Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

OOLEG ABERYSTWYTH WEDI EI…

News
Cite
Share

OOLEG ABERYSTWYTH WEDI EI LOSGI. TBI 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI—AMR?W EREILL WEDI EU NIWEIDIO Y GOLLED Y N £ 30,000. Nos Fercher, yr wytnnos ddiweddaf, rhwng 11 a 12 o'r gloch, torodd tan allan yn y Coleg uchod, a chyn pen haner awr ymsaethai y fflamau allan tua rhan o'r nen. Rhoddodd hyn gyfleusdra i'r tb ymledu, ac i gymeryd medd- iajit hollol o aden ogleddol y Coleg, fel nad oes yn aros o'r rhan hono ond y muriau moelion yn unig. Cynwysai yr aden grybwylledig— entrance hall brydferth, pump o ystafelloedd at wasanaeth dosbarthiadau, ystafell ddarlithio y boneddigesau, pump o ystafelloedd ar ybedwar- edd a'r burned lofft at wasanaeth y celfau. Yn y rhan a losgwyd yr oedd hefyd y Llyfrgell a'r Amgueddfa, fel, mewn gwirionedd, mae yr holl o'r adeilad oedd yn cael ei ddefnyddio at addysg y Coleg wedi ei lwyr ddinystrio. Arbedwyd y rhan He y preswyliai y Prifathraw al doulu, a'r neuadd eang a gorwych sydd yn y rhan dde- heuol o'r ty, ac a elwir yr [Examination Hall. Suty eymerodd y lie dan sydd yn ddirgelwch hollol fel y gwyddis, mae yn vacation yno yn bresenol, felly yr oedd y myfyrwyr •'oil wedi ymadael, a'r rhan fwyaf o'r athrawou wedi myned am eu gwyliau, ac nid oedd y Prifath- raw Edwards yn dygwydd bod gartref ar y pryd. Aeth y teulu ac ereill i orphwys nos Fercher tuag un-ar-ddeg o'r gloch, ac ym. ddangosai pob peth yn ddymunol a dyogel, ond rywbryd cyn deuddeg o'r gloch canfyddwyd gan bersonau oddiar yr heol dan yn tori allan drwy ffenestr ystafell ar y llofft oedd yn gwy- nebu ar yr heol y tucefn i'r Coleg, ac aeth y cri tânptân, aUan drwy y dref gyda chyflymder anarferol, ac mewn ychydig iawn o amser cyr- haeddodd yr heddgeidwaid, a chafwyd o hyd i beiriant tan perthynol i'r barrachs, ac yr oedd yno ganoedd o'r trigolion yn barod i waith i geisio atal yr elfen ddinystriol. Yr oedd yno gyflawnder o ddwfr, a gosodwyd y peiriant ar waith mewn byr amser, ond yn herwydd uchder yr ystafelloedd oedd ar dan, nid oedd yn gallu bod o fawr wasanaeth, felly cyfeiriwyd ef i weithio i atal y tan rhag ymledu i dy y Prif Athraw ac aden ddeheuol y Coleg, ae yn hyn bu yn effeithiol. Cyfyngwyd y tAn am yr haner awrgyntaf i ystafelloedd y Fferyllfa, a thra yr oedd yr elfen yn dinystrio yna yr oedd Iluaws o breswylwyr y dref o dan arweiniad Dr Humpidge yn cario allan gynwysiad yr Amgueddfa, y Llyfrgell, a chelfi ty y Prifathraw, a buont yn ffodus i gael y rban fwyaf allan yn ddyogel, er fod llawer o niwed wadi ei wneyd iddynt gan y dwfr. Parhaodd y tan i losgi yn ffyrnig am oriau yn yr aden ogleddol, ac yn stbsenoldeb peiriant tan pwrpasol, afire brigade, nid oedd dim modd i'w atal, ac o dan yr amgylchiadau, buwyd yn ffodus iawn i allu ei atal rhag ymledu i dy yr athraw a'r Examination Sail. Uatodd amryw o'r dewrion oedd yn gweithio a'u holl egni i geisio achub y lie lawer i ddiangfa gyfyng yn ystod y nos. ond drwg genym orfod hysbysu i ddamwain ddifrifol ddygwydd tua 6 o'r gloch bqreu dydd Iau, pryd y collodd tri eu bywydau, ac yr anafwyd ereill. Ar yr adeg grybwylledig, aeth Mr Macpherson, un o ath- rawon yr Ardwyn School, Dr Humpidge a phump ereill i fewn i'r adeilad er edrych yn mha sefyllfa yr oedd yr Amgueddfa (Museum), ac wedi cyrhaedd y lie a dechreu gwneyd ym. chwiliad heb feddwl fawr ar y pryd fod y tan wedi llosgi o dan y llawr, ac uwchben y ceilinq, ac nad oedd yr ystafell o ganlyniad ond plisgyn yn unig, a phan yno cwympodd simnei i mewn trwy nen yr Amgueddfa, a chariodd gyda hi lawr yr ystafell, a thaflwyd i waered drwy yr ystafelloedd y bobl oedd yn sefyll arno (gyda yr aitliriad o Dr Humpidge, yr oedd ef yn dyg- wydd bod y diweddaf, ac heb fyned i mewn yn hollol i'r ystafell. Llwyddodd Macpherson, Edward Edwards, Spring Gardens; a