Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
---ANGHYWIRDEB TORIAETH.
News
Cite
Share
ANGHYWIRDEB TORIAETH. IIID aur yw pob peth sydd yn dysgleirio, ac ttid cywir yw pob peth a ddywedir gan Doriaeth, hyd yn nod gan arweinwvr y blaid. Cafwyd engraifft nodedig o hyn yn Nhy yr Arglwyddi nos Iau diweddaf, pan y cyiQerodd Arglwydd SALISBURY y eyfleustra cyntaf a gafodd i fynegi paham a pha fodd y* ymgymerodd a ffurfio Gweinyddiaeth. nos blaenorol, gwnaeth Mr GLADSTONE fynegiad o'r ymdrafodaeth fu rhyngddo ef ac Arglwydd SALISBURY, trwy EI MAWR- lfYDI, yn ngtyn a'r gwarantau a ofynai ei arglwyddiaetb ganddo ef a'i gyfeillion, nid adrodd o'i gof, er y gallasai wneyd hyny yn dda, ond trwy ddarllen yn unig yr ^hebiaetb. fu rhyngddynt, beb sylw na beirniadaeth o'i eiddo ei bun. Pan gododd Arglwydd SALISBURY yn Nhy yr Arglwyddi I fynegi pa fodd y disgynodd i'w ran ef i Sytneryd lie. Mr GLADSTONE, dibynodd yn gwbl ar ei gof, a thrwy byny, a gosod yr esboniad tyneraf arno, gadawodd allan rauau a roddent liw gwabanol ar betbau. Pe buasai ei arglwyddiaeth mewn Ilys barn, gosodid ef ar ei lw i ddyweyd y gwir, y gwir 1 gyd, a dim ond y gwir. Rbbddwn y Credid iddo am ddyweyd y gwir, ond nid y gwir i gyd. A cban na fynegodd y gwir i gyd, yr oedd ei fynegiad yn cario argraff Wahanol i'r hyn gariai dim ond y gwir. Pan anfonodd Mr GLADSTONE ei ymddi- Swyddiad i'w MAWRHYDI yn Balmoral, cyn yn ffurfiol ei dderbyn, anfonodd hithau at ^■rglwydd SALISBURY i geisio ganddo ffurfio Gweinyddiaeth. Yn awr, raeddai Arglwydd SALISBURY, dywedais wrth Ei MAWRHYDI y dylasai Mr GLADSTONE, o dan yr amgylch- iadau, gario y Llywodraeth yn mlaen hyd yr ■Etholiad Cyffredinol; ond i Mr GLADSTONE ateb, yu wyneb yr amgylcbiadau oeddent ^edi cymeryd lie, y buasai yn anmhosibl icldo ef a'i Weinyddiaeth i ail ystyried eu Ytnddiswyddiad. Yna, meddai ei ar- Rlwyddiaetb, mewn ufudd-dod i orcbymyn y f RENINES, ae er mwyn. buddiant y wladwr- laeth, ymgymeuais a'r gorcbwyl o dan aiQgylchiadau eithriadol. Gallesid meddwl Vaal angenrhaid osodwyd arno, ac mai gwae oni wnai ymostwng i'w MAWRHYDI, ac y uasai y wladwviaeth yn syrtbio i anhrefn, .,yryswch, a dinystr, oni wnai efe ufuddbau lr naill ac amddiffyn y llall. Yu ffodus i'r gwirionedd, yn ffodus i Mr GLADSTONE, ac yn ffodus i'r wlad, yr oedd larli GRANVILLE yn bresenol yn ei wrando, ni chollodd amser i'w ateb, gan fyned ychydig yn fWy manwl i dir cynil peryglus y mauylioD, yr hwn a ochelai Arglwydd ALISBURY, ac o'r tir peryglus hwnw dygodd allan ffeithiau daflasant oleuni gwahanol ar yr boll drafodaeth, ac a roddodd y celwydd, a ewn dUll boneddigaidd, i holl araeth ei rglwyddiaeth. Dibynu ar ei gof yr oedd yntau, ond yr oedd yn cofio ffeithiau yn well ag Arglwydd SALISBURY, neu os yn eu p °> ni fynai