Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

- YMYLON Y rrOEDD.

News
Cite
Share

YMYLON Y rrOEDD. Nos Sadwrn, Mehefin 27ain. DERBYNIAIS lythyr boreu ddoe oddiwrth hen gyfaill craff a deallgar, ac un sydd am dymhor bir wedi gwylio yn fanwl symudiad- au yr Enwad, yn galw sylw at MADAGASCAR yn yr argyfwng difrifol presenol ar y wlad ac yn awgrymu y priodoldeb i sefyllfa Ma- dagascar i gael lie arbenig yn y cyfarfod gweddi nos Lun cyntaf o'r mis nesaf. Rhwng ymyriad diachos ac anghyfiawn Pfrainc, a'r anghydwelediad yn eu plith eu hunain, y mae yr ynys mewn perygl mawr ac nis gallwn o dan yr amgylcbiadau wneyd odid ddim ond myned a'u hachos at Dduw. Mae swyn yn enw Madagascar i bob Cymro, ac yn arbenig i bob Annibynwr. Mae yr araeth nodedig a draddododd Mr Davies, Taihirion, yn Aberystwytb, a'r hon a geir yn r TYST am yr wythnos hon, yn dwyn helynt- Ion a pbrofedigaethau y genadaeth yno yn fyw iawn o flaen y meddwl. Nid oes penod fwy dyddorol yn hanes yr Eglwys nag a geir YU banes Madagascar. Byddai yn werth darllen araeth Mr Davies yn y cyfarfod cen- adol, nis gwn am ddim a fyddai yn debyc- ach o gyffroi meddyliau puraidd dynion da i weddio am amddiffyn yr Hollalluog dros yr ynys, ac am dywalltiad o'i Ysbryd Ef arni. Daeth i'm Haw y Rhifyn am Gorphenaf o Longman's Magazine, un o'r cylchgronau Seisonig sydd yn sefyll yn uchel. Ceir ynddo erthygl ar THE PEASANTRY OF SOUTH WALES, gan Mr Beriah Gwynfe Evans-llenor Cym- reig adnabyddus iawn, a da genyf ei weled yn cymeryd ei le mewn cylcbgrawn Seisonig yn mysg llenorion mor anrhydeddus, Un o Syfres ydyw ar wladwyr, neu bobl gyffredin y deyrnas gyfunol. Ysgrifenwyd y gyntaf gan Mr Justice M'Carthy, A.S., ar The Irish Peasantry. Dilynwyd hono gan Mr Richard Jefferies, awdwr enwog The Gamekeeper at lIome, ar The Wiltshire Labourer. Nid peth bach i Gymro fel Mr Beriah Evans, heb gael dim manteision athrofaol, ac wedi treulio 18 mlynedd mewn ardal hollol Gymreig fel Grwynfe, oedd medru gweithio ei ffordd trwy ei dalent a'i ymroddiad diflino, nes cael ei ellw yn gysylltiedig a chedyrn llenyddiaeth Seisonig mewn cyhoeddiad o nodwedd Longman's Magazine. Bywyd cyffredin pobl y Deheudir sydd ganddo, a thra y mae yn eu dangos yn bollol deg, eto y mae yn mhell 0 ddyweyd dim a bair i neb ein dirmygu, oblegid rhyw arferion cenedlaethol sydd genym. Mae amryw o'r pethau y cyfeiria atynt yn gyfyngedig- i'r rhanau amaethyddol Or De, ac fel y tybiwn yn darfod yn raddol, ac na byddant yn adnabyddus i'r genedlaeth hesaf, ond fel traddodiadau. Pa fodd bynag, yr ydwyf yn llongyfarcli yr awdwr, nid yn Unig ar gyfrif y medr, a'r gallu, a'r cywirdeb a amlygir ganddo yn yr ysgrif hon, ond hefyd ar gyfrif v safle anrhydeddus y mae ^edi ei gyrhaedd fel lienor Cymreig a Seisonig. Heblaw y ddau beth uchod, nid oedd dim 7aeillduol wedi tynu fy sylw yr wythnos hOD; ond y mae y cyfaill at yr hwn y cyfeiriais yn y dechreu yn dyweyd wrthyf, nad ydym ni fel Annibynwyr yn son haner digon am yr hyn a wnaeth ein tadau, ond fod rhywrai yn anrhydeddu eu tadau yn barbaus, nes y mae llawer wedi myned i gredu mai eu tadau hwy a wnaeth y cwbl. Wel yn sicr, y mae gormod o wirionedd yn hyny. Er nad oes i ni nemawr