Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHANBARTH DWYREINIOL SIR GAERFYRDDIN.

-----+-----CYMANFA GANU GYNULLEIDFAOL…

. RESOLVEN.\

News
Cite
Share

RESOLVEN. Anrhegion. — Wedi bod yn oruchwyliwr gwaith Cwmpeini y Cardiff and Swansea yn y lie hwn am bedair blynedd, dyrchafwyd Mr John Salathiel i'r Transatlantic Colliery yn Nghwmgarw, ond bydd eto o dan yr un pen-goruchwyliwr, seE Mr William I homas, Aberdar. Llefara hyny yn ucbel am sut y sair gyda'i feistr. Er gweled aras nuu gwell a gwaeth, llwyddodd i gadw y fath gyd-ddealldwr- iaeth rhwng y meistr a'r gweithwyr fel na bu yr un strike yn ei amser ef, a mawr o beth fyddai pe ymlidid y strikes a'r lock outs allan o'r byd. Yn amser Mr Salathiel y suddwyd y pwll cyntaf i'r Aberdare seavis yn y cylch hwn, ac nid ychydig o beth oedd sinkio pwll o 550 o latheni heb ddam- wain i golli cymaint ag un bywyd. Ni welir cynyrch y gwasanaeth mawr hwn nes suddir y pwll avail a chael amser i agcr y gwaitb. Yr oedd Mr Salathiel yn flaenllaw iawn gyda phethau plwyfol, gwleidyddol, a chrefyddol, yn y lie, fel y teimlir colled fawr yn mhob cylch ar ei ol. Er tloted yw amgylohiadau y gymydogaeth er's misoedd, yr oedd wedi ffurfio y fath gyfeillgarwcb, ac wedi enill y fath barch, a tnynodd ei luaws cyfeillion i amlygu eu tcimladau da tuag ato mewn modd cy- hoeddus a sylweddol. Wedi i bwyllgor gael ei ffui'fia i gyrhaedd yr amcan, a phenodi Mr W. Ihomas, dosbarthwr y TYST A'U DYDD, yn gadeir- ydd, a Mr Richard Jenkins, yn ysgrifenydd, car- iwyd y gwaitb i ben ar fyr amseiv a nos Luo, Mehenn 15fed, cafwyd cyfarfod cyhoeddus lluosog iawn i gyflwyno yr anrbegion yn Jerusalem o dan lywyddiaeth y Parch D. Morgan, y gweinidog. Wedi anerchiad agoriadol ar natur ac amcan y cyfarfod ga.n y llywydd, ac amlygiad o'i farn uchel o Mr a Mrs Salathiel, ei cfid o'u colli, ei lawenydd o'u dyrchafiad, a'i ddymuniad da iddynt, ac i Mri Evan Jones, Brynhyfryd; William Lewis, Yeo- street; a John Jones, Ynysnedd, i siarad yn frwd- frydig yn yr un cyfeiriad, ac i Eos Resolven, Eos Penderyn, Llinos Nedd, Cor yr Aelwyd, a Chor y Plant, ganu darnau pwrpasol, galwyd ar y gwron- iaid i'r esgynlawr, ac ar Mr Daniel James dros y gweithwyr, a Mrs D. G. Morgan, priod y gwein- idog, dros yr eglwys i gyflwyno yr anrhegion, at ba rai yr oedd y gweithwyr a'r eglwys, a chyfeillioti cylchynol wedi cyfranu. Anrheg Mrs Salathiel oedd tea and coffee service rhagorol, ac engraving priodol ar bob un ohonynt. Anrheg Mr Salathiel oedd oriawr aur gwerth X-20. Diolchodd Mr Salatbiel yn doddedig a phwrpasol iawn drosto ef a'i briod am holl garedigrwydd y cyfeillion yn Resolven, ac yn arbenig am yr arwydd ddiwedd- af hon o hyny." Ymadawai "heb falais at neb, gan adael ei ddymuniadau goreu i bawb." Cafwyd cyfarfod clft-nunot anghyffredin, heb ormod o or- ganmoliaetb, a dilyna dymuniadau goreu y trigol- ion y teulu caredig i'w lie newydd. AMICUS.

0 MANCHESTER.

Advertising