eu traethu. Cofiai Iarll DANVILLE y ffaith fechan, ond holl-bwysig F y mater hwn, ddarfod i'w MAWRHYDI, >_wy ysbrydiaeth Arglwydd SALISBURY, ar enefin lleg, ofyn i Mr GLADSTONE, Os ^Tgwyddai Arglwydd SALISBURY fethu nio Gweinyddiaeth, a wnai efe a'i gyd- ^inidogion fyned yn y blaen." Atebodd S r GLADSTONE, Os dygwyddai i Arglwydd I AL!SBURY fethu neu wrthod ffurfio Gwein- aetb, y buasai byny yn amlwg yn newid y sefyllfa." Hyny yw, dywedodd Mr GLADSTONE, Os na wna Arglwydd SALIS- BURY, neu os metba a ffurfio Gweinyddiaeth, byddaf fi yn barod a'm cyfeillion yn barod i fyned yn mlaen fel cynt. A ydyw hyn yn dangos anmharodrwydd o du Mr GLADSTONE o dan uurhyw amgylchiadau i barbau yn ei swydd, fel y mynai Arglwydd SALISBURY i'r wlad gredu? Gan mai hyn oedd wirionedd, ac mai hon oedd y ffaith, na roddwyd i Mr GLADSTONE gyfleustra i ail ystyried ei ym- ddiswyddiad, paham na ddywedai Arglwydd SALISBURY hyuy ? Ni chynygiodd ateb larll GRANVILLE, canys gwyddai mai gwir- ionedd ddywedodd, a cheisiodd daflu y bai ar ei gof, ac ymesgusodi o dan gochl gyfleus angbof, oblegid gwyddai y buasai hyny yn ormod i ddysgwyl i arglwyddi Toriaidd ei y n gredu chwaetbach y wlad. Y gwir yw, pan ddeallodd Arglwydd SALISBURY nas gallasai gael y cri i'r wlad fod Mr GLADSTONE wedi gwrtbod ar bob telerau barhau yn ei swydd, ond ei fod yn barod i hyny ar y telerau ei fod ef (ei arglwyddiaetb) yn methu neu yn gwrthod, ruthrodd at yr awenau, ac ychwan- I egodd at ei gamwedd, ni ddywedwn trwy ddyweyd celwydd gwirfoddol, ond trwy gelu yn fwriadol y ffaith bwysicaf yn hanes yr holl drafodaeth. A ydyw Llywodraetb nas gellir ymddiried yn nghywirdeb araeth gyntaf ei Phrif- weinidog yn deilwng o gael buddianau y wlad i'w gofal ? Dylai datganiad Prif- weinidog Prydain Fawr fod yn unplyg, yn onest, yn cynwys y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir ond os ar amgylchiadau neillduol ac eithriadol y barna fod buddianau y deyrnas yn gwahardd iddo wneyd myneg- iad llawn o'r mater dan sylw, dylai ar dir gonestrwydd ddyweyd hyny, ac nid gadael i'r wlad dybio ei fod yn dyweyd y cwbl pan nad ydyw ond yn dyweyd y pethau mwyaf cyfieus iddo ef. Heriwn Arglwydd SALIS- BURY na neb arall i nodi un. engraifft o Mr GLADSTONE yn cuddio ffeithiau pwysicaf unrhyw drafodaetb, fel y gwnaeth Arglwydd SALISBURY yn Nhy yr Arglwyddi nos Iau diweddaf. Ond dyna, Tori yw Arglwydd SALISBURY, ac os yw pethau fel hyn yn gyson ag egwyddorion sylfaenol Toriaeth, ac yn gymeradwy gan gydwybodau Toriaidd, nid oes genym ond dyoddef mor amyneddgar ag y gallom, a dywuno am i'r haf braf hwn fyned heibio yn fuan fel y delo Tachwedd, i'r wlad gael rhoddi ei llais a'i barn pa un iydd oreu ganddi, Toriaeth anghywir neu Rhyddfrydiaeth eirwir—Mr GLADSTONE ai Arglwydd SALISBURY ?
