Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

/AE YE ADEN.I

News
Cite
Share

AE YE ADEN. Gan fod gair neu ddau ar fy meddwl, ac wedi addunedu rhoddi cyhoeddusrwydd iddynt ar wyneb ^gwmwl y TYST A'R DYDD, efallai y byddai cystal mi gadw at yr hen benawdcysefin" Ar yr Aden." YChYdig amser yn o], gadewais orsaf y rheilffordd yn Merthyr, gan gychwyn ar hyd linell Dyffryn Taf wrth gynffon yr agerbeiriant. Dywedir fod y CWnlni hwn yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog, ac ^edi gwneyd ei ffortiwn; ond a'i farnu oddiwrth el gerbydau, gallwn feddwl mai dyma y cwmni 111wyaf tlawd a llwyd a fedd.y ddaear, ie, efallai y dYlwn roddi y Cambrian, a'r Manchester & Milford ogoneddus.0 Gaerfyrddin i Aberystwyth yn yr un sach a'r Taff Vale. Mae cerbydau y trydydd dos- barth ar linell y Taf yn druenuso wael—ysmocwyr ac ysnyffwyr, moesolwyr a phaganiaid, blith dra- Phlith yn gymysg a'u gilydd I Naw wfft ar hug- aiQ i'r fath drefn sydd yn arddangos ei bod gan' ^lynedd ar ol yr oes. Mae cerbydau trydydd dosbarth y Great Western a'r London & North Western Railway yn dwyn bri ac anrhydedd i enwau y ddau gwmni enwog, a gwyn fyd na ?gorai Rhagluniaeth y drws i alluogi un ohonynt agor llinell yn gyfochrog &'r Ta £ E Yale, er i ^dynion gael gwell manteision teithio. Dylid cael cerbydau teilwng o ddynion, ac nid o anifeiliaid Qireswm, pan yn talu pris llawn am le yn y cyf- ryw gerbydau. Pasiwyd drwy Bontypridd; cyrhaeddwyd Llan- W'sant, a rhaid oedd aros yno am gryn amser cael tren i fyned i Benybont-ar-Ogwy. Yn y diwedd fe ddaeth hwnw o Gaerdydd, ac ymaith a strim-stram-strellach." Yn Mhenybont-ar- Ogwy gwelais ar y muriau bapyrau yn gosod allan Syfatfod y Tori sydd am i bobl y rhanbarth hwnw ? Forganwg fod mor wirionffol a'i anfon ef, druan, 1 Senedd Prydain. Cofied pob Annibynwr, ie, a Poob dyn call arall drwy Fro Morganwg, ymladd brwydr Rhyddfrydiaeth yn ddewrfryd dangoser 1<rToriaid gormesgarol nad llaeth a dw'r" yw ein hegwyddor, ond cadarn fel y creigiau tragy- Jyddol. Safed y dewr a'r dyngarol dros Arthur ^•Williams, y bargyfreithiwr, brawd Morgan B. Williams o Abertawy, a disgynydd o waed y preg- etbwr Annibynol, Price, gynt o Benybont-ar- ^Jgwy. Torer ymaith ben a chalon Toriaeth yn •Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Mae Yr haul wedi codi, a'r nos yn encilio—rhyddid yn SfWenu, a gormes.yn wylo, ac yn cnoi cadwynau o haiarn. Na anfoner Tori mwyach i'r Senedd o Ddeheudir na Gogledd Cymru. Cofied Cymru i ymladd yn ddewr yn adeg yr Etholiad nesaf. Credaf ,hefyd y dylid ffurfio plaid Gymreig yn Nhy Y. Cyliredin, er i ni fel cenedl sefyll ein tir, a mynu hawliau gonest a chyfiawn. Paham na chai Wleg Aberystwyth £ 4,000 i'w gynal fel Caerdydd & Bangor. Pe buasai genym blaid Gymreig yn y oenedd, ni feiddiasid ein bychanu fel cenedl drwy warafuu i ni ein hawkau teg. Aethum yn mlaen 11 2* hyd y linell sydd yn arwain y march tan i ^aesteg. Yn yr un tren yr oedd fy nghyfaill &offua y parch R. Trefor Jones, Pant teg, yn edrych mor ieuanc a hoenus ag erioed; hefyd, yoddo yr oedd y Parch Gwilym Evans, diweddar ^emidog y Bedyddwyr yn Penydaren, Merthyr, rawd y Parch Fred. Evans, D. D. (Ednyfed), wedi