Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TAITH I'R UNDEB YN ABERYSTWYTH.

News
Cite
Share

TAITH I'R UNDEB YN ABER- YSTWYTH. Bu llawer o ddysgwyl erenym am gyfarfodydd Undeb cyn eu dyfod. Undeb yr Annibynwyr Cymreig y gelwir y gymanfa fawr hon, yn cynwys a Gogiedd y Dywysogaetb, Liverpool, a Llundain. Mae llawer llai o'r iaith Saesoneg yn cael ei siarad ynddo nag sydd yn yr Eisteddfod Crenedlaethol. Anercbiad y cadeirydd, a'r boll bapyrau a ddarllenir ar wabanol bynciau y dydd, Oll yn Gymraeg. Dyma y cyfrwng mwyaf effeith- 10J i gadw yn fyw ein hoff beniaith. Tref iach ar lan y mor yn rhan ucbaf sir A-berteifi ydyw Aberystwyth, a'r dyfroedd a ddefnyddiant yn eu tai yn dyfod yn waterworks o'r Plinlimon. Rhestr fawr o dai newyddion yn gwynebu ar y mor—y terrace y gal want hi. Mae bon ar dro fel rhyw haner lleuad, tua chwarter ttiilltir o hyd, gan mwyaf yn bedair stori o uchder. ■Mae yma lawer o ymwelwyr a'r mor yn yr haf viachines i ymdrochi yn y dyfroedd beli, a'i liw fel y geninen yn wastad. Pa ryfedd fod y Cardis yn bobl iach a nerthol. Mae canoedd lawer o eiddilod o wahanol ranau o'r deyrnas yn myned am eu hiechyd i'w hymdrochleoedd. Mae yn syndod gweled capeli prydferth a cbostus Aberystwyth. Yr wyf yn deall mai y Methodistiaid Calfinaidd ydyw y lluosocaf yn y dref, er fod yr Annibynwyr yn dringo i fyny yn pflym ar eu hoi. Dyma lie mae yr hotel fawr bonoy costiodd ei badeiladu £ 30,000, ac y gwerth- wyd hi i gynal y Brifysgol am £ 10,000; adeilad Wawreddog iawn, a'i sylfeini yn y dyfroedd dyfnion. Er yr arian aeth i'w godi, nid ydyw ^6di agos ei gorphen eto. Cawsom y fraint o tyfced trwy y gwahanol ystafelloedd. Os wyf yn cofio yn dda, yn y llyfrgell y mae darlun yn ei Syflawn faintiolaeth o Arglwydd Aberdar, G.C.B., a'r diweddar enwog Hiraethog. Dyn caredig ac allseetyddol ydyw y Prifathraw. Yr oedd yn rhan yn nghyfarfodydd yr Annibynwyr tel un ohonynt hwythau. Y Principal Edwards Yn y cor mawr heb un gwaith ei gymbell. Blm genyf fod y Parch T. Levi yn absenol oherwydd afiechYd. Gobeithio yr adferir ei iecbyd yn fuan. Yr oedd yn syndod genyf weled bwth crwn ar ben adfeilion yr hen gastell. Ar ol Oauadei ddrws, yr oedd- yn dywyll, a bwrdd crwn ar y canol, a tbwll 0 gylch modfedd o dryfesuriad yn ei nen, fel yr oedd y nior, badau, y traeth, a.'r dynion yn ei gerdded ac yn dyfod ar byd y rhodfeydd oddiwrth y colegdy y gallasech eu badnabod ar y bwrdd crwla yn cael ei droi gan ei berchenog. ilynod y gwna celfyddyd droi anian i fyny i'r awyr o'r ^onau, a'u bwrw i lawr drachefn trwy dwll Modfedd, fel y gwelid y dwfr yn llifo a ffrothio ar y ford gron yn y bwthyn byc-han. Iecbyd ydyw °d ar beu yr hen gastell, neu gerdded dros y Anglais-road. x n Aberystwytb y gorwedd gweddillion y iweddar Barch Azariah Sbadracb, awdwr llawer yfrau o enwau rhagorol a neiliduo), ac yn wir syiwadau pregethwfol