[No title]
News
Cite
Share
CAPEL MAIR. LLANFALLTEG. Elfenau Llwydd ant" oedd. testyn darlith a draddodwyd yn y lie uchod DOS Fawith, Mehefin 16eg, gan y Parch J. R. Tliomas, Bethesda, Narbertbu Oni bai ein bod yu byw mewn dyddian nas gellir ystyried canmoliaeth trwy y was? yn nod gwahaniaethol rhwng y gwych a'r gwael, byddai yn brofedigaeth gref i ni panmol y ddarlith odidog bon. Medr Mr Thomas ddyweyd pethau a gafael ynddvnt—dyweyd pethau a gafael ynddynt yn y modd mwyaf gafaelgar. Ni fyddwn byth yn ei wrando heb i eiriau yr hen Lyfr retleg i'u meddwl-" Geiriau y doethion sydd megys symbyIau, ac fe' hoelion wedi eu s:crhau ean feistria'd y gynulleidfa." Ni wyddom a ydyw Mr Thomas yn prisio am fyned o gwmpas y wlad i ddarlithio, ond pe gellid ei ddarbwylio i wneyd, gwyddoro y bydd .j traddodiad o'r ddarlith wir ragorol hon yn sicr o brofi yn foddion i ddihuno a deffroi meddyliau ieuenetyd y Dywysogaeth. PENCLAWDD.—Sul a LIuu, Mehefin 143g a'r 15h cynaliodd yr oglwys bon ei chyfarfod blynyddol, pryd y preuethwyd yn nerthoi a grymus gan y Parchn J. B. Williams, Brynmawr J. Towyn Jones, Cwm- aman; D. Ll. Williams, Machen; a T. Ehondda Williams, Castellnecid.
[No title]
News
Cite
Share
-+- Yr ydym yn ddiweddar weli gweled dyn sydd yn rhoddi gair da i'w fam-yn-nghyfraith. Bu farw yn dd we(!dar, a gadawodd i'w wraig fit o bunan. Pe byddai mamau-yn-nghyfraith yn arfer gwneyd pethau fel hyn, mor fuan y darfyddai y rhagfarn sydd yn eu herbyn.
CYMANFA DWYREINBARTH OHIO,…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYMANFA DWYREINBARTH OHIO, AMERICA. Yn gymaint a Ayngu bodd i'n Tad Nefol, yr Hwn sydd yn llywodraethu y byd mewn doetbineb a daioni, symud y Parchn T. Rees, D.D., Aber. tawy; Simon Evans, Hebron ac E. Stephen, Tanymarian, oddiwrth eu gwaith ateu gwobr ac yn gymaint a'n bod ninau fel cylch cymanfaol, er mewn gwlad bellenig, yn teimlo yn anwyl at wlad ein tadau, ac yn neillduol at y rhai hyoy yno wnaethant gymaint dros eu cenedl a'u gwlad, a bod llawer yn ein plith a deimlant gysylltiadau agos iawn a'r naill neu y Hall o'r tri wyr nodedig byn," penderfynwyd ein bod fel Cymaufa Gynull- eidfaol Dwyreinbarth Ohio, gynelir yn Palmyra, Mehefin 5-7, 1885, yn- 1. Yn dymunoamlygu ein cydymdeimlad dyfnaf a theuluoedd ac eglwysi y Parchn T. Rees, D.D., Abertawy Simon Evans, Hebron; acE. Stephen, Tanymarian, y rhai, yn marwolaetheu banwyliaid, ydynt wedi eu colledu yn ddirfawr, ac ydynt yn ddiau mewn galar dwys ac hiraeth trwm am danynt. 2 Ein bod yn ystyried yn anrhydedd i ddal pertbynas â dynion mor enwog, wnaethant gy- maint droa eu Henwad, eu cenedl, a'u gwlad; lafuriasant mor egniol am gynifer o flynyddoedd, bob un yn ei ffordd ei hun, i lesoli eu hoes a dyrcbafu gogoniant ein Duw; a'n bod yn gweddio am i Ben mawr yr Eglwys godi ereill galluog mewn athrawiaeth, diargyhoedd mewn buchedd, doeth mewn cynghor, penderfynol mewn ymdrech, ac efengylaidd mewn ysbryd i lanw yr adwyau mawrion sydd wedi eu gwneyd yn ddiweddar yn Nghymru.
