Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYMANFA GERDDOEOL ANNIBYNWYR…

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

CYMANFA CASTELLNEDD A'R• CYLCHOEDD.

Advertising

CAERDYDD.

News
Cite
Share

CAERDYDD. Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru.— Dydd Mercher, y 17eg o'r mis diwed iaf, oedd ddiwrnod a hir gofir mewn perthynas a'r Ysgol Sabbothol yn Ngwlad y Bryniau yn mhlith enwad parehus y Method- istiaid Calfinaidd, fel y dydd y cadwasant wyl goffadwriaethol gyntaf ganmlwvddol yr Ysgol Sab- bothol yn Nghymru. Cyfarfu gwahanol Ysjolion Sabbothol y dref a'r cylcb yn Nghaerdydd. Yroeddynt yn dyrfa luosog, hardd ei hymddanoosiad, ac yn eglar ddangoseg o'r mawr ddaioni y niae y sefydiiad oeddent yn ei anrhydeddu yn ei wneyd. Hoffem pe buasai yr boll enwadau yn cyduno yn yr wyl goffadwriaethol-yn tori dros derfynau enwadaeth, ae yn wresog barchu ymdrechion yr hybarch eftngylwr Thomas Charles o'r Bala, yr hwn a fu yn flaenllaw i svlfaeou yr Ysgol Sabbothol yn Nghymra. Yr un gwr oedd pIif sylfaenydd y gymdeithas i roddi Beibl i bawb o bobl y byd." Unodd y gwabanol enwadau yn y flwyddyn 1880 i eynal gwyl goffadwriaethol sylfaeniad yr Ysgol Sabbothol yn LIoe.-r gan yr hyglod Robert Raikes, ac nis gwyddom am un rbeswm digonol-er fod man resymaa VI efi ea rhoddi-dros beidio gwneyd yr un peth yn 1885 er cof anwyl am lafur daionus y diweddar Barchedig Thomas Charles o'r Bala. Ysgoldy Minnie-street, Cathays.-Nos Sadwrn a Sabbath, yr 21ain a'r 22rtin o'r mis diweddaf, cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol cyntaf yr eilwys ieuarc a ym- gyferydd yn yr ysjoldy uchod. Y gwe'nidogion etholedig oeddynt y Parchn E. James, Nefyn, a D. Lloyd Williams, Machen. Not Lun, pi'bawyd y cyfarfodydd yn Ebenrzer, pryd y gIXeinyddodd yr un pregethwyr. Dyma y waith pyntaf i'r eft-ngylwr gwreiddiol o Nefyn bregethu yn Nahaerdydd, ac yr oe ld ei gynvrehion o natur nwchraddol, a tine et lais yn wefreiddiol. Pregeth rhagorol oedd eiddo Mr Williams, nos Lun, ar "Faddeugarwch Dnw." Nid ami y clywsom wr mor ieumc yu pregethu mor wresog, nertbol, a duwinyddol, a llawenychem i ganfod olynydd mor deilwng i'r diweddar goethedig weini iog, y Parch T. Leyis Jones. Y mae iddo ddyfodol dysalaer. Prvdnawn y Mercher canlynol, yn dal perthynas a'r un wyl, yn Minne-street, pregethodd y Parch R. Thomas, Glandwr, Abert;iwy ac yn vr- hwyr, yn addnldy y Methodistiaid Calfinaidd yn May-street, y Parchn R. Thomas, a David Morgan, Ystradfellte, yr hwn a ddae'h yn ddamweiniol i'r cyfarfod, fie a gymerodd le y Parch J. Alun Roberts, B.D., yr hwn oedd i bregethu, ond a roddodd ff'ordd i'r gwr dyeithr. Yr oedd y gweision yn pregethu yn hwyliog, y naiil ar "Dnw gyda ni," a'r llall ar Fyw crefydd." CePid emynau dewisedig, ae yr oedd swyn dymunol yn yr holl ganu. Nid ydym yn synu am hyn, gan mai arweinydd can yr eglwys yw y cerddor deallgar ac ymroddgar Mr E. Mawddach Jones. Cesglid yn yr oedfaon at ddi- ddyleda yr ysoaldy. Capel Cynulleidfaol Seisonig Llandaff-road.