Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885. Cyfarfyddodd y pwyllgor cerddorol dydd Iau diweddaf, pryd y trefnwyd gwaith yr holl feirniaid cerddorol. Y mae genym le cryf i gredu y bydd i'r trefniadau a wnaed roddi boddlonrwydd cyffredinol. Bydd pump ohonynt yn cydfeirniadu ar y prif ddarn. Hefyd, pasiwyd mai y penill cyntaf a'r penill diweddaf yn y darn "Beddy Dyn Tlawd" sydd i'w canu, ac nad yw nifer y corau meibion i fod dros hump-ar-hugain (y nifer a nodir ar y rhaglen) yn cynwys yr arweinydd. Heddyw (Sadwrn) yw y diwrnod diweddaf i dderbyn cyfansoddiadau llenyddol, barddonol, a cberddorol, ac y mae yn dda genyf ddyweyd eu bod yn dyfod i fewn yn gyflym. Cyhoeddwn yr enwau-yr wythnos nesaf. MAES LLAFUR AM URDD BARDD-GRADII UCHAF. 1. Rheolau Barddoniaeth, Yr Ysgol Farddol." 2. LMVdryddiaeth, Awdl Cariad Dyfed. 3. Cydnabyddiaeth a Gwaith Barddonol Hwfa Mon," Colofn y Beirdd" gan John Howell, 1, Goinion Emrys," a il Chaniaclati Islwyn." URDD BARDD-AIL RADD. Ymgeiswyr i astudio Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain," Tafol y Beirdd," ac "Ysgol Farddol" Dafydd Morganwg; dangos cydnabydd- iaeth a « Gweithiau Gor. Owain" a H Dewi Wyn o Eifion," yn nghyda "Buddugoliaethau y Meddwl Dynol" gan Essyllt; a gwneyd englyn yn cynwys y tair cynghanedd ar destyn rhoddedig ar y pryd, &c. UIIDD OJTYDD. "Gramadeg" Dewi Mon, "HanesPrydain" Q. Jones, Daearyddiaeth, <fcc. HYWEI, CYNON, Ysg. Cyff.

BEAUFORT. -

GODRE Y BERWYN. -