Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CYMANFA MEIRION.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYMANFA MEIRION. Cynaliwyd y Gymanfa eleni yn Nhraws- tyiydd, ar y dyddiau Mercher a Iau, Mehefin a'r 18fed, 1885. Aaihaaerawrwedi deg boreu Mercher, yn Dysgwylfa, cyfarfyddodd Pwyllgor Trys'orfa y i^bili, o dan. lywyddiaeth y Parch P. Howell, Ffestiniog, i gymeryd i ystyriaeth y ceisiadau aitl gymhorth o'r Drysorfa hono. Am ddau o'r gloch, yn yr un lie, cynaliwyd gynadiedd y G-ymanfa, o dan lywyddiaeth Mr jV* Hughes, Dolgellau, y cadeirydd am y liwyddyn. Wedi derbyn easgliadau yr eglwysi at y Gymanfa, gwelwyd fod yr adeilad yn llawer ryy fach i-gynal y Gynadiedd, ac wedi cael Wcrwydd fod ."Ebenezer i'w gael i gynal y gynadiedd, ac i'r Parch M, D. Jones, Bala, ddechreu trwy weddi, penderfynwyd symud yno, a llanwyd hwnw yn fuan gan dyrfa luosog. kwaitli ofer fyddai i ni geisio rhoddi yr enwau yma, gan eu bod yn rhifo tua 250. Yr oedd gWeinidogion y sir wedi dyfod yno yn bur gryno, a lluaws mawr o ddiaconiaid ac aelodau 0 wahanol ranau o'r sir. 1. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod diweddaf, ac ^edi peth siarad cawsant eu cadarnhau. 2. ^Penderfynwyd hawl y Parch T. R. Da vies, Rhiw (gynt), i siarad yn y Gynadledd. Pleidleis- lodd drosto 146, yn erbyn 104. 3. Penderfynwyd fod y Gymanfa nesaf i'w eoynal yn Llandderfel. 4. Dewiswyd Mr W. Hughes, Dolgellau, i fod yn gadeirydd am flwyddyn eto. 5. Dewiswyd y Parch D. M. Lewis, Traws- yiydd, i ymweled kg eglwysi rhan o'r sir dros ^ymdeithas Genadol Llundain am y ddwy flynedd Desaf. 6.. Penerfynwyd ar i'r Cadeirydd arwyddo y ddelseb i'w danfon i'r Senedd dros gau y tafarndai ar Y Sabboth yn Lloegr. 7- Khoddwyd derbyniad cynes a chroesawgar i Uth y frawdoliaeth i'r Parchn T. Lodwick, sthel, Ffestiniog, a D. M. Lewis, Trawsfynydd. 8. Fod adroddiad swyddogol yr Ysgrifenydd i Ytnddangos yn y papyrau sydd yn cylchredeg fWYaf yn mhlith yr Enwad, sef y TYST A'U DYDD, Y DYcld, y Celt, a'r Wythnos. ,9. Fod 2,500 o'r Ystadegaeth i gael eu bargraffu a 1 gwasgaru trwy yr eglwysi, a gwnaed casgliad y» y Gynadiedd at y draul. 10. Fod y Gynadledd hon yn dymuno datgan ei ristwch oherwydd marwolaeth y brodyr can- ynol, sef y Parchn T. Rees, D.D., Abertawy; E. tephen, Tanymariau; J. Roberts, Conwy; J. avies, Glandwr; a Simon Evans, Hebron, Penfro, a™i nS^y<ia,n cydymdeimlad a'u teuluoedd, a'r S|wysi oedd dan eu gofal. y cyfarfod hwn yn datgan ei lawenydd 11 jj. ^l'i.M. Lloyd, A.S., J. Roberts, A.S., a Henry js1(^\ard, A.S., wedi dwyn i fewn fesur i ddiwygio cau y tafarndai ar y Sabboth yn Nghymru, Vr g°beithio y pasir y mesur yn fuan, gan fod ffo^nau yr amcenir eu gwella yn rhwystran ar ■p. rdd llwyddiant y ddeddf ragorol hono yn y ^ysogaeth. Nad ydyw yr Ysgrifenydd i gofnodi ond y a\ 5erfy&iadau a basir gan Gynadiedd y Gymanfa ai Jwrdd Chwarter. Svi Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor y Jubili i od(T ^ynadledd gan Mr J. Cadwaladr, a chaf- V fl e* gymeradwyo :—(1) Fod < £ 65 i'w cynyg am r. flwYddyn ddyfodol. (2) Fod y symiau canlynol W cynyg i'r eglwysi a ganlyn :— Soi £ a. £ s. °Q. Cynllwyd 2 10 am gasglu 17 10 g yndyfrdwy 2 10 eto 17 10 IWQezer' Trawsfynydd 2 10 eto 22 10 lC7a 2 10 eto 22 10 Ll,a,cllreth 5 0 eto 35 0 ji ^derfel 5 0 eto 45 0 BefJeih 5 0 15 0 Hvf ^orri8 7 10 eto 42 10 jjwydfa 10 0 eto 50 0 grusalem 10 0 eto 110 0 Vlbywydd 12 10 eto 87 10 Mrx symiau ucbod i'w casglu erbyn y 25ain o rbaif ac n* thelir yr addewidion ond i'r 1. tydd wedi d'od i fyiay a'r amodau. y sv Pasi)vyd fod yr eglwysi canlynol i dderbyn iaid 1RU a ganlyn ° Drysorfa yr Achosion Gwein- ArtV, aiU y flwyddyn hon — Harlech, £ 10 QlI'lwyngwril, £ 5; Bethel, Corris, .£4; 15 ftrfwy' ^lanfihangel, £ 3; Cynwyd, £ 2. thod'fl wyd sylw at bwnc y Dadgysylltiad, a oarh anogaeth i bawb beidio pleidleisio dros yw ymgeisydd yn yr etholiad cytiredinol nesaf ond y rhai a fyddo yn ffafr Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys oddiwrth y Llywodr- aeth. 16. Fod y Gynadledd hon yn dymuno datgan ei cbymeradwyaeth o benodiad Mr J. Hughes Jones, Aberdyfi, yn drysorydd yr Achosion Gweiniaid. Pleidleisiodd drosto 134 Yn erbyn 108 Mwyafrif 26 Diolchodd Mr Jones mewn geiriau tyner a char- edig. 17. Cyflwynwyd y brodyr canlynol i sylw fel rhai sydd wedi dechreu pregetbu, ac yn teilyngu pob cefnogaeth a ellir ei estyn iddynt:—Mri Parry, Hyfrydfa; Evans, Abermaw a Williams, Penystryd, Trawsfynydd. 18. Penderfynwyd rhoddi papyr cymeradwyaeth i'r Parch T. R. Davies ar ei symudiad o'r Cyfun- deb hwn i Gyfundeb Seisonig Morganwg, gyda dymuniad cynes am ei lwyddiant yn y maes pwysig y mae wedi myned i lafurioiddo, yn gystal a datgan ein gofid wrth golli ei wasanaeth gwerthfawr. Rhoddwyd y rhybudd a ganlyn erbyn y Cwrdd Chwarter a fwriedir ei gynal yn Cyn- wyd, gan Mr W. W, Owen, Trawsfynydd:- Fod pob swyddog sirol pwysig i'w ethol yn Nghynadledd y Gymanfa." Yna terfynodd un o'r Cynadleddau mwyaf lluosog a brwdfrydig a welsom erioed yn Meirion. Y MODDION CYHOGDDUS, Pregethwyd gan y brodyr canlynolParchn J. M. Rees, Pentrefoelas; Hugh Jones, Bir- kenhead T. E. Thomas, Abergynolwyn H. Ellis, Llangwm; Thomas Nicholson, Dinbych Robert Thomas, Glandwr; Price Howell, Ffest- iniog D. Roberts, Llanuwchllyn a 1\ Talwyn Phillips, B.D., Bala. Dechreuwyd yr oedfaon gan Mri Owens, Llanegryn Ellis, Llangwm Davies, Llanddulas; Roberts, Llanuwchllyn; Pritchard, Cynwyd; Walters, Brithdir; ac Evans, Harlech. Bernir ei bod yn un o'r Cymanfaoedd lluosocaf a welwyd yn Nhraws- fynydd, a chafwyd pregethau grymus a gwran- dawiad astud. Bu y cyfeillion yn Nhraws- fynydd yn hynod o ffyddlon ac ymdrechgar i wneyd pob peth oedd yn eu gallu i roddi der- byniad anrhydeddus i'r Gymanfa. Yr oedd ganddynt esgynlawr manteisiol wedi ei godi mewn maes eyfleus i wrando. Er i'r tywydd droi yn anfanteisiol i fod ar y maes y noswaith olaf, eto deallwn i'r brodyr gael oedfaon rhag- orol yn y gwahanol addoldai, sef Dysgwylfa, Ebenezer, a chapel y Wesleyaid, os wyf yn cofio yn iawn. Gwnaed casgliad yn oedfa y prydnawn at yr Achosion Gweiniaid, ac yr oedd yn fwy na'r llynedd. Ni a hyderwn y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear, a'r eglwysi yn y gymydogaeth yn derbyn adnew- yddiad. J. PBITCHAED.
