Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y SENEDD YMHERODROL.
News
Cite
Share
Y SENEDD YMHERODROL. Ty YR ARGLWYDDI. — Cyfarfuwyd ar ol y gohiriad am chwarter wedi 4 o'r gloeh. Cododd Arglwydd Salisbury i gynyg eu bod i ohirio hyd ddydd Mawrth nesaf. Tra yn siarad gan gyf- eirio at Fesur y Seddau, galwodd Iarll Granville ef i drefn, nad oedd yn rheolaidd cyfeirio at fater oedd ar y Papyr cyn iddo gael ei ddwyn yn mlaen. Cynygiodd hefyd fod Mesur y Gwaddoliad i'r Dywysoges Beatrice i basio. Hyny a ftI. Cynygiodd iarll Kimberley eu bod i ystyried rhesymau y Ty Cyffredin dros wrthod rhai o welliantau y Ty hwnw ar Fesur y S.eddau. Dymunai Arglwydd Salisbury wrthwynebu ys- tyried y mater ar y pryd, ar y tir fod y mesur y mynyd y pasid ef yn ei gwneyd yn anmhosibl i dori y Senedd i fyny hyd fis Tachwedd nesaf. Am hyny, dymunai gynyg fod y mater i gael ei ohirio hyd ddydd Mawrth. Atebodd Iarll Kimberley yn y modd mwyaf miniog gan awgrymu mai amcan y cwbl oedd rhwystro y mesur i basio fel y gallasai y Toriaid apelio at y wlad gyda gobaitk o gael mwyafrif o dan yr hen drefn. Ar ol ychydig eiriau gan Iarll Faversham ac Arglwydd Salisbury, rhanwyd y Ty. Dros ystyried y rhesymau, 55. Yn erbyn 124. Mwyafrif, 63. Yua gohiriwyd y Ty hyd ddydd Mawrth nesaf. Ty Y CYFFREDIN.—Cymerodd y Llefarydd ei sedd am 4 o'r gloch. Rhoddodd Mr Dillwyn rybudd y buasai iddo yn fuan gynyg fod dar- pariaeth i gael ei gwneyd i gymeryd rhan o'r vote of credit oedd wedi ei chynyg gan y Llyw- odraeth, a bod hyny i gael ei wneyd h6b dolli te, siwgr, bara, nac unrhyw ymborth, ond trwy dolli yn ychwanegol eiddo personol a thrwyadl. Mynegodd y Llefarydd ei fod wedi derbyn Ilythyr oddiwrth Mr Bradlaugh, yn mynegi ei fwriad i gymeryd ei sedd. Barnai y Llefarydd mai ei ddyledswydd oedd darllen y llythyr i'r Ty, ac hefyd yr atebiad oedd efe wedi ei anfon iddo. Yna cododd Syr S. Northcote i ofyn i Mr Gladstone pa gwrs oedd efe yn fwriadu ei gymeryd yn y mater. Atebodd Mr Gladstone nad oedd ganddo ef ddim i'w ddyweyd yn fwy nag oedd wedi ei. ddyweyd o'r blaen. Eu bod wedi dewis gweithredu yn groes i'w olygiadau ef yn y, mater. Am hyny nad oedd yn bwriadu ymgymeryd a'r cyf'rifoldeb o gynyg dim. Ond ei fod yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael ar ddeall fod Arglwydd Salisbury wedi llwyddo i ohirio y Ty arall hyd ddydd Mawith. Felly ei fod yntau yn cynyg fod y Ty Cyffredin ar ei godiad i sefyll yn ohiriedig hyd yrundydd. Yna gofynodd Mr Labonckere drachefn, fel yr oedd wedi gofyn o'r blaen. os oedd sail i wirion- edd y si oedd ar led, fod addewidion wedi ei roddi i'r Blaid Wrthwynebol, fel amodau o dan ba rai yr oeddent i gymeryd y llywodraeth i'w Haw, a thros ba hyd yr oeddent i gael y gobir. iadau. Atebodd Mr Gladstone nad oedd dim gwirionedd yn y si. Ond pa beth bynag fyddai canlyniadau y gohebiaethau, y byddai iddynt gael eu gwneyd yn gyhoeddus. Yna ar gynyg- iad Mr Gladstone, gohiriwyd y Ty byd ddeng mynyd i bump o'r gloch dydd Mawrth nesaf.
