Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ttNDEB YE ANNIBYNWYR CYMREIG.

DIRWEST YN PONTLOTYN.

A DDARLLENO, CYDYMDEIMLED.

CYFUNDEB GORLLEWINOL MORGANWG.

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

Genedigaethau, Priodasau, &c. DALIER SYLW.—Ein telerau am gyhoeddi Barddoniaetli yn gysylltiedig a hanes Genedigaeth, Priodas, neu Farwolaeth yw tair coiniog y llinell. PRIODASAU. NICHOLAS-WILLIAMS.-Mehefin 21ain, yn Adnlam, Merthyr, gan y Parch D. C. Harris, Mr David Nicholas, 12, Newfoundland, a Miss Margaret Williams, White row, Merthyr Tydfil. POWELL-DAVIEs.-Mehefin 21, yn Adulam, Merthyr Tydfil, gan y Parch D. C. Harris, Mr David Powell, Cwmpenar, a, Mrs Rachel Davies, Pontsticil, Merthyr. MARWOLAETHAU. CHARLES.—Mehefin 8fed, yn 60 mlwydd oed, David Charles, Raven Hill, trwy ddamwain angeuol yn Glofa Charles, Geudros. Yr oedd yn dad i'r Parch W. Charles, B.A., Rhymni, a Mr John Charles, Coleg Caerdydd. Taflwyd yr holl gymydogaeth i traw anarfei-ol ar ol clywed y newydd alaethus. Y dydd Iau canlyno], daeth tyrfafawr o berthynasau a chyfeillion yn ngliyd i'w bebrwng i'w hir gartref. Cyn cychwyn, rhoddodd Mr Davies, y gweinidog, yr hen emyn hwnw aIlan- Yn y dyfro'Mld mawr a'r tonau." Yna ffurfiwyd gorymdaith. Blaenorid gan y Iluaws gweinidogion a diaconiaid y gwahanol eglwysi; yna y cor a chyfeillion gwrywaidd yr ymadawedig—y corff-y teulu galarus a pbprthynasau-ac yn olaf deuai y rhyw fenywaidd. Pan ar y ffordd canodd y cor— "Trag'wyddoldeb mawr yw'th enw," ar y d6n Eifionydd. Gellid teimlo fod yna ryw swn galar yn ngherddediad y dorf. Wedi cyrhaedd y cape), a thra y dylifai y dyrfa anferth i fewn, chwar- euwyd y d6n Saul oLyfr Stephen, .gan Mr Mathew Samuel, Raven Hill. Darllenwyd rhanau o Air yr Arglwydd gar. y Parch J. Bevan, Waunarlwydd, ac arweiniwyd at orsedd gras gan y Parch D. Jones, Cwmbwrla. Anerchwyd y gynulle;dfa ag ychydig eiriau gan y Parchn Dennis Jones, Plasmarl; Stephens, Brynteg; a'r hybarch dad Davies, Horeb, Treforris. Cafwyd ychydig eiriau hefyd gan Mr Davies, y gweinidog.^ Siaradodd pob un ohonynt yn fyr ac yn bwrpasol i'r amgylchiad. Dywedent yr hyn a wyddent am yr ymadawedig mewn geiriau teimladwy, gau gymhwyso yr amgylchiad torcalonus at bawb oedd yn bresenol. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch T. R. Davies, Glandwr. Yna aed i'r fynwent; ac wedi gosod y corff yn y bedd, traddod. wyd anerchiad byr a theimladwy, gan y Parch D. Evans, Burry Port, a gweddiwyd gan y Parch J. D. Thom-s, Dunvant. Ymadawodd y dyrfa alarus wedi rhodd; un arall o'i hanwyliaid yn y beddrod du. Yr oedd y dorf a ddaeth i'r angladi hwn wedi dyfod o wahanol barthau. Uafodd ein hanwyl frawd gladdedigaeth tywysogaidd yr oedd y rn-vyaf a wet- wyd yn y cylchoedd oddiar adeg- Tanchwa Fforest- fach. Gwelsom hefyd y gweinidogion caulynol