Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MEHEFIN 28ain. — Adolygu y…

News
Cite
Share

GAN Y PARCH D. OLIVER, TREFFYNON. MEHEFIN 28ain. — Adolygu y Gwersi am y Chwarter. FFORESTFACH. Y Llungwyn.—Hen arferiad ydyw gan eglwys Bethlehem i roddi rhad-wledd i'r plant yn ftyn- yddol, sef deiliaid yr Ysgolion Sabbothol perth- ynol i'r eglwys. Y gwyn oedd gan bawb oedd fod y tywydd wedi troi allan yn hollol anffafriol yn erbyn y cyfrai rai; ond er garwed yr hin, deuai y plant wrth yr ugeiniau i'r brif deml o bob cwr. Nid ytchelaethwn ar y gweitbrediadau, ond yn unig nodi i'r plant gaeleu digoni o buns a the. Bu y Mri Thomas a William Hopkins (y tad a'r mab), Raven Hill, yn haelioaus iawn drwy ddangos eu caredigrwydd yn anrhegu pob un o'r plant ag orange. Yna cafodd y deiliaid hynaf eu digoni o de a bara brith wedi eu darparu mewn modd teil- wng neillduol gan y boneddigesau ieuainc. Yr oedd y byrddau wedi eu hulio yn ardderchog a phrydfertbion natur. Wedi clirio y byrddau, caf- wyd cystadleuaeth gyfyngedig i ddeiliaid yr ysgol- ion. Y buddugwyr oeddynt mewn canu:—Mri W. Jones (bass), Mynyddbach Thos. Thomas (tenor), Fforestfach; John Rees a'i gyfeillion -pedwarawd; Mri John Rees a Wm. Samuel— deuawd i blant; Mrs Mary Thomas, Wig, a Mrs Elizabeth Andrews, Raven Hill (sopi-ano)-rhan- wyd y wobr rbyngddynt; Miss E. Morgan (prize bag), Post ORice a phari Geudros. Barddoniaeth a tbraethawd, Mr D. T. Evans, Fforestfach. Adroddiadau, Mr Thomas Thomas a Miss Mary Morris, Wig. Yr oedd yn gyfarfod nodedig o dda, yn frwdfrydig trwyddo, a tbipyn o fyn'd ar y cystadleuaethau. Beiruiadwyd y cyfansoddiadau, &c., gan Pabellwyson, Cwmbwrla, a'r gerddoriaeth gan Mr J. Cynwyd Evans, Abertawy. Gwnaeth- ant eu rhan gyda'r boddhad mwyaf, a pbawb yn canmol eu dyfarniadau, yn neillduol felly beirn- iaid y canu. Arweiniwyd gan y Parch J. Davies, a llywyddwyd mewn modd deheuig gan y Parch W. Charles, B.A., Rhymni. Cadwai yr arweinydd y gynulleidfa mewn gwedd hynod daclus drwy ei ffraethineb parod. Etholia.d y Bwrdd Ysgol. — Llawenbawn yn nvchweliad y Parch J. Davies fel aelod o Fwrdd Ysgol Abertawy Uchaf ac Isaf-efe oedd yr ail gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau. Dyma waith da i etholwyr y cylcboedd ei ethol ef. Y nifer sydd ar y bwrdd ydynt saith. Nid oes petrusder y bydd iddo ef wneuthur aelod da; mae ei ddychweliad yn llawenydd cyffredinol. Yr Ysgol Gû,n.-Mae'r adeg wedi d'od i rian- od a bechgynos mwyn y gymydogaeth i fyned ar ol y gwasanaeth hwyrol a'u camrau tua'r Gad. Achwynir eu bod yn troi eu cefnau ar yr ysgol g&n. Da chwi, diwygiwch. Hunanlaq,diad.-Nos Wener, y 5ed cyfisol, tafl- wyd ardal lonydd Cadle a'r cymydogaethan cylch- ynol i ryw syndod anarferol wrth glywed y newydd galarus fod Enoch Bowen, Felin Cadle, wedi ym- grogi. Deuwyd o byd iddo yn grogedig ar y llofft 11 uchaf gan ei frawd Thomas Bowen, oddeutu chwech o'r gloch yn y prydnawn. Yr oedd yn 42 oed, ac yn ddibriod. MULTUM IN PARVO.

[No title]

Advertising

Newyddion Enwadol.

Advertising

Cyfarfodydd, &c.

Galwadau. ---

Newyddion Enwadol.