Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMANFA MORGANWG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYMANFA MORGANWG. Cynaliwyd yr uchod yn y Coity, dyddiau Mercher a Iau, Mehefin 17eg a'r 18fed. Cyfarfu Pwyllgor y Gymanfa nos Fawrth yn addoldy y Coity, er gwneyd y trefniadau gofynol ar gyfer y cyhadleddau dranoeth. Y GYNADLEDD GYNTAF boreu dydd Mercher, am 10 o'r gloch. Cymer- odd y Parch J. Jones, Llangiwc, y gadair, ac wedi rhoddi emyn allan i'w ganu a darllen rhanau o'r Ysgrythyr, galwodd ar Mr Evan Bevan, Maesteg, i'n harwain at orsedd gras. Wedi darllen cofnodion Cymanfa Waunarlwydd, a phenodi y Parch T. D. Jones, Plasmarl, i anfon adroddiad o weithrediadau y Gymanfa i'r South Wales Daily News, cydunwyd. ar y pefchan canlynol:— 1. Cynygiwyd gan y Parch J. Foulkes, Aberafon, ac eiliwyd gan y Parch J. Davies, Aberewrnboy- That this Conference deeply regrets the circumstances which led to the resignation of Her Majesty's Government, expresses its unabated confidence in Mr Gladstone and his policy, and earnestly hopes that after a few well earned rest it shall have the pleasure of witnessing him resuming power, supported by a large and faithful majority in the House of Commons." 2. Cynygiwyd gan y Parch J. A. Roberts, B.D., Caerdydd, ac eiliwyd gan y Patch T. D. Jones, Plasmarl "That this Conference rejoices in the able and succesful efforts of the Right Honourable W. E. Gladstone, M.P., to settle the question in dispute between this country and Russia, and thus avert a prolonged and terrible war, for which it begs most respectfully to tender him its sincerest gratitude." 3. Cynygiwyd gan y Parch D. G. Rees, Eglwys- newydd, ac eiliwyd gan y Parch D. LI. Morgan, Sciwen-" That this Conference tenders its warmest thanks to Mr Gladstone and the Liberal Ministry for withdrawing the British forces from the Soudan, and hopes that Her Majesty's Govern- ment will not sanction any further sacrifice of valuable lives in that country." 4. Cynygiwyd gan y Parch R. Rowlands, Aber- aman, ac eiliwyd gan y Parch J. R. Williams, Hirwaun—Fod y Gynadledd yn mawr lawenhau yn nygiad o gwmpas y mesur rhagorol sydd yn awr yn un o ddeddfau ein gwlad, trwy yr hwn yr estynir yr etholfraint i ddwy filiwn yn ychwaneo-ol o ddeiliaid ei Mawrhydi, ac yn dymuno galw sylw yr etholwyr newyddion, heb ar yr un prydanghoflo yr hen etholwyr, at y pwys o arfer eu gallu pleid- leisiol YDlyr etholiad dyfodol yn mhlaid ymgeiswyr gwir Ryddfrydig, y fath ag a bleidleisiant dros Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sef- ydledig a mesurau angenrheidiol ereill; hefyd, dymunwn yn daer anog yr boll etbolwyr i edrych fod eu benwau ar yr etholres. 5. Cynygiwyd gan y Parch J. Morgan, Cwmbacb, ac eiliwyd gan y Parch P. W. Hough, Merthyr— Ein bod yn dymuno cydnabod llaw yr Arglwydd yn y llwyddiant nodedig sydd wedi dilyn yr ym- drechion yn mhlaid sobrwydd yn ein gwlad yn ystod yr baner can' mlynedd diweddaf, ac yn taer anog yr eglwysi a charedigion rhinwedd i wneyd yr oil sydd o fewn eu gallu yn y dyfodol i gefnogi ein sefydliadau dirwestol, a gwrthweithio dylan- wad dinystriol arferion yfawl ein gwlad." 