—Ar y trydydd •Sabboth yn Mebefin, cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr YS'lol Sabbothol yn y drefn gan)ynol :— Am 11 y bo eu, cafnyd preaeth dyner ar eiriau v G'.varedwr, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi," gan y Parch Thomas Evans, Star-street. Yn y' prydnawn, anerchwyd y plant gan y Parch Thomas Rae (W), Conway-road; ac yn yr hwyr, traddodwyd pregeth werthfawr ar y fri gair, A oes heddweh ? pregeth werthfawr ar y fri gair, A oes heddweh gan y Parch Robert Jackson, Haunahttreet. Ebenezer.-Rhwystrwyd deiliaid yr Ysgol Sabbothol hon, fel Ysgolion Sabbothol ereiil y Dywysogacth, i fwynban dydd Llunjwyn fel arferol, oherwydd gwlyb- aniaeth yr hin. Penderfynwyd cael diwrnod arall, a'r dydd Mercher cyritaf o'r mis presenol cludwyd deiliaid yr ysgol—y plant bach a'r rhai mawr—o'r ddan ryw efo'r ceffyl tan," i orsaf pentref tlws Llanishen. Trealiwyd y prydnawn cyntaf yn Gorphenaf yn ddifyr mewn Ciie eang, lie yr ymddangosal nator yn ei gogoniant, ac yr oedd yn amheuthyn i breswylwyr y Babifon Gymreig gael anadlu awyr bur a iachus y mynyddau. Yr oedd ysgol M'nnie street, Cathays, hefyd yn y mwynhad o'r im breintian. Charles-street.—Ar y Sabboth diweddaf o Mehefin, dechreuodd y Parch John Williamson, M.A., srynt o Lincoln, ar ei weinidogaeth yn yr addol dy Cynulleidfaol Seisonig sydd yn yr heol nchod. Ei destvn oedd 2 Cor. i. 24. Siaradodd yn hyf a chr ^ew a phobl ei ofal, fel y siarada gwr â'i deuln. Cyfeiriodd yn dyner at ganlyniadau y Sabboth hwnw iddynt fel bagail a. pbraidd. Edrych^i ar yr eglwys fel llyfr pwysig oedd ganddo i fyfyrio-tremiai yn ei gwyneb ar y Sabboth, ac ar ei bywyd yn ystod yr wytljnos yr oedd yn wir ange^rheidiol iddo wybod yr olaf, er ei allnogi i ddarparu ar gyfer eu hangenrheidian ysbrydol. Ni phregethai iddynt yr hyn a amheuai, fel y mae arfer rhai, ond traethai iddynt yr hyn a gredai. Yr oedd fel yr apostol yn dyfod i'w plith, nid mewn un modd i arplwyddiaethu ar eu ffydd, ond i gydweithio a hwy er en IIawenydd. Hyderwn y cynyrcha yr undeb lawenydd hir yn y byd hwn, a diddatfod yn yr hwn a ddaw. Y diweddar Mr Lewis Vincent Shirley.-Nid oedd braidd enw yn Nghaerdydd yn cael ei seinio yn fwy mynyeh nag enw y boneddwr uchod, yr hwn oedd gyfreithiwr Ardalydd Bate, ac y mae yn chwithig cysylltn y gair diweddar a'i enw, ond rhaid gwneyd hyny. Er's tua mis yn ol, aeth dan driniaeth feddygol -aeth trwyddi yn llwyddianus, ac hyrlerid ei ganfod yn troi yn ei gylch cyfrifol yn fuan ond gwaethygodd, a therfynodd ei ddolar blin yn angenol iddo nos Fawrth, y 23ain cynfisol, yn yr oedran o 57. Y dydd Sadwrn canlynol, casglwyd ei iarwol weddillion i fynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf. Firm gyfreithiol enwog yn ein tref am flynyddau oedd Mri Luard a Shirley, ond gosododd angen y ddau yn y beddrod tywyll o fewn chwech mis i'w gilydd, gan mai yn nechreny flwyddyn hon y cymerwyd Mr Luard ymaith yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn.* Caerdydd. D. L. D.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.