Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Ty TR ARGLWYDDI.-Dydd Mawrth.—Cyfarfu- wyd am 4 o'r glocb. Ar y cynygiad i ail ddarllen Mesur y Regent's Canal, cynygiodd Iarll Ravens- yorth fod y standing m'der sydd yn gwahardd talu interest allan o'r capital i gael ei throi o'r neilldu yo yr achos hwn. Gwrthwynebwyd gan Arglwydd Brabourne. Wedi ychydig- o ddadl, rhanwyd y Ty. Cariwyd y cynygiad gan 46 yn erbyn 37, ac ail ddarllenwyd y mesur. Pasiwyd trwy bwyllgor Mesur Diwygiadol y Friendly Societies' Act. Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd ychydig cyn 4 o'r gloch. Mewn atebiad i Dr Cameron, dywedodd Ar'gl.wydd J. Manners fod y 4500,000 a gyfrifid yn angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cael pellebrau chwecheiniog wedi, neu ar gael eu gwario, a bod 1,200 o glercod wedi eu hychwanegu at y gwasanaeth. Fod y mesur, nid Yn unig yn darbodi rhoddi pellebrau am 6c., ond hefyd dileu cyfeiriadau rhad. Fod hyny yn fater yr oedd cymaint o wahanol farnau arno yn y Ty ac allan ohono, fel yr oedd y Llywodraeth yn barnu nad oedd yn ddoeth myned yn mlaen ajf ef y tymhor hwn. Methodd Mr Callan a chael dim allan o Syr R. Cross yn nghylch y Pall Mall Gazette. Mewn atebiad i Mr McLaren, dywedodd Syr M. Hicks.Beach fod y Llywodraeth wedi Penderfynu anfon cenadaetb i'r Aipht, ac mai Syr H. D. Wolff oedd y gwr dewisedig. Mewn atebiad 1 Arglwydd C. Hamilton, dywedodd Mr Balfour fod y trefniadau a'r rheolau a wnaed y llynedd i ragflaenu y cholera yn y wlad hon yn parhau Mewn arym, a bocl dadrefniad rags yn wahardd- edig hyd y dydd cyntaf o Dachwedd. Yna cododd Canghellydd y Trysorlys i fynegi pa fesuran oedd y Llywodraeth wedi penderfynu myned yn mlaen a hwynt, a pha fesurau i'w gadael allan. Yn ^ysg y rhai olaf yr oedd Mesur y Crofters, Addysg Ganolraddol i Gymru, ond gobeithient gael hamdden i ystyried Mesur Mr Collings i roddi y bleidlais i'r rhai oedd wedi derbyn cymhorth plwyfol meddygol. Hefyd, gobeithient gael cyd- syniad y Senedd i ddiwygiadau neillduol yn y Criminal Act (Iwerddon). Dilynwyd ef gan Mr Gladstone. Mynegai ei foddlonrwydd i'r l'hesymau a roddwyd dros adael allan Fesur Addysg Ganol- raddol i Gymru. Gobeithiai yn gryf yr aent yn mlaen i mesur Mr Collings, a daliai y Llywodraeth Yti gyfrifol am iawn-reolaeth a heddwch yn yr lwerddon. Cynygiodd Cangbellydd y Trysoclys fod materion y Llywodraeth i gael y flaenoriaeth ar bobpeth ar ddyddiau neillduol o'r wythnos. Cynygiodd Syr W. Lawson fel gwelliant, Fod y Ty hwn, gan nad oes ganddo ymddiriedaeth yn nghynghorwyr presenol Ei Mawrhydi, yn gwrthod yoiddiried i'r Llywodraeth i wneyd fel y gwelo yn dda ag amser y Ty." Wedi ychydig siarad, rhanwyd y Ty. Dros y cynygiad, 151 dros y gwelliant, 2 Ar gynygiad Canghellydd y Trysor- Jys fod cynysgaeth o £ 30,000 i gael ei rhoddi i'r Dywysoges Beatrice ar achlystir ei phriodas, pynygiodd Mr Labouchere welliant nad oedd hyny I gael ei wneyd, am fod gan Ei Mawrhydi ddigon o eiddo personol i'w rhoddi i'w phlant. Cwynai Syr F. Milner yn erbyn gwaith Mr Labouchere yn gwrthwynebu pob pleidlais o'r fath. Mr Redmond a ddymnnai wrthwynebu, gati fod Ei Mawrhydi ^edi meddianu saith neu wyth miliwn o bunau. ^pfynai Mr Arnold a oedd sicrwydd gan y Llyw- odraeth y byddui iddyntgydsynio awgrymiad !vIr Gladstone, fod pwyllgor i gael ei benodi i 11 ^Heyd ymchwiliad i'r grants hyn. Atebodd y Canghellydd nad oedd y Llywodraeth wedi cael jjjtaser i ystyried y mater. Yn y rhaniad, cafwyd dros y cynygiad, 153 dros y gwelliant, 32. Ty Y CYFFREDIN.