Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
ABERDAR.
News
Cite
Share
ABERDAR. Nos Fercher diweddaf, cyfarf i pwyllgor o oynrych. iolwyr o wahanol eglwysi Cymroisr y He aohod yn Siloa, er ffurfio Undeb Dirwesto! "Cymroig Abe^dar. Cynrychiolid naw o eglwysi, ac yr oeddynt oil yn galonog iawn i'r yrasjyrch newydd boa yn erbyu Bacchus. Penoil wyd y Parch T. Row.af.ds yn nadeit'vdd y pwyllgor candor, a Mri Gwiiym Evans a Jenkin Parry yn ysgT!feny,ldion. Bwriada y jiwyllgor gael gwagtnaeth Plenydd i gynal cytarfod cyhoeddus nen ddau yn mheti tua pythefnos, i roddi cychwyniad cyhoediins i'r gym. deithas. Bwriedir gwneyd ymdrech arbenig i flucfio cymdeitlias ddirwestol mewn cysylltiad a phob clwys yn Aberdar. Os gellir cyrhaedd hyn, a chael di°on'o set i'w cario yn mlaen yn llwyddiniius, byd i yn gaffaeliad anhraethol i achos crefydd yn y lie, a cHredaf yn ddiysgog' fod y blinder pirhans a ga aiiiryw or eglwysi oddiwrth y fasnacU t'eddwol yn hawiio iddynt roudi en ce dd■;aetb mwyaf aed-iyar i'r ai- de hs newydd. J Bydd y gymdeithds yn h"Uol syml a rhydd oddivvrth unrhyw ftarfiau ailanol a ddichon fod yn dramgwyd i i neb. Erfynlwn am gefnogaeth pob Cristson yn ein hymdrecli yu erbjft ^rchelyn yr Eglwyai t yf* B. HwHBSjTfgg, pro
YMYLON Y ffoedd. 7
News
Cite
Share
YMYLON Y ffoedd. 7 Nos Sadwrn, Gorphenaf 4ydd. Cefais i'm llaw yr wythnos boa lyfryn bychan tlws o eiddo y Parch Elvet Lewis, yn awr o Hull, yn cynwys TEYRNGED I WRAIG RINWEDDOL. Miss Marie Sibree, yn ol ei benw gwyr- yfol, ond Mrs Hall mewn canlyniad i'w phriodas a'r Parch W. G. Hall, gweinidog i'r Wesleyaid. Merch ydoedd i'r Parch James Sibree, o Hull, yr hwn oedd hefyd yn frawd i'r Parch John Sibree, o Coventry. Adwaenwn y ddau, a chlywais y blaenaf yn adrodd penill Cymraeg, yr hwn a ddysgasai. Teulu o Spain oedd y Sibrees, ond a ddaeth- ant i'r wlad hon o ffordd erledigaeth y Pab- yddion. Dangosodd Miss Sibree yn ieuanc fedr llenyddol, a chyfansoddodd amryw lyfrau tra darllenadwy, ac mewn blynydd- oedd jjlyfodol profodd ei hun yn wraig rin- weddol yn llawn ystyr y gair. Bu farw yn Ebrill y flwyddyn hon, yn 45 mlwydd oed, a theyrnged goffadwriaethol iddi yw y bregeth hon o eiddo Mr Lewis. Mae y testyn yn un hapus, "A'r hyn a ysgrifenwyd oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd," gan mai cyfeiriad at, a dyfyniadau o'i gweithiau awdurol yw y bregeth ac nis gallesid cael dynodiad cywirach obonynt na geiriau gwirionedd." Mae yr arddull yn chwaethus dros ben. Da genyf weled ein Cymry ieuainc yn gwneyd eu marc yn mysg v Saeson. D Yr ydym wedi dyfod eleni eto hyd at adeg GWYLIAU EIN COLEGAU, ac y mae cyfarfodydd blynyddol y rhan fwyaf obonynt erbyn hyn wedi eu cynal, ac y mae yr adroddiadau a gyhoeddir o'r cyfar- fodydd hyn yn gyffredin yn ddyddorol iawn. Traethir pethau gwerth talu sylw iddynt. Yn Airedale College, rboddodd Dr Condor, o Leeds, anerchiad rhagorol ar Fywyd Myfyriwr." Dywedodd rai pethau miniog iawn, yn enwedig pan gyfeiriai atyrysfa, sydd mewn dynion ieuainc at