GER ABERHONDDU. Gorphenaf 9fed, bu cyfarfod gan yr Annibyn- wyr yma. er cyflwyno anrheg briodasol i'w gwein- idog, y Parch R. W. Rees. Daetb torf luosog yn nghyd ychydig cyn saith yn yr hwyr. Dechreuwyd drwy ddarllon penod o'r Beibl, canu, a gweddi, gan y Parch R. Williams, Brychgoed. Yna pregethodd y Parch J. B. Jones, B,A., Aberhon- ddu. Yaa wedi gweddio a chanu, cymerwyd y gadair gan Mr J. B. Jones. Dywedodd fod yn dda ganddo am y briodas fu rhwng Mr Rees ac un o ferched rhagorol sir Aberteifi, orwyres Dr Phillips, Neuaddlwyd, drwy ei wyr y Parch J. Thomas, Llanbedr. Yr oedd ei dyfodiad i'r ardal yn sicr o droi allan yn fendith i'r gweinidog, yr eglwys, a'r gymydogaeth. Diau mai rhodd ydoedd. Yr oedd y ddwy eglwys yn dangos eu syniad a'u dymuniad da at y pAr ieuanc drwy ddarpar anrheg o arian i'w cyflwyno iddynt. Yna galwodd ar Mr John Jones, Libanus, a Mr E. Evans, Neuadd, y rhai a ddywedasant yn bwrpasol iawn am barod- rwydd unfryd a siriol pawb i gyfranu yn ddystaw i wneyd y swm i fyny. Wedi derbyn yr anrheg o law Mr J. Jones, diolchodd y gweinidog drosto ei hun a Mrs Rees am eu caredigrwydd, a dywedodd y troai yr arian yn rhywbeth a fyddai yn gym- horth iddo i'w gwasaoaethu hwy fel gweinidog. Crybwyllodd hefyd fod cyfaill, a fynai fod yn an- adnabyddus, wedi anfon awrlais iddo drwy y post, yr hwn a fyddai yn wasanaethgar iawn iddo yn ei fyfyrgell. Yna anerchwyd y gynulleidfa gan Mr R. Williams, Brychgoed, a'r Parch B. L. Thomas, Aberhonddu, dau gydfyfyriwr a Mr Rees yn y coleg. Mae troion fel hyn yn uno gweinidogion ac eglwysi, ac yn gwneyd eu hymadawiad yn fwy anhawdd. Tebyg fod gweinidogaeth sefydlog am ysbaid bellach yn Libanus a Brychgoed. ABIA.
ABERTAWY.
News
Cite
Share
ABERTAWY. Y Biban Glas. — Cynaliwyd cyfarfod yn nglyn a'r mudiad yma nos Sadwrn, y 18fed cyfisol, yn Neuadd Albert. Llywyddwyd gan y Cyngborwr R. Martin. Dywedai fod yr amser wedi dyfod bellach y dylai pob crefyddwr fod yn ddirwestwr. Mae rhai yn dyfod yn ddirwestwyr wrth eu per- swadio, ac nid wrth eu meddyliau eu hunain. Gwyddant am y cyfrifoldeb sydd ar eu cefnau-y plant-eto nid yn rhoddi un efelychiad teilwng i'r rhai hyn. Pan y ca y bobl y llyw yn eu dwy- law eu hunain, maent y rhan fynychaf o'u ham- ser yn gwneuthur yr hyn nad yw iawn. Mae achos mawr ger ein bron, sef yr etholiad, a dylai y rhai sydd yn cynyg am anrhydedd Seneddol gyd- nabod eu dychweliadau drwy gyfrwng y Local Option. Yn ddiweddair dychwelwyd dau Dori am eu bod yn boddloni cefnogi y cyfryw fesur (cymer- adwyaetb). Yna canwyd yr anthem, Cry out and shout," gan y cor. Dywedai Mr Livingstone y byddai i betbau fyned lawer gwaith cyn y bydd iddynt wella. Mae y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwad- wyr yn edrych yn mlaen gyda boddhad mewn cysylltiad a'r achos yma-dirwestiaeth. Gwnaeth araeth alluog iawn yn mhen ychydig amser, a .r derbyniodd uchel gymeradwyaeth. Yna canwyd "Gwynach na gwlan," gan y cor. Dywedai y Parch E. Edgecombe y dylem fel Cristionogion wneuthur ein holl egni i gario yn mlaen Gristion- ogaeth. Y mae Temlyddiaeth fel angel bychan yn dyfod i dai y meddwon a'u gwneuthur megys dedwyddwch. Mae y gwaith yr ydym yn ym- wneyd ag ef o gyfeillgarwch, ac hefyd yn ysbrydol. Gwnaeth ef sylwadau rhagorol, er ei fod yn cy- meryd lie y siaradwyr oeddynt i gymeryd rhan yn yr hwyr. Yna canwyd Riug the Bell, Watch- man," gan y cor. Dywedodd Mr E. Fennel (yr hwn a ddaeth i fewn gyda'r tren, ond yn ddiwedd- ar), mae meddwdod yn gyru cariad allan, yn rhwygo cartref, yn anafu yr enaid, yn lladd corff ac enaid. Mae Syr John Heiddyn yn gymeriad drwg, cyfaill drwg, Cristion drwg, cyd-drefwr drwg, ac mewn cymdeithas yn ddrwg. Yroedd hyn ar yr A, B, C, yn Seisonig. Rhoddodd yr ochr arall yn dda. Yr oedd yn siarad yn ddifyrns iawn, a chwerthin mawr pan y siaradai. Local Option-cau weh eich cegau, a pheidiwch gadael dyferyn i fyned i lawr ar unrhyw gyfrif, ac yna byddwn yn sicr o gael hyn oddeutu (chwerthin). Cafwyd cyfarfod brwdfrydig a lluosog iawn. DEWI O'R GAD.
