Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
TAITH I'R UNDEB YN ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
TAITH I'R UNDEB YN ABER- YSTWYTH. Bu llawer o ddysgwyl erenym am gyfarfodydd Undeb cyn eu dyfod. Undeb yr Annibynwyr Cymreig y gelwir y gymanfa fawr hon, yn cynwys a Gogiedd y Dywysogaetb, Liverpool, a Llundain. Mae llawer llai o'r iaith Saesoneg yn cael ei siarad ynddo nag sydd yn yr Eisteddfod Crenedlaethol. Anercbiad y cadeirydd, a'r boll bapyrau a ddarllenir ar wabanol bynciau y dydd, Oll yn Gymraeg. Dyma y cyfrwng mwyaf effeith- 10J i gadw yn fyw ein hoff beniaith. Tref iach ar lan y mor yn rhan ucbaf sir A-berteifi ydyw Aberystwyth, a'r dyfroedd a ddefnyddiant yn eu tai yn dyfod yn waterworks o'r Plinlimon. Rhestr fawr o dai newyddion yn gwynebu ar y mor—y terrace y gal want hi. Mae bon ar dro fel rhyw haner lleuad, tua chwarter ttiilltir o hyd, gan mwyaf yn bedair stori o uchder. ■Mae yma lawer o ymwelwyr a'r mor yn yr haf viachines i ymdrochi yn y dyfroedd beli, a'i liw fel y geninen yn wastad. Pa ryfedd fod y Cardis yn bobl iach a nerthol. Mae canoedd lawer o eiddilod o wahanol ranau o'r deyrnas yn myned am eu hiechyd i'w hymdrochleoedd. Mae yn syndod gweled capeli prydferth a cbostus Aberystwyth. Yr wyf yn deall mai y Methodistiaid Calfinaidd ydyw y lluosocaf yn y dref, er fod yr Annibynwyr yn dringo i fyny yn pflym ar eu hoi. Dyma lie mae yr hotel fawr bonoy costiodd ei badeiladu £ 30,000, ac y gwerth- wyd hi i gynal y Brifysgol am £ 10,000; adeilad Wawreddog iawn, a'i sylfeini yn y dyfroedd dyfnion. Er yr arian aeth i'w godi, nid ydyw ^6di agos ei gorphen eto. Cawsom y fraint o tyfced trwy y gwahanol ystafelloedd. Os wyf yn cofio yn dda, yn y llyfrgell y mae darlun yn ei Syflawn faintiolaeth o Arglwydd Aberdar, G.C.B., a'r diweddar enwog Hiraethog. Dyn caredig ac allseetyddol ydyw y Prifathraw. Yr oedd yn rhan yn nghyfarfodydd yr Annibynwyr tel un ohonynt hwythau. Y Principal Edwards Yn y cor mawr heb un gwaith ei gymbell. Blm genyf fod y Parch T. Levi yn absenol oherwydd afiechYd. Gobeithio yr adferir ei iecbyd yn fuan. Yr oedd yn syndod genyf weled bwth crwn ar ben adfeilion yr hen gastell. Ar ol Oauadei ddrws, yr oedd- yn dywyll, a bwrdd crwn ar y canol, a tbwll 0 gylch modfedd o dryfesuriad yn ei nen, fel yr oedd y nior, badau, y traeth, a.'r dynion yn ei gerdded ac yn dyfod ar byd y rhodfeydd oddiwrth y colegdy y gallasech eu badnabod ar y bwrdd crwla yn cael ei droi gan ei berchenog. ilynod y gwna celfyddyd droi anian i fyny i'r awyr o'r ^onau, a'u bwrw i lawr drachefn trwy dwll Modfedd, fel y gwelid y dwfr yn llifo a ffrothio ar y ford gron yn y bwthyn byc-han. Iecbyd ydyw °d ar beu yr hen gastell, neu gerdded dros y Anglais-road. x n Aberystwytb y gorwedd gweddillion y iweddar Barch Azariah Sbadracb, awdwr llawer yfrau o enwau rhagorol a neiliduo), ac yn wir