Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

_---r-----Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

ADGOFIOJST DEUG A IK MLYNEDD..

News
Cite
Share

defnydd deallns o lenyddiaeth Saesoneg. Di- lewýd y dreth oddiar bapyr, a galluogwyd ar- graffwyr anturiaefchus i gyhoeddi newyddiad- uron dyddiol am bris isel. Daeth y rhai hyny i ddwvlaw y bobl, a dechreuasant gymeryd eu gwybodaeth wleidyddol o ffynonellau pur: a dilwgr. Nid oes neb ond y sylwedydd cra&us yu gallu dirnad y chwildroad aruthrol mae ein gwlad yn myned trwyddi mewn canlyniad i'r cyfleusderau addysgol ydynt o fewn cyrhaedd y bobJ. Yn ddiweddar yn nghanol cwm dystaw diarffordd troisom i fewn i dy to gwellt, He mae hengydnabyddionanwyliniyn cyfaneddu, ac wrth ymgomio â r teulu caredig am helyntion y dyddiau gynt, gwelsom rywbeth hardd yn crogi ar y mur a dynodd ein sylw. Erbyn ei ddar lien gwelem mai certificate ydoedd yn datgan fod mab ieuanc y bobl hyny wedi enill gwobr am draethawd Seisonig ar Kindness to Animals," a hyny o blith canoedd oedd yn cys- tadlu, a'r oil yn cael eu beirniadu gan un o ddysgedigion penaf Llundain. Teimlwn yn y bwthwn hwnw y boreu teg hwnw fod addysg yn troi gwyneb ein gwlad wyneb i waered, ae yn ryflym newid cymeriad ein cenedl. Dihunodd inab Bryncapel un boreu a chafodd ei gymydog- ion yn gwybod cymaint, a rhai fwy, nag yntau. Proiwyd hyny pan ddaeth yr etholiad nesaf, a hyny with a terrible vengeance. Nid oedd angen anffaeledigrwyddmab Bryncapel i ddysgu y bobl y gwahaniaeth rhwng Tori a Whig— gwyddent hyny eu hunain. Yr oedd John y saer, William y gof, Edward y meiswn, a Daffo y crydd, yn derbyn papyr newydd, ac yn gwy- bod y cwbl eu hunain. Safai efe yn yr un fan, ond yr oedd y lieill yn codi. Pan ddaeth dydd yr etholiad, cododd y wlad Ymneillduol bono fcl un gwr i bleidleisio dros yr ymgeisydd Ilhyddfrydig, a gosodasant ef yn y Senedd gyda mvryafrif anrhydeddus. Synai yn aruthr, a cheisiai wawdio y tlodion, ond nid oedd ddim gwell, yr oedd dyddiau ei freniniaeth ar ben. JNis gwyddom a ddisgynodd hyn yn ddwfn i'w galon, ond gwyddom ua fu byw ond ychydig itynyddau wedi y th", i'droad hwn. Machlud- odd ei ogoniant, a bu farw yn ddisymwth holiol, a bellach mae ei rwysg a'i awdurdod wedi ei anghofio ond gan ychydig o'i berthynasau i agosaf. Dywedasom fod y mab arall wedi myned i'r mor. Nid ydym am i'r darllenydd ddeall yr ymadrodd yna yn ei ystyr gyffredin. Gall fod cyfoeth wedi dyfod i'r teulu, ac yntau yn tueddu at hyny, penderfynwyd codi y mab arall yn ieddyg. Cafodd addysg briodol i'w gymhwyso i hyny, a llwyddodd yn ei efrydiau, fel yr oedd yn gymhwys i'w alwedigaeth mewn amser cymedrol. Trwy fpV ddy lnnwadau llwydd wyd i'w gael i'r ilynges, ac yno y trenliodd ei holl fywyd cyhoeddus. Tair gwaith y bu adref yn ystod deng mlynedd ar hugain o amser, a chadwodd ei Gymraeg yn groew hyd derfyn ei ddyddiau. Nid oedd ei hen gymdeithion wedi cael fawr cyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef, oblegid rliyw ddau fis o'i wyliau" fyddai yn dreulio adref. Erbyn gorphen ei amser daeth adref i aros, a threuliodd weddill ei oes mewn tawelwch yn ei fro enedigol. Yr oedd wedi ymgyfoethogi yn ddirfawr—wedi ymddadblygu i fod yn gybydd trwyadl—wedi myned yn Dori ffyrnig, ac yn Eglwyswr selog. Yr oedd o ran ei swydd a i gyfoeth mewn safle i gymdeithasu a r boneddigion oedd yn y wlad hono, a gwa- hoddid ef atynt i giniaw yn ami. Yr oedd gan- ddo ohvg fawr ar ei ariau, ac yr oedd yn an- hawdd cael ganddo i gyfranu dim at unrhyw achos teilwng. Chwareu teg iddo hef'yd, gwnaeth rai darpariadau trugarog i'w chwior- ydd henaf oedd wedi myned yn dlawd, ae y mae gan hiliogaeth rhai ohonynt achos bendithio ei enw Ilyd y dydd heddyw. Wrth fod yn y Ilynges am ysbaid mor faith, yr oclid wedi gweled llawer o aragychiadau- uyeiihr, ac yn ddiau wedi bod mewn