AMANFORD.
News
Cite
Share
AMANFORD. Pleserdaith yr Ysgol Ramadegol. —Mae yr ysgol hon yn dyfod yn mlaen yn llwyddianua iawn o dan ofal y ddau athraw parchus Mr Watcyn Wyn a'r Parch J. Jones, M.A. Y mae amryw eleni wedi pasio yn llwyddianus i wahanol golegau eisoes, ac y mae ereill eto yn parotoi erbyn yr hydref. Cyn ymadael am wyliau yr haf, bu yr ysgol oil, gydag amryw gyfeillion o'r lie, allan am ddiwrnod yn y wlad tua wyth milldir o Amanford, a thair o Gwynfe, sef yn y man adnabyddus wrth yr enw Castell Caregcenen. Wedi cael lluniaefch mew a amaethdy ger Ilaw o'r .danteithton ;darparedig, cychwynwyd i ben y Castell i edrych ar yr olw^ ramantus sydd i weled arno ac o'i gylch, a'r ogofiiu sydd yn perthyn iddo. Hawdd canfod fod diwyd- rwydd mawr wedi cael ei ddangos yn yr amser gynt i adeiladu yr ben Gastell mewn man mor ramantus, ac nid yw yn rhyfeddfod tynfa dyeithr- iaid ato bob haf i'w weled wrth edrych ar yr olwg fawreddog sydd i'w chanfod o bob tu iddo. Yn y prydnawn buwyd yn ymborthi ar y bara brith a phethau ereill ar y glaswellt; ac ar ol gorphcn ymgasglwyd yn nghyd er cael cyfarfod adlon- iadol cyn cychwyn yn ol. Canwyd amryw ddarn- au yn ystod y cyfarfod, a chafwyd araeth odidog iawn gan foneddwr dyeithr, Mr Jones, Merthyr Tydfil, a therfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau," a chyehwynodd pawb adref wedi cael diwrnod wrth eu bodd, ac wedi mwynhau eu hun- ain yn dda dros ben. Oymanfo- y Myfyrwyr.—Ar ddymuniad y frawd- oliaeth yn Bethel, Llanymddyfri, bu pedwar o'r myfyrwyr, yn nghyda W. D. Harries, Amanford, a Mr Watcyn Wyn, yn cynal cymanfa yno, Sul, Gorphenaf 5ed. Dechreuwyd yn y boreu gan D. M. Rees, Pentre-Ystrad, a phregethodd D. D. Evans, Gwauncaegurwen, a W. D. Harries. Yn y prydnawn, dechreuwyd gan W. D. Harries, a phregethodd J. M. Evans, Crwys, a L. T. Jones, Pontardawe ac yn yr hwyr dechreuwyd gan L. T. Jones, a phregethodd D. M. Rees a Watcyn Wyn. Cafwyd cymanfa lewyrchus, cynulleidfa- oedd lluosog, a chasgliadau da; a phrofiad pawb oedd yn bresenol oedd fod Duw yn arddel y weiu- idogaetb. Yr oedd y capadon yn traddodi yr hen Efengyl gyda nerth a dylanwad, ac yr ydoedd yn amlwg fod Duw gyda'i weision. Y mae teimlad cynes a hapus yn bodoli rhwng yr athrawon a'r myfyrwyr, ac y maent ar eu goreu er gwneyd y myfyrwyr yn ddedwydd allwyddianus yn eu hym- drechion. Y mae y bechgyn oil yn bresenol ar eu gwyliau er adnewyddu ychydig o nerth erbyn Awst lOfed, pryd yr ail-gychwynir at y gwersi. AMICUS.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ESTABLISHED NEARLY 50 YEARS.—White's Celebrated Moc- Main Trusses. Single Trusses, from 10s, Double-Trusses, from 18s. Sent free from observation and post free. WHITE'S MOC-MAIN LEVER TRUSS is the most effective invention for the treatment of Hernia. The use of a steel sprig, so hurtful in its enects, is avoided, a soft bandage being worn round the body, white the requisite power is sup- plied by the Moc-Main Pad and Patent Lever, fitting with so much ease and closeness that it cannot be detected. Sej;d for descriptive circular, with testimonials and prices, to J. White and Co (Limited), 228, Piccadilly, Loudon. Do not buy of Chemists, who often sell an IMITATION of our Moc. Main. J. White and Co. have not any Agents. "GREEN MOUNTAIN ASTHMA. CUBE — Anfonir tiniau bycliain yu rhydd trwy y llythyrdy am Is2c.- F. NEWBERT, a'i i'iSIBION, I, IKing Edward-street, Llundaii!. Sefydlwyd yn y lfwyddyn 1746,