Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
CYFUNDEB D WYREINIOL MORGANWG.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFUNDEB D WYREINIOL MORGANWG. Oynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb Uchod yn Nghastellau, dydd LIun a dydd Mawrtk, Mehefin y 29ain a'r 30ain. Y Gynadledd am haner awr wedi 2 o'r gloch Y dydd cyntaf, a'r Parch T. George, Dinas, yn llywyddu. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Davies, Taihirion. Darllenwyd a chadarnha- ^yd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Pender- fynwyd:— 1. Fod derbyniad croesawus yn cael ei roddi i'r Parchn D. L. Evans, Pontypridd, a O. H. Hughes, Tylor's Town, i'n plith. 2. Cafwyd ymddyddan go faith ar gynygiad y Parch W. E. Evans, Tresimwn, sef Fod Papyr i gael ei ddarllen ar ryw bwnc crefyddol yn mhob Cynadledd." Gohiriwyd y mater hyd y cyfarfod Oesaf. 3. Mudiad y Jubili oedd y mater nesaf fu o dan sylw. Am 11 o'r gloch cyfarfu Pwyllgor y Jubili, a- mabwysiadwyd y penderfyniadau canlynol, y rhai a gymeradwywyd gan y Gynadledd. (a.) Ein bod yn adnewyddu yr amodau i'r eglwysi, ac i fod y cyfrandaliadau i gael eu rhoddi i bob eglwys a ddaw i fyny a'r amod- au o hyn hyd ddiwedd Rhagfyr nesaf. (b.) Ein bod yn dymuno ar y^arch J. Davies, TaihirioD, i ysgrifenu apeliad at eglwysi y Cyfundeb am gymhorth at Drysorfa y Jubili, yn hytrach nag i'r gweinidogion ymweled a hwy fel y gwnaethant yn y ddwy flynedd a aethant heibio. (c.) Ein bod yn gohirio dosranu y cyfrandal- iadau am y flwyddyn hon hyd y cyfarfod nesaf. 4. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Beulah, ■kglwysnewydd, yn nechreu' Hydref, os yn gyfleus. 5. pod y Parch D. L. Evans, Pontypridd, i Pjegethu yn y cyfarfod nesaf ar bwnc a roddir Iddo gan eglwys Beulah, a'r Parch J- James, •oethesda, yn ol ei ddymuniad ei hnn, gan iddo tethu bod yn bresenol yn y cyfarfod hwn, ar y Pwnc a roddwyd iddo yn y cyfarfod blaenorol, sef Yabrydolrwydd y Beibl." Diweddwyd trwy weddi gan Mr Idris Williams. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd gan y Parchn O. L. Roberts, Pentyrch; D. G. Rees, Eglwysnewydd; J. Henry, Maerdy; T. George, Dinas; J. yiUiams.Hafod; D. Thomas, Cymer; W. E. Evans, Carmel; a J. C. Evans, Gilfackgock. Deckreuwyd y gwakanol gyfarfodydd gan Mr Davies, myfyriwr o Aberhonddu, y Parchn J. V- Evans, Gilfachgoch; L. Rees, Llanharan a ■Mr Idris Williams. Talwyd diolchgarwch cynes i Mr Davies a'i bobl am eu sirioldeb rhyfeddol i'r iioll ddy- eithriaid. Cafwyd cyfarfodydd gwerthfawr. Yr oedd y pregethau yn rymus, y gwrandawiad yn astuda thyner, yr hin yn deg, ac anian yn dlos o gylch y lle, a natur a gras fel ar eu goreu i'n gwneyd yn ddedwydd. W. I. MOERIS, Ysgrifenydd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
y "GREEN MOUNTAIN" ASTHMA. CUBE — hycliiiinyn rhydd trwy y ljytliyrdy am ls2c.-F. SpfVn.i' a'' ^EIBION, 1, |King Edward-street, Llundain. oeiydlwydyn ytiwyddyu 1746,
.. LLYTHYR 0 AMERICA.
