Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

{1 YSGOL SABBOTHOL.i

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

{1 YSGOL SABBOTHOL. Y WEES HIIYN G WL A.D W III A E TUG L. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TEEFFYNON. GOBPHENAI' 19eg.—Omri ac Ahab.—1 Bren. x?i. 23-34- Y TSSIYN EITEAIDB,—"Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gin yr Arglwydd, <>nd efe a gar y neb a cidilyn gyfiawnder.Diar. xv. 9. RHAGAHWEINIOL. MAE chwe' mlyneid a deng-ain l'hwng yr amgylohiadau a gofnodir yn y Wers hon a'r Wers o'r biaen. Yn niwedd teyrnasiad Jeroboam, yr boa a. barhaodd am ddwy flynedd ar htigain, esevno id Asa, wyr Behoboain, i orsedd Judah, a theyrnasodd am un mlynedd a deugain; ond bu chwe' brenin yn Israel yn ystod teyrnasiad Asa yn Judah, yr liyn sydd yn dangos ror ansefydlnsr yr oedd amgylchiadau y deyrnns. Wedi marwolaeth Jeroboam, esgynodd Nalab, ei fab, i'r orsedd, ond ni theyrnasodd ond yn unig am ddwy flynedd. Pan yr oedd yn gwarchae ar Gibbethon, yn Dan, yr hon oedd wedi ei chymervci gan y Philisiiaid cododd Baasa o lwyth Isaachar frail wriaeth yn ei erbyn' a lladdodd ef a holl dv Jeroboam. Esgynodd i'r orse-ld yn ei le, It theyrnasodd ar Israel am bedair blynedd ar hugain. Tirsah ydoe id ei brifddinas ef. Rhodiodd yn ftordd Jeioboam, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn v gwnaeth efe i Israel bechu." Wedi marwolaeth Baasa, esgynodd Elab, ei fab, i'r orsedd. Yn mben yehydig gyda blwyddyn, cyd-fwriadodd ei was ef Zimri, tywysoar y cerbydau, yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yc feddw yn Tirsah, yn nhy Arsa, ac a'i lladdodd ef a holl dy Baasa, ac a esgynodd i'r orsedd. Byr iawn y bn ei Jwyddisnt dim ond saith niwrnooblegid ymosodwyd arno of gall Omri, tywYSOg y lIu j a pban welodd nad 08 j» fiobaith lddo, rhoddodd balas y brenin yn Tirsah ar dan, a threngodd yn y fflamau. Wedi 'hyn, ym- ranodd Israel yn ddwy ran—rhai a fynent Tibni, mab Ginath, yn frenin, ac ereill a aent ar ol Omri. Wedi pum mlynerJd 0 ryfel cartrefol, bu farw Tibni, a chafodd Omri ei wneyd yn frenin ar Israel. ESBONIADOL. Adnod 23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Judah y tevrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd yp Tirsah y teyrnasodd ete^hwe blynedd. Yn o y Saesoneg, "ydechreuodd 'Omri deyrnasu ar Israel." Cyhoeddwyd Omri yn frenin yn y seithfed flwyddyn ar hlJga;n o deyrnasi ,d Asa, ac a fu farw yn y drydedd flwyddyn ar by-i-the- ar hugain o'i deyrnasiad. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa y dechreuodd Om i deyrnasu fel unig frenin Israel. Yn y deuddeng mlynedd, cymerir ) fewn y Pum' mlynedd y bn yn tejrnalSU yn rhanol gyda Tibm. Tirsah. Adeiladwyd hi yn brifddinas gan Baasa. Yr oedd yn ddinas brydferth nodedic Cyfeirir ati fel y cyfryw yn Llyfr y Canladau (vi. 4). Ni ydyw ei s ifle yn adriabyddus, ond tybir ei hod o fewn ycbydia: filldiroedd i Sichem. Chwe' blynedd, o adeg marwolaeth Zimri. Adnod 24.