Ty YR ARGLWYDDI. — Dydd Llun. — Cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei sedd ar y sach wlan am chwarter i 4 o'r gloch. Wedi i amryw o Ar- glwyddi newyddion gymeryd y llw gofynol, cod- odd Arglwydd Salisbury i fyny i wneyd ei fyneg- iad. Ni ddywedodd yn eglur beth fwriadai ei y n wneyd, ond ytnfoddlonodd yn unig ar fynegi ein sefyllfa bresenol yn nglyn a'r Aipht a Rwsia, heb ddyweyd yn bendant beth fwriadai ei wneyd, ond yn unig mewn awgrymiadau. Wedi iddo derfynu cododd larll Caernarfon i fynegi fod sefyllfa bre- senol yr Iwerddon mor rhydd oddiwrth droseddau, ac mor heddychol a thawel, fel nad oedd y Llyw- odraeth yn barnn fod angea am adnewyddu y Crimes Act. Yn ei lie bwriadent ddwyn i mewn Fesur Tir. Cwynai larll Kimberley yn erbyn y bwriad i reoli yr Iwerddon trwy y gyfraith gyff- redin. Wedi ychydig eiriau gan Due Argyll a,c Arglwydd Rosebery, cododd y Ty. Ty Y CYKFREDTN, — Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r glocb. Yn union gwnaeth Mr Bradlaugh ei ymddangosiad o flaen y Bwrdd i gymeryd y llw. Cyn iddo wneyd hyny, cododd Canghellydd y Trysorlys i gynyg penderfyniad, ei fod yn anghymhwys i wneyd hyny, a gwnaeth araeth. Cododd Mr Healy a Mr Parnell i bwynto drefn, fod Mr Bradlaugh yn cael aros i fewn tra yr oedd ei achos o dan sylw. Rheolodd y Llefarydd fod y cwbl mewn trefn. Yna cynygiodd Mr Hopwood welliant, yn mynegi fod angen am gyf- newidiad yn y ddeddf, a bod hyny yn cael ei wneyd yn ddioed. Eiliwyd gan Syr W. Lawson. Cefnogwyd gan Mr Gladstone. Ar raniad y Ty cafwyd dros y gwelliant, 219. Yn erbyn, 263. Mwyafrif, 44. Hawliai Mr Labouchere rann y Ty ar y penderfyniad, ond mynegodd Mr Gladstone ei fwriad i beidio a pbleidleisio ar hwnw. Cyn i'r rhaniad gymeryd lie aeth Mr Gladstone allaD, a dilynwyd ef gan agos yr holl Ryddfrydwyr, a chytunwyd nad oedd Mr Bradlaugh i gael cymeryd y llw. Dywedodd Canghellydd y Trysorlys y buasai dranoeth yn mynegi beth fuasai gan y Ty i'w wneyd. Dymunai Mr Gladstone ei hysbysu fod dysgwyliad cryfyny wlad am y Crofters Bill, neu tebyg iddo, am Fesur Addysg Ganolraddol i Gymru, ac am Fesur Mr Jesse Collings, &c. Nid cedd y Llywodraetb, meddai y Canghellydd, yn bwriadu dwyn dim i fewn fuasai yn cynwys materion dadleugar, a bod y mesurau y cyfeiriwyd atynt yn cynwys mater dadleugar. Yna aed i Bwyllgor Cyflenwad.