fod yn wreidd- iol, a rbywbeth a synai eu gwrandawyr. Bhywbeth na chlywodd y bobl erioed o'r blaeu, ac na ddeallasant ef pan ei clywsant, a rhywbeth iiad oedd awydd arnynt ei glywed drachefn. Dywedai, o'r holl drapiau a osodir gan y diafol ar risiau y pwlpud, nid oedd yr un yn fwy llwyddianus na thrap gwreiddioldeb. Dywedodd betbau rhagorol Wrth ddangos mor bwysig ydyw cydym- deirnlftd, ac nad oes dim yn fwy pwysig i fyfyriwr ddysgu ar gyfer ei waith dyfodol. Anerchodd Dr Allon fyfyrwyr New Col- lege, ar y Gwaith Gweinidogaetholac yn Cheshunt College, traddodwyd y bregeth flynyddol gan Dr Fairburu. Mae y cynyrch- ion hyn yn werth eu darllen eilwaith ac eil- Waitb gan ddyniou ieuainc, os ydynt o ddifrif am gymhwyso eu bunain i'r gwaitb. Wrth son am Cheshunt College, da oedd genyf weled Mr J. Alford Davies, B.A., mab Mr Davies, Siloa, Llanelli, yn cymeryd safle tnor ucbel yn yr arholiad. Mae ar y blaen bron yn mbob adran yn ei ddosbarth. Byddaf yn Ilawenhau i weled Cymry icuainc fel hyn yn pasio yn anrbydeddus. Yr wyf yn gweled fod ein holl fisolion, yn I gystal a'n holl wythnosolion, yn rhoddi eu barn ar GYFARFODYDD YR UNDEB, ac yr wyf yn gweled mai yr un pethau a ganmolir, a'r un pethau a feir ganddynt oil, ond fod rhai yn gwneyd y naill a'r llall yn gryfach nag ereill. Mae y Cenad Hedd yn drwm iawn, ac nid llawer tynerach yw y Diwygiwr ar yr holl helynt a wneir gyda gwahodd yr Undeb. Nid yw y Dysgedycld eto wedi dyfod at hyny. Diau nad oes eis- ieu ond awgrym ar hyn, os cariwyd pethau yn rhy bell weithiau. Traetbant befyd yn gyffelyb ar y moddion a ddefnyddir weithiau Ii godi cyllid yr Eglwys. Fel byn y dywed v Oenad Hedd Y mae yn ben bryd i ni godi I ein Ilef yn egniol yn erbyn lluaws o'r cyn- lluniau a fabwysiedir i helaethu terfynau yr achos. Gwnaeth gwyr sir Benfro amddi- ffyniad meistrolgar i'r hen ffordd dda' o gario yr achos yn mlaen, er hwyrach eu bod ar y mwyaf llym. Ond nis gellir bod yn rhy gryf yn erbyn yr Art Unions a'r Lotteries, a chyffelyb i'r rhai hyn. Y maent yn ddi- raddiol, *'ie, meiddiwn ddyweyd mwy, yn annuiftiol dan bob amgvlchiadau Hyderwn fod dyddiau gweithio gwaith yr ArglWydd gyda tools y diafol bellach ar ben yn mysg yr Annibynwyr yn Nghymru." Ar yr un mater, dywed y Diwygiwr•.—"Yn sicr, dylid cadw ye.) gwbl glir a pbob moddion amheus i chwyddo cyllid yr Eglwys nid ydym yn barnu fod dim i'w enill yn y long run drwybethau felly. Nid doeth ychwaith ydyw adeiladu capel-au mawrion a drudfawr, pan nad ellir talu degwm eu traul erbyn dydd yr agoriad, ac yna gyru allan gylcli- lythyrau trwy y wlad i bob cyfeiriad, yn y rhai y mynegir y bydd Annibyniaeth dan warth tragywyddol, oni wna yr eglwysi an- fon cymhorth dioed. Nid yw brawddegau o'r fath ond pellbau yr eglwysi, canys gwyddant mai nid gwarth ar Annibyniaeth fydd y cyfryw, ond gwarth ar y sawl a fuont mor ynfyd a rhuthro yn anystyriol i'r antur- iaetb.Nid ydym mewn un modd yn groes i eglwysi apelio am gymhorth at eu t, chwiorydd eglwysi credwn fod hono yn ffordd gyfreithlon