Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

"^i■iim Yl1 YSGOL SABBOTHOL-

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

m Yl1 YSGOL SABBOTHOL- Y WEES lUIYNGWLADWKIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, TPEFFYNON. GOR. 12, Jeroboam yn sefydlu Eilunaddoliaeth.- 1 Bren. xii. 25-33. TESTYN EUBAIDD.—"Na fydded i ti dduwiau ereill ger fy tnron i."—Exod. xx. 3.. RHAGARWEINIOL. JEROBOAM ydoedd fab Nebat, Ephratiad o Seredah, a Serfiab, gwraig weddw. Dechreuodd ei oes fel un o weision Solomon. Trwy ei ailu a'ifedrusrwydd drrch- afodd ei hun i. safle anrhyde idus yn ngwasanaeth Solomon ond arweiniodd ei uchelfjais ef. i ddyrchafu ei law yn erbyn ei arglwydd, a bu yn rhaid iddo floi i'r Aipht; Ac ere a fu yn yr Aipht hyd farwolaeth Solomon." Wedi marwolueth Solomon dychwelodd i wlad ei dadau a thrwy y chwildroad a gymerodd le yn nyddiau Eehoboam, daeth yn frenin ar ddeg llwyth Israel, fel yr hysbyswyd ef gan Ahiah y proffwyd. Dyn drygionus iawn ydoedd, ac adnabyddir ef fel yr hwn a wnaeth i Israel bechu." Ei bechod mawr yd- oedd gosod i fyny wasanaeth crefyddol yn Bethel a Dan mewn gwrthgyferbyniad i'r un yn Jerusalem Cymhellwyd ef ya ddiau i wneyd hyn er mwyn dyogelu ei awdurdod. Tra yr oedd :Jerusalem yn gyr hfan i'r gwananol lwythau addoli ar y gwyliau gosodedig, barnai nad oedd ei orsedd yn ddyogel, ac ofnai rbao- i'r bobl, mewn amser, ddychwelyd at dy Dafydd. Felly penderfynodd newid nid yn unig y lie, ond natur yr addoliad cyhoeddus. Gwnaeth ddan 10 aur, a gosododd un yn nherfyn eithaf ei wlad tua'r gogledd, a'r llall tua'r dehau. Amcanai i'r bobl addoii Jehovah trwy gyfrwng y delwau hyn. Yn yatod oi arosiad yn yr Aipht yr oedd wedi dy fad yn gydnabyddns a delwau fel arwyddlnman o'r Duwdod. Nid ei amcan oedd arwain en meddyliau at ddnw arall, ond cael rhy wbeth gweledig i wneyd i fyny am y golled fuasai y bobl yn deimlo am y deml fel Ile i addoli Duw. 'Wrth yr allor yn y deml yroedd offeiriaid yr Arglwydd yn gwcins yno yr oedd holl Tsrael i gadw y gwyliau, ac yno yr oeddynt i ddwyn eu hoffrymau. Trosedd yn erbyn yr ail orcbymyn ydoedd trosedd Jeroboam. Troseddodd Ahab yn erbyn y gorchymyn cyntaf. Gwasanaethodd Baar. Gwnaeth Jeroboam ddelwau cerfiedig i gyn. rychioli y gwir Dduw. Y mae yn gwneyd defnyddo grelydd i wasaraethu ei amcanion uchelgeisiol. ESBONIADOL. Adnod 25.—"Yna Jeroboam a adeiladodd Sicbem yn mynydd Ephraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddiyno, ac a adeiladodd Penuel." Yna. Nid yw Jeroboam yn colli dim amser, ond y maeyn dechrcu ar fesurau ar unwaith i gryfhan ei awndrdod. Adeiladodd. Arferir y gair adeiladu yma mewn., styr filwrol. Gwnaeth hi yn ddinas gaerog, ac yn brifddinas ei lyw- odraeth. Safai Sichem i'r s^>gledd o Jerusalem wrth droed mynvdd Genz m, yn mynydd-dir Ephraim. Yn mynydd Ephraim. Cyf. Diw., "Mynydd-dir Ephraim." Ac a dngodd ynddi hi, fel prifddinas ei lywodraetb. Penuel. Safai yn agos i ryd Jabboc, y tuhwnt i'r Iorddonen. Yma y bu yr ymdrech rhwng yr angel a Jacob. Yr oedd safle Penuel yn ei pwneyd yn lie cyfleus i fod yn amddiffynfa i'w diriogaeth o du y dwyram. Adnod 26.