Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLANELLI.) -

News
Cite
Share

LLANELLI. ) Anrhydedd i ddau Gymro Ieuanc o Lanelli.— Enillodd Mr John Alford Davies, B.A., mab y Parch Thomas Davies, yr ail wobr yn nosbarth- iadau y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn yn Ngholeg Cheshunt yr haf hwD. Efe hefyd oedd yr ymgeisydd llwyddianus am y Senior Elocution Prize—rhodd perchenogion y Christiah World. Enillodd ein cyfaill ieuanc y llynedd ei radd o B.A. yn y dosbarth blaenaf yn Mhrifysgol Llun- dain. Mae'r ffaith ei hun y ganmoliaeth oreu iddo. Clywsom ef yn pregethu yn Park Chapel boreu Sabboth diweddaf ar y saint fel halen y byd. Pregethai yn rhagorol; medda ar lais clir, clochaidd, a thyner, ac mae ei galon yn llawn o'r tan Cymreig. Ymddengys i ni y eymer satIe uehel yn fuan yn y weinidogaeth. Yr ydym yn dymuno llwyddiant o galon iddo, ac i'w dad, yr hwn a fag- odd fachgen mor dalentog a dysgedig. Darfn i Mr Samuel Williams, mab Mr Joseph Williams o firm Williams & Davies, y Timber Yard, enill gwobr o X15 yn Ngholeg Caerdydd yn ddiweddar. Cynghor y Coleg oedd yn rhoddi y wobr hon. Eaillasai Mr Williams X20 y llynedd pan nad oedd ond prin ddwy ar bymtheg oed, a phasiodd f ei Matriculation yn Mhrifysgol Llundain yn y dosbarth blaenaf. Yr oedd yn mlaenaf eleni, a cbipiodd y prif wobrau mewn Physical Biology a Mixed Mathematics. Yr oedd hefyd yn gydgyf- ranog yn y dosbarth blaenaf mewn Theoretical and Practical Chemistry. Cymerodd ei le yn bedwer- ydd mewn Pure Mathematics. Cipiwyd y wobr flaenaf yn y dosbarth hwn gan .ferch ieuanc. Well done y merched. Y mae yn rhaid hyd yn nod i'n bechgyn mwyaf talentog edrych ati, onide fe gipia y merched yr holl brif wobrau yn y man. Nothing can conquer a woman's will," cofient hwy hyny. Seindorf y Farningham Homes for Little Boys. -Talodd 30 o fecbgyn bychain o'r sefydliad rhag- orol uchod ymweliad &'n tref dydd Sadwrn di- weddaf gyda eu bandmaster, Mr C. C. F. Hare, a Mr A. 0. Charles, yr ysgrifenydd. Yr oeddynt yn chwareu yn ardderchog yn y ddau gyngerdd a gynaliasant. Rhoddodd Mr Charles hanes dy" ddorol am y sefydliad uchod, yr hwn a gychwyn- wyd 21 o flynyddoedd yn ol yn beth bychan ond fel 11awer peth bychan yn ei darddiad, y mae wedi myned yn sefydliad mawr erbyn hyn, ac wedi bwrw cangen allan i Swanley-pentref oddeutu tair milldir o Farningham. Mae y sefydliad olaf é yn gyfyngedig hollol i blant amddifaid. Mae y plant sydd yn Farningham, yn benaf, yn rhai oedd mewn perygl i gael cam a'u dystrywio drwy feddwdod neu ddrygioni y rhieni. Cynelir y sef- ydliadau yn hollol drwy roddion gwirfoddol. Nis gallai neb fedr fforddio punt ei rhoddi at achos mwy teilwng na'r sefydliadau hyn. Mae y plant yn iaich a cbryf, ae yn cael eu dysgu yn elfenau addysg, ac yn cael rbyw gelfyddyd hefyd. Maent yn gweithio fel cryddion, paentwyr, coginwyr, &c., tra yn y sefydliad. Cymer llawer ohonynt at y galwedigaethau defnyddiol hyn wedi dyfod allan. Gweithiant haner y diwrnod, a threuliaat yr haner aralli ddysgu Uyfr; a phasiodd y blynyddoedd diweddaf y per centage uchaf yn y deyrnas yn Ysgolion y Farningham Homes. Dyma ddadl gref dros droi yr ysgolion dyddiol ar gynllun yr industrial homes. Rbaid i'r plant dderbynir i'r Homes fod yn ddigon hen i allu rhedeg, a than ddeg oed. Mae y bechgyn bychain yn troi yn nurses i rai bach. Lletywyd y plant bob yn ddau dros y Sabboth yn nheuluoedd parchusaf y dref, a dywedid eu bod yn ymddwyn fel boneddigion. o

CWM RHONDDA. -

TONYPANDY.

CAERLLEON A'R CYFFINIAU.

LLANGWM. ---"-

Advertising