Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA GERDDOROL ANNIBYNWYR…

CAERPHILI.

Y S TA L Y FER A.

LLANFACHRAETH, MON".

S E ION, MON.

News
Cite
Share

S E ION, MON. Te Tarti a Chyfarfod Ollstadleuol. Y mae yr wyl uchod yn nglyn a'r Ysgol Sabbothol yma, bellach yn hen sefydliad blynyddol. Cynaliwyd hi eleni ddydd Gwener, Gorphenaf y 3ydd. Aed a'r plant fel arfer yn orymdaith i Clegyrog, a dymun- ol iawn oedd gweled Mrs Thomas yn cyfranu yn siriol o'i charedigrwydd i'r plant yn ol arfer y ddi- weddar Mrs Thomas, yr hon y mae ei choffadwr- iaeth yn fendigedig. Yna dychwelwyd at y capel i fwynhau o'r danteithion ag oedd caredigion yr achos drwy yr ardal wedi ddwyn yIio, am yr hyn yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar iawn iddynt. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan amryw fon- eddigesau serchog a phrydferth. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod cystadleuol ac amrywiaethol, difyr ac adeiladol, o dan arweiniad y Parch W. Davies, gweinidog y lie, a'r Parch T. Evans, Amlwch, yn y gadair. Ar ol cael araeth bwrpasol gan y Llywydd, aed drwy raglen faith, a gwobr- wywyd am y pethau canlynolTraethawd ar y I I Sabboth." Traethawd ar "Gofnodiad y Pedwar Efengylwr o amgylchiadau y Croeshoeliad." Dilyn ar y Modulator. Canu ton gynulleidfaol. Sillebu. Adrodd" Y Wyddfa," o Weithiau Hwfa Mon. Darllen difyfyr. Dadl byrfyfyr. Enillwyd y gwahanol wobrwyon eleni gan y personau can- lynol Mr W. Jones, Ty'n Lon Miss Catherine Williams, Ty Capel; Mr Richard Williams, Llys- gwynt; Miss Mary Jones, Fodol Miss Eliz% Owen, Penycae; Miss Mary Hughes, Dafarn Newydd Mr Owgn Williams, Penbol Uchaf a Mr J. W. Jones, Glanygors. Beirniadwyd y gwa- hanol betbau gan y Parch T. Evans a Mr J. H. Hughes (Tenorydd Cynfarwy). Holwyd y plant yn hanes Joseph yn fywiog a gwreiddiol iawn gan Mr William Lewis, Dafarn Newydd, fel y medr y brawd hwa holi. Chwareuwyd ar yr harmonium yn fedrus gan y foneddiges ieuaac addawol Miss Barker, Stamp Office, Llanerehymedr], a chawsom yr hyfrydwch o'i chlywed yn canu am y tro cyntaf yn gyhoeddus. Dadganwyd amryw ddarnau tar- rawiadol yn feistrolgar gan Mr Hughes, Tyddyn. Gyrfar. Canwyd amryw weithiau yn dra swynol gan gor y lie o dan arweiniad Mr Thomas, Clegyrog. Os oes rhywun yn haeddu canmoliaeth am ei ffyddlondeb, y mae y brawd hwn. Mawr yw breintiau plant Seion, ac yr ydytn yn gobeithio y gwnant y goreu ohonynt. Nid yn ami y ceir un mor ymroddgar a Mr Thomas, ac yn llanw cynifer o gylchoedd mor ganmoladwy. Hir oes iddo i barhau yn ei ffyddlondeb yw dymuniad ein caloD. Yr oedd testynau i farddoni arnynt wedi eu nodi, oud ni ddaeth cyfansoddiadau barddonol i law y tro hwn, ond darllenodd y Bardd o'r Berllan res o benillion hynod ddoniol i'r cyfarfod i "Faen-y- Goges," Maent o gryn hynodrwydd yn y gymyd. ogaetb, a rhoddwn hwynt i lawr yma oni bai fod arnom ofn eich blino a. meithder, felly nid ym- helaethwn. GWYLIEDYDD.

PENMABNMAWE, -

[No title]