od yn ei 01 am dro o'r America. Disgynais yn Ogorsaf LLANGYNWYD, tua tuilldir o'r pentref henafol ac enwog. Yr ?eadwn wedi bod yn Llangynwyd o'r blaen yn "rill, 1872, pan yn Ysgol Ramadegol y Parch J. Jones, yn awr o Aberhonddu, yn Mhenybont- ar-Ogwy. Yr oedd Llyfnwy, awdwr y"Ciwpid," ac Un o'r traethodwyr hanesyddol goreu, yn trig- lanu yn Maesteg y pryd hwnw. Bum yr adeg hono yn sylwi ar fangreoedd enwocaf yr ardal, oud yr oeddent yn meddu arswyn adnewyddol i'm ^.lon y tro hwn. Cefais bob caredigrwydd yn y wysdy, anedd yr Inspector Rees. Yno gwelais r Jarmes Davies, "Herber Evans yr ail," gened- S°1 o ardal y Drewen, Castellnewydd-Emlyn, a'r yn tebycaf a welais i erioed i dy wysog y pulpiid ymreig—Herber o Gaernarfon. Sir iawn yw ^I'edigion am godi bechgyn golygus. Yn Llan- bynwyd y mae capel dei gan yr Annibynwyr; ^ynheais fy hun yn rhagorol yno ddwywaith ar ^jial>both yn y boreu, cymundeb; cynulleidfa p a'r canu goreu a glywais braidd erioed. dfcf Huddersfield yn nefolaidd a ben- gedig yn yr hwyr. Arweinydd y gerdd yw Mr 'main David (Gwilym Cynwyd), bachgen llawn Q athrylith—brawd i Llinos Cynwyd, sef Mrs yoiro Gwyllt, Liverpool. Bu ef yn America am a yn amser, ond yn awr y mae gartref yn Llan- syuwyd. Gofynodd ef a llawer ereill i mi ysgrif- JJ YN y modd taeraf i golofnau y TYST A'R mewu cysylltiad a gwrthddrych sydd wedi ei ddal o flaen Uygaid Annibynwyr ac Anghyd- ffurfwyr Cymru yn flaenorol, sef COFADAIL Y PARCH SAMUEL JONES, M.A, BRYNLLYWARCH. Un o gewri Anghydffurfiol Gwalia oedd y Parch Samuel Jones, M.A. Anfonodd Mr D. David tua 2,000 o gylchlythyrau i wahanol eglwysi Cymru o bob enwad, yn neillduol yr Annibynwyr, yn gofyn, ar gais Cymanfa Annibynol Morganwg, a gynal- iwyd yn Llangynwyd, Mai 29ain a'r 30ain, 1883, am danysgrifiad. Ceiniog oddiwrth bob un o aelodau a gwrandawyr Anghydffurfiol Cymreig a sicrhai gofadail deilwng i'r gwron cadarn a or. wedd yn ei feddrod cnl yn mynwent henafol Llan- gynwyd. Yr oedd rhyddid i bawb roddi mwy na cheiniog; ni wrthodid y bunt, wrth gwrs. Mr James Davies, Pwysdy, Llangynwyd, yw y trysor- ydd. Cymeradwywyd y symudiad clodadwy yn wresog gan y Parchn T. Rees, D.D., a D. Jones, B.A., Abertawy; J. Jones, Soar, Maesteg; D. Prosser, Siloh; Richard Hughes, Edward Jones, a J. C. Williams (Ceulanydd), Maesteg. Hwyr- drwm iawn yw yr eglwysi yn ol y dystiolaeth a gefais o'r ddwy fil a gawsant gylchlythyrau, nid oes ond ychydig nifer wedi gweithredu yn ffydd- lawn, a theilwng o Samuel Jones, Brynlly warch, a wynebodd ystormydd geirwon gauaf crefydd yn Nghymru. Cafwyd casgliadau o Siloh, Pentre- Ystrad, Rhondda Nebo, Hirwaun; Penmaen, Mynwy; Horeb, Treforris Llandegla Dr Cnlross, Bristol; Mr John F. Jones, Cincinnati, America (i51) yn nghyda rhai eglwysi ereill-oll yn gwneyd X6 15s 10c. Mae X6 15s 4Jc wedi myned at y treuliau—argraNu ac anfon y cyleblythyrau felly, pum' ceiniog a dimai sydd mewn llaw at godi cofgolofn genedlaethol i arwr enwog Bryn- lly warch Mae Mr C. R. M. Talbot, A. S., wedi addaw X5 at y mudiad, ar ol i'r diweddar serchog- fwyn Dr Rees, Abertawy, anfon iddo ei History of Nonconformity in Wales," yr hwn a draetha. gyda Haw feistrolgar ar