o dadau," ac nad ydym yn arfer galw neb yn dad, eto hwyrach y dylem yn amlach alw sylw at lafurus gariad y rhai a fu o'n blaen. Cefais y boreu hwn lythyr oddiwrth fy hen gyfaill y Parch E. Evans, Nantyglo (gynt), lie y ceir ei adgofion yn ngtyn a ¡ CHANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL, I a chan y byddai yn resyn iddynt fyned ar ddifancoll, rhoddaf y llythyr yn llawn yma, a gwn y darllenir ef gyda bias gan lawer. CURTIS, CLARK Co., ARKANSAS, Mehefin 13eg, ]885. BARCR FRAWD, — Gwelais yn y TYST A'R DYDD eich sylwadau yn nghylch yr Ysgol Sab- bothol, a chan y byddwch yn cymeryd rhan yn y canmlwyddiant, dichon y bydd a ganlyn yn rhywfaint o eglurhad. Tybiech mai math o ysgolion egvpyddori, ac nid i ddysgu darllen, oedd y rhai Cymreig cyn amser Baikes. Tebyg- ol mai felly yr oedd rhai ohonynt, ond fod rhai ereill i ddysgu darllen hefyd, fel y cawn yn ysgrif Morgan John, o Dreforris, am Ysgol Sul Ty'ndwncyn a'r Chwarelau Bach. Tebygol mai egwyddorol oedd yr un gynelid yn Blaenpenal, sir Aberteifi, yn amser y Parch Phillip Pugh. Adroddai y diweddar Barch E. Bowland, Eben. ezer, Pontypool, wrthyf, ei fod pan yn yr ysgol yn myned ar amser y vacation i supplio i Lun. dain, ac iddynt fyned ag ef i weled hen wr hen iawn oedd mewn elusendy yno, a'i gael yn hynod gyfarwydd yn y Beibl, ac yn egwyddor- ion yr athrawiaeth a chrefydd, a gofynodd iddo pa fodd y daeth mewn oes yr oedd breintiau a Beiblau mor brin, i allu bod mor gyfarwydd yn y Beibl. Dywedodd mai yn yr Ysgol Sul yn Blaenpenal y dysgodd, eu. bod yn cael eu holi yn fanwl am bethau y Beibl, a bod Mr Pugh anwyl," pan fyddai yn gyfleus, yn eu holi yn y 9 catecism. (Tybiwyf mai catecism Mathew Henry ydoedd, yr hwn oedd wedi ei gyfieithu yn foreu i'r Gymraeg.) Ond yr oedd ysgolion hefyd ar y Sabboth i ddysgu plant i ddarllen. Yr oeddwn yn Mawrth, 1836, yn pregethu yn Llanddowror, ac yn lletya ger y pentref. Yr oedd yno hen wraig gO mlwyddfjoed yn aros gyda ei hwyres, ac yn gyfarwydd iawn yn y Beibl, a'i chof a'i meddwl yn o dda. Gofynais iddi a oedd yn cofio y Parch Griffith Jones, Ydwyf o'r goreu," ebe hi. Gan fy mod er pan wyfynconoyn cymeryd dyddordeb yn yr Ysgol Sal, gofynais iddi, a oedd Ysgol Sul yno y pryd hwnw, ateb- odd, Nid Ysgol Sul oeddynt yn ei galw, ond ysgol darllen, ond yr un snot yn union a'r Ysgol Sul yn awr." Yna wrth ei holi, desgrifiodd y modd yr oeddynt ar ol darfod y gwasanaeth yn yr eglwys-fod y rhai oedd yn y pentref a cher llaw yn ymgynull yn yr eglwys, a'r rhai oedd yn mhell yn cyfarfod mewn rhyw dy fferm, ac yn darllen y Beibl bob yn adnod ar gyleh, ac yn siarad am bob adnod ar ol ei darllen, ond fod y Beiblau yn brin, a'u bod yn ei rboi o law i law i'w darllen. Hefyd, eu bod yn myned a'r plant yno i'w dysgu i ddarllen. Desgrifiodd y modd yr oedd ei mam yn myned a hi yn ei llaw ar y Suliau i'r ysgol hono, ac mai yno y dysgodd hi ddarllen Cymraeg. Yr oedd yr hen wraig hono yn 35 mlwydd oed pan ddechreuodd Raikes ei ysgol, Nid plentyn yn llaw ei mam oedd pan yn 35 mlwydd oed. Yr oedd hefyd yn 14 mlwydd oed pan aned Mr Charles, o'r Bala, yr hwn anwyd o fewn milltir a haner i Lan- ddowror. Dichon fod Mr Charles pan yn blen- tyn wedi