Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMANFA ANNIBYNWYR MEETHYB…

News
Cite
Share

CYMANFA ANNIBYNWYR MEETHYB 1885. CYNALIWYD unfed Gymanfa ar bymtheg Merthyr eleni ar y dyddiau Sadwrn, Sul, a Llun, Mehefin 20fed, 21ain, a'r 22ain, pryd y gweinyddwyd yn Horeb, Bethesda, Soar, ac Ynysgau gan y Parchn. W. James, Porth; O. Jones, Pwllheli B. Davies, Treorci R. W. Roberts, Ystradgynlais D. Evans, Caerfyrddin; J. B. Jones, B.A., Aberhon- ddu; D.M.Jenkins, Liverpool; ac Owen Evans, Llundain. Cafwyd pregetbau gwerthfawr, g-wran- dawiad siriol, arwyddion o'r gwenau Dwyfol yn yr oedfaon, a chynulliadau lliosog. Ymddengys nad yw poblogrwydd y Gymanfa yn lleihau dim o flwyddyn i flwyddyn. Fel yr arferir gwneyd bob blwyddyn, cynaliwyd CYFEILLACH GYFFREDINOL yn Soar, am ddau o'r gloch ddydd LInn. Erbyn amser debhreu yr oedd yr addoldy wedi ei lenwi a chynulleidfa hardd, awyddus am wledd, ac ni siomwyd neb yn hyn. Cymerwyd y gadair eleni gan y Parch. J. M. Bowen, Penydarren, yr hwn a alwodd ar y Parcb. W. James, Porth, i ddechreu trwy ddarllen a gweddio. Y CADEIRYDD a ddywedai mai dyma y drydedd waith i'r eglwysi ei anrbydeddn i lywyddu Cyf- eillach y Gymanfa. Chwith oedd meddwl fod 17 o'r gweinidogion a gymerasant ran yn y Gymanfa o'i dechreuad wedi eu symud gan angeu. Dys- gwylid Dr. Rees, Abertawy, i'r wyl, ond yntau befyd a. gymerwyd ymaith. Da oedd ganddo ef (Mr. Bowen) bysbysu fod gweithgarweh crefyddol a chariad yn bodoli yn y gwahanol eglwysi, a rhai ohonynt wedi myned i draul fawr i adnewyddu a harddu eu capeli. Yroedddigono syn wyr yn. yr oes hon; eisieu mwy o deimlad oedd; ac ond cael Duw byddinoedd Israel gyda ni, aem yn mlaen yn llwyddianus. Galwodd Mr. Bowen wedi byny ar y boneddigion gwahoddedig i'r Gymanfa i anerch y gyfeillach a chan fod Mr. W. James, Porth, wedi arwain y gwasanaeth dechreuol, galwyd yn gyntaf ar y Parch. 0. JONES, Pwllheli, yr hwn a deimlai yn fraint i fod mewn cyfeillach grefyddol mor lliosog. Hwn oedd blodeuyn yr holl gyfarfodydd. Credai fod y gyfeillach a'r cyfarfod gweddi yn ddangosiad o ansawdd y teimlad crefyddol. Teimlai gryn an- hawsder i roddi ton briodol i'r Gyfeillach. Nid oedd angen am alw llawer o sylw at agwedd allanol crefydd—ei hanfodion oedd yn bwysig. Byw ath- rawiaethau crefydd mewn dyledswydd ac ymarfer- iad oedd y test goreu o wirioneddolrwydd ein cref- ydd. Yr oedd y Cristion yn dilyn moddion gras fel y mae cadben y llong yn dilyn y current sydd yn ffafriol iddo gyrhaedd y porthladd a ddymuna. Darllenai air Duw, a bwytai o aberth Iawnol Crist fel y gwir fana a ddaeth i waered o'r nef. Ymar- ferai weddi fel prif ddyledswydd crefydd, yr hwn a gadwai fywyd yn fyw yn ei enaid, ac fel y galvanic. battery rhoddai nerth a grymusder trwy holl gylch ei fywyd. Mr. DAVIES, Treorci, a ddywedai mai y cymeriad Cristionogol oedd y cymeriad uchaf—yr egwyddor uchaf, a hanfod y bywyd Cristionogol. Nid oedd gorfodaeth ar neb i gymeryd enw Iesu arno, Os myn neb," &c. Yr oedd deddfau at bob peth dan yr Hen Oruchwyliaetb, ond erbyn hyn y maent wedi eu newid am egwyddorion. Gosodid deddfau at gyfranu dan yr Hen, ond pob un i roddi fel y mae yr Arglwydd yn ei lwyddo ydyw o dan y Newydd. Nid oedd am honi perffeithrwydd mewu bywyd yn nysgyblion Crist, ond yr oedd felly mewn cynllun. Yr oedd y gallu mwyaf sydd yn y byd heddyw. Talodd Ingersoll, yr anffyddiwr, ymweliad a Cincinnati, Ohio, yn ddiweddar, a chafodd 2,000 i'w wrando yn cablu y grefydd Gristionogol. Dygwyddai yr Esgob Simpson fod yn pregethu ar yr un adeg yn y ddinas, a chafodd 7,000 i'w wrando. Fel y mae y wisg brydferth sydd am y dyn yn llefaru yn ffafriol am y gwneuth- urwr, felly y mae bywyd dystaw llawer o aelodau eglwysig yn siarad am yr Hwn a'u gwisgodd yn lighyfiawnder Crist. Mr. ROBERTS, Ystradgynlais, a gredai ei fod yn gwybod rhywbeth am flas crefydd. Yr oedd yn falch ei fod yn y seiat, ac nid oedd ganddo ddim yn ddrwg i ddywcyd am dani. Cafodd rywbeth i'w