llawer o Ryf.ngderau. Pan adref ymddifyrai yn y tym- iior pnodol mewn saethu, ond anhawdd. cael ganddo fynegi dim o'i helyntion. Pan alwai i weiect rhyw gymydog, siaradai yn rl.wydd, ond ana ml y cyfeinai at ei fywyd ar y mor. U n- waith, pan oedd Garibaldi yn rhyddhau Itali, dygwydaodd iddo ddyweyd ei fod yn adnabody gwron yu dda, a'i fod wedi bod gydag ef ar y La Plata, ond ui roddodd dditn manylion. Buasai darlith ganddo ar ymgyrchion Garibaldi yn y rhanbarth hwnw c'r byd yn dra addysg- iadol, ond ni fynai fynegi dim. Mewn awr wan, pan oedd ar forell Sabboth teg yn yr haf wedi myned i weled perthynas iddo oedd yn glaf iawn, agorodd ychydig ar ei feddwl er difyru ychydig ar y claf oedd yn lied hoff o hanesion cyffrous o nodwedd grefyddoi. Dywedodd ei fod yn y liynges yn y Mor Du yn amser y rhy- fel yn y Crimea, a'i fod trwy y gwydraii oddiar fwrdd ei long yn gweled y rhan fwyaf o frwydr Alma. Gwelai Lord Raglan a'r staff yn ym- ddangos ar y boncyn hwnw tucefn i gyflegrau y Rwsiaid, ac yn galw adran o'r fyidin Brydeinig i fyny ato yn ddystaw bach hyd y ffordd gul, ddwfn, hono, i ymosod ar y gelynion mewn safle mwy manteisiol nag oedd ganddynt o'r blaen. Gwelodd hyn a llawer o fudiadau ereill, ac yr oedd swn dystaw y clwyfedigion yn dyfod yn donau dolefus i'w glustiau. Tranoeth, cafodd ef a'i gydfeddygon orchymyn i fyned i fyny i'r tir i gynorthwyo gyda'r cleifion. Wedi myned i dir, a dechreu rhodio hyd feusydd y gyflafan, yr oedd yr olygfa yn anarluniadwy o erchyll, a dolefau y clwyfedigion a'r dewrion oeddynt yn arteithiau marwolaetb. yn galonrwygol. Yn ddiweddar yn y prydnawn clywai y meddyg o Gymru swn canu, a meddyliodd ar unwaith ei fod wedi clywed gyffelyb o'r blaen. Dynesodd yn araf at y fan o'r hwn y deuai y canu, a gwelai ddau filwr ieuanc yn eistedd ar eu harfau gan ganu yr hen don Talybout," ar y gair melus, Yn y dyfroedd mawr a'r tônau, Nid oes neb a ddeil fy mhen, Ond fy anwyl briod Iesu, Rhwn fu farw ar y pren. Cyfaill yw yn afon angeu, Deil fy mhen yn uwch na'r don, Golwg arno wna i mi ganu Yn yr afon ddofn hon." Neidiodd atynt fel ewig, a wylodd fel baban. Hon oedd yr unig hymn Gymreig a wyddai, ac yr oedd ei chlywed yn cael ei ehanu gan ddau Gymro dan y fath amgylchiadau wedi ei orcli- fygu yn hollol, ac nid rhyfedd, byd yn nod iddo ef, oedd cael ei lwyr ddryllio gan hiraeth, a chysegrn y llecyn pell hwnw a chawod o ddagr- au. Erbyn ei holi, cafodd allan mai dau lane wedi eu geni a'u magn yn ymyl ei hen gartref oeddynt, ond eu bod wedi eu geni flynyddoedd wedi iddo ef adael ei wlad. Yr oedd y cyfar- fyddiad yn rhyfedd iawn, ac nid oedd ond naturiol iawn iddo effeithio yn ddwys ar ei deiml- adau. Bu farw un o'r bechgyn dan furiau Sebastopol, ond dychwelodd y llall adref yn iacli, ond ni wyddom ei hanes mwyach. I'r neb oedd yn adnabod y rneddyg, mae yn hynod iddo ddyweyd cymaint a hynyna o'i hanes, a diau pe y gwybuasai y gwnaethai y claf wella a chofio yr hanes, ac yn neillduol ei ysgrifenu yn mhen wyth ralynedd ar hugain wedi hyny, y gosodasai glo ar ei enau, canys nid oedd efe am gyhoeddi dim o hanes ei fywyd. Bellach mae wedi huno, ac wedi gadael ei gyfoeth i ereill. Tra mae ei gorff tal, lluniaidd, a hardd, Y11 braenu a phydru yn naear Lloegr, mae ereill yn byw yn fonedd- igion ar y cyfoeth mawr a gasglodd. Nid oes ond yehydig o deulu Bryncapel yn fyw heddyw. Gwelodd rhai ohonynt ofidiau chwerwach nag angeu, ond maent agos oil wedi gorphen eu gyrfa. Deallwn fod yr ychydig weddill yn barchus a dedwydd, a dilyned bendith Duw hwrynt dros genedlaethau lawer. Saif Bryn- capel yn yr un fan a'i dalcen gwyngalchedig yn edrych i'r gorllewin, ond dyeithriaid i ni a bres- wyliant yno yn awr. Wrth ei weled yn ach- lysurol o'r treu, adgofir ni o'r gwirionedd hwnw, "Un genedlaelh a a ymaith, a chenedlaeth arall a ddaw, ond y ddaear a saif byth."