bod yn yr ysgol hono. Mae hefyd wedi dyfynu o gatecism Griffith Jones yn helaeth yn yr ffyfforddwr—3 blwydd oed oedd pan fu farw Griffith Jones. Dywedodd yr hen wraig fod G. Jones weithiau yn eu holi ar y Sul yn y catecism oedd wedi wneyd." Yr oedd dwy o ysgolion Sul mewn tai ffermydd yn ar- daloedd Gwynfe, sir Gaerfyrddin, cyn rhai Raikes. Dichon y gall Beriah fy mab roddi peth o'u hanes. Clywais y diweddar Barch John Davies, Nantglyn, yn dyweyd ei fod ef pan yn blentyn yn myned i'r Ysgol Sul i ddysgu darllen Cym- raeg yn rhywle yn NyfFryn Clwyd (nid wyf yn cofio enw y lie) flynyddoedd cyn i Raikes ddechreu. Tebygol mai y Parchn Stephen Hughes, Meidrym, a Samuel Jones, Brynllywarch, ac ereill, ddechreuodd yr ysgolion hyn yn gyfar- fodydd addoli pan drowyd y 2,000 o'u heglwysi, gan nad oedd deddf cydffurfiaeth yn gwarafun darllen y Beibl. Cawn fod Cymro o rywle yn sir Forganwg mor foreu a 1683 yn cadw Y sgol Sul yn Long Island, America. Cyhoeddwyd yn un o bapyrau New York yn ddiweddar ddyfyniad o Thompson's History of Long Island, tudal. 140, 141, cyfrol 2, am y Parch Morgan Jones, a dywed yn mysg pethau ereill: — Chwefror 28ain, 1683, pleidleisiwyd fod Mr Morgan Jones i'w benodi yn ysgolfeistr ein plwyf i ddysgu ar y Sabbothau y personau ddeuant ato i dderbyn addysg, a chaniateir iddo ddysgu i'r bobl ar y Sabboth y gangen o addysg a ddewis- ant." Cymerwyd hyn o gofrestriadau plwyf Newton, Long Island. Ymddengys fod Morgan Jones yn weinidog, ac yn llafurus iawn, ac nid yw yn debyg y dysgai ar y Sabboth unrhyw gangenau o ddysgeidiaeth, ond yr hyn oedd grefyddol. Ymddengys wrth hyn mai math o ysgol egwyddorol yn benaf oedd. Dengys hanes Newton, Long Island, mai dyn gweithgar, hun- anymwadol ac elusengar oedd y Parch Morgan Jones. Gwelais mewn rhyw bapyr mai un o ddysgyblion Samuel Jones, Brynllywarch, Morganwg, Cymru, oedd. Cewch hanes rhai o'r Ysgolion Sabbothol cyntelig yn y gyfrol olaf o'r Gwyddoniadur. Ond mae y Penny Cyclopaedia gyhoeddwyd yn Llundain er's tua 50 mlynedd yn ol, yn rhoddi mwy o hanes o dan y gair Schools," ond dim am Gymru, ac yn rhoddi dyfynion o ysgrifau Mr Raikes ei hun, ac yn dangos yr ymddyddan rhyngddo a'r Parch Thomas Stocks. Nid yw y Cyclopedia yn fy meddiant. Golygydd y Glou- cester Journal oedd Raikes. Dechreuodd ef a Stocks eu hysgolion Sabbothol yn haf 1780, ac wedi iddynt eu dechreu rhoddodd Raikes erthygl ar yr Y sgol Sul yn ei Journal bob wyth- nos tra fu byw, a bu byw 30 mlynedd. Bufarw yn 1810. Yr wyf yn cofio amser ei farwolaetii, a'r siarad am dano. Felly hysbysu yr Ysgol Sul, yn hytrach na'i dechreu, oedd ei waith mawr. Gwnaeth yn ei ysgrifau arni ddau gam- gymeriad mawr sydd yn effeithio ar ysgolion y Saeson hyd heddyw. 1. Mai i blant yn unig yr oedd. Mae yn naturiol i blentyn awyddu bod yn ddyn, gan hyny gadawa lluaws plant y Saeson hi pan o 15 i 20 mlwydd oed. Dengys y Cyclopedia am ryw ddirprwywyr fu trwy Loegr yn chwilio i'w hansawdd, a'u bod yn cwyno am hyn. 2. Ei dangos i blant tlodion yn unig y rhai na chaent ysgol ddyddiol gan hyny, ychydig o blaut cyfoethogion Lloegr sydd yn myned iddi. Dichon fod rhyw bethau dyddorol i ckwi yn yr hanesion uchod. Yr eiddoch, &c., E. EVAKS.