COLEG CAERFYRDDIN. Cynaliwyd Cyfarfod Blynyddol cefnogwyr y Coleg dydd Ian, Gorphenaf 2il. Metbodd y Parch Herber Evans, y Cadeirydd am y flwyddyD, a bod yn bresenol am fod Cymanfa Porthmadog yn cael ei cbynal ar yr un dydd. Drwg oedd genym am hyn. Yn ei absenoldeb etholwyd yr Hybarch W. Evans; Aberaeron, i lywyddu y cyfarfod. Ar ol i'r Parch J. Evans, Llansawel, agor y cyf- arfod trwy weddi, galwodd y Cadeirydd ar yr Ysgrifenydd i ddarllen byr-adroddiad o sefyllfa ,y Coleg. A ganlyn yw ei sylwedd; Mae y flwyddyn wedi bod yn un o waith dystaw ac o heddwch didor. O'r saith ar hugain o fyfyr- wyr Annibynol yn y Coleg ddechreu y flwyddyn, y mae un wedi marw, un wedi encilio, un wedi ym- fudo i hinsawdd fwy tyner dan gyfarwyddyd meddygol, un wedi myned i Brifysgol Glasgow, pedwar wedi derbyn galwadau oddiwrth eglwysi— J. Grawys Jones, i Ebenezer, Aberdar G. Penrith Thomas, i Absrbosan; D, H, Thomas, i Felindre, Morganwg; a J. Tegryn Phillips, i Troedyrhiw, Merthyr, Mae'r gweddill o'r myfyr- wyr, gyda'r saith a dderbyniwyd o'r newydd, allan o un-ar-ddeg o ymgoiswyr, yn gwneyd y rhif pre- senol yn chwech-ar-hugain. Mae y sefyllfa ar- ianol yn foddhaol. 1. Cynygiwyd gan y Parch W. Thomas, Whit- land, ac eiliwyd gan y Parch D. Evans, Burry Port, a phasiwyd yn unfrydol:—" Fod Dr John Davies, Maesteg, yn cael ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol." 2. Cynygiwyd gan y Parch D. Evans, Caer- fyrddin, ac eiliwyd gan y Parch D. E. Williams, B.A., Lacharn :—"Fod dymnniad ar y Parch T. Davies, Siloah, Llanelli, i anerch y myfyrwyr y fiwyddyn .nesaf." 3. Cynygiwyd gan y Parch W. Gilbon, Llan- ymddyfri, ac eiliwyd gan y Parch T. Davies, Llanelli:—"Fod Mr D. Hoyd Lewis yn cael ei "apwyntio i fod yn Drysorydd y Coleg." 4. Etholwyd Pwyllgor Lleol o ddau ar-hugain o gyfeillion y Coleg ag ydynt yn byw yn y gymyd- ogaeth, 5. Oynygiwyd gan y Parch Cadvan Jones, ac eiliwyd gan y Proff. Jones — Fod diolch cynes yn cael ei gyflwyno i'r Parch W. Evans am ei wasanaeth yn y Gadair, ac am ei anerchiad rhag- orol i'r myfyrwyr, a thaer ddymunir arno i'w argraffu y modd y barno oren er helaethn ei ddef. nyddioldeb." Cydunwyd oil ar y penderfyniadau uchod. Bu y myfyrwyr yn cael eu holi yn y gwahanol gangenau am ddyddiau. Cyhoeddwyd y result i'r gynulleidfa prydnawn dydd Iau. Enillodd amryw wobrau gwerthfawr o aur a Ilyfrau. Mr James Jones, Saron, Liangeler, enillodd y wobr flaenaf yn y Coleg, ac hefyd yn y Sharp's Prize, am wybodaeth Ysgrjthyroh Diolcha y Pwyllgor i holl garedigion y Coleg am eu cyfraniadau haelionns yn y flwyddyn ddiwedd- af eto, ac am y derbyniad caredig a gafodd y my- fyrwyr ar eu teithiau casglyddol, ac erfyniant am yr un hynawsedd tuag atynt eleni hefyd ar eu hymweliadau agosaol. LEWIS JAMES, Ysg.
CANWCH YN DDA SLABADWCH YN DDA!- Mae JJouyhty s V oicc Lozenge Wodi cael cl wertlifawroio yn fawr gan gleugvvyr, cantonon, ac enwogiou eroill am yn agos i 40aiu mlyncdd. l.hydd glirdcr a gloevvder i'r Jlais. JENNiliiND.— Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell aay inae iy mhrobad yu myned, 1 gadarnliau y dystiolaetli sydd mor gy- Doughtv) 1 ozengtiS a barotoir genych chwi" (Miles 6c, Is, 2s 6c, 5a, a lis—yn rhydd trwy y llythyrdy, 7c. Is 2c, &c. Golynvvch i ch Cyfterydd am dauyut-NEWiiSXlY a'i i'ElBIOis, 1, King Edward-street, Lluudaill, E.C., Sefydlwyd syu y IlwyddYIl lU6