. PWYSAU A MAINTIOLI CENEDL-OEDD…
News
Cite
Share
PWYSAU A MAINTIOLI CENEDL- OEDD PRYDEINIG. Y CTMSO BIAU CADEBNID. Y mae adroddiad yr Adran Ddynweddol (Anthropo- logical) a ddarllenwyd yn ddiweddar o flaen y Gym- deithas Brydeinig yn ychwanegiad gwerthfawr at y wyejdor ddyddorol hono. Cynwysa yr adroddiad y cyf- eiriasom ato rai ffeithianystadegol dyddorol. Yr ydym yn dysgu oddiwrtho, nid yn unig y cymerodd y pwyJl- gor eu taldra a'u pwysau, ond hefvd faintioli eu hae'- odau, lliw eu gwallt, llygaid, pryd <edd, gallu cyhyrol, a manylion ereill rhy luosoa i ni i'w henwi. Gellir cryn. hoi yn nghyd ganlyniadau y darsylwadau hyn fel y canlyn Mewn taldra, saif yr Ysgotyn a'i bais gwta yn mlaenaf (68 6-10 o droedfeddi), y Gwyddel yn ail (67 9-10 modtedd), y Sais yo drydydd (67 9-25), a'r Cvmro yn ohf (66 3 5). Yr ydym wedi gosod y ffugyrau hyn yn y modd hawddaf i'w deall ag y medrem, er y gall- asem osod y ffugyran yn fwy manwl gywir pe defnydd- iasem decimals. Mewn pwysaa cymer yr Ysgotyn y lie blaenaf, ychydig dros 165, y Cymro yn ail, ychydig dros 158 pwyg, y Sais yn drydydd, yn 155, a'r Gwyddel yn bedwerydd, 154 pwys. Mae pwysau cyfartal yr oil yn 158 pwys. Oddiwrth y ffugyrau uchod, ymddenays mgiyrYsgot- iaid ydynt y talaf a'r trymaf. Cymer y Saesort y tryd- ydd safle mewn pwysau a maintiolaetb, tra y mae y Oymry a'r Gwyddelod yn cael eu gwrthdroi. Daw y Gwyddel, yr hwn a saif yn ail mewn taldra, yn olaf mewn pwysau, a'r Cymro, er ei fod yn olaf mewn tal- dra, a saif yn ail mewn pwysau. Am bob modfedd o faintioli, pwysa yr Ysgotyn yn agos i ddau b-vys a haner, y Cymro; 2 3-4, y Sais 2" 3-10, a'r Gwyddel rhwng "au bwys a haner a thri chwarter. Oddiwrth hyn, gwelir yn amlwg fod y Cymro, fel y fuwch Gymreig, os yn fychan o faintioli" yn rhagori mewn pwysau ar y mwyafrif o'i gymydogion.
♦' AMRYWION.
News
Cite
Share
♦ AMRYWION. Un tro, ysgrifenodd rbyw ddyn rha;rr thio I yn Athens uwchben ei ddrws: Na fydded i ddirn drwg fyned i mewn yma." Ysgrifenodd Diogenes o dano: Pa fodd y mae y perchenog yn myned i mewn ? Do, Arglwydd! ti a droaist ein hen dad Adda allan o Baradwys ond diolch i ti, wrth ei droi ymaith, am ei droi a'i wyneb tua'r dwyrain, tua chodiad haul," ebai John Llwyd, Llansanan, wrth weddio. Y mae amser yn debyg i long nad ydyw byth yn auwori tra byddaf ar y bwrdd, bydd yn well i mi wneyd y pethau hyny a fydd o fantais i mi ar ol glarno nag ymarfery cyfryw bethau a fydd yn achos i mi gael fy mwrw i'r carchar wedi dyfod i'r lan. Gwarchod fi 'nhad, yr wyf newydd welel y niggar duaf ar y ddaear! meddai bachgen bychan un diwrnod tra y rhedai i'r ty. Pa mor ddu ydoedd, fy II ab ? 0, yr oedd mor ddu ag y gallai dim fod yn wir, 'nhad, gallai parddu roddi marc gwyn arno." Y mae un teithiwr yn dyweyd mai unwaith yn ei oes y carfyddodd bobl yn meindio eu busnes en hunain." Cymerodd y dygwyddiad le ar y m6r, pan oedd yr holl deithwyr yn rhy glaf i dalu sylw i amgylchiadau ereill," •