—" A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y freniniaeth at dy Dafvdd." Dyma'r symadau a arweiniodd Jeroboam i gynllunio, fel y cfnodir yn yr adnodau dilynol. A fedclyliodd yn ei galon. Daeth yn argyhoeddiad. teimlai yn ™?1 *elly. ?, ,dyg^yddasai, os na fyddai iddo ddyfeisio rhywbeth l »tal hyny. Sylwa M. Henry Nis gallasai Jeroboam ddim rhoddi unrhyw hyder yn serchiadati eibobl, er eubod yn awryn ymddangos yn hofE iawn ohono canys yr hyn a enillwyd t, wy o-am- wedd a thraws-arglwyddiaeth, nis gellir ei fwynbau gydag unrhyw sicrwydd a boddlonrwydd." Adr od 27. Os a y bobl byn i fyny i wneutbur abertbau yn nhy yr Arglwydd yn Jerusalem, yea y try calon y bobi hyn at eu harglwydd Reboboam, brenin Judab, a bwy a m lladdant i, ac a ddychwelant at Re- hoboam, brenin Judab. Y mae ei ymresymiad yn dan/oscrafEter ci feddw Yn llywodrastbiad pobl d\^id cymeryd l ystyriaeth eu barfericn crefyddo! fel /Qai o'r 'dylanwadau cryfaf. Oddiar safle ddy«ol yr oedd y casgliad a dynai yn un teg a naturiol. Pe gad- ewsid iddynt gyfarfod yn yr un fan i addoli—yr un offeiriaid i wasanaethn iddynt—yr un ffurf o wasanaeth i fyned trwyddo, ni fnasent yn hir yn ddwy deyrnas. Ofnai y rhod-iasent ef i farwolaeth er mwyn cael gwared ohono, fel y galJasent ddychwelyd at Rehoboam a fiurfio un deyrnas o'r genedl Hebreaidd fel o'r blaen. Adnod 28.—" Yna y brenin a ymgyngborodd, ac a wnaeth ddau )o aur, ac a ddywedodd withynthwy, Gormod yw i fhwi fyned i fyny i Jerusalem wele dy dduwlau di, 0 Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aipht." A ymgynghorodd, a'i gyughorwyr, y rhai oeddynt wedi ei gynorthwyo i sjyrhaeJd y safle yr oedd • r ,,?ej deimlo fod ereill yn rhanol gydag Cf)riSe J llud y newydd bwn Hi- wasanaeth cref- vddpl y deg llwyth. A xvnaeth ddau lo aur. Dewis odd y fturt o lo, neu darw ieuane, am yr ystyrid ef yn arwyddlnn priodol o'r gallu creadigol, neu, fel y tybia ereill, am fod llumau y cerubiaid yn nheml Solomon yn debyg i lo neu ycb. Yn nesgrifiad y protrwyd Ezpciel o r cfrub;atd a welodd, yr oedd gwyneb ych o'r tu aswy iddynt. Cymharer Ezec. i. 10, a x. 1, 20. Nid ydym i riybied eu bod wedi eu gwneyd o aur pur, ond o fetal tawdd wedi eu goreuro ag aur, tebyu i'r delwau a ddes- grific G HI Esaiah xl# 19. Cyniharer 1 Bren. xiv. 9. Goi mod yw i chwijyned ifyny i Jerusalem. Y mae yn fiugio cydymJeimiad a'r bobl, ac apeliafat eu serch at esmwythyd a llonyddnch, gan ddwyn i'w cof y diafterth a'i- gost oedd myned i Jerusalem i gadw y [ "Gormo j ydyw i ch IV i i fyned mor bell i a jdoli Dduw y mae yn iau drom, ac y mae yn bryd ei bysgwyd ymaith aethoch i fyny yn ddigon hir i Jeru- salem." Wele dy dduwiau. Hyny yw, dyma arwydd- luniau i chwi addoli Dnw Israel beb fyne i i Jerusalem. Nid dwyn duw newydd i'w addoli y ms.e, ond eu dysgu i addoli Duw trwy arwyddlun o'i waith ei hun, a hyny gyda'r bwriad i sicrbau ei amcanion personol. Y mae yn ymdrechu gwneyd cre'ydd yn wasanaetbgar iddo ef sicrhau ei hun ar orsedd Israel. Ni ofilai am v niwed a allasai ewwneyd i prefydd with agor y drws i eiluti- addoiiaetb. Nid oedd yebwa-itu yn petruso myned yn erbyn gorcbymyn pendant Duw. Adnod 29.—" Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y Hall yn Dan," Bethel. Yr oedd Bethel in sysegredig yn meddwl y bob!. Ywa yr adeUadodd Abraham allor i Dduw. Yma y cafodd Jacob weledig- aeth, ac yma hefyd y bu Samuel yn barnu Israel. Yr oedd r derfynau deheuol ei diriogaeth, ac yn gyfleus i'r llwythau deheuol i'w oyrhaedd. Dan. Safai Dan ar y terfyn gogleddo), ac felly yn gyfleus i'r llwythau gogleddol. Yr oedd yna gjsearedigrwydd yn perthyn i Dan hefyd fellle i addoli, gwel Barn. xviii. 30, 31. Adnod 30.—"A'r peth hyn a aeth yn bechod: ohlegid y bobl a aetbant ger bron y naill hyel Dan." Yn ol v Saesoney, Y bobl a aethant i addoli ger bron ynai)),"&c. A aeth yn bechod. A aeth yn eilun- addol'aeth. Yr oedd yn bechadurus ynddo ei huB, gan ei led yn drosedd ar yr ail orcbymyn ond yn fuan ar- weiniodd i bechodau ereill, a diraddiwyd y gwasanaeth crefyddo!. Ilyd Dan. Gellir cysylltn yr ymadrodd hvd Dan a'r bobl-y bobl hyd Dan, sef boll bobl y wlad a aethant i addoli ger bron y naill neu y llall o'r eilunod. Ar ymyl y ddalen yn y Cyf. Diw. darllenir bob lID ohonynt," yn lie" y naill." Tybir gan ereill fod Dan yn cael ei nodi am mai yno y daeth cymeriad eilunaddolaar yr addoliad gyntaf i'r golwg. Y mae sylw M. Henry ar yr adnod hon yn wirionedd, er efallai nad ydyw yn unol a'r esboniadaeth oreu Hyd hwnw yn Da", er ei fod yn gorwed d mor bell. Y rhai a fedd. yliasant ei fod yn llawer i fyued i Jerusalem i addoli Duw yu ol ei drefniad, ni wnaethant anhawsdra i fyned mor belled a Dan i'w addoli ef yn ol eu dychymygion eu hunain." Fe wna dynion abeith mawr er mwyn boddloni eu mympwyon, pan yr ystyriant ddyledswydd- au cyffredin crefydd yn feichiau anhawdd i'w dwyn. Adnod 31.—u A c efe a wnaeth dy ucbelfeydd, ac a wnaeth olieir aid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rbai nid oeddynt o feibion Lefi." Efe a adeiladodd dai i addoii yn mbob un o'r dinasoedd lie y gosodwydi fyny y Iloi. Y mae yr ymadrodd ty uchelfeydd yn cael ei ddefnyddio mewn dull diystyrllyd. Er eu bod wedi eu hadeiladu mewn efelychiad i'r deml, nid oeddynt ond uchelfeydd. Gwnaeth offeiriaid o fys{ pob dosbaith o'r bob], ac nid o lwyth Lefi, fel yr oedd yr Arglwydd wedi gorchymyn. Yn byn eto y mae yn troseddu yn erbyn go cbymyn pendant Duw. Diau mai angenrhaid a osodwyd arno 1 wneyd hyn, gan fod y Lefiaid wedi cyrchu at Reho- boam. Y mae yn debygol i dyttt wrthod cydymffarfio a chynllunian Jeroboam, ac iddo ef en bwrw hwynt ym- aith o fod yn offeiriaid (gwei 2 Chron. xi. 13, 14), a dew's offeiriaid o bob dosbatth o'r wlad y rhai a fuasai yn gweitbio allan ei gynlluniau. Adnod 32.—" A Jeroboam a wnaeth uchel-wyl yn yr wvthfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, fel yr uchel-wyl oedd yn Judah; ac efe a offrymodd ar yr allor (felly y gwnaetb efe yn Bethel), gan aberthu i'r lloi a wnaethai efe ac efe a csododd yn Bethel offeir- iaid yr uohe faoedd a wnaethai efe." Cyf. Diw., Ac efe a aeth i fyny i'r allor; felly-y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i'r lloi a wnaethai efe," &c. Gwnaeth uchel-wyl ar yr un dydd o'r mis, ond yn ddi- weddarach o fis na,'r ucbel-wy) oedd yn Judah, gan y buasai hyny yn fwy cy fieus i'r rhanan gogleddol o'r wlad. Fel yr uchel-wyl oedd yn Judah. Cyfeirir at Wyl y Pebyll. Hon oedd gwyJ fawr y flwyddyn, a theimla Jeroboam fod yn rbaid iddo sefydltt rhywheth yn debyg iddi, er mwyn boddloni y bobl. Efe a offrymodd. Neu, yn fwy priodol, Efe a aeth