Y TABERNACL, LIVERPOOL. > „ Nid oes yr un eglwys yn yr Enwad yn gweithio yn fwy unol a heddychol trwy y blynyddau na'r eglwys uchod. Ni chlywir byth air croes o fewn ei phyrth, ac unwaith y gosodir unrhytf achos o'i blaen, y mae pawb yn ddirwgnach yn cydweithio. Mae llawer o engreifftiau o hyny yn y flwyddyn hon, ond ni chaf gyfeirio ond yn unig at yr hyn a. ddygwyddodd y pythefnos diweddaf. Pan ddeall- odd fod y meddyg wedi gorchymyn i'w pharchus weinidog Dr Thomas orphwys am dymhor, cynyg- iodd un o'r diaconiaid fod iddynt roddi tri mis o orphwysdra iddo, ond awgrymodd ryw frawd am iddynt roddi chwe' mis iddo, fel y caffai lonydd i wella yn iawn, ac am iddynt fynu y supplies goreu a ellid gael, heb arbed cost, fel na byddai i'r gynulleidfa gilio oblegid ei golli ef n'r pwlpud. Cydsyniodd pawb heb ragor o siarad. Y Sabboth dilynol yr o?dd y Parch T. Hughes, Llansanttiraid, yno dros Goleg Aberhonddu, a chasglodd yn agos i £15, a chafodd yr arian agos oil ar y pryd yn y capel, heb achos cerdded o dy i dy ar ol y tanysgrifwyr. Yr oedd hyn rai pun- oedd yn fwy na'r casgliad y llynedd. Y Sabboth canlynol, sef y diweddaf, ar ol y cymuudeb galwodd Dr Thomas sylw at achos Mr Newman Richards, Penygroes, a dymunai am am- lygiad ar y pryd o'u cydymdeimladagef yn ei gystudd trwm, a daeth i'r bwrdd yi y fan, yn bollol ddirybudd, rhwng £5 a £6. Nid yw yr eglwys heb ei baich ei hun. Mae arni dros £2,000 o ddyled, heblaw cynaliaeth yr achos, ond nid yw yn cau ei Haw rhag achosion daionus. Nid wyf yn crybwyll y pethau hyn i udganu o'i blaen, eblegid nid rhaid iddi wrth hyny, ond y mae rhinweddau eglwysi a phersonau yn haeddu cael eu gwneyd yn gyhoedd, a dichon y bydd hyijy yn foddion i beri i ereill fyned a gwneuthur yr un modd. UN Q'K AEIJOI>AU.
MERTHYR TYDFIL. 1 mddiswyddiad y Parch J. M. Bowen, Penydarren. -Deallwn fod Mr Bowen wedi rhoddi tri mis o rybndd 1 roddi gofal yr eglwys i fyny. Nid yw yn ymadael i gymeryd gofal unrbyw eglwys arall, ac nid yw ychwaith yn ymadaei oherwydd dim yn annymunol rhyngddo a'r eglwys. Mae ei iechyd weli bod yn lied apsetydlog y blynydclau diweddaf, fel y teimla nas gall wneyd eyfiawnder ag eglwys bwysig a phoblog fel Horeb; telly, barua mai doetliineb yw id(to ymddeol yn hollol er rhoi lie i ryw weinidog ieuanc fyddo yn llawn bywyd ae iechyd i arwam y ddeadeil. Yn sicr, bydd yma faes ardderchog i r cyfryw ar 01 ymadawiad Mr BOWfD. Os cadI fyw i weled ei dri mis rhybudd yu dyfod i ben, bydd Mr Bowen wedi treulio 35 o flynyddau yn wcinidog ar eglwys Ho:eb. Nid yn ami y ce;r gwein- mog yn aros am gynifer o flynyddau yn yr un eglwys. Y tebygolrwydd yw y collir Mr Bowen o'r gymydoo- aeth gan ei fod yn bwriadu ymneillduo i gymydogaeth arall i dreulio gweddill ei oes. Da genym ddeall fod ei amgylchiadau yn gyfryw ag a'i galiuoga i wneyd hyny yn gysurns. j j j Uymdeithas Adeiladu Merthyr a Dowlais.—Mr Peter Williams, argraffydd, sydd wedi ei benodi yn ysgrifenydd y gymdeithas uchod yn lie y diweddar Mr Evan Roberts. Mae y gymdeithas we Ii bod yn ffodus iawn i gael gwr o brofud a galln Mr Williams i swydd mor bwysig. Mae ei hir gvsylltiad a'r gymdeithas yn llawer o help iddo gyflawni y swydd yn llwyddianus