News
Cite
Share
LLYTHYR 0 AMERICA. Yr ydym yn cael golwg ar y TYST A'R DYDD yn awr ac yn y man, ac yn canfod fod cyfuewidiadau pwysig yn cymeryd lie yn yr hen wlad. Er nad 'ydym wedi gorphen ein pumed flwyddyn yn y wlad hon, eto mae lluaws o'r hen gewri oeddynt ar y maes pan ymadawsom wedi disgyn eisoes oddiar furiau Seion. Blin gan filoedd trwy dalaethau y Gorllewin yw y newydd am farwolaeth DR T. REES, ABERTAWY. Nid yw yn debyg fod marwolaeth unrhyw weinidog Cymreig y tuyma i'r Werydd wedi cael mwy o sylw y newyddiaduron Americanaidd. Yn ystod y dyddiau diweddaf, yr oedd yn anbawdd cael papyr wythnosol na dyddiol nad oedd yr amgylchiaà yn cael ei gofnodi ynddo. Nid yw hyn yn rhyfedd, oblegid yr oedd enw Dr Rees yn air teuluaidd ar aelwydydd crefyddol llawer ardal yn Mhrydain ac America, a bydd ei adgof yn ber arogl am flynyddau lawer. Mae gwneyd daioni yn sicrhau i ddyn anfarwoldeb nas gellir ei am- ddifadu obono. Dichon y byddai yn dderbyniol gan rai gael gair am FASNACH Y WLAD. Mae y lluaws yn dylifo i mewn o wahanol wledydd yn barhaus, ac y mae lle i ofni fod rhai yn cael eu hudo gan ymffrost eu hen gyfeillion. Yr ydym wedi cyfarfod ugeiniau oeddynt mewn amgyJch- iadau cysurus yna, ond a hudwyd gan ereill i ddyfod allan i'r wlad hon, ac a ddisgynasant i amgylchiadau digon cyfyng, Mae y gweithfeydd glo a haiarn wedi myned yn rby lawnion eisoes, ac y mae yma ddynion yn Uawn mor wasgedig eu hamgylcbiadau ag a geir mewn unrbyw gymydog- aeth yn Nghymru. Enillir mwy yma, ond mae y gwahaniaeth yn y treuliau i gynal teula yn troi y fantol yn ei hoi drachefn. Y rhai sydd yn gwneyd daioni iddynt eu hunain yw y rhai sydd yn meddu ychydig o arian i gychwyn, ac yn anturio allan ar unwaith i'r Talaethau Gorllewinol i amaethyddu. Mae y rhai hyn yn d'od i sefyllfa gymharol annibynol ar ol llwyddo i dalu am eu tiroedd, a chael stoc dda arnynt. Wrth gwrs, rbaid cymodi & lluaws o anghyfleusderau, ond y mae hyn i'w ddysgwyl yn mhob lie newydd. Mae agwedd grefyddol y wlad rywbeth yn debyg i'r hyn ydyw yna, gyda'r eithriad o'r DIWYGIAD CREFYDDOL a gafwyd mewn rhai eglwysi yn y Wyoming Valley ddechreu y flwyddyn. Buwyd yn cynal cyfarfodydd gweddio mewn amryw eglwysi bob nos am yn agos i dri mis. Gelwid hwy yn gyfar- fodydd gweddi, ond yr oedd pob brawd a chwaer yn cael cymeryd ei gwrs i siarad, cychwyn t6n, adrodd rhan o Air Duw, neu fyned i weddi, fel y byddai yn teimlo. Cafwyd rhai oedfaota bendi- gedig, ac ychwanegwyd ugeiniau at nifer amryw o'r eglwysi. Cafodd yr ysgrifenydd y fraint o roddi deheulaw cymdeithas i driugain a deg yr un boreu Sabboth. Ychwanegwyd dros gant at yr eglwys yn ystod tri chymundeb, ac y mae yma rai eglwysi wedi cael mwy na hyny. Buom yn hyderus gredu y buasai yr awe.1 yn myned dros y wlad, ond blinodd y bobl weddio cyn i Dduw flino bendithio. Yn ystod y cyfarfodydd, meddyliem yn ami mor barod y mae yr Arglwydd i gyfranu ei fendithion pan mae dynion yn dyfod i deimlo fod eu hangen arnynt. Mae yr haf, tymhor yr ymwelwyr, wedi dyfod oddiamgylch eto. Nid ydym eleni yn clywed swn unrhyw ymwelydd perthynol i'n Henwad ni yn y gwersyll, ond yn unig Dr Pan Jones, Mostyn. Mae ef wedi bod trwy Oneida, ac yn dechreu ar ei