Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

---ANGHYWIRDEB TORIAETH.

News
Cite
Share

ANGHYWIRDEB TORIAETH. IIID aur yw pob peth sydd yn dysgleirio, ac ttid cywir yw pob peth a ddywedir gan Doriaeth, hyd yn nod gan arweinwvr y blaid. Cafwyd engraifft nodedig o hyn yn Nhy yr Arglwyddi nos Iau diweddaf, pan y cyiQerodd Arglwydd SALISBURY y eyfleustra cyntaf a gafodd i fynegi paham a pha fodd y* ymgymerodd a ffurfio Gweinyddiaeth. nos blaenorol, gwnaeth Mr GLADSTONE fynegiad o'r ymdrafodaeth fu rhyngddo ef ac Arglwydd SALISBURY, trwy EI MAWR- lfYDI, yn ngtyn a'r gwarantau a ofynai ei arglwyddiaetb ganddo ef a'i gyfeillion, nid adrodd o'i gof, er y gallasai wneyd hyny yn dda, ond trwy ddarllen yn unig yr ^hebiaetb. fu rhyngddynt, beb sylw na beirniadaeth o'i eiddo ei bun. Pan gododd Arglwydd SALISBURY yn Nhy yr Arglwyddi I fynegi pa fodd y disgynodd i'w ran ef i Sytneryd lie. Mr GLADSTONE, dibynodd yn gwbl ar ei gof, a thrwy byny, a gosod yr esboniad tyneraf arno, gadawodd allan rauau a roddent liw gwabanol ar betbau. Pe buasai ei arglwyddiaeth mewn Ilys barn, gosodid ef ar ei lw i ddyweyd y gwir, y gwir 1 gyd, a dim ond y gwir. Rbbddwn y Credid iddo am ddyweyd y gwir, ond nid y gwir i gyd. A cban na fynegodd y gwir i gyd, yr oedd ei fynegiad yn cario argraff Wahanol i'r hyn gariai dim ond y gwir. Pan anfonodd Mr GLADSTONE ei ymddi- Swyddiad i'w MAWRHYDI yn Balmoral, cyn yn ffurfiol ei dderbyn, anfonodd hithau at ^■rglwydd SALISBURY i geisio ganddo ffurfio Gweinyddiaeth. Yn awr, raeddai Arglwydd SALISBURY, dywedais wrth Ei MAWRHYDI y dylasai Mr GLADSTONE, o dan yr amgylch- iadau, gario y Llywodraeth yn mlaen hyd yr ■Etholiad Cyffredinol; ond i Mr GLADSTONE ateb, yu wyneb yr amgylcbiadau oeddent ^edi cymeryd lie, y buasai yn anmhosibl icldo ef a'i Weinyddiaeth i ail ystyried eu Ytnddiswyddiad. Yna, meddai ei ar- Rlwyddiaetb, mewn ufudd-dod i orcbymyn y f RENINES, ae er mwyn. buddiant y wladwr- laeth, ymgymeuais a'r gorcbwyl o dan aiQgylchiadau eithriadol. Gallesid meddwl Vaal angenrhaid osodwyd arno, ac mai gwae oni wnai ymostwng i'w MAWRHYDI, ac y uasai y wladwviaeth yn syrtbio i anhrefn, .,yryswch, a dinystr, oni wnai efe ufuddbau lr naill ac amddiffyn y llall. Yu ffodus i'r gwirionedd, yn ffodus i Mr GLADSTONE, ac yn ffodus i'r wlad, yr oedd larli GRANVILLE yn bresenol yn ei wrando, ni chollodd amser i'w ateb, gan fyned ychydig yn fWy manwl i dir cynil peryglus y mauylioD, yr hwn a ochelai Arglwydd ALISBURY, ac o'r tir peryglus hwnw dygodd allan ffeithiau daflasant oleuni gwahanol ar yr boll drafodaeth, ac a roddodd y celwydd, a ewn dUll boneddigaidd, i holl araeth ei rglwyddiaeth. Dibynu ar ei gof yr oedd yntau, ond yr oedd yn cofio ffeithiau yn well ag Arglwydd SALISBURY, neu os yn eu p °> ni fynai eu traethu. Cofiai Iarll DANVILLE y ffaith