Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

COLEG CAERFYRDDIN.

Advertising

Y TABERNACL, LIVERPOOL. >…

News
Cite
Share

Y TABERNACL, LIVERPOOL. > „ Nid oes yr un eglwys yn yr Enwad yn gweithio yn fwy unol a heddychol trwy y blynyddau na'r eglwys uchod. Ni chlywir byth air croes o fewn ei phyrth, ac unwaith y gosodir unrhytf achos o'i blaen, y mae pawb yn ddirwgnach yn cydweithio. Mae llawer o engreifftiau o hyny yn y flwyddyn hon, ond ni chaf gyfeirio ond yn unig at yr hyn a. ddygwyddodd y pythefnos diweddaf. Pan ddeall- odd fod y meddyg wedi gorchymyn i'w pharchus weinidog Dr Thomas orphwys am dymhor, cynyg- iodd un o'r diaconiaid fod iddynt roddi tri mis o orphwysdra iddo, ond awgrymodd ryw frawd am iddynt roddi chwe' mis iddo, fel y caffai lonydd i wella yn iawn, ac am iddynt fynu y supplies goreu a ellid gael, heb arbed cost, fel na byddai i'r gynulleidfa gilio oblegid ei golli ef n'r pwlpud. Cydsyniodd pawb heb ragor o siarad. Y Sabboth dilynol yr o?dd y Parch T. Hughes, Llansanttiraid, yno dros Goleg Aberhonddu, a chasglodd yn agos i £15, a chafodd yr arian agos oil ar y pryd yn y capel, heb achos cerdded o dy i dy ar ol y tanysgrifwyr. Yr oedd hyn rai pun- oedd yn fwy na'r casgliad y llynedd. Y Sabboth canlynol, sef y diweddaf, ar ol y cymuudeb galwodd Dr Thomas sylw at achos Mr Newman Richards, Penygroes, a dymunai am am- lygiad ar y pryd o'u cydymdeimladagef yn ei gystudd trwm, a daeth i'r bwrdd yi y fan, yn bollol ddirybudd, rhwng £5 a £6. Nid yw yr eglwys heb ei baich ei hun. Mae arni dros £2,000 o ddyled, heblaw cynaliaeth yr achos, ond nid yw yn cau ei Haw rhag achosion daionus. Nid wyf yn crybwyll y pethau hyn i udganu o'i blaen, eblegid nid rhaid iddi wrth hyny, ond y mae rhinweddau eglwysi a phersonau yn haeddu cael eu gwneyd yn gyhoedd, a dichon y bydd hyijy yn foddion i beri i ereill fyned a gwneuthur yr un modd. UN Q'K AEIJOI>AU.

MERTHYR TYDFIL. -

OYFARFYDDIAD Y SENEDD.