Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

. O'M LLYFRGELL.

Advertising

4k PEMBR-E.

News
Cite
Share

4k PEMBR-E. Cyfarfod y Band of Hope.- Yn nghapel Jeru- salem, nos Sadwrn, Mehefin 28ain, cawsom Service of Song 0 dan y teitl Y Messiah i Blant," gan blant y Gobeithlu uchod. Cadeiriwyd ar yr achlysur gan y Parch J. Kogers, gweiriidog y Ile, ac arweiniwyd y canu gan Mr D. B. Hughes. Gallwn ddyweyd fod y plant yn canu yn hwylus, ac yr oedd yr adroddiadau yn bob peth ellid ddy- muno. Treat Blyn?jddol.-Prydnawn Sadwrn, y 4ydd cyfisol, cafodd y Grobeithlu uchod eu treat blyn- yddol odea bara brith. Yr oedd 203 o'r plant wedi d'od yn nghyd, ac nid gwaith bychan oedd eudiwallu; ond eawsant eu gwala a'u gweddill. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan foneddigesau dirwestol, gweithgar, a diwyd. Cyfarfod Blynyddol,—Cynaliodd eglwys Jeru- salem ei chyfarfod blynyddol y Sal a'r LInn, y 5ed a'r 6ed cyfisol, pryd y gwaaanaeth wyd gan y Parchn R. Rowlands, Aberaman, a C. Tawelfryn Thomas, Groeswen. Yr oedd y pregethu yn hwylus, y cynulleidfaoedd yn fawrion, y casgliad- au yn dda. a'r canu yn fendigedig. Mae yma am- rywiaeth mawr yn cael ei ddangos mewn cysylltiad a'r rhan yma 0 waith ty yr Arglwydd. Ceir Salin ac anthem yn rnhob cyfarfod ar y Sul, a ehetiir bwynt gan yr boll gynulleidfa yn gryno fie yn hwyliog iawn. Mae gwedd lewyrchus ar eglwys Jerusalem, yr hon sydd wedi bod am yn agos i bymtheng mlynedd 0 dan weinidogaeth y Parch J. Rogers ac er fod yr aelodau yn rhit'o oddeutu 500, eto i gyd y maent yn teimlo fod gan bob aelod waitb i'w wneyd, a'i bod yn ddyledswydd arno i wneyd y gwaith yma yn y modd goreu, ac j'r dybenion goreu. Y mae llawer 0 gyfnewidiadau wedi cymeryd lie yn yr eglwys hon er pan y bum i yma o'r blaen; llawer gwyneb oeddwn yn adna- bod wedi eu cuddio; llawer o'm hen gyfeillion wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Ond yr oedd yn faleh genyf weled y plant yn cy- meryd lie y tadau a phe tawai y rhai byn, t'e lefarai y ceryg." Y mae gwaith yr Arglwydd i fyned yn ei flaen. YMWELWK.

Advertising

. ABERDAR.

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. I -

. O'M LLYFRGELL.