ABERHONDDU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
ABERHONDDU. PENOD I. 1. Ac yn ol rhaghysbysiad tu rhedegfeydd ceff- ylau yn ddiweddar ar lan yr afon Wysg, islaw a ger 11aw y dref. 2. Yrngasglodd amrai foneddigion o bell, a chanoedd o gymydogion, a miloedd o'r trefwyr i weled. 3. Drwy ganiatad ustusiaid gwerthid cwrw a gwirodydd meddwol ar ffiniau y rhedegfa, o'r hyn y gwnaed defnydd helaeth. 4. Marchogid un o'r ceffylau gan fab aelod Seneddol dros sir Faesyfed, yr hwn gyda'i anifail a syrthiodd pan yn llamu dros glawdd, a charn ceffyl dilynol a ddisgynodd yn chwimwth ar benglog y llanc ar y ddaear, yr hyn a barodd iddo yn mhen ychydig oriau fyned i'r byd arall. 5. Yn y prydnawn a'r hwyr yr oedd rhyw ys- brydion any;stywallt ac aflan wedi myned i drigol- ion y dref air milwyr, y rbai a barent iddynt guro eu gilydd yn greulou. Ni ymadawodd yr ysbryd- ion a hwynt hyd boreu dranoeth. Mae ol y gyf- lafan ar gyrff ac aelodau rhai hyd y dydd hwn. it 6. Mae dysgwyliad mawr am gyffelyb ddiwrnod y gwanwyn nesaf eto gan dafarnwyr, a chanoedd o garwyr gwagedd mewn tref a gwlad, aelodau yr Eglwys Wiadol yn benaf. 7. Er cynyg eadw ieuenctyd rhag myned i edrych ar wagedd, cynelid gwyl de a chwrdd llen- yddol gan hen eglwys Annibynol Gymreig y dref. Flynyddau yn ol cydunai yr eglwysi rhyddion yn y cyffelybymdrech. 8. Tf Yn ol hen arferiad bu cyfarfod blynyddol gan eglwys y Plough ar y Sabboth cyntat yn Me- hefin. 9. Pregethodd y Parch W. Gibbon, Llanym- ddyfri, dair gwaith i gynulleidfaoedd astud y prydnawn yn Saesoneg. 10. A dygwyddodd Mr W. Williams, Llundaiu, fod yn y dref ar y diwrnod hwnw. Efe a dde- chreuodd oedfa yr hwyr drwy ddarllen a gweddio. Yr oedd y darlleniad hyglyw a phwysleisiol a'r gweddio dwys a gwylaidd gyda'r pregethu sylw- eddol ac ymarferol yn effeithio fel ar Pedr pan ddywedai 11 Da, i ni fod yma." 11. Wedi cyflawn fwynhad drwy waith y dydd, pob un a aeth i'w dy ei hun. 12. H Ar ol hir gystudd bu farw parchus henuriad y dref, Dafydd Thomas, cyfreithiwr, cyfaill mawr Hen Batriarch Llanwrtyd. Gwnaed Wesleyad cyfrifol yn henuriad yn nghynghorlys y dref yn ei Ie. 13. A bu raid etbol aelod newydd yn y Cynghor Trefol yn lie y Wesleyad. 14 Daeth dau allan i geisio y sedd anrhydeddii3 a cbyfrifol—Jones a Davies. A Davies, ac efe yn dafarnwr a Cheidwadwr, a enillodd y dydd o ddigon. Yr oedd eiwrthymgeisydd yn ddirwest- wr a Rhyddfrydwr, ac yn wr o bwyll, a barn, ao anrhydedd. 15. Ac yn hwyr y dydd drwy wahanol wersyll- oedd Bacchus yn y dref, bu gwaeddi am fwy na dwy awr, Mawr yw cwrw y Toriaid."