Samuel Jones. Yn wir, y mae'n drueni gweled y gareg sydd uwcbben ei fedd yn Llangynwyd mae henaint wedi bwyta ei gwyneb—dim un lythyren i'w gweled ac oni buasai fod y ficer, y Parch R. P. Llewelyn, M.A., yn garedig yn gofalu am fan fechan ei fedd, buasai arall yn ddiau wedi ei gladdu yn ei fedd cyn hyn pe cipiai angeu y ficer hwn ymaith cyn cael cof- adail, ni cheid mwyach, efallai, bawl i roddi dim i nodi allan fedd gwr Duw. Dihuned eglwysi Cymru, yn enwedig Annibynwyr Morganwg, at y gwaith da hwn. Myner cofadail deilwng i'r enwog wron a'i haedda. Trowyd Samuel Jones, M.A., allan ar ddydd da gwyl Sant Bartholomew, Awst 24ain, 1662. Ei briod oedd Mary, merch Mr Rhys Powell, Maesteg. Ganwyd iddo 14eg o blant. Bu llawer obonynt feirw yn ieuainc, yn ol y register Lladin a welais yn Llangynwyd. Bu efe yn cadw ysgol y proffwydi yn Brynllywarcb. Dygwyd ef i fyny yn Mhrifysgol Rhydychain. Bu farw Medi iofed, 1679, yn 70 mlwydd oed. Yn ol ysgrif all- uog a ddaeth allan yn y Bridgend Chronicle rai blynyddoedd yn ol, ac un arall o waith y Parch J. B. Jones, B.A., yn y Beirniad, cawn fod Samuel Jones ddewrfrydig yn hanu o deulu Cymreig yn Ngogledd Cymru. Enw ei dad oedd John Roberts, Corwen, yn ymyl y Bala, yn sir Feirionydd. Hyderaf yr erfyn cyfeillion rhyddid ac Annibyn- iaeth Cymru eu hatling i'r drysorfa heb golli dim rhagor o amser. I fyny a'r faner Yn eglwys Annibynol Llangynwyd y gwasan- aetha yr hen frawd cynesgalon a Chymreig ei deimlad, Mr Edmund Thomas, y swydd o ddiacon. Brawd iddo ef oedd fy anwyl a siriol frawd, y Parch T. M. Thomas, y cenadwr, a fu farw yn Nghanolbarth Affrig bellenig, gan adael gwraig a deg o blant ar ol. Ei briod gyntaf oedd ferch i'r pregethwr ffraethbert y Parch J. Morgan, Cwm- bach, Aberdar—un o fecbgyn Gwar, neu 'galon Llandilo, yn sir Gaerfyrddin. Bum yn yr hen eglwys, ac uwchben bedd yr angyles a folir gan awen Cymru— "Y FERCH 0 GEFNYDFA." Mae'r bedd o hyd o dan ei goron flodau. Rhoddir hwy arno gan law dyner merch y Seer. Afreidiol i mi drethu amynedd neb drwy olrhain hanes y feinir o Get'nydfa. Ganwyd hi yn y fiwyddyu 1704. Ymbriododd o'i hanfodd ag un Anthony Maddocks. Erbyn hyn mae yn fy meddiant gopi o" Signature of the 'Maid of Cefuydfa,' copied from her marriage settlement to Anthony Maddocks, May 3rd, 1725." Ceir ereill gan yr hanesydd Cadrawd (Mr T. C. Evans, Llangynwyd). Bu farw o dor-calon yn mhen tua blwyddyn ar ot priodi. Gwyr pawb yr ystori bruddaidd. Wil Hopkin, ei hedmygydd tlawd, ond cywir a serchog, a gladdwyd is yr ywen ger llaw yr eglwys. Mae careg ei fedd yntau erbyn hyn wedi ei dwyn i fewn i'r eglwys gan y ficer, ac arni rai llythyren- au, a diwedd yr englyn a gyfansoddwyd gan fa ni y bardd Nid yw'r hollfyd hyfryd hedd A'i fwriad ond oferedd. Dywedir mai y Parch Morgan Thomas, ficer Lian- gynwyd, a gyfansoddodd un ran o'r engIyn, mam Wil y rhan arall. Wil Hopkin, fel y gwyddiS, oedd awdwr y gao,boblogaidd Y Gwenith Gwyn." Mae gan Cadrawd rai cerddi anghyhoeddedig o waith Wil Hopkin. Can gampus yw ei un duca- anol-helynt lladd "y tarw blwydd" yn Ownf- cadlawr. Tuallan i fur yr eglwys ceir badd Anthony Maddocks, priod y "Ferch o Gefnydfa," ac arno :—" Here also lieth the body of Anthony Maddocks, who died the 16th day of December, 1764. Aged 69 years." 