—" Ac efe a brynodd fynydd S imaria gan Se:f;er, er dwy daJent o arian; ac a adeiiadodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ol enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria." Yn hytracb nag ail adeiladu Tirsah ar 01 i'r palas brenjnol pael ei losgi, y mae Omri yn p,tiderfynu adeiladu prif- ddinas ei lywodraeth yn mynydd Samaria, yr hwn oedd yn meddiant S.'mer. Prynodd y mynydd er dwy dalent gan Semer. Felly y gwnacth D'fvdd 11 llawrdyrqu Arafnah, Dwy, dalent. Tua .£857 o'n harian ni. Galwodd enw y ddinas Samaria ar ol enw Semer. Yr oedd enw y perchenog a'i ystyr yn llvtbyr- enol, sef twr gwjliadwriaetb, yn peri iO.nriialw y ddinas wrth yr enw Samaria. Bu yn ddinas freninol y dea: llwyth o'r pryd hwn hyd oni oresgynwyd y frenin- iaetli, ac y llwyr anrheithiwyd hithau hefyd, wedi tiir blynedd o warchae, gan Salmaneser. Dywed teithwyr fod ei sefyllfa yn rhagori hyd yn nod ar Jernsa'em mewn prydferthwch a cbadernid naturiol. Yr oedd wedi ei hadeiladu ar ben bryn, tua phum' milldr a deugain i'r gogledd o Jerusalem; y brvn hwn a amgylchymd oddiamgyleh a dyffryn dwfn a bras yr hwn, yn nghyda'r bryniau a'i bamgylchynent vatau a gynyrcbent hrwythau yn dornithi"g. Enw Samada gan yr Assvnaid ydoedd Beth-Kli,imri—t.y Omri. Adnod 25. Ond (jmri a wnaeth ddrygioni yn ngwydd yr Arzlwydd, ac a wnaeth yn waeth na'r holl rai a fuasai o'i .flaen." Yr oedd ymddygiad Omri yn waeth nag yniddygi,d d'ygionus y breninoedd a fuasai o'i flaen. el Dywed Miehah (vi. 16), "Cadw yr ydys ddeddfau Omri." Y mae yn debygol ei fod weji g»neyd eilnnaddoliaetli yn fwy cyfundrefnol, ac arf^rqdd fesnran cryfach i ddyeithrio meddylian y bobl oddivvrt! yr Arglwydd. Gweith-eda yn hollol benrydd heb deimlo unrhyw rwymedigaeth i Jebofah. Adnod 26.—" Canys e'e a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy'r hwn y gwnaeth e.ei Israel nechu gan ddigio Arglwydd Dduw Israel a u gwagedd hwynt." Ei bechod ef. Sefydln addoliad y lloi, yn nghyda'r tref'niadau cysylltie lig a hyny Gan ddigio yr Jlrglwydd. Kid te-mlad yn codi oddiar nwyd ydyw digofaint yr Arglwydd, ond teimlad o adgasrwydd at bechod yn codi oddiar sanct- eidnrwydd a pherffeithrwydd ei natnr. Q-ivagedd. Y delwau. Petbau diles a fcbwyllodrns. Arferir y cair yh ami yn yr Ysg.ythyrau am ddelwau. Adnod 27.—" A-r rhan arall o hangs Omri, yr hvu a efe, a'i rynmsder q. wtleth efe, oaid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl breninoedd Israel." i irymusder a ddaiigosodd efe." Ei wrdaeb a_i redrtisrwydd mewn rhyfel. Profo id hynv yn y ri-, -Yff-]ATib,!iacA'rSyriaid(i Bre-j. xx. 4). Yr oeda. ei duylanwad yn fawr, a diau ei fod yn deyrn eil!lio, me-n liawer ystyr, er ei fod yn llygredig. Ijlyfr cromd, &c, _Cyfe;rir at gof-lyfrau cyhoeddus ei deyrnasiad ef, y rhai a ge iwid gan ei ysgrifenwyr— jxwhc official state papers. Nid y Cronicl sydd yn ein JtJeiblau. Adnod 28.—"Ac Omri a hnnodd I"yda'i dadau, ac a gladJwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef." Cafodd feddro I yn y brifddinas a'god-nsai. Arferir yr ymairodd, "a hunodd" am farwolieth yn ami yn yr Hen Destament. Edrychir ar y bedd fel lie i gvsgn, ond nid oes dim yn cael ei ddywedyd am sef y 11 a yr ysbryd yn y by i ysbrydol. Yn addysg lesu Grist y cawn oleuni ar hyn. Adnod 29.