syiwadau pregethwfol a fydd byw am amser maitb _cc Dyfroedd Siloain," Y cerbyd aur," Gwallt oamson yn cael ei dori," Dryoh y gwrthgiliwr," &c. Cof genyf pan yn facbgenyn glywed barnu pregethwyr ieuainc gan hen bobl feirniadol yr amseroedd byny, ac yn ami byddai y feirniadaeth yn disgyn yn drwm arnynt—mai gwaith Azariah Shadrach oedd ganddynt. Yr oedd yn rhanu ei destynau yn drefnus iawn-bagad o benau, ac mi glywais y diweddar Barcb J. Evans, Maendy, yn dyweyd mai y pethau rhataf ar y farchnad oedd penau, Ar ol treulio ycbydig ddyddiau, gwrando doniau De a Gogledd, siglo dwylaw a gwahanol cyfeillion pelt ac agos, a chael ar ddeall fod yr Undeb yn dyfod a dynion at eu gilydd, yr wyf yn cofio fod y Gogleddwyr yn meddwl yn bytrach yn isel am yr Hwntws, a'r Hwntws yn edrych gyda llygad tro ar y Noitbman ond mae yr Undeb wedi dwyn y ddwy blaid yn un, ac i feddwl yn uchel iawn am eu gilydd. Dyna fel y gwelaf ei effeithiau dymunol yn y dyddiau presenol o Rhydyceisiaid i Glawdd Offa. Ond ymadael oedd raid wedi y cwbl-rhai tua Liverpool ac ereill i'r Brifddinas, rbai i'r Gogledd ac ereill i'r Debeu am flwyddyn eto, nes cael cyfarfod y flwyddyn nesaf yn Aberdar; ond dichon y bydd llawer ohonom wedi cael ein symud i'r byd tragywyddol cyn hyny, fel y symudwyd y dynion gwerthfawr y flwyddyn y llynedd, y rbai fuont yn llywyddion yr Undeb, sef y Parchn W. Edwards, Aberdar Simon Evans, Hebron; J. Davies, Glandwr, Penfro; Dr Rees, Abertawy; a Tanymarian—dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt. Yr oedd Hawer o bethau i'w canfod ar byd y ffordd y buasai yn dda genyf alw sylw atynt, ond fod y gofod yn brin, megys yr arch o waith y .Crewr mawr yn ymyl Llanbrynmair. Mae pont yn waith yr un awdwr yn sir Abevteifl. Onid yw yn flin fod dynion wedi priodoli y gwaith i'r diafol, sef Pont-y-gwr-drwg ? Ni wnaeth hwnw bont erioed, ond pont i arwain dynion i uffern. Bu ryfedd genyf ar ein taith adref i weled y Parch J. Davies, Taihirion, yn aberthu ac yn tynu tan o'r nefoedd ar yr aberth, nes yr oedd y poethoffrwm yn fflamio. Dedwydd oedd cyfeillach y brodyr caredig o Aberaman, Cwmaman, Penrhiwceibr, Alltwen, Owm Rbondda, Cwmbacb, Rhymni, Mertbyr, a Nelson. Yr oeddwu yn meddwl wrth basio Llan- fairmnallt i waered am y geiriau yn dangos trefn Duw yn ei greadigaeth, a'r creigiau i'r cwningod," a gweled y fan lIe yr oedd benfounder y Methodistiaid Cilfinaidd (Harris, Trefecca), a chael golwg ar Talgarth ond blin oedd meddwl fod ein hanwyl gyfaill Mr Evans wedi methu cyflawni ei weinidogaeth gan afiechyd. Yr Ar- glwydd fyddo yn dirion wrtho yn ei hen ardal enedigol, Ystalyfera. Mae yr ardaloedd hyn yn teimlo yn ddedwydd wrth feddwl am ddyfodiad yr Undeb yma y flwyddyn nesaf. Gwelir sylwedd yr hyn a dra- ddodwyd yn y cyfarfodydd yn y TYST, ac yn gyflawn yn yr Adroddiad bJynyddol. GOHEBYDD ABEEDAE. -♦
YR HEN WR ARDDERCHOG.