i fyny i'r allor. Y lORe yn debygol ei fod ef ei hun yn gweith- redu fel offeiriad. Gwnaeth hyn yn Bethel, ac nid yn Dan. Adnod 33-—" Ac efe a offrymodd ar yr allor (Cyf. D.iw., Ac efe a aeth i fyny i'r allo,') a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o'r wythfed mis, sef yn y mis a ddychymygasai efe yn ei galon ei hun, aeefe a wnaeth uchel-wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor iarogldartho." Fel Uzziab, y mae am fod yn archoffeiriad yn gystal ag yn frenin. Y mae am gymeryd y cwbl i'w law ei hun. A ddychymygasai eti, yn ei galon. Gwnaeth y cwh] yn ol ei gyfrwystra ei hun, ae i gyrbaedd ei ddybenion ei bun, gan ddiys- tyru gorchymynion yr Arglwydd, a tbrefniadau gwas- anaeth crefydd ynol ordeiniad yr Arglwydd. Y mae ei gynlluniau yn dangos ei adu a'i fedrusrwydd, ond y mae yn amlwg ei fod yn hyf ac yn ddibarch i bethau crefydd, a'i fod yn foddiawn i halogi y pethan mwyaf cysegredig er mwyn cyrhaedu ei amcan. GWERSI. Yr oedd Jeroboam yn cael ei lywodraetbu yn iollol gan hunanles. Nid oedd yn gofa!u dim ara ogooiant crefydd, ond pa fodd y gallasai ;;ierbau ei awdurdoo. ei hup. Ymgynghor^i g^u ei bun ac a'i gynghor. wyr, ac nid a Duw. Arweiniodd hyn e' i golli ei hyder yn Nnw, ac i ymddiried am ddiogelwch i'w gynlluniatt ei hun. Trefnai ei gynlluniau mewn gwrthwynebiad i orchymynion Duw, gan ei fod yn teimlo fod hyny yri fwy manteisiol iddo ef gyrhaedd ei amcan. Hyn fu ei ddinystr yn y diwedd. Nid oes dim dyogelwch a llwyddiant parbaus ond mor bell ag y mae yn gydweddol a gorchymynion Duw. Peth peryglus ydyw gwyro dim oddiwrth osodiadan pendant Duw. Nid oedd Jeroboam, hwyrach, yn meddwl i bethau ddadblygu fel y g wnaethant yn nydd- iau Abab a Jehu. Y mae llwyddiant crefydd, yn bersonol ac yn gym- deithasol, yn ymddibynu ar ein bod yn cadw yn fanwl at drefniadau Duw. Y Sabhoth-addoli yo ¡rymdeith- asol-derbyo y Beibl fel gwirionedd datguddiedig, ae ufudddhau i'w holl orchymynion mewn pethau cref- yddol. Pa ddoethineb bynag all fod mewn cynllunian dynol, os nad ydynt yn unol â gorchymynion Duw, y maent yn beryglus. Bydd Duw yu sier o amddiffyn ei ogoniant a chosbi y rhai hyny sydd yn diystyru ei orchymyniou. Ni tbal i ddyn ymdrechu ufuddhau i Ddnw yn ei ffordd ei hun. Y mae yn ihaid ayrtbio i fewn a threfn Duw, onida bydd yn rhaid dyoddef. Trefn Duw ydyw yr oren, ond nid ydyw bob amser yn unol a balchder dyn. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Mab i bwy ydoedd Jeroboam ? Pa fodd y daeth i sylw P 2. Paham y ffodd i'r Aipht ? Beth a'i dygodd of adref i wlad ei dadau o'r Aipht? 3. Wedi i Jeroboam gael ei wneyd yn frenin ar y deg llwyth, beth ydyw y gwaith cyntaf y mae yn ym- gymeryd ag ef i gadarnhall ei deyrnas ? 4. Beth barodd iddo ofni y buasai y freniniaeth yn dychwelyd at dy Dafydd ? 5. Paham y gwnaetb ddau lo aur ? Paham yr oedd yn rhoddi ffurf ilo arnynt ? 6. Beth oedd natur yr addoliad a roddid i'r ddau lo aur? Pa Ie y gosodwyd hwynt ? 7. Pwy ga.tbdd Jeroboam yn offeiriaid ? Paham na ddewisasai hwy o lwyth Lefi ? 8. Beth oedd ei amcan wrth sefydlu yr uchel wy) ? At ba wyl yn Judah y cyfeisir ? 9. Dangoswch brif nodwedd cymeria.1 Jeroboam, a phaham yr ystyrir ef yn un o'r pechaduriaid mwynt ['

Family Notices

Advertising