0 flaen ei enw ef ceir cofnod am farwolaeth ei dad, sef Anthony Maddocks, a fu farw Mai 26ain, 1730, yn 65 oed. Gwelais yno fedd un o gadeirfeirdd Tir Iarll, sef Anthony Powell o Lwydiarth Circa, A D. 1600. Wele englyn a geir ar gareg fedd babau (Powell, Gilfacb) :— Gwêl drigfan baban glwys bach,-fu anwyJ I'r fynwes, ond bellach Nofiodd o wyniau afiach, A gwaew'r byd, yu gerub bach. Yno mae bedd diweddar glocbydd Llangynwyd, sef tad Cadrawd, a ddangosodd i mi yr eglwys yn 1872, ac arno eriglyn o waith Daniel Ddu o Gered- igion:— Lluniodd feld glwysfedd a glân-i labedd Lawer o bob oedran Heddyw hwn sydd ei hunan Yn wr mud dan y gro mâo. Mae enwau llawer o'r gwyr (etifeddiou) ar goryg tlysion tufewn i'r eglwys, a beddau eu gwragedd tuallan. Dywed un offeiriad ffraethbert mai y rheswm am hyny oedd, eu bod wedi cael digon o'u cwmni cyn marw, ac nad oeddent am gael rhagor. Go ofergoelus oedd ein hen dadau. Buasai yn dda genyf draethu ychydig o hanes eglwys Llaa- gynwyd, a blanwyd yn amser y Brenin Arthur (A.D. 540): sylwi ar enwau lleoeddyn yr hen ardal dlos, megys Caer Cymrig, Cwm-yr-isgla (cartruf Anthony Maddocks), Dyffryn Madog, Brynllefritb, Bryn Cynan, Bryn Rhug, Carnhwcb, Cwracerdy; Ffordd-y-gyfraitb, &c. Aethum heibio Cefnyc- ddydd Llun. Teulu o'r enw Maddocks sydd n. byw yn y ty fferm yn awr; tebyg eu bod yn dis;; y a o linach Anthony Maddocks. Clywais eu bod y a cael eu blino yn arw gan ymwelwyr a Chefnydi i, ac nad ydynt yn rhy hoff o roddi croesaw i neb dyeithr. Sylwais fod nen y ty-palas Cefoydfa, cartref y fun Ann Thomas—wedi ei dynu i lawT. Cymerwyd y coed a'r ceryg i Kent gan y perchen- og, Syr Arthur Mackworth, Barwnig, sydd yn ii vr gyda'r fyddin yn Gibraltar. Dy wedir fod ysbrya- ion yn cartrefu yno yn bresenoll Methai neb fyw yn y ty swn mawr yno drwy y nos y gvir I au yn cael eu sytpud; y caws yn trolian ar v 11 t; y elychau yn canu, &c. Felly wir! Gadav.-yd amryw ddarluniau mawrion ar furiau ystafellc i Cefnydfa gynt-dau o'r Ferch o Gefnydfa." T un ohonynt yn awr yn Ffordd-y-gyfraitb, ;01' Abercynffig, a'r llall yn Cerdyn, Maesteg. Tori ei chalon am gael ei gorfodi i briodt a wnaeth meinir dlosgain Cefnydfa. Un o'r daruau barddonol goreu y gwn am dano yn y Gyuuaeg yw eiddo fy nghyfaill Dr Pan Jones o Fostyn ar yr amgylchiad pruddaidd hwn. Wele linell Dell ddwy Mae'm bys yn cyneu'n fflam, Mae'r fodrwy'n eirias O vmaith a hi, mam- Mae'n dan o gwmpas Ni pherthyn ddina i mi, Nid wyf yn bnod ( Wil Hopkin fynaf fi, ¡ Er maint fy nhrallod. Och fi fy mam, fy mam, Yr oe'ch yn ynfyd < Yn gwneyd a mi'r fath gam, Yn difa'm bywyd: Chwi 'm gwerth'soch wrth eich blys, Ofnadwy gethern; Mae cadwen am fy mys Mor boeth ag uffern. V> Fy mam mae'r fodrsvy'n dan O! deuwch yma, A malwch hi mor fan A llwch diddj mdra o Wil, O Wil, un waith Dy wel'd a geisiaf j Os sychu'm dagrau ll,,ith, Yn foddlon trengaf. Pe cyhoeddai rbyw lenor cyfarwydd, i^egva y Parch J. B. Jones, B.A. (Ceredig), Aberhonddu, "HanAS Plwyf Llangyn wyd," byddai o ddyldor- deb neillduol i Gytnru. Poed felly y bo. Merthyr Tydfil. D. CAERONWY HAHKIS.