News
Cite
Share
YR HEN WR ARDDERCHOG. Diwrnod mawr a phwysig yn yr argyfwng pres- enol ar y Wiadwriaeth ydoedd dydd LIun, Mehefin y 15fed, y dydd y mynegai y PrifWeinidog yn y Senedd fod Arglwydd Salisbury wedi cydsynio i ffurflo. Gweinyddiaeth Doriaidd. Dygwyddasom fod yn myned heibio i'r Senedd-dy pan oedd yr aelodau Seneddol o bob ochr yn prysuro i mewn. Yr oedd y dyrfa fawr yn yr beolydd o gylch y fynedfa yn arwyddo fod rbywbeth mwy na chyff- redin ar droed. Safasom ninau am yehydig yn mysg y lluaws i wylied cynrycbiolwyr y wlad yn myned heibio. Synasom yn ddirfawr i weled dynion mor adnabyddus bellach pertbynol i'r ddwy blaid yn cael myned heibio mor ddisylw gan y lluaws, yn neillduol felly raioflaenoriaid y ddwy blaid. Adnabyddwyd Arglwydd Rosebery gan ychydig, cafodd Syr Charles Dilke a Arglwydd John Manners fyned beibio heb eu hadnabod. LIongyfarchwvd Syr William Harcou'rtyn galonog ond dyna Mr Muudella a Mr Campbell Banerman a Mr Childers yn dianc heibio yn ddisylw, felly hefyd Arglwyddi Granville a Hamilton, ac eraill. Dyma Syr Stafford Northcote yn d'od, tybed na cha efe ei longyfarch gau ei fod yn myned i dder- byn awdurdod. Na, y mae yntau yn cael myned beibio fel dyn arall. Na, gan gofio, gwaeddai rhywun yn ein hymyl yn goeglyd wedi iddi basio yn ddigon pell. Wei, hei Syr Stafford, paham na fuasech yn anfon i'n hysbysu eich bod yn d'od y ffordd yma. Tua 4.30, amser arferol y Prifwein- idog i fyned i'r Ty, dyma gynhwrf yn mysg y dyrfa, a chlywid y bloeddiadau llongyfarchiadol o bell. Dyma fe yn d'od, ebe y bobl, a chyda hyny y mae ei gerbyd yn y golwg, ac yntau wrtho ei hunan ynddo. Dyma yr Hen Wr Ardderchog (The Grand Old Man), meddai amryw, ac erbyn hyn yr oedd y dyrfa heb ofalu dim am orchymyn yr heddgeidwaid yn rhutbro ar draws eu gilydd at ei gerbyd ac yn rhedeg ar ei ol fel plant yn eu sel a'n brwdfrydedd fel pe wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain, gan waeddi a throi eu hetiau o gylch eu penau, a buasent yn ei ddilyn felly byd i ganol y Ty gallasem feddwl oni bai iddynt gael eu hatal gan yr heddgeidwaid a'r cledrgae (railings), ac nid ymddangosai neb yn mwynhau yrolygfayn well, yn nesaf at Mr Gladstone ei hun, na'r hedd- geidwaid. Yn mhen pum' mynyd cafodd Ardal- ydd Haitington groesaw cynes wrtb fyned heibio. Gwnaeth Arglwydd Randolph Churchill a Mr Gibson yn gall i ddianc i'r Ty trwy fynedfa tan- ddaearol o orsaf y rheilffordd. Gwasgarodd y bobl yn ebrwydd wedi gweled y Prifweinidog yn myned heibio, ac yr oedd gwen foddbaus ar wyneb pawb o'r bron. Yr oedd yn amlwg y diwrnod hwnw mai efe o bawb yw dyn y bobl," ac y mae yn sicr o fod yn fwy poblogaidd yn awr nac y bu erioed. Mae ei fawredd mor amlwg, pa un bynag ai myned i awdurdod y byddo, ai yn cyflawni ei swydd dan gawodydd o ddirmyg ei wrtbwyneb- wyr eiddilaidd, ai yn ymddeol o'i swydd. Gwna yr oil gydag urddas tywysog a gwr m&wr yn Israel. Arhoed ei fwa yn gryf am lawer o flyn- yddau eto. Nos dranoeth cawsom brawf ychwanegol o fawredd a phoblogrwydd Yr Hen Wr Ardderchog mewn cyfarfod mawr gynelid yn Neuadd St. James mewn eysylltiad ac Undeb Rhyddfrydwyr Llundain a'r siroedd. Yr oedd yr ystafell eang wedi ei gorlenwi yn mbell cyn amser decbreu, a threuliwyd yr amser i aros yn y dull mwyaf amyn- eddgar. Yn y eyfamser yr unig beth gynhyrfai ychydig ar y dyrfa ydoedd dyfodiad ambell ddyn- sawd ar y llwyfan adnabyddus i'r bobl. O'r diwedd daeth yn amser dechreu, ac y mae ym- ddangosiad y Cadeirydd a'r Ysgrifenydd Cartrefol Syr W. Harcourt, a'r areithwyr ereill, yn cynyrchu croesaw byddarol iddynt, ac ar ol hyny y mae pawb yn ceisio gosod ei bun yn yr ystum mwyaf priodol i fwynhau gwledd na cheid ei bath yn ami, yn neillduol wedi ei cboginio dan amgylchiadau fel y rhai presenol. Wedi ceisio gosod y corff i eistedd yn