enaid yn mhob cyfeillach. Iesu yw arweinydd y seiat; yr oedd yn ei addabod Ef er's dros 50 mlynedij, ac yr oedd yn anvvylach ganddo yn awr nag erioed. Pa le yr oedd y telynau ? A oeddynt yn ngbrog ar yr helyg ? Credai ei fod yn cly wed swn yn mrig y morwydd y dydd o'r blaeu nes rhoddi tiBC ar ami i hen delyn. Carasai ef yn fawr gael un drochfa dda eto o'r Ysbryd Glan cyn myned i'r nefoedd. Ar ol canu penill, galwodd y Cadeirydd ar y Parch. D. EVANS, Caerfyrddin, yr hwn a gyfeii- iodd ei sylwadau at rieni plant, a'r berthynas oedd rbyngddynt ag Eglwys Iesu Grist. Yr oedd cy- sylltiad arbenig rhwng y teulu a'r Eglwys y teulu yn hynach na hi. Yn nheulu Abraham y dechreu- odd yr Eglwys Iuddewig, ac yn nhy Cornelius y planwyd yr Eglwys Geaedlig. Yr oedd Duw yn cymhell ei blant yn ofalus iawn i drosglwyddo teimladau pur trwy eu teuluoedd o oes i oes, Ni ehododd neb biant yn uwch nag y gwnaeth lesu Grist, a rhoddodd orchymyn pendant i Petr i borthi ei wyn. Mae perygl mawr i beidio rhoddi addysg grefyddol i blant, oblegid os esgeulusa rhieni wneyd fe wna y diafol hyny, mesrys y dywed- ai un gweinidog wrth foneddiges oeclclyn diystyru rhoddi addysg grefyddol i'w phlant. Credai nad oedd digon o lawenydd yn ctel ei ddangos pan dderbynid plant yr Ysgol Sabbothol i'r eglwys. Dyma y dosbarth sydd weii bod yn fwyaf defn- yddiol iddi trwy yr oesau. Ein pregethwyr, di- aconiaid, a'n haelodau enwocaf ydynt wedi eu magu yn yr eglwys o'p hieuenctyd. Y ffordd eff- eithiolaf i gael gafael ar y genedl' ydoedd trwy afnelyd yn y plant. Mr. JONES, Aberhonddu, a gredai fod dynion goreu Merthyr yn y Gyfeillach. Byddai yr hen John Evans, Llwynlfortan, yr hwn a flinid yn amI' gan y pruddglwyf, weithiau yn meddwl nad oedd yn deilwng i fod yn aelod o'r gyfeillach, ond pan ddywedai un brawd wrtho, os torid of allan ohoni y byddai yn anhawdri iddo gael d'od yn ol, nid oedd mor barod i fyned o dan yr ornchwyliaeth hono. Prydnawn oedd hwn i hogi y crymanau. Rhaid oedd bod yn barod i dderbyn yr Ysbryd Glan, ac nid oedd genym ddim i'w wneyd ond dysgwyl wrth yr Arglwydd. Dylai pawb ddangos y ffordd i'r bywyd i'w gymydog. Dylem fod fel cynifer o fynegfysedd i'n cyd ddynion i ddangos y ffordd i booking office Calfaria-ac ilid oes mynegfys yno a ddengys y ffordd i uffern. Mr. JENKINS, Liverpool, a ddiolchai i Dduw fod cynifer o ddynion yn barod i aberthu eu cysuron er mwyn hyrwyddo ei waith yn mlaen; ond lied an- turiaethus fyddai dyweyd fod pob aelod eglwysig yn cyfrif rhyw lawer dros fynediad crefydd yn mlaen yn yr oes hon. Un o ddiffygion yr eglwys ydoedd fod y drws mor agored. Ymwelodd Crom- well unwaith ag Eglwys Gadeiriol York, a phan ddangoswyd iddo yno ddeuddeg o ddelwau arian o'r apostolion, gorchymynodd eu tynu i lawr, a'u toddi, fel y byddai iddynt fyned oddiamgylch, fel eu Meistr, i wneutbur daioni. Felly hefyd, ebai ef, da fyddai cael rhyw foddion i gael yr aelodau o'u cornelau clyd i ddilyn esfampl eu Gwaredwr. Yr oedd mwy o weithgarwch yn yr oes hon na'r un oes o'i blaen ond ychydig iawn y mafe hyny yn argraffa ar y byd. Y perygl ydyw gosod gormod o bwys ar y peirianwaith, a rhy fach ar yr ysbryd. Dywedai Luther wrth yr Arglwydd pan yr oedd yr achos Protestanaidd yn ymddangos yn dywyll— "Rhaid i ti, Arglwydd, ofalu am y Diwygiad Pro- testanaidd." Credai ef fod y teimlad yn rhy isel, a bod angen syrthio yn ol ar Dduw, gan ofyn iddo i dd'od at ei waith. Mr. EVANS, Llundain, a lawenycbai ddeall oddi- wrth sylwadau y Cadeirydd fod heddwch yn teyrn- asu yn eglwysi y cylcb. Dinystrio y mae rhyfel, ond adeiladu a wneir yn amser heddwcb. Tyuir i lawr mewn ychydig wythnosau gan derfysgyr hyn gymerodd flynyddoedd i'w godi. Anogai bawb i fod yn grefyddwyr tangnefeddus ac effro, gan b roddi gwyneb yn erbyn arferion llygredig yr oes. Terfynwyd y Gyfeillach ragorol hon trwy weddi gan y Parch. R. Griffiths, Cefn, a hiraethai pawb wrth fyned adref am gael ei chyffelyb yn fuan eto.

[ CYMANFA MALDWYN.