LLEYN AC EIFIONYDD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfondeb ucbod y tro diweddaf yn Bwlchtocyn, ar y dyddiau LIun a Mawrth, Mekefin 8fed a'r Oi'ed. Y Gy- nadledd am 2 o'r glock y dydd cyntaf. Cymerwyd y gadair gan Mr E. Jones, Plas, Chwilog, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd gan y Parch T. Jones, Tabor, ac wedi darllen a chadarn- hau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfyn- wyd- 1. I'r cyfarfo 1 nosaf fod yn Drwsycoe', yn 01 y gylchres, ar Medi 7fed a'r Sled. Y Gynadledd am 1.30 y dydd cyntaf. 2. Cyflwynwyd i sylw y Gynadledd ddau wr lenanc o eglwys Ceidio sydd newydd ddechreu pregethu yno- Mri Hugh Morris a Griffith Joi.es. Siaradwyd yn uehel am danynt rei dynion icuainc o gymenad pur, gweithgar yn yr eglwys gartret, ac addawol fel pu geth- wyr. Rhoddwyd iddynt y dorbyniad mwyaf cynes. 3 Pcnderfynwyd talu i eglwys Llanbedrog o otysoiia yr Undeb yr £ 20 addawedig tuag at ddiddyledu eu CaI.6 Foil dymuniad taer ar y rhai syd eto heb gasglu at Gymdeithas yr Achosion Gweiniaid i wneyd hyny ar unwaitb, fel y gellir cyhoeddi yr Adroddiad erbyn y ^^EinDod fel Cynadledd yn dwys alaru oherwydd marwo'aeth y Parch E. Stephen, Tanymarian, yr hw»i ydoe ld yn anwyl, parchus, a hynod ddefnyddiol fel gweinidog da i Iesa Grist," ac yn tai mlo ein collei ddirfawr ar ei ol, yn neilldnol ar yr adeg pryd yr oe Id sylw arbenig yn cael ei roddi yn ein sir i ganiadaeth y cysegr, gyda pha un y bu ef o wasanaeth anmhris- iadwy; ac yn dymuno cyflwyno ein cyJymdeimlad dwysaf i Mrs Stephen a'r teulu yn eu trallod blin. 6. Ein bod fel Cynadledd yn dymuno ar i Bwyllgor Trysorfa Jubili y Cyfundeb edrych i mewn i'r gwah ipol geisiadau am gynorthwy, a pharotoi eu hadroddiad erbyn y Cyfarfod Chwarterol nesaf. 7. Ein bod fel Cynadledd, tra yn teimlo yn ofidus oherwydd yr achlysur pruddaidd a barodd ohiriad amser cynal y Gymanfa Gerddorol yn y sir, yn llawen- hau wrth glywed am y parotoadau cyffredinol a brwd. frydig sydd yn yr e^lwysi ar ei chyfer; ac yn dymuno ar i'r pwyllgor gyfarfod mor fuan ag y byddo modd i benderfynu yr amser i'w chynal, ac yn mawr hyderu y bvdd i'r eglwysi barhan yr un mor weith gar a brAd- frydiff, fel ag i gael eto gymanf'a o'r fath oreu. 8 Fod y Gynadledd hon, tra yn gwir alarn oblegid marwola th yr hybarch T. Eees, D.D., Abertawy, yn teimlo yn Ilawen iawn oblegid fod Pwyllgor Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymrn wedi amlygu barn audfed trwy ddewis y Parch J. Thomas, D.D., Liver- pool, i lanw ei le fel Cadcirydd y cynulliad anrhydeddus hwnw, a'i fod yntau eisoes wedi rhoddi profion mor svlweddol o'i gymhwysdcr i lanw y swydd hono. 9. Fod pregeth y pwnc" i gael ei thraddodi noson gyiitif y Cyfarfod Chwarterol. 10. Fod Mr H. Morris, Ceidio, i ddarllen papyr yn N ghynadledd y Cyfarfod Chwarterol nesaf ar Berth- ynasyr Eglwys &'r Ysgol Sabbothol." Cyn terfynu y Gynadledd, cafwyd ymddyddan tra dyddorol ar "Sefyllfa yr Ysgol Sabbothol yn ein mysg fel Cyfundeb." Agorwyd y mater gan Mr James, Nefyn, a siaradwyd arno gan Mri Thomas, Penrbyn Jones, Pwllheli Jones, Chwilog; y Cadeirydd; Jones, Tabor Hughes, Abersoch, ac ereill. Terfynwyd y Gynadledd ddymunol hon trwy weddi gan Mr W. Hughes, Caernarfon. Swm casgliad yr eglwysi at drysorfa yr Undeb, X3 10s. casgliad eglwys Bwlcbtocyn ddydd y cyfarfod, .