cadw rhag ymosodiad llanw rhyfel wrth eu traed. Mae ysbrydiaeth y spirited foreign policy gynt yu y frawddeg uchod, a dynoda amcan i godi amddifPynfeydd ar derfynau gorllewinol a gogleddol Afghanistan, fel, os tyr rhyfel allan rhwng Lloegr a Rwsia, y »ydd i'w ymladd ar dir Afghanistan, pa un bynag a fydd yr AMEER yu foddion ai peidio, oblegid nid yw Arglwydd SALISBURY yn barod i ymddiried yn y naill na'r llali, yr AMEER na'i ddeiliaid. Mewn pertbynas i'r Aipht, ymfoddlonodd Y PRIFWEINIDOG yn unig ar wneyd adolygiad byr ar yr amgylehiadau, a dangos y sefyllfa y ZD druenus oeddem wedi dwyn yr Aipht iddi drwy y gweithrediadau diweddar. Wrth gyfeirio at y MARDI, dywedodd, Rhaid i ui, hyd nes y garchfygwn ef, edrych ar, ac ymddwyn at ei allu fel y perygl mwyaf i'r Aipht." A oes yn y frawddeg hon awgrym Had ydym wedi gorphen yn Khartoum, a bod eto fwy o dywallt gwaed i fod yn y Soudan ? Mae rhyw ysbryd rhyfelgar yn ddiau yn anadlu y'nddi. Ceisiodd Arglwydd SALISBURY fod mor heddycbol ei don ag oedd yn bosibl i un o'i fath ef; ar yr un pryd, nid oeddem heb adnabod ei ysbryd, a g* ae ni os hir y byddwn o dan ei reolaeth. Yn y Ty Cyffredin, pan aeth Mr BRAB- LAUGH i fyny at y bwrdd, o dan arweiniad Mr LABOUCHERE a Mr BURT, cododd CANGHELLYDD Y. TRYSORLYS i gynyg y pen- derfyniad oedd wedi ei basio fwy nag un. Waith o'r blaen, yn gwahodd iddo gymeryd y lie arferol. Cafwyd dadl for, ond poeth, er na thybiai peb am i BRADLAUGH lwyddo yn ei amcan, ac nid oedd yntau yn dysgwyl peth felly, yn unig yr oedd am boeni ychydig ar ei elynion, mor bell ag y goddef- asai Rheolau y Ty iddo wneyd hyny. Cyn- ygiodd Mr HOPWOOD welliant i'r perwyl fod cyfnewidiad yn y ddeddf yn angenrheidiol, ac y dylid gwneyd hyny yn ddioed. Coll- wyd y gwelliant gan fwyafrif o 44 yn ei erbyn. Cyn rbaniad y Ty ar benderfyniad CANGHELLYDD Y TRYSORLYS, cododd Mr GLADSTONE ae aeth allan, a dilynwyd ef gan y rhan fwyaf o'r Rhyddfrydwyr. Cytunwyd y penderfyniad, ac aeth Mr BRADLAUGH 1 W le blaenorol.. Nid oedd CANGHELLYDD Y TRYSORLYS yn barod i ddyweyd dim am waith dyfodol y Ty, ond addawai wneyd kyny dranoeth. Yn gweled nad oedd CANGHELLYDD Y TRYSORLYS yn barod i Wneyd ei fynegiad y pryd hwnw, yn ol y dysgwyliad, cymerodd Mr GLADSTONE y cyfleustra i'w bysbysu fod dysgwyliad *Oawr a chryf yn y wlad am Fesur y goiters, neu rywbeth cyffelyb iddo, am •fcesur Addjsg Ganolraddol i Gymru, Fesur yr Etholiadau Seneddol {Medical Belief), ac am rywbeth i gael ei Wneyd yn nglyn a'r Crimes Act. Yn atebiad CANGHELLYDD Y TRYSORLYS i Mr GLAD- STONE, syrthiodd ein gobeithion am gael y na'r llall o'r mesurau a euwyd ganddo. -^ywedai nad oedd yn mwriad y Llywodr- aeth i ddwyn i mewn ddim fuasai o natur ^dadleugar, a bod y mesurau a nodwyd yn cynwys materion dadleugar. Nid ydym yn 'WYI,O Ilawer am hyny, oblegid prin y gall- ed cael Mesur Addysg Ganolraddol i ~Wmru wedi ei wyntyllu yn dda, a chael allan ohono yr us, a gadael y gwenith ar ol, wrth ei basio mewn prysurdeb ar derfyn Y tymhor. Ond am Fesur Mr JESSE CLINGS, bydd angen hwnw yn yr etholiad OQide cyll ugain mil o'i" etholwyr eu P eidleisiau oherwydd bod mor anffodus a erbyn cymhorth meddygol plwyfol. Eisieu 0n.ydd sydd ar y Toriaid i wneyd dim ond paslO y Supplies, i gael digon o arian at eu gwasanaeth.