« LLUNDAIN.
News
Cite
Share
« LLUNDAIN. CANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL. Yr hyn a ddenai sylw y Cymry yma yr wythnos hon ydoedd cynaliad y cyfarfod yn Neuadd Exeter, nos Fercher, Mehefin 17eg, dan lywydd- iaeth y boneddwr ag ydym fel Cymry yn hoff ohono, sef Mr Henry Richard, A.S., i'r amcan o ddathlu canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Aeth pob peth yn mlaen yn swynol a hynod lwyddianus. Yr oedd anerchiad cyflawn a dyddorol y Cadeirydd, yn nghyda'r eiddo y Parchn J. Evans (Eglwysbach), Owen Thomas, D.D., Liverpool, a S. Lloyd, Casbach, yn tanio eiu hysbrydoedd a mesur helaeth o ddiolchgarwch oblegid ein perthynas a sefydliad sydd wedi bod o gymaint gwasanaeth i'n cenedl, ac hefyd yn ad- goffa i ni ein rhwymedigaeth a'n cyfrifoldeb. Yr oedd enwau y Parchn Charles o'r Bala, Ebenezer Richards, ac Owen Jones, Gelli, yn berarogl yn y cyfarfod, fel rhai ag yr ydym yn ddyledus i'w llafur a'u hymroddiad gyda sefydliad yr Ysgol ar y cyntaf. Yr oedd cydadroddiad y benod gyntaf o'r Hebreaid gan y gynulleidfa uwchlaw ein dysgwyliad, a chydganu hen emynau Cymreig yn llenwi ein mynwesau a llawenydd. Yr oedd dad- ganiad Mrs Watts-Hughes o Hen Feibl mawr fy mam" yn peri i ddagrau gloewon ddisgyn dros ruddiau llawer yn y gynulleidfa (yn eu plith y Llywydd), a chafodd ailalwad brwdfrydig. Yr oedd llais swynol Miss Mary Davies hefyd yn gwefreiddio y gynulleidfa, ac yn neillduol pan y canodd Tell Hie the old, old story mewn ateb- iad i'r ailalwad cyffredinol a dderbyniodd. Cawsom arwyddion neillduol o gymeradwyaeth y Nefoedd i'r gwasanaeth, a phrawf fod y weddi effeithiol a offrymwyd gan y Parch R. L. Thomas, Boro', ar ran y cyfarfod yn cael ei hateb. Yr oedd y cyfarfod yn ein cario ar adenydd dycbymyg yn ol at y cyfarfodydd rbagorol a fwynhaodd ein tadau a ninau rhwng bryniau Gwalia Wen. Ni chaniata gofod i ni ymhelaethu, er fod digcnedd i'w ddywedyd. Aeth pawb i'w ffordd yn llawen, a hyderwn y cynyrcha y cyfarfod awydd i fod yn fwy ymroddgar a ffyddlawn gyda sefydliad ag yr ydym mor ddyledus iddo. Bwriedir cynal Jubili yr Achos Dirwestol yn Nghymru yn Neuadd Jewin Newydd, nos Sadwrn, Gorphenaf 4ydd, pryd y gwasanaethir gan y Parchn T. Eynon Davies, W. Rees (B), Llangefni, yn nghydag ereill. Dysgwylir gwasanaeth y bon- eddigesau caredigjCymreig Mrs Cordelia Ed ward s- Rees, U.C.W., a Miss Annie Williams, U.C.W., yn y cyfarfod. E. M. EDWARDS.
[No title]
News
Cite
Share
——— ESTABLISHED NEARLY 50 YEARS.—Whiter Celebrated T\)oc- Main Trusses Single Trusses, from 10s. Double-Truss^ from 18s. Sent free from observation and post free. MOC-MAIN LEVER TRUSS is the most effective invention for the treatment of Hernia. The use of a steel sprig, so hurtful in its effects, is avoided, a soft bandage being worn round the body, while the requisite power is sap- plied by the Moc-Main Pad and Patent Lever, fitting with so much ease and closeness that it cannot be detected. Send !]eaunl,tilyo uireular, with testimonials and prices, to J. White and Co (Limited), 228, Piccadilly, London. Uo not buy of Chemists, who often Bell an IMITATION of our Moo- j Main, J. White and Co. have not any Agents. buy of Chemists, who often Mell an IMITATION of our Moo- j Main. J. White and Co. have not any Agents.