—" Ac Ahab mil." Omri a ddeèhrenodd deyrnasu ar Israel\n y drydedd lfwyddy.i ar bymtheg ar hugain i Asa, brenin Judah ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria dd'y flynedd ar hugain." Dylid cofio fod yr Iuddewon yn cyfrif rhanan o flynyddoedd fel rhai cylain. Cawn fwy o hanes pethau neillduo'. teyrnasiad Ahab na'r uu arall o freninoed I Israel. Yr oe id Elias y proffwyd yn cydopsi ag of, ae y mae hyny wedi rhoddi arbenigrwydd ar ei deyrnasiad. Nid ydym yma yn cael ond drych- feddwl cyffredinol ohono, megys y gwaetliaf o'r holl freninoedd. Efe a devrnasodd 22 mlynedd, yn ddigon hir i wneyd llawer o ddrwg. Adnod 30.—"Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yn rigolwg yr Arglwydd y tuhwnt i bawb o'i flaen ef." Yehwanegir yr yinadrodd "mab Omri" i awarymu mai ffrwyth dylanwad y tad welir yn nrygioni rhyfygus y mab. Yr oedd efe wedi gweled dinystr breniuoedd drwg ereill a'n tenluoedd, etc yn lie eymeryd rhybudd, caledodd a, chynddeiriogodd ei galon yn erbyn Duw trwyddo." Y tuhwnt i bawb o'i flaen ef. Dygodd i fewn dduwiau ereill i'w haddoli. Gosodd Baal i fyny fel duw, a dysgodd y bobl i gydymffiurfio a'r ffurli .u eilunaddolgar oedd yn nglyn a'r gwasanaeth rodd'd iddo. Adnod 31. 'Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio yn mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jezebel me-oh Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo," Cyf. Diw., A bu, fel pe byddai ysgafn." Nid oedd yn ddim ganddo dori yr ail orcbymyn trwy ddelw- addoliae.th; e'e a roddai y cyntaf o'r neilldu hefyd trwy ddwyn i mewn dduwiau ereii!. Y mae gwneutliar yn ysgafn a pheehodau bychain yn gwneuthnr ffordd i bechodau mwy." Wrth briodi Jezebel, dygwyd ef i afael a'r dylanwadau cryfaf i ddelw-addoliaeth a phob drygioni ereill, gan ei bod yn un o'r merched gwaethaf y mae uenym hanes am dani. Dyma yr enjjraifft gyntif sydd genym o un o freninoedd Israel yn eymeryd ei brif wraig o fysg y Canaaneaid. Yr oedd hyny yn groes i orchymyn pendant Duw (Ex. xxxiv. 16). Merch Ethbaal. Proffwyd y dduwies Astarte. Llof- rnddiodd ei frawd, *yr hwn oedd y brenin oedd yn teyrnasu yn Sidon, ac esjjynodd i'r orsedd yn ei le. Yr oedd ei lywodraeth yn cymeryd i fewn Tyrus hefyd. A wasanaethodd Baal. DyJanwadodd ei wraig arno nes ei gael i addoli yr un duw a hithau. Gwrthododd Dduw Israel, a gwasanaetbodd dduw y Sidoniaid. Adnod 32.—" Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhy Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria." Yr oedd wedi adeiladu teml, yn yr hwn yr oedd delw o'r duw Baal. Wrth allor y golygir colotn neu ddelw i Baal (2 Bren. iii. 2). Adnod 33.