daith trwy y dyffryn hwn. Deallwn fod dau weinidog o'r ardal hon ar gychwyn yn ol ar ym- weliad a Chymru. Mae enw un ohonynt heb fyned yn ddyeithr i'r bobl eto, sef Y PARCH J. W. MORRIS, PLYMOUTH. Mae ei iechyd ef wedi myned ychydig yn gymylog. Nid yw Plymouth, mwy na rhailleoedd ereill yn y dyffryn, yn hynod am ei iechyd, ac y mae Mr Morris wedi gweithio yn galed er pan ddaeth drosodd. Parhaodd cyfarfodydd diwyg- iadol yr eglwys^ bob nos am ddeg wytbnos, ychwanegwyd ugeiniau at ei rhifedi, a gweithiodd Mr Morris yn galed yn ystod y cyfarfodydd. Yn yr adeg hono, teimlai amryw ohonom wirionedd y geiriau hyny, Yr ysbryd' yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan." Gyda bod y cyfarfodydd diwygiadol drosodd, torodd y typhoid fever allan yn y lie. Gwelwyd yno tua mil yn gorwedd ar eu gweljfeu cystudd yr un adeg, claddwyd ugeiniau, ac ami y gellid gweled tri neu bedwar o angladdau gyda'u gilydd yn y capel. A blin genym orfod cyfaddef nad yw yr afiechyd wedi ei symud o'r ardal eto. Drwy y llafur yn y cyfarfodydd diwyg- iadol, yr holl yrnweliadau a'r cleiflon, a'r gwas- anaethu mewn angladdau, y mae nerth Mr Morris i raddau wedi rhedeg allan a phenderfynodd ei eglwys yn unfrydol i roddi ychydig fisoedd o seibiant iddo. Bwriada gychwyn am Gymru yn nghanol Mehefin. Diamheu y bydd yn dda gan ei hen gyfeillion ddal mantais Ar ei ymweliad i'w glywed yn pregethu neu yn darlithio ar ei wlad newydd. Gwneled y rhai fyddont am ohebu ag ef fod mor garedig ag anfon i ofal y Parch J. Thomas, D.D., 11, The Willows, Liverpool. Awgryma ef mai dychwelyd i orphwys y mae, ond byddai arcs am ddeufis yn Nghymru heb wneyd dim yn dreth ar ddyn tra yn llawn o ysbryd gweithio, ac nid yw eto wedi myned yn rhy egwan i weithio yn rhesymol. Yr ymwelydd arall yw Y PARCH E. R. LEWIS, PARSONS, PA. Bu Mr Lewis ar ymweliad a'r wlad yna er's tua dwy flynedd ar hugain yn ol. Adnabyddid ef yr adeg hono wrth yr enw Lewis, Pittston. Fel doe genym yr adeg yr oeddym yn mysg y lluaws yn crwydro dros fryniau y Gwrhyd tua Chwmllynfell, Carmel, Rbydyfro,, a'r Pant-teg i'w wrando yn pregethu, yn darlithio, ac yn canu "John Brown." Bu ugeiniau yn gwneyd yr un peth a ninau tua chymydogaethau Merthyr a Dowlais. Yr oedd y pryd hwnw yn ddyn ieuanc tuag wyth-ar-hugain oed, ac yn medru ysgwyd cynulleidfaoedd fel tymhestl yn ysgwyd coedwig. Nid ydyw eto wedi colli ei nerth na'i boblogrwydd. 0 ran ei am- gylchiadau tymborol, y mae yn well na nemawr o weinidog Cymreig yn America. Clywais ei fod wedi addaw gwasanaethu eglwys Bethania, Dowlais, am ddau neu dri Sabboth. Nid wyf yn meddwl ei fod wedi, nac yn bwriadu gwneyd unrhyw ragdrefniadau ereill; ond gan ei fod yn golygu ymweled kg amryw o ardaloedd yn Ne a Gogledd Cym'ru, diau na wrthoda ei wasanaeth i rai eglwysi ereill yma a thraw. Ysgrifener i ofal diaconiaid Bethania, os na cheir rhyw hysbys- rwydd mwy na hyn yn ei gylch. Mae yma luaws o Gymru o'r dyffryn hwn yn cychwyn ar ymweliad £ 'u hen ffryndiau y dyddiau presenol, ac os caniata Rhagluniaeth fywyd ac iechyd, dysgwliwn ninau gael ail olwg ar yr hen gyfeillion o hyn i ddechreu yr haf nesaf. Cofion, fel arfer. WilMesbarre, Pa. J. GWRRYD LEWIS.
'M A E S T E G.
