Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYMANFA GERDDOEOL ANNIBYNWYR…

News
Cite
Share

CYMANFA GERDDOEOL ANNIBYN- WYR LLANBEDR A'R CYLCHOEDD. Cynaliwyd yr uchod eleni yn Soar, Llanbedr, dydd LIun, Mehefin 15fed, o dan arweiniad y Parch W. Etnlyn Jones, Treforris. Am 11 o'r gloch, cafwyd rehearsal i'r dybeu i'r arweinydd a'r cantorion ddyfod i ddeall eu gilydd. Am 2 o'r gloch, dechreuwyd gan Mr Jones, Drefach. Yn absenoldeb y Parch D. Williams, Rhydybont, .etholwyd y Parch T. Thomas, Llan- fair, i lywyddu, yr hwn, wedi rhoddi anerchiad pwrpasol, a alwodd ar yr arweinydd at ei waitb. Canwyd Innocents, Manheim, Normanton, "Mae heddyw'n ffynon hyfryd lawn," Altona, a Penry. Cynygiwyd gan y Llywydd, eiliwyd gan y Parch H. Jones, Ffaldybrenin, cefnogwyd gan Caradog ac Emlyn Jones, a phasiwyd penderfyniad yn datgan ein colled fel Enwad a chenedl yn wyneb marwolaeth y Parch E. Stephen, Tanymarian, yn ogystal a cbydymdeimlad a'r perthynasau dan- gosodd y gynulleidfa arwydd o'i chycisyniad a'r cynygiad trwy godi ar ei tbraed. Yna canwyd y don Tanymarian, a'r anthem" I ti, Arglwydd." Am 6 o'r glocb, dechreuwyd gan Mr Evans, Penmain. Llywyddwyd gan y Parch H. Jones, Ffaldybrenin, a chafwyd anerchiad rhagorol ganddo.. Canwyd Chichester, Calfaria, Aber- ystwyth, Tadmor, Gwalia, Pen Nebo, Bryniau Canaan, "'Rwyn gweddio drosoch chwi," ac "Ar lan Iorddonen." Trodd y Gymanfa allau cystal a dysgwyliad y goreu am dani. Cafwyd anerchiadau buddiol'a da T? cyfarfodydd gan Mri J. Thomas, Llwynffynon, Llanbyther; T. Jones, Llangybi; J Evans, Mark-lane; J. Thomas, College-street; y Parchn Davies, Tynygwndwn Evans, Penmain Thomas, Soar; Thomas, LIanfair; ac yn enwedig gan yr Arweinydd-nid yn fuan yr aiff ei gyfar- wyddiadau o'n cof. Yn y prydnawn, cynaliwyd pwyllgor yr undeb, yn yr hwn y penderfynwyd fod y Parch W. Emlyn Jones i fod yn arweinydd y Gymanfa y flwyddyn nesaf eto, yr hon sydd i gael ei chynal yn Rhydy- bont.

UNDEB YSGOLION SABBOTHOL ANNIBYNWYR…

CYMANFA CASTELLNEDD A'R• CYLCHOEDD.

Advertising

CAERDYDD.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1885.