6. Cynygiwyd gan y Parch J. Davies, Taihirion, ac.eiliwyd gan y Parch D. Richards, Caerphili- Ein bod fel Cynadledd yn dymuno datgan ein galar a'n hiraeth dwys oherwydd y bylchau mawrion a wnaed gan angeu yn rhengoedd y weinidogaeth yn y sir oddiary Gymanfa ddiweddaf yn symudiad ein banwyl frodyr a thadau y Parchn e D. Griffiths, Llantrisant, yr hwn fu yn weinidog dichlynaidd a gofalus am lawer o flynyddoedd W. Edwards, Aberdar, yr hwn fu yn drysorydd y Gymanfa am lawer o flynyddoedd, yn gystal ag uu o'i chyn-lywyddion, ac yn adnabyddus fel pregethwr grymus a thanllyd a dirwestwr aeddgar, ac ar ol yr hwn y mae bwlch pwysig yn aros; T. Rees, D.D., yr hwn hefyd oedd un o gyn-lywyddion y Gymanfa, oedd dywysog a gwr mawr yn Israel, oedd arweinydd medrus a chyngborwr doeth, oedd yn bregethwr efengylaidd a dylanwadol, a thrwy ei ymdrechion caled a di-ildio a ymgododd i fod yn un o brif gymwynaswyr ei genedl a'i wlad, ac ar ol yr hwn y inue holl Israel heddyw yn galaru." 7. Cynygiwyd gan y Parch J. Roberts, Castell- nedd, ac eiliwyd gan y Parch J. Bevan, Waunar- IwycU-" Ein bod yn datgan ein cydymdeimlad dyfnaf a'n hanwyl frodyr y Parchn E. Roberts, Cwmafon; D. Evans, Briton Ferry B. Williams Canaan; E. Owen, Clydach; a B. Evans, Melin- crythan, ya eu cystudd maith a thrwm, ac yn gobeithio y bydd iddynt gael m wynhau yn helaeth o gysur a dyddanwch yr Efengyl a bregethasant <?yda'r fath rym ac arddeliad, ac yn gobeithio y bydd i'r Arglwydd yn fuan eu hadferyd i'w cynawn nerth ac iechyd." 8. Dygwyd achos Siloh, Maesteg, i sylw y Gynadledd gan Mr Prosser, y gweinidog. Fel y gwyr pawb a dderbyniasant y cylcblythyrau, mae sefyllfa yr achos hwn yn bruddaid a thorcalonus i'r eithaf. Cyn gorphen a'r achos hwn, terfynwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch T. Davies, Treforris. CYNADLEDD Y PRYDNAWN. Cyfarfyddwyd drachefn am 2 o'r gloch' Wedi dechreu trwy weddi gan y Parch W. Rees, Glandwr, bu cryn ymddyddan yn mhellach ar achos Siloh, Maesteg. Gan fod pwyllgor dylanwadol wedi ymgymeryd a chynorthwyo eglwys Siloh o dan ei baich gorletbol, amlygodd nifer Jluosog o frodyr eu parodrwydd i ymweled a'r eglwysi hyny y trefnid iddynt ymweled a hwy gan y pwyllgor ar ran yr achos hwn, ac anfonwyd enwau y personau hyny i ysgrifenydd y pwyllgor. Taer erfynir ar yr eglwysi hyny sydd heb anfon eu casgliadau mewn atebiad i'r .1 cylchlythyr a anfonwyd atynt, i wneyd hyny yn fuan. 9. Ar gynygiad y Parch J. Davies, Taihirion, ac I eiliad y Parch W. G. Evans, Coity, penderfynwyd i'r Gymanfa nesaf fod yn Llansantffraid. I 10. Ethol cade'rydd am y flwyddyn ddyfodol. Tra yr oedd y Parch R. Thomas, Penrhiwceibr, a Mr J. Jones, Tylor's Town, yn archwilio y pleid- leisiau, darllenodd Mr J. Roberts, Pontypridd, y cyfrifon am y flwyddyn ddiweddaf, y rhai & i dderbyniwyd ar gynygiad ac eiliad yr archwilwyr, f sef y Parchn S. Jones, Treoes, a W. Oscar Owen, r Penybont. Wedi hyn, mynegwyd mai y Parch R. Rowlands, Aberaman, oedd y cadeirydd etholedig am y flwyddyn ddyfodol, yr hyn a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth. 11. Ethol swyddogion ereill y Gymanfa, yn nghyda'r pwyllgor. Trysorydd, Mr J. Roberts, Pontypridd Ysgrifenyddion, Parchn W. T. I Morris, Pontypridd, a J. Roberts, Castelinedd; Pwyllgor: Swyddogion y Gymanfa; Ysgrifenydd- ion y gwahanol Gyfundebau; Parchn J. Davies, Taihirion J. A. Roberts, B.D., Caerdydd; 0. L. Roberts, Pentyrch; D. G. Rees, Eglwysnewydd; W. E. Evans, Carmel; W. C. Davies, Llantrisant; a Mr R. Thomas, Llanfair. 