y ffurf mwyaf cysurus i wrandaw, a dodi yr het yn ei lie priodol, agorir a chauir am- rantau y llygaid er cael sicrwydd eu bod yn y cywair priodol, dyma y Cadeirydd ar eidraeda cba dderbyniad o'r fath mwyaf gwresog. Mae yn arolwg fod dysgwyliad mawr wrtho, ond nid ydym yn deall i neb gael ei siomi ond o'r ochr oreu. Mae y John Morley hwn wedi gwneyd enw iddo ei hun fel llenor ac ysgrifenydd, ac yn ol pob ar- wyddion y gwna fwy eto fel Seneddwr. Y mae ynddo y fath gyfuniad o synwyr cryf, a meddwl clir, a gallu i ymadroddi ac sydd yn sicrhau y bydd yn un o brif wleidiadwyr y dyfodol os eft. fywyd ac iechyd. Ac yn ol amryw bethau a ddy- wedwyd ganddo y noson hono, y mae ganddo barch angherddol i'r Hen Wr Ardderchog yr hyn a ystyrir gan Ryddfrydwyr y dyddiau byn yn angenrheidiol ac yn ddyogelweh fel tyst-lythyrau gan bob aelod Seneddol newydd. Ar ol y Cadeir- ydd cyfododd yr Ysgrifenydd Cartrefol Syr W. Harcourt, a cbafodd y fath dderbyniad gan y dyrfa oedd yn mbob ystyr yn deilwng o'r person a'i safle uchel ac anrhydeddus. Dyma gorffoliad o foneddwr o radd uchel yn sefyll ger ein bron, a golwg dy wysogaidd arfto, ac wrtho ef y mae y dysgwyliad heno y mae yn amlwg. Decbreua drwy amddiffyn gwaith y Weiinyddiaeth yn yin- ddiswyddo yn erbyn ensyniadau y Ceidwadwyr, ac y mae yn bwrw am eu penau y fath ffrydlif o arabedd cellwair-gnoawl sydd yn rhwym o losgi. Nid yn fuan yr anghofir ei sylw ar y Toriaid yn methu cytuuo cyn ffurfio y Weinyddiaeth, pan y cyffelybai hwy i Jacob ac Esau yn ymwthio yu y grotb cyu d'od i'r esgoreddfa, ac y proffwydai mai tebyg fyddai y canlyniadau. Ynddynt hwythau y byddai yr hynaf yn gorfod gwasanaetbll yr ieu- eagaf, yr byn sydd eisioes wedi ei brofi yn wir- ionedd. Yr oedd cydymdeimlad y cyfarfod yn bollol a r siaradwr, yn neillduol pan gyfeiriai at ddyfodol dysglaer Rhyddfrydiaeth, wedi belaethu yr cthol- fraint, a'r mesurau mawrion y gellid dysgwyl am dauynt, ae yn arbenig pan gyfeiriai at anbawsdrn y Toriaid i ddewis o'u plith flaenor i'w bargain ond nad yw yr anhawsdra hwnw gan y Rbydd- frydwyr. Fod gwladweinydd penaf yr oes yn myned o'n blaen hwy, a'u bod yn benderfynol i sefyll yn ffyddlon i'r ben faner a'r hen egwyddor- ion, a'r Hen Wr Ardderchog. Ni fnom mewn cyfarfod mor frwdfrydig yn ein bywyd. Yr oedd cyfeiriad at, neu grybwyll enw Mr Gladstone, lei tan greision yn peri i'r cyfarfod ferwi drwyddo nea tori dros y llestri. Bydded yr Hen Wr Ardderchog fyw, ac na fydded farw a bydded al elymon yu. ychydig. J, ROWLANDS.
[ CYMANFA MALDWYN.
News
Cite
Share
papyr galluog a ddarllenwyd ganddo, a dymun- 'Wyd arno i argraffu y papyr. Terfynwyd y gyfeillach fuddiol ac adeiladol hon trwy weddi gan y Parch. Morien Mon Hughes, America. Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Fercher, pregethwyd gan y Parch R. Thomas, Glandwr. Nos Iau am 7 o'r glocb, yn Hermon, dechreuwyd y. cyfarfod gan y Parch T. J. Rees, Carno, a phregethwyd gan y Parchn J. Miles, Aberystwyth ac O.Evans, LlundaiD. Am 7.30 yr un noson, cadwyd oedfa Saesoneg yn Christ Church. Dechreuwyd gan y Parch T. Hughes, Llansantffraid; a phregethwyd gan y Parch T. Nicholson, Dinbych. Dydd Gwe- ner yn y Powis Hall, am 10, dechreuodd y Parch J. Jones, Machynlleth, a phregethodd y Parchn B. Thomas, a J. Miles. Am 2, dechreu- odd y Parch D. Lewis, Penarth, a phregethodd y Parchn O. It. Owen, Glandwr, a T. Nichol. son. Am 6, dechreuodd y Parch R. O. Evans, Sammah, a phregethodd y Parchn 0. R. Owen a Owen Evans. Cafwyd cymanfa dda o'r dechreu i'r diwedd, ac arwyddion amlwg i fod y weinidogaeth yn dylanwadu yn rymus ar y gwrandawyr. Yr oedd parotoadau cyfeillion Croesoswallt. yn rhagorol iawn. Ni a hyderwn y bydd Duw hen gymanfaoedd Cymru yn eu bendithio hwynt eto fel eglwys am eu gwasanaeth gwerthfawr. T. J. REES, Ysgrifenydd.