£1 4s. lie cyfanswm, Y,4 14s. 11e. Yn llaw y Trysorydd yn flaenorol, Y,13 8s. 9!e. j talwyd i eglwys Capel Helyg tuag at ddiddyledu eu capel, £ 15; gweddill yn Haw y Trysorydd, Y,3 3s. 8|e. Pregethwyd am 7 nos Lun, a 10, 2, a 6 dydd Mawrth, gan y Parchn Jones, Chwilog; Jones, Tabor; Jones, Hebron; Jones, Pwllheli; Williams, Capel Helyg; Thomas, Penrhyn; ac E. James, Nefyn. Cafwyd cyfarfod rhagorol, a rhoddodd yr eglwys barchus yn Bwlcbtocyn y derbyniad mwyaf croesawgar i'r Cyfarfod Chwarterol. Yr oedd eu trefniadau yn ddestlus, a'u sirioldeb a'u caredig- rwydd hwy a'u hanwyl weinidog yn bobpeth a allesid ddymuno. A diau mai teimlad pawb fuyn y lie ydoedd, "Wele, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd." J. C. JONES, Ysg. ♦
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.…
News
Cite
Share
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD. FoNEDDKHON.—Yn eich Rhifyn am Mai 22ain, y mae "Ap Rhys" yn gofyn am gopi o benillion gan "Merch y Morwr," y I hai a ayhoeddwyd yn y TYST yn 1869. Mevn scrap book o'm heiddo, ymddengys y penillion fe y cunlyn wedi eu tori allan o'r papyr. YR I A1TH GYMRAEG. Map. hen iaith y Cvmry yn ar,wyl i'm ei Ion, Er triso mewn ardal estronol fel hyn, Pereiddiach i'm clustiau yw hen iaith y Brython, Nag iaith y Sacsoniaid-yw hyny'n beth Sin I Tra chwyth yn fy mynwes, Cymraeg a siarad if, Nis gallaf angbofio iaith anwyl fy noanf) P'le bynag y byddaf, Cymraeg fwyn a garaf, Ei gwadu ni fynaf wneyd iddi'r fath gam. I ddangos gwir deimlad, p'le elywir ei thebyg r Pob sill a Ilythyren y'nt swynol i gyd Er rhywrai dslywedyd fod ynddi ryw ddiffyg, Ki chanmol a'i cliaru wnaf fin an.0 hyd; Mor ddifyr yw canu am Gymru a'i thelyn, Pob alaw o'i heiddo sydd beraidd i mi; A hyfryd yw clywed, yn hen iaith L'ewelyn, Fiid rhywun a'i galon yn ffyddlawn i chwi. Ma e'n resyn fod undyn o Gymro'n anmharchu Cymraeg ei gyndadau trwy falchder a br id, Mae iaith faio y Saeson yn burion, ran hyny, Ond ddim i'w cbymharu a hen iaithfy ngwlad4 Ond uwchlaw y cwbl, melusach yw clywed, Yn hen iaith y Cymry am aberth y groes A dyma'm dymuniad, tra amser, O bydded Cymraeg bur yn werthfawr gan Gymry pob oes. MRRCH Y MORWB." Windsor, Live, pool, Mehefin 23ain. O. R. eo
Advertising
Advertising
Cite
Share
I'OYERTY AMI) Sl'FFJSBINa" I was dragged down with debt, poverty, and sufteriiig for years, caused by a sick launly and large bills for doetorincr, which did them no good. I was com- pletely discouraged until one year ago, wlren, by the advice ol my pastor, I procured Hop Bitters, and commenced their use, ana in one month we were all well and noue of us have seen a sick day since, and I want to say to all poor men, .you can keep your famiiies well a year with Hop Bitters tor less than one doctoi b visit will cost. I know it."—A WOllKINU MAN. Keai Advt.
EIN SEFYLLFATBOLITIO.AIDD.