12. Cynygiwyd gaa y'Parch W. Oscar Owen, Penybont, ac eiliwyd gan y Parch D. Richards, Caerphili, "Fod diolchgarwch y Gynadledd yn cael ei roddi i'r Trysorydd a'r Ysgrifenyddion am eu gwasanaeth." 13. Galwodd y Parch J. Davies, Taihirion, sylw y frawdoliaeth at Fudd-Gymdeithas y Gweinidog- ion. Siaradwyd hefyd ar y mater gan y Parch D. Jones, Cwmbwrla. Gwna gweinidogion ieuaine yn dda uno a'r gymdeithas hon yn ddioedi. Mae yn gwisgo gwedd obeithiol iawn. t, Anerchiad y Cadeirydd oedd y nesaf. Cafwyd anerchiad gwerthfawr ac amserol iawn ar Yr Eglwys a phlant yr Ysgol Sabbothol." Cynyg- iwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch J. Rees, Cwmllynfell, eiliwyd gan y Parch J. Thomas, Merthyr, a chefnogwyd ean v Parch R Rowlands, Treflys, ac O. M. Jenkins! Llangefni Fod y Gynadledd hon yn dymuno cyflwyno ei diolchgarwch i'r cadeirydd, y Parch J. Jones, Llangiwc, am ei wasanaeth teilwng, ac am ei anerchiad gwerthfawr o'r gadair ar y testyn gwir bwrpasol ac amserol, sef "Yr Eglwys a phlant yr Ysgol Sabbothol," gan obeithio y bydd i bawb fyned adref o'r Gymanfa yn fwy penderfynol nag erioed i wneyd pob peth yn eu gallu i gadw y plant, nid yn unig pan'yn ieuanc, ond wedi iddynt dyfu i fyny, mewn cysylltiad ag Eglwys Dduw. Yr oedd yr ymddyddan ar anerchiad y Cadeirydd, wrth gynyg diolchgarwch iddo, yn adeiladol a dylanwadol iawn. Dymunol fuasai cael siarad pellach, oud pallai amser i hyny. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch R. Rowlands, Treflys. Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Fercher, pregethwyd yn ngwahanol gapeli y cylch yn y drefn ganlynol :-Tabernacl, Penybont, D. LI. Morgan, Sciwen, a P. W. Hough, Merthyr; Penycoed (M.C.), D. Richards, Caerphili, a T. D. Jones, Plasmarl; Treoes, J. D. Rees, Salem, Aberdar, a W. Rees, Glandwr; Bryncethin, O. M. Jenkins, Llan- gefni, a D. Jones, Cwmbwrla; Brynmenyn, R. Thomas, Penrhiwceibr, a J. Davies, Aber- ewmboy Abercynffig, D. R. Jones, Cefncoedy- cymer, a J. Rees, Cwmllynfell; Coity, J. R. Williams, Hirwaun, a H. A. Davies, Moriah Aman. Am 7 o'r gloch boreu dydd Iau, T, Morris, Dowlais, a D. G. Davies, Glyn-nedd. Am 10 o'r gloch, R. Rowlands, Treflys; J. Roberts, Maesyrhaf; a J. Morgan, Cwmbach. Am 2 o'r gloch, J. Thomas, Merthyr; J. A. Roberts, B.D., Caerdydd a J. Jones, Llangiwc. Am 6 o'r gloch, T. D. Jones, Plasmarl, a J. Foulkes, Aberafon. Yr oedd Mr Bevan, Waunarlwydd, hefyd i bregethu, ond aeth yr hin yn anffafriol,' a dewisodd yn hytrach orphen y Gymanfa trwy weddi. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y brodyr M. C. Morris, Ton-ystrad; W. C. Davies, Llantrisant; J. Davies, Taihirion; M. Morgan, Pontypridd; a D. Francis, Glyncorwg. Cafwyd Cymanfa ragorol yn mhob ystyr o'r gair. Yr oedd y pregethu yn nerthol a dylanwadol, ac arogl esmwyth ar y cyfan; yr oedd yr hin yn ffafriol, a'r man lie y cynelid y Gymanfa yn neillduol o gyfleus, sef o fewn muriau yr hen gastell; yr oedd y trefniadau a'r darpariadau yn hwylus a chyflawn, a thalwyd diolchgarwch cynes y frawdoliaeth i Mr Evans a'i bobl am eu derbyniad croesawgar i'r Gymanfa. Arosed effeithiau dymunol y Gy- manfa yn hir ar yr ardal. W. I. MOBRIS, ) Ysgrifen- J. ROBERTS, j yddion.

. DYFFRYN NEDD.