yn bresenol Parchn R. C. Lewis, Treforris; E. 0. Evans, Tanygraig; a W. S. Charles, Abertawy. Traddododd y Parch J. Davies, Cadle, ei weinidog, bregeth angladdol iddo y Sul caulynol, a dywedai fod y brawl David Charles wedi byw bywyd crefyddol difwlch am 36 o flynyddau. Gwasanaeihodd swydd diacon am 19 o flynyddau, a bu yn drysorydd yr ealwys am 18 mlynedd. Yr oedd yn Hyddion yn holl gyfarfodydd yr eglwys, ac yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn ddirwestwr blaenllaw am 35 o flynyddoedd. Gadawodd i alaru ar ei ol briod hoff a saith o blaut. Taened Duw ei aden amddi- ftynol drostynt oil. [Dvmunir ar i bapyrau America} godi yr uchod.]— Dewi o'r Gad. FKANCIS.—Mr David Francis, Penwbilor, Llanga n wedi rhai blynyddau o wendid, yn 65 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Smyrna, lie yr oedd ef a'i holl dy yn aelodau ffyddlon. Daeth torf fawr yn nghyd i ddwyn ei weddillion marwol i dy ei hir gartref, yr hyn a brawf ei fod yn ddwfn iawn yn serch ei gymydogion. Gadawodd ar ol mewn fjalar mawr weddw a naw o blant. Yr oedd i Dafvdd Francis air da gan bawb, achan y gwirionedd ei hun. Fel cymydog yr oedd yn ddystaw a pharchus wrtb siarad am bawb. Fel crefyddwr yr oedd yn ffyddlon hyd nes i'w nerth ballu. Cymerodd ran flaenllaw gyda'r canu am flynyddau lawer. Dysgodd ei blant i ganu, ac aniryw ereill sydd heddyw yn ganwyr medrus yn yr ardal. Canodd lawer ar y ddaear, ond y mae yn canu yn uwch heddyw yn y nef. Bydded nawdd yr Hollalluog dros y teulu oil. GRIFFITHS.—Mr D. Griffiths, Park,) rhendy, Llanybri, wedi wythnos o gystudd trwm. Claddwyd ef yn mynwent Capel Newydd. Pregethwyd yn ei angladd gan y Parch D. Thomas, gweinidog y lie, oddiar Matt. xxv. 21 Y gwas da a ffgddlon." Ar ei arch yr oedd 61 mlwvdd oed. Hawdd oeld dealt wrth faint y dorf a ddaeth i'w angladd ei fo yn fawr yn serch yr eglwys a'r wlad. Yr oedd yn eitbr. iadol o luosog. Bu yn aelod a diacon tiydrllon yn Capel Newydd am flynyddau lawer. Ni bu ei ffydd- lonach erioed yn perthyn i'r eglwys hon, a theimlir hiraeth a cholled fawr, ar ei ol. Yr oedd ganddo fawr ofal calon am aebos Duw, ac ni chai dim o'r pethau bychain sydd yn cadw rhai or moddion yn wastad ei rwystro ef i fod yn mhlith y plant yn nhy ei dad. Nid oedd neb yn amheu duwioldeb Dafydd Griffiths. Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint Ef." Bydded yr Arglwydd yn dyner o'i weddw a'i blant amddifaid yn eu trallod mawr a'u gwendid. HARRIES.— Mehefin 15fed, yn Cathilas, plwyf Llan- fynydd, Mrs Anne Harrie?, yn 44 mlwydd oed, ar ol rnisoedd o gystudd trwm. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Abergorlech. Dyg. wyd hi i fyny ar aelwyd grefyddol yn Penrhiw, Llan- sHvel. Bu farw a'i hymddiriei yn y Ce dwad. Gadawodd briod a chwech o blant bychain, yn ngbyda thad ocdranus, a brodyr a chwiorydd, i ddwYB alaru ar ei hoi. Claddwyd hi y dydd Iau canlynol yn mynwent yr Annibynwyr yn Abergorlech. Gwein. yddwyd yn yr angladd gan y Parch Mr Jones, Aber- gorlech, ei frwemidoz, a'r Parch D. B. Richards, Crugybar.