—"Ac Ahab a wnaeth lwyn." Cyf. Diw., Ac a wnaeth yr Asherah." "Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Is-a.el na holl freniooedd Israel a fuasai o'i flacii ef." Asherah ydoedd tlelw y dduwies Astarte. Gwnaeth hefyd le cyfleus i gario yn mlaen y ffurfiau gwrthun oedd yn nglyn a'r gwas- anaeth. Adnod 34 Yn ei ddyddjau ef Hiel y Betheliad a adt-i adodd Jericho yn Abiram ei llydlfautJJig y sylfaenodd ete hi, ac yn Segub ei fab ieuetfGjaf y gosod- odd efe ei phyrth hi, yn ol gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy Josua ma,b Nun." Cyf. Diw., Efe a'i sylfaenodd hi gyda cholled o'i gyntafanedig Abiram, ac a osododd ei phyrth hi gyda cholle o'i fab ieuengaf Segub." Mae y ffaith hon yn dangos i'r fath ddyfnder o ddrygioni yr oeddynt wedi syrtlno iddo. Betheliad. Un o dy Dduw wedi ymlygru i'r fritii raddau, nes herfeiddio Duw. Yr oedd melldith wedi ei gyhoeddi nwchbeu y neb a feiddiai adeiladu Jericho (Josua vi 26). Yma y cyfarfyddwli a chyflawniad no ledig o'r broffwyd- oliaeth a draddodasi i gan Josua er's canoeid o flyn- yddoedd. BI1 farw mab hynaf Hiel pan osodid y sylfenii, a'i fab ieuengaf pan orphenid muriau y ddinas. Nis gall neb ryfygu pechu yu erbyn Daw heb ddyoddef. GWERSI. Mae gan arfcrion llygredig al!u neiliduo! i -rynyddu ac ymledu yn mysg plant dynion. Er fod Jeroboam yn udyn drwg iawn, eto dywedir am Omri ei fod yn waeth na'r Iroll rai a fuasai o'i flaen ef ac am Ahab drachefn dywedir ei fod wedi gwneuthur drygioni yn ngolwg yr Arglwydd y tuhwnt i bawb o'i flaen ef." Mae y genedl sydd yn gwrtbpd cydnabod awdurdod Duw yn rhwym o suddo i afael oiergoeliaetb, a cbasl ei chaethiwo gan arferion llygredig a dinystriol. Y fath an.fanta.is ydyw i un gael ei fagu dan ddy- lanwad esiampl rhieni annuwiol. Nodir Ahab fel mab Omri, gan gyfeirio at y dylanwad oedd bywyd ei dad wedi ei gael arno. Mae cyfeillachu a'r drygionua, ac yn enwedig priodi y rhai sydd ya gaeth i arferion llygredig, yn sicr o fod yu ddiny&tr i bob bapusrwydd mewn bywyd. Mae y rhai hyny sydd wedi gadael Duw yn fuan yn dysgu dirmygu ei air a diystyru ei fyjjyil'ion. Mae Duw yn rhwym o ddwyn i ben ei fygytbion yn erbyn yr annuwiol, yn gyst, I a chyflawni ei addewidion i'r rhai sydd yn ei ofni. Ni ch delodd neb orioed ei galon yn di erbyn ef a llwyddo. Duw a'n hatalio oddi- wrth bechodau rhyfygus. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Wedi manfrolanth Jeroboam, pwy esgynodd i orsedd Israel ar ei ol ? Faint y bu yn teyrnasu, a beth 11 fu el dynged ? 2. Pwy oedd Baasa p Pa fodd y daeth ef i'r orsedd ? Pwy oedd ei olynydd ef, a beth ddaeth ohono ? 3. Rhoddwch hanes pa fodd y daeth Omri i'r orsedd. 4. Paham yr adeiladodd Samaria tel priftidinas ei lywodraeth P Pa le yr oedd Samaria, a pha fodd y daetli iw toddiant ? 5. Beth oedd nodwedd cymeriad Omri ? 6. Pwy esgynodd i orsedd Israel ar ol Omri ? Beth oedd nodwedd eymeriad Ahab ? 7. Dangoswch fod Ahab wedi myned tuhwnt i bawb a fa o'i flaen ef mewn drygioni. 8. Pwy oedd Jezebel P Beth oedd effaith ei dylan- wad hi ar. Ahab ? 9. Paham y cyfeirir at y ffaith mai yn nyddiau Ahab yr adeiladwyd Jet-icho ? Beth y mae ymddygiad Hiel yn ei brofi P a dangosweh y modd y cyflawnwyd proffwydoliaeth yr Arglwydd trxy Josua.

[No title]

.-----+---HEBRON, LLEYN.

Advertising