News
Cite
Share
M A E S T E G. Dyffryn.—Cynaliodd yr eglwys hon ei ebyfar- fodydd blynyddol ar y date arferol. Y brodyr a wasanaethent oeddent y Parchn Rowlands, Aber- aman Thomas, Penrhiwceibr; a Davies, Aber" cynffig. Cafwyd oedfaon ardderchog, y brodyr yn cael rhwyddineb neillduol i lefaru, y gwrandawyr yn cael bias mawr wrth wrandaw, a thystiolaeth y lluaws oedd fod cystal cyrddau wedi eu cael yma eleni ag a gafwyd erioed. Gobeithio y gwna yr had da a hauwyd ddwyn ffrwyth mawr. Siloh.-Nos Fercher, Mehefin 24ain, bu y Parch W. T. Davies, Llanelli, yn traddodi ei ddarlith odidog ar Lwynogod yr Eglwysi." Y mae wedi hela a dal lluaws mawr obonynt, ac yr oedd yn eu dangos i'r gynulleidfa gyda deheurwydd mawr, a gallem feddwl fod ambell un ohonynt yn dangos eu danedd, ac yn chwyrnu yn gynddeiriog pan yr oedd yn eu trafod a'u dangos o flaen y gynulleidfa. Yr oedd y darluniadau a roddai ohonynt yn scathing ofnadwy, fel y gellid meddwl y buasai yn ffiaidd gan lawer i feddwl bod ynfox keepers mwy. Politics.Mae yma gyfarfodydd go gynhyrfus wedi cael eu cynal yn ddiweddar tuag at barotoi y rhanbarth yma o'r sir ar gyfer y cyfnewidiadan mawrion sydd wedi cael eu gwneyd mewn perth- ynas a'r etholfraint. Mae y Cwm hwn, yn nghyda'r cymoedd amgylchynol—y Garw, Ogwr, y Cymer, y Corwg, a'r Afan, yn hollol Ryddi'rydig, ac nid oes fawr perygl i Dori i ddyfod i fawn os bydd undeb yn mhlith y Rhyddfrydwyr eu hunain. Y mae rhyw gyfarfod wedi cael ei gynal yn Nghastellnedd — cyfarfod a sprinkling o Doriaid ynddo-sydd wedi bod o natur andwyol. Go- beithio y cleddir pob man wabaniaeth,,iu o'r golwg' ac y caiff y prif beth, a'r peth mawr, fod yn fwyaf yn y golwg. Mae Dr Davies, a lluaws mawr o gyfeillion yn gweithio yn ogniol iawn, ac hyderwn y gwna pawb gydweled a cbydweithio, fel y cyr- haeddir yr amcan mawr mewn golwg, sef cael aelod Seneddol teilwng i gynrychioli golygiadau Radicalaiddy rhanbarth hwn yn y Senedd nesaf. GOHEBYDD,
CYMANFA MYNWY.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
^lorris, Pontygof. Am 2, y Parekn T. D. ■kvans, Cross Keys, a T. J. Hughes, Maesy- cwmwr. Am 6.30, y Parchn J. Jones, Mynydd- Jslwyn, a D. G. Davies, Glyn-nedd ac yn y Bedyddwyr yr un adeg, y Parchn J. •"■^gu.es, Pontnewynydd, a T. Rees, Sirhowi. Cafwyd Cymanfa ragorol o'i dechreu i'w diwedd; pobl Casnewydd a'r Morfa ar eu goreu yn darparu a threfnu, a gobeithiwn y gorphwys bendith Duw ar yr oil i gadw eQeidiau. Derbyniwyd at draut y GymaJra-Abercarn a Trecelyn, £1 2s. 6c; Blaenau, £1; Blaenafon, 18s; 4c. Bethesda, 10s. Coed-duon, 6s.; Cefnycrib, 4s.; Carmel, jEl Gosen, 5s.; New Tredegar, 12s.; Mynyddislwyn, 15s.; Maesy. cWmwr, 9s.; Moriah, 15s.; Penmain, 10s.; Pontygof, j61 Saron, Penycae, 91; Ebenezer, |5a.; Rekoboth, £ 1 5s.; Seion, lis.; Sirhowi, *6s.; Salem, 10s.; Troedrhiwgwair, 10s. Tontre'rbel, 5s.; Farteg, 10s.; Victoria, 10s.; Llanhiddel, £ 1. T. J. HUGHES, Ysg. ♦