News
Cite
Share
yn pellebru at ei MAWRHYDI yr hyn ddy- wedai y naill a'r Hall, a derbyn yn ol yr hyn oedd yntau, yn ei henw, i'w ddyweyd wrthynt. Druan o Syr HENRY PONSONBY, cafodd ddiwrnod caled iawn ohoni, gyda pha lwyddiant nis gwyddom, ac ni cheir gwybod hyd nos Fawrth. Beth bynag fydd y canlyniad, sicr ydym 0 hyn; nid ymostynga Mr GLADSTONE i wneyd nac addaw dim gymyla ei anrhydedd, fradycha ei egwyddor, neu a ddwg ei blaid i warth. Ond gwna ac addawa bob peth fyddo yn gyson a'i anrhydedd fel boneddwr, yn gyson a'i egwyddorion fel Rhyddfrydwr, ac yn gyfansoddiadol gyson a'i safle fel hen was ffyddlon i'r Goron. Pellach na hyn ni syflyd, pe syrthiai y nefoedd. Mae rhai papyrau yn siarad yn gryf dros i Mr GLADSTONE ail-ymgymeryd a'i swydd, ac yn sicrhau mai i hyny y daw, ac wedi myned nior bell ag ad-drefnu ei Weinyddiaeth. Nid yw hyny yn anmhosibl, ond ymddengys i ni yn anhebyg. Mae Arglwydd SALISBURY wedi myned yn rhy bell i dynu yn ol. Mae wedi gwrando mor bell ar Arglwydd R. CHURCHILL, ac wedi dwyn cynifer o ddyn- ion awchus am leoedd o urddas i arogl swyddau, fel nas gall fforddio i dynu yn ol, yn ein tyb ni. Mae y llifeiriant mor gryf o'r tu ol iddo fel y gyrir ef yn ei flaen ar ei waethaf, beth bynag fyddo y canlyniadau iddo ef ac i'w blaid. Os felly y bydd, y mae genym le i fod yn ddiolcbgar fod yr anghyd- welediad rhyngom a Rwsia wedi ei bender- fynu mewn modd anrhydeddus cyn iddynt hwy ddyfod i swydd, ac na fydd ganddyut lawer o amser i wneyd dim rhyw lawer o ddrwg cyn y bydd yn rhaid iddynt roddi eyfrif i'r wlad o'u goruchwyliaeth. O'n rhan ni, nid oes genym wrthwynebiad neill- duol iddynt gael lledu ac ysgwyd ycbydig ar eu badenydd ar derfyn y tymhor, fel y caffo y wlad yvveled sut rai ydynt mewn swydd cyn ethol Senedd newydd oblegid credwn pan ddel yr etholiad cyffredinol mai gwan fydd eu gobaith am swydd am dymhor bir, os byth mwyach. Os, o'r tu arall, y gwrthyd Arglwydd SALISBURY ffurfio Gweinyddiaetb, ac y gelwir ar Mr GLAD- STONE i alw ei ymddiswyddiad yn ol, efe a wna hyny, ac fe ddichon gydag ychydig o ad-drefniad yn ei Weinyddiaeth y caria y Llywodraeth yn y blaen hyd derfyn y tymhor, ac yn mis Tachwedd tyr y Senedd i fyny, wedi dwyn barn i fuddugoliaetb, a therfyna Senedd eithriadol o afreolus yn wyneb amgylchiadau anarferol o ddyryslyd yn dramor, a nodedig o bwysig yn gartrefol. Wedi ysgrifenu yr ucbod, gwelwn wrth yr hysbysiad wnaeth Mr GLADSTONE yn y Ty neithiwr (nos Fawrth) fod YR ARGYFWNG DROSODD, ac fod Arglwydd SALISBURY wedi derbyn swydd, a chymer feddiant ffurfiol ohoni heddyw (Mercher). Nid yw eto wedi gor- phen Ifurfio ei Weinyddiaeth, ojjd y mae wedi penodi y rhai canlynol, ac y mae ei MAWRHYDI wedi eu cyineradwyo fel AELODAU Y WEINYDDIAETH. Prifweinidog ac Ysgrifenydd j ArgIwydd Salisbury Arglwydd Cyntaf y Trysorlys. Syr Stafford Northcote Can»hellydd y Trysorlys Syr H. M. Beach Arglwydd Ganghelydd Syr Hardiuge Giffard Ysgrifenydd Cirtrefol .Syr Richard Cross Ysgrifenydd y Trefedigaethau.. M ilwriad Stanley Ysgiifenydd Ehyfel Mr W. H. Smith. Ysgrifenydd dros India, Arglwydd R. Churchill Arglwydd Cyntaf v Llyngeslys.Arglwydd G. Hamilton Llywydd Bwrdd Lleol y Lly w- ) Mr A. j. B,if0ur odraetb, ) Arglwydd Ganghellydd yr1 Mr Gibson Iwerddon, j Postfeistr Cyffredinol Arglwydd J. Manners Is-Lywydd y Cynghor Mr Stanhope GanghellyddDuciaeth Lancaster.Mr Chaplin