i chwyddo y drysorfa, ond yr hyn ydym am argraffu ar yr eglwysi ydyw, mai eiddo yr eglwys a gyfyd yr addoldy yw y ddyled, ac nad oes ganddi hawl i ddywedyd y bydd yr Euwad dan warth os gwnant hwy yn ffol." Da fyddai i'r eglwysi sydd heb redeg i ddyled gofio y geiriau hyn mewn pryd, oblegid er eu bod yn gryfion, y maent yn gywir ar yr un pryd, cofier yn garedig am y lleoedd sydd yn suddo, ac estyned pawb a allo help iddynt. Mae yr holl vsgrifenwyr yn nglyn a'r Undeb bob blwydclyn yn cwyno oblegid prinder amser i ymdrin a'r materion a ddygir ger bron. Yn sicr, dyma un o'n prif ddi- ifygion o'r dechreuad. Ai ni elliddyfeisio rhyw gynllun i wella y diflfyg yma ? Rbaid naill ai cael mwy o gyfarfodydd, neu leihau nifer y materion, os na ddylid yn wir wneyd pob un o'r ddau. Mae hyn wedi bod yn hir ar fy meddwl, ac oni buasai nad wyf yn boffi cvffwrdd a threfn sydd wedi gweithio mor dda ar y cyfan, buaswn wedi awgrymu cynllun a fyddai yn welliant pe gellid ei gario allan. Nid oes arnaf hwyl, ac nid oes genyf le heno i gyfeirio ato, ond dichon y daw adeg. Mae llwyddiant y cyfarfodydd hyd yma, a'r dylanwad da a adawant ar ol yn mhob lie, yn galw arnom i fod yn ochel- gar iawn rhag cyffwrdd a hwy ac eto dylai profiad ddysgu rhyw beth i ni. Da genyf weled Golygydd y Diwygiwr wrth gyfeirio at y siroedd lie na bu yr Undeb, yn awgrymll y priodoldeb iddo fyned i Aberhonddu, ac i ryw le yn Mynwy. Buasai yn dda iawn genyf hefyd ei weled yn Whitland. Dichon nas gall fyned yn nes i sir Benfro ond y mae y wlad fawr o Annibynwyr sydd o fewn pum' milldir i Whitland yn mhob cyfeiriad yn ei wneyd yn un o'r lleoedd goreu i gynal y cyfarfodydd. Gwelais Gymanfaoedd yn Henllan ac yn Bethlehem, ac nid oedd pall ar garedigrwydd y bobl ond gellid yn Whitlandvgael holl nerth yr eglwysi cylch- ynol wedi ei gyfuno. Esgusoded fy hen gyf- eillion yn y cylch pwysig bwnw fy hyfdra yn gwneyd yr awgrym. Tra yr ydwyf yn son am yr Undeh, go- ddefer i mi ddyweyd fod yn dda genyf weled llythyr byr Mr Thomas, Whitland, gyda golwg ar ADRODDIAD YR UNDEB, sydd ar fin d'od allan. Mae yr Adroddiadau sydd wedi eu cyboeddi uwchIaw rhoddi pris arnynt, a diau genyf y bydd hwn i fyny ag un a fu o'i flaen. Da fyddai i'r rhai sydd am dano wneyd brys i'w gael, tra y mae y materion dan syIjV yn fyw iawn yn meddwl llawer. Nid yn ami y cynygir am swllt y fath gronfa o wybodaeth werthfawr ag a geir yn yr Adroddiadau hyn. Mae myn'd wedi bod arnynt yn y blynyddau diweddaf, ac y mae yn bur sicr genyf mai nid ar Mr Thomas y bydd y bai os bydd copi heb ei werthu. Anfoned y rhai sydd am dano heb golli dim amser. Yr wyf yn vsgrifenu hyn heno gartref. Nis gwn, os byddaf byw, o ba le yr ysgrif- y I enaf y tro nesaf. Gadawaf gartref; pa fodd bynag, boreu LInn, ac nid wyf yn sicr pa ■> bryd y dychwelaf. Gwaherddir i mi siaload dim yn gyhoeddus, o leiaf, hyd ddiwedd y mis yma, ac yr wyf yn ceisio dysgu bod yn ddystaw, a rhyfedd y gallu sydd gan ddyn i gyfaddasu ei hun i'r amgylchiadau y gosodir ef ynddynt. Lladmery dd.