-D B. R. MORRIS.-Mehefin 20fed, Mr John Morris, Clarke- street, Treorci, o erysipelas, yn 46 oed. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn Bethania, ac ni feddai yr eglwys aelod purach, ffyddlonach, a chywirach. Cychwyn- odd ar ei fywyd crefyddol yn Trelecb, a theimla barch mawr ar hyd ei oes i'r hen eglwys hono. Llyw- odraethwyd ei fywyd gan argyhoeddiadau dyfnion, ac nid oedd neb yn ddyfnach yn serch eglwys Bethania nag ef. Gwnaeth yr oil a fedrodd, a hyny gyda chalon lawen ac a meddwl parod. Gofal. odd am gangenau ysgolion yr eghvys yn Ramah a Synagog am flynyddoedd gyda tiyddlonJeb diball. Ni amheuai neb ei gywirdtb-geiriau gwirionedi oeddent ei eiriau ef. Ffieiddiai ffug a gweniaeth â. chas cyflawn. Gellid ymddiried ynddo fel cyfaill, a. phwyso ar ei ffyddlondeb, yr hwn ni phallai. Yr eglwys yn Bethania oodd agosaf i'w feddwl- ei llwyddiant hi oedd ei gysur penaf, a'i haflwydd'iar.t fuasai ei ofid mwyaf. Oblegid ei orchwyl, denai i gyffyrddiad a Uawer, y rhai a dystiant na chawsant yn ei enau anwiredd, nac yn ei fywyd dwyll. An- rhydeddodd enw Crist, a cbymeradwyodd drwy gy- meriad pur, gwasanaeth svml, a chysondeb bywyd a pbrotfes, grefydd Crist i bob cydwybod dynion. Mehefin 24ain, dygwyd ei gorff i'r bedd gan dyrfa fawr o wyr bucheddol, y rhai a wir alarent oherwydd ei gol;¡. Gosodwyd ei weddillion i orwedd yn Nghladdfa Treorei, a chymerwyd rhau yn y ppwasan- aeth gem y Parch T. Davies, CwmfJark; D. Wdiiams, Salem, Merthyr yn nghyda'i weinidog, B. Davies. Taened Duw ei amddiffyn dros ei weddw unig, • alarus, yn nghyda'r amddifad a ad iwyd ar ol. °' ROBERTS. Mehefil1 19eg, David Stanley Roberts baban bychan Mr a Mrs Roberts, 45, Malderi-i-oad Kentish Town, Llundain. Er nad oedd ond ychydicy wythnosau o oedran, teimlai y tad a'r fam ei bod yn anhawdd iawn gollwng eu gafae1 ynddo. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynoi yn Hampste.id Cemetery. Gweinyddwyd gan y Parch R. L. Thomas, Boro'. REES. Mehefiu 5ed, Mrs Anne Lewis, Fountain Inn, Merthyr, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod ffvdd- lawn gyda'r Annibynwyr yn Adulam, Merthyr. Claddwyd hi y dydd Mawrth canlynol yn Cemetery y Cefn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch D. C. Harris. REES.—Mehefin lOf'ed, ar ol byr gystudd, Rees Idris anwyl blentyn Hopkin a Mary Rees, Marquis Arms' Raven Hill, yn 4 blwydd oed. Claddwyd ef v Mawrth canlynol yn Cadle, pryd y gwasanaethwyd ar yr acb ysur gan y Parchn J Davies, gweiBidoa W. Charles, B.A., Rhymni; a W. S. Charles Aber- tawy. Daeth mfer yn nghyd i dalu iddo y gymwynas olaf.

Advertising