David Jones, Portland-lane, i ddianc allan o ganol y tan yn fyw, ond wedi eu llosgi yn ddrwg iawn. Cymerwyd y ddau olaf i'r ysbyty, a buwyd am rai dyddiau yn orm am eu bywydau. Ond da genym ddeall erbyn hyn fod y tri yn gwella yn xhagorol. Drwg genym fod y tri ereill wedi colli eu bywyd, sef James Edwin Brett, ysgol- feistr, dyn ieuanc oedd yn byw gyda ei fam; Samuel Jones, aelod o Byddin lachawdwriaeth, gyda gwraig a dau o blant John Davies, gweithiwr yn ngwasanaeth y fwrdeisiaeth, yr hwn sydd wedi gadael gwraig a chwech o blant. Pan ddeuwyd o hyd i'r cyrff yr oeddynt wedi eu llosgi i'r fath raddau fel yr oedd braidd yn anmhosibl adnabod y naill oddiwrth y llall. Gellir crybwyll hefyd mai newydd ymadael ag ystafell y museum oedd y Parehn T. E. Williams ac A. J. Morris, pan aeth y bobl anffodus a gollodd eu bywydau i mewn. Buwyd yn ffodus iawn i allu dyogelu y llyfrau gwerthfawr oedd yn y Lyfrgeil, ac yn eu plith Beiblau Dr Morgan a Dr Parry, y darluniau gwerthfawr o Arglwydd Aberdar, ac ereill, oedd yn addurno y muriau, coffee service Mozart, a'r cwpan enillwyd gan y Cor Mawr yn Llundain, a lluaws o bethau gwerthfawr ereill. Llwydd- wyd hefyd i ddyogelu yr holl lyfrau oedd yn llyfrgell y Prifathraw, ac yr oedd yn eu, plitl-i amryw lyfrau henafol a gwerthfawr nas gallesid yn hawdd eu hail bwrcasu. Drwg genym ddeall fod amryw o'r Proffeswyr wedi cael colledioa mawr. Dywedir fod Dr Humpidge wedi colli peirianau gwyddonol o werth 2200, ac heblaw hyny collodd ei holl ysgrifau, pa rai oedd yn cynwys llafur blynydd- yddoedd o ymchwiliadau gwyddonol. Cafodd y Proffeswr Brough hefyd golled fawr trwy i'w holl manuscripts gael eu llosgi, pa rai oedd yn werthfawr iawn. Yr oedd y boneddwr hwn wedi gadael Aberystwyth am ei holidays er dechreu y mis, a dydd Mercher diweddaf yr oedd yn trefnu gyda chyfaill iddo i fyned i dreulio rhyw gymaint o amser yn Scarborough, a phan ar gychwyn daeth i'w feddwl nad oedd ei manuscripts yn ddyogel yn y Coleg, er y gwyddai ei fod wedi eu gosod mewn man eithaf dyogel, eto nis gallasai yn ei fyw gael gwared o'i feddwl nad oedd ei bapyrau ddim yn ddyogel, a chan eu bod yn werthfawr iawn iddo ef, ac yn ffrwyth blynyddoedd o lafur ac ymchwiliad, ac yn gyfryw nas gallesid eu prynu gydag arian, penderfynodd ohirio ei ymweliad a Scarborough am ddiwrnod neu ddau, a chyohwynodd am Aberystwyth, a chyrhaeddodd yno just mewn pryd i weled yr ystafell oedd yn cynwys ei bapyrau yn wenfflam, a'r oil wedi eu llosgi. Mae golwg dorcalonus i'w ganfod ar yr adeilad. Yr aden ogleddol wedi ei dinystrio yn llwyr, a bydd yn rhaid ail-adeiladu o waelod y mur sydd yn gwynebu y mor. Mae pen y ty wedi myned yn hollol. Mae yr entrance hall ardderchog yn agored i'r awyr, a'r pileri gor- wych ac ysblenydd oedd yn addurno ac yn dal i fyny yr adeilad wedi eu cracio a'u tori. Bernir fod y golled tua £ 30,000. Yr oedd wedi ei ys- wirio am 212,000. Wedi ysgrifenu yr uchod, gwelwn fod Colonel Syr Charles Firth, llywydd y Fire Brigade Association, wedi gwneyd ymchwiliad i achos y tân. Mae yn wybodus fod Dr Humpidge a'i gynorthwy.ydd Mr James wedi bod yn gwneyd amryw experiments yn y laboratory prydnawn dydd Mercher, ae wedi defnyddio cryn lawer o cotton waste i lanhau y peirianau ar ol y gwa- hanol chemicals a barn Syr Charles Firth yw mai y cotton waste crybwylledig gymerodd dan I ohono ei hun. Y frawddeg Saesoneg a ddef. nyddia yw, The spontaneous combustion of cotton waste used for cleaning purposes after the chemical experiments in the laboratory where the fire broke out." Cymerodd claddedigaeth John Davies a — Jones le prydnawn dydd Sul yn y cemetary, a bernir fod yno rhwng dwy a thair mil o bersonau yn bresenol. Traddodwyd pregethau yn dal cysylltiad a'r amgylchiad pruddaidd agos yn mhob capel trwy y dref boreu y Sabboth. ..——

DOWLAIS.

TREDEGAR.

Advertising

[No title]