Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHANBARTH DWYREINIOL SIR GAERFYRDDIN.

-----+-----CYMANFA GANU GYNULLEIDFAOL…

. RESOLVEN.\

0 MANCHESTER.

News
Cite
Share

0 MANCHESTER. Boreu Sabboth yn capel Booth-street. — Cafwyd pregeth fuddiol ac amserol iawn y Sabboth o'r blaen gan y gweinidog, Mr John. Mae efe yn gof- alu rboddi i bobl ei ofal weinidogaeth iachus ag fyddo yn suitio yr aingylchiadau, felly yn neillduol y waith hon. Seiliai ei bregeth ar y geiriau hyny, Cofia pa fodd y derbyniaist, ac y clywaist, a chadw ac edifarha." Angenrbaid ydyw dyweyd i'r pregethwr wneyd perffaith gyfiawnder a'r tes- tyn, fel ag y gwna a'r oil o'i eiddo bob amser. Ond gallwn grybwyll iddo yn y traddodiad ohoni (yr hyn y mae i ni ddiolch i TTndeb Aberystwyth, efallai am i ni ei cbael yn bresenol) roddi boddlon- rwydd cyffredinol yn meddwl ei wrandawyr ei fod yn deall ei waith yn dda, deall sefyllfa yr amser- oedd yn niffrwythder marweiddiol cyflwr ysbrydol yr Eglwys, yn neillduol gogwyddem i gredu hyny trwy fod holl boints brawddegol ei areithyddiaeth yn gymbwys gydio ein sefyllfa ysbrydol. Yr oedd agwedd ein meddwl a'n teimlad o'n proffes gy- hoeddus o Fab Duw, yn euog yn eu gwyneb. Yr ydym wedi derbyn llawer mewn rhagluniaeth a gras, ond yn hynod o esgeulus i gadw i bwrpas o'r hyn a glywn, ac mae ein cynefindra o dderbyn trwy glywed wedi ein gwneyd yn anmharod iawn i biygu yn edifeiriol am gamddefnyddiodoniau Duw Yr oedd gwledd y Sabboth yn ein codi i dir uwch a. newydd o ran profiad, yr oedd tan y pwlpud yn cydio yn nbeimlad y gwrandawyr, nes gwefreiddio y fynwes oerllyd i wres hyfryd a bapus gan yr eneiniad oddiuchod a redai o galon i galon trwy y gwasanaeth, a byderwn fod gwawr gobaith ger Haw yn banes yr Eglwys, pan y ca addoli ei Duw mewn gwell ysbryd, a chanu hen emynau melua Seion gyda gwell hwyl yn nghynteddau ty Dduw. Mae addoliadau o'r un naws yn codi hiraeth yn ein mynwes am gael eilwaith brofi dylanwad grymus mynydd Seion i adnewyddu cynydd a. Uewyrch ysbrydol yr Eglwys. Doctor Maclaren. — Cafodd yr hyglod Ddoctor alwad yn ddiweddar i gymeryd gofal eglwys gref yn y Brifddinas, ac i roddi gwereiyn uno'icholeg- au mewn Hebraeg, ond ganol yr wythnosddiwedd- af, er boddlonrwydd cyffredinol ei luosog ffrynd- iau yn y dref, a'i holl wrandawyr yn Oxford Road Cbapel, anfonodd atynt ei dueddiad a'i bender- fyniad o beidio colli ei afael a hwy trwy dori yr undeb hapus sydd rhyngddynt. Ar ol dwys ystyried y peth yn ei feddwl, a gorbwyso yr am- gylchiadau, bydd yn dda ganddo aros gyda hwy, ac ymroddi i'r weinidogaeth yn y dyfodol, fel ag y gwnaeth am lawer o amser yn y gorphenol. Dull yr eglwys hon ydyw rhoddi i'w gweinidog fel ag y gwna efe. Arian yr eisteddleoedd sydd yn myned i'w dalu, a thrwy deilyngdod uchel y Doctor, sydd yn cyrhaedd swm da—< £ 1,100 yn y fiwyddyn. Clybiau Betio.-Dau gant o fynycbwyr y lleoedd hyn a gafodd eu dal yn myned yn mlaen gyda eu masnach o ganiblioyr wythnos o'r blaen, a'u dwyn ger bron eu gwell i'r Town Hail am dori cyfraith y tir. Dydd Iau a Gweuer, dygwyd 75 ohonynt ger brou y faine farnol, a chawsaut dalu Y,1,001 15s. o iawn am eu gwaith. Mae achosion rhai wedi cael eu taflu i'r Assizes. Diolch am Efengyl a Beibl i'n dysgu yn wahanol. TKEBOR PRYSOR.

Advertising