—Dydd Mei-chei-Cymerodd y Llef^rydd ei sedd yn fuan ar ol 12 o'r glocb. Wedi ychydig ymddyddan ar symudiad Cadben •Hobart Hampden oddiar gyfres y Llynges, a'i "orertad drachefn, trenliwyd prydnawn tawel gyda Phleidleisio symiau braf o arian i'r Llynges. Ty YR ARGLWYDDI.—Dydd law.—Cyfarfuwyd a,*n 3 o'r glocb. Daeth Arglwydd Rothschild i ^&y a'i het ar ei ben, ac ar Feibl Hebraeg y 11 vv gofynol. Cynygiodd Arglwydd 0Seberry ail ddarlleniad mesur i benodi Ysgrif- i Ysgotland, a gwnaed hyny. Tynwyd yn Fesur Diwygiadol Gwallgofiaid a Mesur Cof- *estriad Real Property. Dar-llenwyd y drydedd ^aith, a phasiwyd Fesur Diwygiadol y Cymdeith- asau Cyfeillgar. Ty Y CYFFREDIN.—Cyfarfuwyd am 4 o'r gloch. lwn atebiad i Mr Arnold, dywedodd Canghellydd » frysorlys fod y Llywodraeth wedi penderfynu gwneyd ymchwiliad i sefyllfa wasgedig masnach I Y wlad. Mewn atebiad i-gais yr Arglwydd ll^tk' Swrthododd Mr Bourke osod ar y bwrdd y i thyrau a'r pellebrau an Fonwyd gan Syr Peter Wsden i'r Liy wodraeth ddiweddaf. Yna cododd Canghellydd y Trysorlys i fynegi ei Gyllideb. Yn ol y dysgwyliad, nid oedd yn cynwys dim newydd. Cynygiai i Dreth yr Incwm gael aros yn 8c. fel y cynygiodd Mr Childeis, a chynygiai godi y gweddill, nid trwy osod toll ar ddiodydd a gwirodydd, fel y gwnaeth Mr Childers, ond trwy rhoddi exchequer bonds, y rhai ni ddeuant yn ddyledns hyd yflwyddyn nesaf. Cytunwyd heb un gwrthwynebiad, wedi cael ychydig egluvhad ar rai pethau synfawr a draethodd am y Weinydd- iaeth flaenorql. Dygwyd i fewn gais am ail ddarlleniad y Criminal Law Amendment Bill, aq wedi ychydig siarad gwnaed hyny. TY YR AEGLIWYDDI -Dydcl Gwener.—Cyfarfu- wyd am chwarter wedi 4 o'r gloch. Cododd Due Argyll, a gwnaeth gyfeiriad at yr amgylchiadau a arweiniasant i yfiiewidiad y Llywodraeth, gan guro y ddwy blaid yn ddidrugaredd. Cymhwysodd Iarll Roseberry y fflangell ato mewn modd deheuig ac effeithiol. JSTid oedd awydd ar neb i fyned i'r ffrwgwd, a therrynodd y chwareu ar hyny. ._Cy TY Y CYFFREDIX Lmero, Id y Llefarydd ei sedd ychydig ar ol pedwar o'r gloch. Mewn atebiad i Mr A. Grey dywedodd Syr R.'Cross fod gorchymyn wedi ei roddi i'r heddgeidwaid i wneyd yr hyn a allont i osod i lawr weithrediadau gwaradwyddus y Pall Mall Gazette. Mewn atebiad i Mr Jesse Collings, dywedodd Syr M. Hicks-Beach fod y Llywodraeth yn bwriadu dwyn mesur i fewn dydd Llun nesaf fuasai yu cynwys yr amcan oedd ganddo ef mewn golwg. Wrth fyued i Bwyllgor Cyflenwad, galwodd Mr S. Smith sylw at sefyllfa y dosbarth gweithiol mewn trefi a dinasoedd mawrion. Cynygiodd hefyd fod y plant o 12 i 16 oed i gael eu gorfodi i fyned i ysgol yn yr hwyr, i'w cymhwyso i enill eu bara yn y wlad hon neu y trefedigaethau. Eiliwyd gan Mr L. Stanley, Wedi cryn ddadl, yn yr hon y cymerwyd rban gan Syr R. Cross, Mr Mundella, Mr Collings, Mr Stanhope, a Mr C. S. Reed, cynygiodd Mr Smith dynu ei benderfyniad yn ol, ond gwrthodwyd ef heb rhanu y Ty. Ty YR ARGLWYDDI.-Dydd Llun.—Cymerodd ychydig aelodau newyddion eu sedd. Mewn atebiad i Arglwydd Castletown, dywedodd Ar- glwydd Waterford fod y Llywodraeth yn bwriadu yn fuan i ddwyo mesur i fewn i hwylysu tros- glwyddiad tiroedd yn yr Iwerddon. Pasiwyd mesur i roddi benthyg XIO,000,000 i India, a chododd y Ty. Ty Y CYF-FREDIN -Cymerodd y Llefarydil ei sedd ychydig cyn 4 o'r gloch. Wedi myaed trwy ychydig o gwestiynau, &c., aeth y Ty i Bwyllgor Cyflenwad. Cynygiodd Mr W. H. Smith fod 35,000 o ddynion i gael eu hychwanegu at y Fyddin. Dangosodd Arglwydd Hartington nad oedd angen am y fath ychwanegiad. Cynygiodd Mr Ryland fod y nifer yn ddim ond 12,000. Eiliwyd gan Syr W. Lawson. Ar ol dadl, rhanwyd y Ty, a chollwyd y gwelliant gaa 98 yn erbyn 12. -+-

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.

BEAUFORT. -

GODRE Y BERWYN. -