a fydd byw am amser maitb _cc Dyfroedd Siloain," Y cerbyd aur," Gwallt oamson yn cael ei dori," Dryoh y gwrthgiliwr," &c. Cof genyf pan yn facbgenyn glywed barnu pregethwyr ieuainc gan hen bobl feirniadol yr amseroedd byny, ac yn ami byddai y feirniadaeth yn disgyn yn drwm arnynt—mai gwaith Azariah Shadrach oedd ganddynt. Yr oedd yn rhanu ei destynau yn drefnus iawn-bagad o benau, ac mi glywais y diweddar Barcb J. Evans, Maendy, yn dyweyd mai y pethau rhataf ar y farchnad oedd penau, Ar ol treulio ycbydig ddyddiau, gwrando doniau De a Gogledd, siglo dwylaw a gwahanol cyfeillion pelt ac agos, a chael ar ddeall fod yr Undeb yn dyfod a dynion at eu gilydd, yr wyf yn cofio fod y Gogleddwyr yn meddwl yn bytrach yn isel am yr Hwntws, a'r Hwntws yn edrych gyda llygad tro ar y Noitbman ond mae yr Undeb wedi dwyn y ddwy blaid yn un, ac i feddwl yn uchel iawn am eu gilydd. Dyna fel y gwelaf ei effeithiau dymunol yn y dyddiau presenol o Rhydyceisiaid i Glawdd Offa. Ond ymadael oedd raid wedi y cwbl-rhai tua Liverpool ac ereill i'r Brifddinas, rbai i'r Gogledd ac ereill i'r Debeu am flwyddyn eto, nes cael cyfarfod y flwyddyn nesaf yn Aberdar; ond dichon y bydd llawer ohonom wedi cael ein symud i'r byd tragywyddol cyn hyny, fel y symudwyd y dynion gwerthfawr y flwyddyn y llynedd, y rbai fuont yn llywyddion yr Undeb, sef y Parchn W. Edwards, Aberdar Simon Evans, Hebron; J. Davies, Glandwr, Penfro; Dr Rees, Abertawy; a Tanymarian—dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt. Yr oedd Hawer o bethau i'w canfod ar byd y ffordd y buasai yn dda genyf alw sylw atynt, ond fod y gofod yn brin, megys yr arch o waith y .Crewr mawr yn ymyl Llanbrynmair. Mae pont yn waith yr un awdwr yn sir Abevteifl. Onid yw yn flin fod dynion wedi priodoli y gwaith i'r diafol, sef Pont-y-gwr-drwg ? Ni wnaeth hwnw bont erioed, ond pont i arwain dynion i uffern. Bu ryfedd genyf ar ein taith adref i weled y Parch J. Davies, Taihirion, yn aberthu ac yn tynu tan o'r nefoedd ar yr aberth, nes yr oedd y poethoffrwm yn fflamio. Dedwydd oedd cyfeillach y brodyr caredig o Aberaman, Cwmaman, Penrhiwceibr, Alltwen, Owm Rbondda, Cwmbacb, Rhymni, Mertbyr, a Nelson. Yr oeddwu yn meddwl wrth basio Llan- fairmnallt i waered am y geiriau yn dangos trefn Duw yn ei greadigaeth, a'r creigiau i'r cwningod," a gweled y fan lIe yr oedd benfounder y Methodistiaid Cilfinaidd (Harris, Trefecca), a chael golwg ar Talgarth ond blin oedd meddwl fod ein hanwyl gyfaill Mr Evans wedi methu cyflawni ei weinidogaeth gan afiechyd. Yr Ar- glwydd fyddo yn dirion wrtho yn ei hen ardal enedigol, Ystalyfera. Mae yr ardaloedd hyn yn teimlo yn ddedwydd wrth feddwl am ddyfodiad yr Undeb yma y flwyddyn nesaf. Gwelir sylwedd yr hyn a dra- ddodwyd yn y cyfarfodydd yn y TYST, ac yn gyflawn yn yr Adroddiad bJynyddol. GOHEBYDD ABEEDAE. -♦

YR HEN WR ARDDERCHOG.

[ CYMANFA MALDWYN.