fechan, ond holl-bwysig F y mater hwn, ddarfod i'w MAWRHYDI, >_wy ysbrydiaeth Arglwydd SALISBURY, ar enefin lleg, ofyn i Mr GLADSTONE, Os ^Tgwyddai Arglwydd SALISBURY fethu nio Gweinyddiaeth, a wnai efe a'i gyd- ^inidogion fyned yn y blaen." Atebodd S r GLADSTONE, Os dygwyddai i Arglwydd I AL!SBURY fethu neu wrthod ffurfio Gwein- aetb, y buasai byny yn amlwg yn newid y sefyllfa." Hyny yw, dywedodd Mr GLADSTONE, Os na wna Arglwydd SALIS- BURY, neu os metba a ffurfio Gweinyddiaeth, byddaf fi yn barod a'm cyfeillion yn barod i fyned yn mlaen fel cynt. A ydyw hyn yn dangos anmharodrwydd o du Mr GLADSTONE o dan uurhyw amgylchiadau i barbau yn ei swydd, fel y mynai Arglwydd SALISBURY i'r wlad gredu? Gan mai hyn oedd wirionedd, ac mai hon oedd y ffaith, na roddwyd i Mr GLADSTONE gyfleustra i ail ystyried ei ym- ddiswyddiad, paham na ddywedai Arglwydd SALISBURY hyuy ? Ni chynygiodd ateb larll GRANVILLE, canys gwyddai mai gwir- ionedd ddywedodd, a cheisiodd daflu y bai ar ei gof, ac ymesgusodi o dan gochl gyfleus angbof, oblegid gwyddai y buasai hyny yn ormod i ddysgwyl i arglwyddi Toriaidd ei y n gredu chwaetbach y wlad. Y gwir yw, pan ddeallodd Arglwydd SALISBURY nas gallasai gael y cri i'r wlad fod Mr GLADSTONE wedi gwrtbod ar bob telerau barhau yn ei swydd, ond ei fod yn barod i hyny ar y telerau ei fod ef (ei arglwyddiaetb) yn methu neu yn gwrthod, ruthrodd at yr awenau, ac ychwan- I egodd at ei gamwedd, ni ddywedwn trwy ddyweyd celwydd gwirfoddol, ond trwy gelu yn fwriadol y ffaith bwysicaf yn hanes yr holl drafodaeth. A ydyw Llywodraetb nas gellir ymddiried yn nghywirdeb araeth gyntaf ei Phrif- weinidog yn deilwng o gael buddianau y wlad i'w gofal ? Dylai datganiad Prif- weinidog Prydain Fawr fod yn unplyg, yn onest, yn cynwys y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir ond os ar amgylchiadau neillduol ac eithriadol y barna fod buddianau y deyrnas yn gwahardd iddo wneyd myneg- iad llawn o'r mater dan sylw, dylai ar dir gonestrwydd ddyweyd hyny, ac nid gadael i'r wlad dybio ei fod yn dyweyd y cwbl pan nad ydyw ond yn dyweyd y pethau mwyaf cyfieus iddo ef. Heriwn Arglwydd SALIS- BURY na neb arall i nodi un. engraifft o Mr GLADSTONE yn cuddio ffeithiau pwysicaf unrhyw drafodaetb, fel y gwnaeth Arglwydd SALISBURY yn Nhy yr Arglwyddi nos Iau diweddaf. Ond dyna, Tori yw Arglwydd SALISBURY, ac os yw pethau fel hyn yn gyson ag egwyddorion sylfaenol Toriaeth, ac yn gymeradwy gan gydwybodau Toriaidd, nid oes genym ond dyoddef mor amyneddgar ag y gallom, a dywuno am i'r haf braf hwn fyned heibio yn fuan fel y delo Tachwedd, i'r wlad gael rhoddi ei llais a'i barn pa un iydd oreu ganddi, Toriaeth anghywir neu Rhyddfrydiaeth eirwir—Mr GLADSTONE ai Arglwydd SALISBURY ?

[No title]

[No title]

CYMANFA DWYREINBARTH OHIO,…

. PWYSAU A MAINTIOLI CENEDL-OEDD…

♦' AMRYWION.